Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Addysg.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
• ystyried cynnal ymarferiad i ganfod pam nad
yw cymaint o blant yn manteisio ar ginio ysgol am ddim.
• ystyried a oes ffyrdd o roi gwybodaeth i
lywodraethwyr ynglŷn â sut i holi mewn cyfarfodydd cyrff llywodraethol
ysgolion yn effeithiol.
• sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i
osgoi dad-gofrestru yn ein hysgolion.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Holwyd ynghylch data’r Gyfundrefn Drochi, yn benodol faint sy’n dechrau’r cwrs
10 wythnos ond nad ydynt yn ei gwblhau. Gofynnwyd am ddata ynghylch faint sy’n
tynnu’n ôl o’r broses a faint o geisiadau sy’n cael eu gwrthod, gan nodi y
byddai hynny’n rhoi darlun mwy cyflawn na’r wybodaeth bresennol sy’n
canolbwyntio ar lefel y sgiliau ar ddiwedd y cwrs. Mewn ymateb, nodwyd y
byddai’r data yn cael ei ddarparu ac nad oedd tystiolaeth ar hyn o bryd fod
tynnu’n ôl yn broblem fawr, ond cydnabuwyd y gallai amgylchiadau unigol
amrywio.
Cwestiynwyd
a oes bwriad datblygu lleoliadau llai neu ddarpariaeth fwy pwrpasol ar gyfer
dysgwyr sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi mewn trefniadau prif lif oherwydd
niwroamrywiaeth, iechyd meddwl neu gorbryder.
Cwestiynwyd a oes modd cyfuno unrhyw unedau o’r fath gyda safleoedd ysgolion
llai sy’n wynebu heriau o ran niferoedd. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod cynhwysiant yn egwyddor graidd, ac nad oedd y
weledigaeth yn golygu symud dysgwyr i unedau ar wahân fel ateb awtomatig.
-
Mai’r man cychwyn oedd cryfhau capasiti ysgolion
prif lif a addasu’r ddarpariaeth, gyda lefelau staffio priodol a hyfforddiant
er mwyn gallu darparu cefnogaeth effeithiol.
-
Bod angen mwy o adnoddau er mwyn addasu ysgolion
prif lif i’w gwneud yn addas ar gyfer plant o bob gallu.
-
Bod hi’n dod yn anoddach cefnogi plant o bob angen
o fewn ysgolion prif lif am amryw o resymau, megis anghenion sy’n fwyfwy dwys.
-
Bod costau cludiant a phrofiad y plentyn o ran
cymysgu gydag eraill yn ffactorau pwysig wrth ystyried darpariaeth ar wahân.
Cwestiynwyd
pam nad oedd cyfeiriad amlwg at yr adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’ o
fewn y ddogfen gerbron, gan nodi mai dyma’r cyfarfod craffu addysg ac economi
cyntaf ers cyhoeddi’r adroddiad ac y gallai’r diffyg cyfeiriad beri pryder i’r
cyhoedd. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod ymateb i’r adroddiad yn cymryd dros 80 y cant o
amser yr adran ar hyn o bryd, gyda ffocws dros sawl tîm i ymateb i’r adroddiad.
-
Bod pethau eraill y mae’r adran yn eu gwneud ar yr
un pryd gyda’r un lefel o adnoddau, ei gwneud yn gynyddol heriol i’w cyflawni.
-
Bod adnoddau ychwanegol wedi’u sicrhau ar gyfer
ymateb i’r adroddiad a bod trefniadau adrodd i’r Bwrdd Rhaglen, gyda chraffu
pellach ar waith y Bwrdd Rhaglen i ddigwydd yn fuan.
-
Bod angen sicrhau bod y gwaith ymateb yn fwy
gweladwy o fewn adroddiadau ffurfiol.
-
Bod cyfle i’r Pwyllgor drafod yr ymateb i’r
adroddiad yn llawn yn gynnar yn Ionawr 2026.
Cwestiynwyd
ynghylch y cynnydd mewn addysg yn y cartref ers y pandemig, gan fynegi pryder
am ddiogelu ac am sut y gellid sicrhau bod plant yn derbyn addysg addas.
Chodwyd y posibilrwydd y gallai’r duedd barhau i gynyddu. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod y cynnydd yn lefelau dadgofrestru yn duedd
genedlaethol a bod sefyllfa Gwynedd yn debyg i’r canolrif yn genedlaethol.
-
Bod newid yn y contract cymdeithasol yn dilyn y
pandemig wedi chwarae rhan.
-
Bod sefyllfaoedd lle mae plant yn gwrthod mynychu
neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi yn gallu arwain at rieni yn dewis dadgofrestru
fel yr opsiwn haws.
-
Bod carfan o rieni sy’n addysgu yn y cartref yn
gwneud hynny am y rhesymau cywir ac yn ei wneud yn briodol, ond cydnabuwyd fod
carfan yn dadgofrestru am amryw o resymau amhriodol, megis osgoi canlyniadau
mynychu gwael.
-
Bod ymweliadau yn cael eu cynnal a chefnogaeth yn
cael ei gynnig lle bo hynny’n bosibl ond fod cyfyngiadau pan nad yw teuluoedd
yn ymgysylltu. Nad oedd gan y Cyngor bwerau i orfodi mynediad i gartref
plentyn.
-
Bod yr adran yn rhannu’r pryder ynghylch y cynnydd
ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i liniaru’r effeithiau, ac i gwestiynu pam
bod rhieni yn dadgofrestru plant ac i atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.
-
Bod y cynnydd yn peri pryder o ran diogelu ac y
byddai’r adran yn croesawu unrhyw gamau gan y llywodraeth i roi mwy o bwerau
i’r Cyngor i allu ymweld â phlant o fewn y cartref er mwyn cyfathrebu â hwy yn
uniongyrchol.
Cwestiynwyd
a oedd y plant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref yn bennaf o deuluoedd lleol
neu o deuluoedd oedd wedi symud i Wynedd. Nodwyd na ellid rhoi ateb pendant o
fewn y cyfarfod i’r cwestiwn hwn.
Holwyd
a yw’r ffaith nad yw tua 30% o ddisgyblion yn manteisio ar brydau ysgol am ddim
yn peri pryder, gan gwestiynu pam fod y mesur wedi’i ddangos yn wyrdd o fewn yr
adroddiad. Holwyd a yw’r patrwm yn amrywio rhwng ysgolion neu’n gyson ar draws
y sir. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod dymuniad i bob plentyn fanteisio ar y cynnig
fel ffordd o sicrhau pryd maethlon bob dydd.
-
Bod y dangosydd yn wyrdd oherwydd gwelliant ers y
flwyddyn flaenorol, ond cydnabuwyd bod lle amlwg i wella.
-
Bod nifer o resymau posibl, gan gynnwys dewisiadau
unigol a phatrymau amrywiol lle mae rhai disgyblion yn cymryd cinio ysgol ar
rai dyddiau a bocs bwyd ar ddyddiau eraill.
-
Bod patrymau’n amrywio ar draws y sir.
-
Bod trefniadau ar waith i gasglu barn a boddhad
disgyblion ar y prydau, ond bod ymatebion wedi bod yn isel yn ddiweddar, a
nodwyd bod bwriad i roi hwb i’r gwaith hwnnw er mwyn deall rhwystrau a gwella’r
ddarpariaeth.
Nodwyd
dryswch ynghylch pwy oedd awdur yr adroddiad. Mewn ymateb, nodwyd mai’r Aelod
Cabinet Addysg oedd awdur yr adroddiad a byddai’r wybodaeth yn cael ei chywiro
yn y ddogfen.
Nodwyd
awgrym i anfon gwybodaeth yn dymhorol ac yn achlysurol at Gynghorwyr sy’n
llywodraethwyr, er mwyn galluogi llywodraethwyr i holi penaethiaid am faterion
addysgol o bwys a’u cyfeirio i roi sylw i faes penodol mewn cyfarfod
llywodraethwyr, er mwyn eu galluogi i weithredu fel ffrind beirniadol gan dynnu
sylw at feysydd allweddol megis diogelu, lles, cynhwysiant ac anghenion dysgu
ychwanegol. Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn bwynt dilys a bod cyfle i gryfhau’r
cysylltiad hwn. Nodwyd y byddai’r cais yn cael ei flaenoriaethu erbyn y
flwyddyn newydd.
Codwyd
pryder ynghylch y cysylltiad posibl rhwng cynnydd mewn presenoldeb a chynnydd
mewn dadgofrestru. Cwestiynwyd ynghylch effaith erlyn teuluoedd yn y llys o
ganlyniad i bresenoldeb isel, gan nodi’r perygl y gallai teuluoedd bregus
ddewis dadgofrestru ar ôl derbyn rhybuddion, gyda goblygiadau pellach o ran
cefnogaeth a diogelu. Pwysleisiwyd bod llawer o rieni yn dadgofrestru eu
plentyn oherwydd nad oes darpariaeth addas ar ei gyfer o fewn ysgolion. Mewn
ymateb, nodwyd:-
-
Bod dealltwriaeth fod rhai rhieni mewn sefyllfaoedd
anodd iawn ac yn teimlo nad oes ganddynt opsiwn arall.
-
Bod angen i’r tîm lles arfer y gallu i gymryd camau
cyfreithiol fel cam olaf, gan bwysleisio nad yw hynny’n digwydd yn ysgafn ac y
byddai ystyriaeth eang yn cael ei rhoi i anghenion meddygol, iechyd meddwl a
ffactorau eraill cyn cyrraedd y cam hwnnw.
-
Bod cynnydd mewn presenoldeb yn dilyn erlyniad mewn
nifer o achosion, er na fyddai hynny’n wir ym mhob achos.
-
Mai’r nod yw sicrhau bod plant yn fwy diogel drwy
fynychu’n rheolaidd.
-
Bod swyddogion o fewn y tîm lles yn cynnal
ymweliadau ac yn cynnig cymorth i deuluoedd plant sydd wedi dadgofrestru.
-
Bod teuluoedd sy’n cysylltu am gymorth yn aml yn
gallu cael llwybr cefnogi mwy cadarn tuag at ddychwelyd i’r ysgol lle bo
hynny’n briodol.
-
Bod trefniadau cydweithio gydag asiantaethau eraill
i adnabod teuluoedd nad ydynt yn ymgysylltu, ac y byddai cysylltiadau yn cael
eu gwneud â Gwasanaethau Plant yn unol â’r angen.
-
Bod meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd yn rhan
ganolog o’r daith a bod y gwaith yn parhau i ddatblygu.
Codwyd
pryderon ynghylch y Gwasanaeth Ieuenctid, gan holi faint o fonitro sy’n digwydd
o ran y clybiau cymunedol. Cwestiynwyd pam bod niferoedd isel yn mynychu rhai
clybiau cymunedol, ac a oedd hynny oherwydd nad oedd y clybiau’n cynnig y
ddarpariaeth fwyaf priodol i blant y gymuned. Cwestiynwyd sut y dylid dehongli
canrannau boddhad uchel mewn cymhariaeth â’r ffigurau cyfranogiad, ac a yw’r
gwasanaeth yn cael adborth y plant sy’n mynychu yn unig yn hytrach na phlant o
fewn ysgolion sy’n dewis peidio â mynychu. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod y canrannau yn adlewyrchu boddhad y rhai sydd
wedi ymgysylltu â’r gwasanaeth.
-
Bod y ffigurau cyfranogiad yn gymharol uchel yng
nghyd-destun maint y boblogaeth o bobl ifanc ar hyn o bryd, gan nodi effaith y
gostyngiad demograffig, ond cydnabuwyd bod lle i wella a bod dyhead i gynyddu
ymgysylltiad.
-
Bod gwaith yn cael ei wneud drwy ysgolion i ddeall
beth mae pobl ifanc ei eisiau o’r ddarpariaeth, a nodwyd bod y gweithgareddau
yn cynnwys elfen gymdeithasol a hamddenol yn ogystal ag elfen addysgol.
-
Bod gwallau hanesyddol wedi digwydd, ond bod
gwelliannau’n cael eu gweld, gyda chynnydd yn nifer y clybiau cymunedol a
gwaith ar y gweill i ymestyn darpariaeth i ragor o ardaloedd.
-
Bod angen sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd â
dymuniadau pobl ifanc.
PENDERFYNWYD
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cwestiynau ar ddysgu o adra,
dad-gofrestru, defnydd o unedau, cinio ysgol, trefniadau monitro, clybiau
ieuenctid a diogelu.
2. Nodi pwysigrwydd rhoi proffil uchel i ddiogelu mewn
dogfennaeth er pwrpas rhoi cysur i’r cyhoedd, a bod y mater yn cael ei
flaenoriaethu gan yr awdurdod.
3. Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg i:
• ystyried
cynnal ymarferiad i ganfod pam nad yw cymaint o blant yn manteisio ar ginio
ysgol am ddim.
• ystyried a
oes ffyrdd o roi gwybodaeth i lywodraethwyr ynglŷn â sut i holi mewn
cyfarfodydd cyrff llywodraethol ysgolion yn effeithiol.
• sicrhau bod
pob cam yn cael ei gymryd i osgoi dad-gofrestru yn ein hysgolion.
Dogfennau ategol: