Agenda item

Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Economi.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn i’r Adran Economi a Chymuned roi grŵp at ei gilydd yn fuan yn y flwyddyn newydd i ystyried yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi, ers ym mis Mehefin, bod y gwasanaethau yn parhau i wneud cynnydd da tuag at dargedau a phrosiectau blaenoriaeth y Cyngor o fewn ei bortffolio. Nodwyd bod nifer o’r prosiectau ar y trywydd iawn i gyflawni canlyniadau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Nodwyd bod gwaith ar y cyd wedi bod yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol cyfagos i baratoi adroddiad ar gyfer ymgynghori i gyflwyno ac i sefydlu ardoll twristiaeth o fis Mawrth 2026 ymlaen. Nodwyd y bwriad i gynnal trafodaeth fanylach gyda’r Pwyllgor Craffu ym mis Chwefror ar ôl asesu effaith unrhyw gynnig ar economi a chymunedau Gwynedd. Nodwyd bod lefelau boddhad cwsmeriaid gyda gwasanaethau llyfrgelloedd ac archifau yn parhau’n uchel, a nodwyd bod grantiau hyd at £300,000 wedi’u cynnig i 69 o sefydliadau ledled Gwynedd i hyrwyddo diwylliant a digwyddiadau. Nodwyd bod gwasanaethau adfywio a chefnogaeth gymunedol wedi sicrhau buddsoddiad o £9.8m ar gyfer prosiectau amrywiol ar draws y sir, a nodwyd bod £370,000 wedi’i ddyrannu drwy gynllun peilot cronfeydd cynghorau tref a chymuned o dan amserlen dynn gan y Llywodraeth. Nodwyd bod 55 o gynghorau wedi ymateb i’r cynllun, a nodwyd gobaith y byddai’r gronfa ar gael eto yn 2026-27 gyda mwy o rybudd i gynghorau allu ymateb.

Nodwyd bod Wythnos Busnes Gwynedd ym mis Hydref wedi rhoi cyfle i wrando ar faterion sy’n bwysig i fusnesau yn ystod cyfnod economaidd heriol ac i ddathlu llwyddiannau busnesau mawr a bach. Nodwyd bod £900,000 wedi’i ddyrannu mewn grantiau i fusnesau, a nodwyd y byddai’r rownd nesaf yn cael ei chyhoeddi yr wythnos ganlynol. Nodwyd bod gwaith cefnogi cyflogaeth wedi cynorthwyo 48 o bobl yng Ngwynedd i oresgyn rhwystrau i waith. Nodwyd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) wedi cyhoeddi bod cais Parth Deallusrwydd Artiffisial Gogledd Cymru wedi bod yn llwyddiannus a bod safle Trawsfynydd wedi’i enwi fel rhan o’r cais. Yn ddibynnol ar sicrhau caniatâd cynllunio, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig yr un buddion i’r safle â’r safleoedd porthladd rhydd ym Môn. Nodwyd bod y datblygiad hwn yn rhoi hwb i ddatblygu’r parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd. Nodwyd y gobaith i gyflwyno manylion yr achos busnes i’r Pwyllgor yn y flwyddyn newydd.

Nodwyd bod cynnydd da wedi’i wneud gyda datblygiadau Parc Padarn a bod canolfan groeso wedi’i chwblhau, ond bod gostyngiad yn nifer y defnyddwyr Byw’n Iach yn peri pryder. Nodwyd bod Bwrdd Byw’n Iach yn ymateb yn rhagweithiol drwy addasu’r cyfleusterau a’r cynnig. Nodwyd bod lleihad yn nifer y plant sy’n cael gwersi nofio trwy’r ysgol yn parhau i gyfrannu at ostyngiad cyffredinol, a nodwyd bod gwaith ar y cyd gyda Byw’n Iach a’r Adran Addysg yn parhau i annog ysgolion a phlant i fynychu, gan nodi bod cynnydd bychan wedi’i weld yn ystod y misoedd diweddar. Diolchwyd i staff morwrol a’r harbyrau am weithio’n galed drwy stormydd y gaeaf er mwyn sicrhau bod arfordiroedd a phorthladdoedd y sir yn ddiogel.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-


Holwyd ynghylch realaeth y rhagolygon cyflogaeth sy’n gysylltiedig â’r parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd, a holwyd a fyddai sefydlu safle ‘Small Modular Reactor’ (SMR) fel Wylfa wedi dod â mwy o swyddi i’r ardal. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod cynigion hanesyddol wedi bod yn gysylltiedig â’r posibilrwydd o ddatblygiad SMR ar y safle.

-        Bod y darlun polisi wedi newid, gyda Llywodraeth y DU yn symud i gyfeiriad gwahanol o ran ariannu a blaenoriaethu, gan olygu nad oedd cynnig tymor byr i ddatblygu SMR yn Nhrawsfynydd.

-        Bod ffocws y gwaith presennol ar gadw a sicrhau parhad y gwaith dadgomisiynu ar y safle dros y blynyddoedd nesaf, gyda thua dau gant o swyddi yn gysylltiedig â’r gwaith hwn ar hyn o bryd.

-        Bod rhaglen y dadgomisiynu yn ymestyn hyd at tua 2060.

-        Bod datblygu hwb y parc gwyddoniaeth yn cael ei ystyried fel cyfle i arloesi, denu syniadau newydd a nodi cyfleoedd amrywiol i greu cyflogaeth yn y dyfodol, gan ddefnyddio’r seilwaith a’r sgiliau sydd eisoes ar y safle.

-        Bod cyfle i rannu rhagor o fanylion gyda’r Pwyllgor ar y cynlluniau yn y flwyddyn nesaf.

Holwyd beth arall oedd y gwasanaeth yn ei wneud i ddenu cyflogaeth i Wynedd, gan holi’n benodol am ddatblygiad canolfan fwyd ar safle Glynllifon o dan raglen Twf Gogledd Cymru. Cwestiynwyd ymhellach a fyddai’r cyfleoedd yn cynnig swyddi cyflog byw yn hytrach na swyddi cyflog isel. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y cynllun yn symud ymlaen ond bod angen ei addasu am ddau reswm, sef ystyriaethau cynllunio a newidiadau mewn amgylchiadau sefydliadol.

-        Bod adborth cynllunio wedi dangos na fyddai’r elfen o gael unedau bwyd ar y safle o’r cynnig gwreiddiol yn debygol o gael cefnogaeth oherwydd effaith ar fioamrywiaeth a bywyd gwyllt, ond nodwyd nad oedd hynny’n golygu y byddai’r elfen honno’n diflannu’n llwyr gan y byddai opsiynau ar safleoedd amgen yn cael eu hystyried y tu allan i Glynllifon.

-        Bod y cynnig bellach yn cael ei ddatblygu drwy dri cham, gyda’r cam cyntaf yn ymwneud â thechnoleg newydd ar gyfer parlwr godro.

-        Bod buddsoddiad sylweddol (tua £2m) yn y parlwr godro er mwyn addysgu pobl ifanc a ffermwyr lleol ynghylch technoleg y dyfodol.

-        Bod cam dau o’r datblygiad yn cynnwys sefydlu canolfan laeth defaid, gan nodi y byddai’n gyntaf o’i fath yng Nghymru, gyda’r bwriad o annog twf sector sy’n ehangu mewn rhannau o Ewrop.

-        Bod cam tri o’r datblygiad yn cynnwys datblygu hwb arloesi gwledig, gyda’r cais cynllunio ar fin cael ei gwblhau, a nodwyd y byddai’r ganolfan hon drws nesaf i’r coleg ac yn arbenigo mewn technoleg ar gyfer amaethyddiaeth y dyfodol.

-        Bod y cynllun cyfan yn fuddsoddiad o dros £10 miliwn.

O ran denu buddsoddiad yn ehangach, nodwyd:-

-        Bod y strategaeth economaidd yn ceisio nodi meysydd twf dros y blynyddoedd nesaf er mwyn creu sail i ddenu buddsoddiad.

-        Bod datblygiadau megis parth deallusrwydd artiffisial yn debygol o gynyddu diddordeb cwmnïau i leoli yn yr ardal.

-        Bod trafodaethau’n digwydd gyda nifer o gwmnïau sydd â diddordeb mewn lleoli eu hunain yng Ngwynedd.

-        Bod angen sicrhau bod sgiliau ar gael yn lleol, a nodwyd y bwriad i weithio gyda cholegau er mwyn sicrhau bod digon o bobl ifanc yn cael eu paratoi ar gyfer y meysydd hyn.

Holwyd ynghylch monitro a dylanwadu ar ansawdd swyddi o fewn cynlluniau grant, gan gyfeirio at ddisgwyliadau megis talu’r cyflog byw a hyrwyddo’r Gymraeg mewn busnesau sy’n derbyn cefnogaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod amodau penodol yn cael eu gosod fel rhan o grantiau’r Cyngor, a nodwyd bod dau amod allweddol yn cynnwys talu’r cyflog byw a hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg. Nodwyd bod y rhain yn cael eu monitro tra bo’r rhaglen yn fyw, ond nodwyd nad oedd modd monitro ymhellach ar ôl i’r cyfnod grant (tua tair blynedd) ddod i ben. Nodwyd bod y grantiau yn darparu lefel o ddylanwad ar fusnesau, ond nodwyd bod ansicrwydd ynghylch parhad y cronfeydd ar ôl mis Mawrth.

Holwyd ynghylch digwyddiadau mawr a chymunedol ar draws y sir gan nodi bod rhai digwyddiadau wedi tyfu i’r fath raddau fel bod gofynion iechyd a diogelwch, trefniadau gweithredol a’r ddibyniaeth ar wirfoddolwyr yn ei gwneud hi’n anodd cynnal y digwyddiadau, er gwaethaf eu budd economaidd i ardaloedd lleol. Cwestiynwyd a oedd modd i’r adran gefnogi’r grwpiau sy’n trefnu’r digwyddiadau hyn ar draws y sir. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y gwasanaeth wedi cydnabod pwysigrwydd digwyddiadau pan fyddant yn cael eu rheoli’n ddiogel.

-        Bod swydd cydlynydd digwyddiadau wedi’i phenodi i gefnogi trefnwyr drwy’r broses o sicrhau trefniadau diogel, gan gynnwys cyfeirio at y grŵp diogelwch digwyddiadau lle bo angen.

-        Bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) ar gael i gefnogi digwyddiadau ar draws y sir, a bod hyn hefyd yn rhoi dylanwad i hyrwyddo egwyddorion megis gwirfoddoli lleol, dwyieithrwydd, a thwristiaeth gynaliadwy.

-        Bod ansicrwydd ynghylch cyllid ar ôl mis Mawrth, gan nodi nad oedd cyllideb fewnol y Cyngor i gefnogi digwyddiadau yn y tymor nesaf, ac y byddai’r sefyllfa’n dibynnu ar benderfyniadau Llywodraeth y DU.

-        Bod sesiynau hyfforddi wedi’u cynnal i gefnogi trefnwyr, gan gynnwys sesiwn ar dywydd garw, a nodwyd y byddai sesiwn arall yn cael ei chynnal ar ddiogelwch mynydd a’r arfordir mewn partneriaeth â gwasanaethau achub.

-        Bod trefnu digwyddiadau yn faes heriol gyda nifer o rwystrau, a bod y rôl cynghori yn bwysig i helpu trefnwyr i lywio’r gofynion a chysylltu â’r adrannau cywir, gan nodi bod grŵp traws-adrannol yn trafod digwyddiadau er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng budd a risg.

Nodwyd pryderon ynghylch effaith newidiadau i daliadau amaethyddol a’r goblygiadau i economïau pentrefi gwledig, gan gyfeirio at bwysau ar y diwydiant llaeth gan fewnforio rhyngwladol, ansicrwydd prisiau, a’r effaith ar fusnesau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth. Awgrymwyd i’r adran sefydlu grŵp tasg a gorffen yn y flwyddyn newydd i edrych ar y goblygiadau i Wynedd. Mewn ymateb, nodwyd bod y pryderon yn cael eu codi’n rheolaidd gan undebau amaethyddol a bod y strategaeth economaidd yn adlewyrchu gwerth y sector i economi Gwynedd. Nodwyd parodrwydd i drafod ymhellach pa gamau y gall awdurdod lleol eu cymryd o fewn cyd-destun ffactorau masnachol rhyngwladol sydd y tu hwnt i reolaeth leol.

Pwysleisiwyd yr angen i gael hyfforddiant lleol i gefnogi cyfleoedd cyflogaeth yn ymwneud â Wylfa, a nodwyd profiad personol o’r angen i deithio pell i hyfforddiant yn y gorffennol. Mewn ymateb, nodwyd bod canolfan arbenigol peirianneg ac adeiladu wedi’i ddatblygu yn Llangefni yn wreiddiol mewn cysylltiad â Wylfa a bod y cyfleuster yno i gefnogi hyfforddiant ar gyfer adeiladu a pheirianneg ar gyfer y sector niwclear. Nodwyd bod cyfarfod swyddogion ynghylch Wylfa wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos ganlynol, ac y byddai’r pwyntiau am hyfforddiant lleol yn cael eu codi yn y trafodaethau hynny.

Holwyd am ddatblygiad 10 uned newydd ym Minffordd. Mewn ymateb, nodwyd bod y gwaith adeiladu wedi dechrau a bod ymholiadau wedi’u derbyn, ond nad oedd cytundebau ffurfiol yn cael eu rhoi hyd nes y byddai’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau. Nodwyd bod cysylltiad posibl hefyd rhwng Minffordd a’r parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd, a nodwyd y gallai’r ddau ddatblygiad greu cyfleoedd i fusnesau gyd-leoli. Nodwyd bod busnesau lleol yn parhau i chwilio am le ychwanegol ac nad oedd digon o safleoedd wedi bod ar gael yn hanesyddol yn yr ardal. Nodwyd gobaith y byddai’r unedau’n addas i ateb y galw.

Holwyd ynghylch y gwasanaeth morwrol ym Morfa Bychan, yn benodol y problemau parcio dros nos ar y traeth a’r ffaith nad oedd gan swyddogion y pwerau i orfodi. Cwestiynwyd a oedd posibilrwydd o gyflwyno is-ddeddf i reoli’r sefyllfa. Mewn ymateb, nodwyd bod y traeth ym Morfa Bychan ymhlith y prysuraf yn y sir, a nodwyd bod trefniadau wardeiniaid tymhorol yn helpu i leihau rhai o’r problemau dros gyfnod yr haf. Nodwyd bod diffyg pwerau gorfodi sylweddol yn parhau, ac nad oedd disgwyl y byddai’n realistig cyflwyno is-ddeddf yn y tymor byr gan fod y broses yn hir ac yn gymhleth. Nodwyd y byddai angen ystyried trefniadau eraill gan nodi nad oedd ateb hawdd, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf er bod y pwysau’n ddueddol o ostwng. Pwysleisiwyd bod buddsoddiad i wella’r isadeiledd a chynyddu capasiti ar y safle wedi’i gynllunio ar gyfer dechrau’r flwyddyn newydd er mwyn lleihau effaith ar y pentref. Ymhelaethwyd y byddai’r gwasanaeth yn adolygu’r opsiynau yn rheolaidd wrth baratoi ar gyfer y tymor nesaf.

Mynegwyd barn bod gwrthgyferbyniad rhwng y darlun demograffig sy’n dangos lleihad sylweddol a’r drafodaeth ar yr un pryd am niferoedd uchel o swyddi yn cael eu creu o fewn y sector adeiladu a pheirianneg. Mynegwyd pryder ynghylch posibilrwydd mewnlif gweithlu a’r effaith ar dai a chynllunio cymunedol. Cwestiynwyd a oedd y sir mewn sefyllfa i flaengynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn.

Mewn ymateb, nodwyd bod angen rhoi’r datblygiadau yn eu cyd-destun a nodwyd nad oedd cynlluniau ar raddfa Wylfa yn cael eu rhagweld yng Ngwynedd yn y blynyddoedd nesaf. Nodwyd bod y parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd, yn y camau cynnar, yn debygol o olygu niferoedd llawer llai o swyddi, gyda tharged mwy realistig yn y tymor byr yn ymwneud â chreu cyfleoedd i bobl leol yn wyneb gostyngiad disgwyliedig mewn gwaith dadgomisiynu dros amser. Nodwyd bod datblygiad canolfan ddata posibl yn cael ei ystyried, ond y byddai’r gwaith adeiladu dros gyfnod o tua chwe i wyth mlynedd yn hytrach nag ar unwaith. Pwysleisiwyd bod cynllunio’r gweithlu a’r sgiliau yn ffactor hanfodol ym mhob cynllun a na fyddai datblygiadau o’r fath yn ymarferol heblaw bod y gweithlu ar gael. Cadarnhawyd bod datblygiadau ar Ynys Môn yn debygol o gael effaith ar yr ardaloedd cyfagos, a bod hynny’n rhan o’r ystyriaeth ehangach.

Mynegwyd pryder ynghylch effaith penderfyniadau trethi diweddar ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch, gan nodi enghreifftiau o gynnydd sylweddol mewn biliau treth a’r perygl o golli swyddi a chynnal cadwyn gyflenwi lleol, gan gynnwys cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd. Mewn ymateb, nodwyd bod y mater yn real ac yn effeithio ar fusnesau gwledig. Pwysleisiwyd mai’r hyn y gallai’r Cyngor ei wneud yn ymarferol oedd defnyddio’r dystiolaeth fel rhan o achos busnes clir dros becyn cefnogi mwy i fusnesau. Nodwyd bod grantiau busnes yn dod i ben ac nad oedd sicrwydd o gyllid ar ôl mis Ebrill, a bod y cyfuniad o ddiwedd grantiau a phwysau trethi yn cryfhau’r ddadl dros geisio cronfa cefnogi busnesau yn y flwyddyn nesaf.

PENDERFYNWYD

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Gofyn i’r Adran Economi a Chymuned roi grŵp at ei gilydd yn fuan yn y flwyddyn newydd i ystyried yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol.

 

Dogfennau ategol: