Adroddiad
i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Cyllid.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Cyflwynodd
yr Aelod Cabinet Cyllid yr adroddiad, gan dynnu sylw at y dangosyddion coch ac ambr.
Nodwyd bod un mesur o fewn y Gwasanaeth Incwm yn parhau yn y categori coch, sef
balans gwerth dyledion amrywiol dros chwe mis oed ar ddiwedd Hydref 2025, a
nodwyd bod y ffigwr ychydig o dan £3.2m. Ymhelaethwyd bod hyn yn gynnydd o
£1.377m ers diwedd y mis blaenorol a bod £1.2m o’r cynnydd hwnnw yn deillio o
ddyledion gan y Bwrdd Iechyd ac awdurdod lleol arall. Nodwyd bod dyled yr
awdurdod lleol arall wedi deillio o gamgymeriad gweinyddol o fewn y Cyngor pan
roddwyd rhif archeb anghywir ar anfoneb. Cadarnhawyd bod y mater hwn wedi’i
ddatrys a bod y ddyled wedi’i thalu.
Nodwyd
bod dyled y Bwrdd Iechyd yn parhau yn her a bod y gwasanaeth oedolion mewn
trafodaethau gyda’r Bwrdd Iechyd gyda’r gobaith y byddai’r ddyled yn gostwng.
Tynnwyd sylw at fesurydd perfformiad ‘Cyfradd casglu Treth Cyngor y flwyddyn
gyfredol’ y gwasanaeth casglu trethi a oedd yn adrodd yn ambr gan nodi bod y
gwasanaeth wedi wynebu problemau sylweddol oherwydd niferoedd staff ar salwch
tymor hir. Ymhelaethwyd bod y sefyllfa’n gwella a bod y gwasanaeth yn ymddangos
fel pe bai wedi troi cornel ac yn dod yn ôl ar y trywydd iawn. Mynegwyd pryder
bod cyfraddau casglu treth gyngor ac annomestig yn is yng Ngwynedd nag yn
hanesyddol ac o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru, ond nodwyd amheuaeth
a oedd y ffordd yr oedd yr ystadegau’n cael eu hadrodd yn adlewyrchu’r darlun
llawn. Nodwyd, o’r wybodaeth fewnol, bod cyfradd casglu sylfaenol y dreth
gyngor yn weddol normal, ond nodwyd bod y diffygion yn ymwneud yn bennaf â
chasglu’r premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Pwysleisiwyd bod hyn yn gallu altro’r ffigurau ar y cyfan. Nodwyd y bwriad i
edrych ar y mater dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf er mwyn rhoi darlun mwy
cytbwys o’r sefyllfa.
Nodwyd,
o ran y Cynllun Digidol, bod y gwaith yn symud ymlaen yn dda, ond nodwyd pryder
penodol ynghylch y risgiau yn ymwneud â chostau trwyddedu meddalwedd, yn
enwedig o ystyried y defnydd cynyddol disgwyliedig o ddeallusrwydd artiffisial.
Nodwyd disgwyliad ehangach o fewn y sector technoleg gwybodaeth y gallai
prisiau godi ar ôl i ddefnydd sefydlogi, a nodwyd bod hyn yn fater y byddai’r
gwasanaeth yn cadw llygad barcud arno yn y dyfodol.
Nododd
y Pennaeth Cyllid ei fod yn fodlon gyda pherfformiad cyffredinol yr adran, er
bod ychydig o heriau i’w gweld mewn rhai gwasanaethau. Pwysleisiwyd bod
cynlluniau ar waith i ymdrin â’r heriau hynny gyda’r gobaith y byddai
canlyniadau gwell yn dilyn yn fuan.
Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Holwyd
ynghylch dyled y Bwrdd Iechyd. Cwestiynwyd a oedd y broblem yn deillio o
wrthdaro ynghylch anfonebu neu gytundebau dyled, neu a oedd yn adlewyrchu
prosesau gwael neu oedi talu. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod y broblem wedi bodoli ers blynyddoedd.
-
Bod elfen o oedi yn gysylltiedig â systemau, ond
hefyd bod mwyafrif y dyledion yn ymwneud â’r Gwasanaeth Oedolion.
-
Bod anghytundeb yn codi’n rheolaidd ynghylch pwy
ddylai dalu pa gyfran o ofal unigolyn.
-
Bod rheolau a chontractau i bennu cyfraniadau’r
Cyngor a’r Bwrdd Iechyd, ond bod trafodaethau ar y cyfraniadau hyn yn cyfrif am
llawer o’r ddyled.
-
Bod swyddogion o fewn yr Adran Cyllid a’r
Gwasanaeth Oedolion yn gweithio i gynnal y berthynas ac i roi pwysau ar y Bwrdd
Iechyd.
-
Bod profiad ar draws y chwe awdurdod yng Ngogledd
Cymru bod y Bwrdd Iechyd, ar adegau, yn talu’r awdurdod sy’n pwyso ar y diwrnod
hwnnw, gan adael y gweddill yn aros.
-
Bod trafodaethau ar lefel prif weithredwyr a
chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol yn digwydd i sicrhau bod y chwe
awdurdod yn cydweithio’n agosach i roi pwysau cyson ar y Bwrdd Iechyd.
Holwyd
a oedd gwir obaith y byddai’r ddyled yn gostwng o ystyried ei bod yn waeth nag
mewn blynyddoedd blaenorol, neu a fyddai’n arwain at ddileu dyledion yn y pen
draw. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod rhai dyledion yn agos at y trothwy lle gallent
ddod o dan drefniadau statudol ar gyfer eu dileu oherwydd eu hoedran, a mai
dyna pam yr oedd y gwasanaeth yn ceisio cadw’r dyledion yn fyw er mwyn osgoi’r
sefyllfa honno.
-
Bod hyn yn gallu bod yn rhwystredig gan y gallai’r
trafodaethau ymddangos yn agos at ddatrysiad ac yna gallai’r sefyllfa lithro yn
ôl.
-
Bod risg sylweddol o orfod dileu rhywfaint o ddyled
y Bwrdd Iechyd, ond hyd yn oed heb ddyled y Bwrdd Iechyd, bod cyfanswm y
dyledion yn dal yn uwch na’r hyn a ddymunir.
-
Bod tîm o swyddogion cefnogi Ffordd Gwynedd ac un
swyddog arall yn gweithio ar wella trefniadau ac effeithiolrwydd casglu
dyledion.
-
Bod gobaith y byddai’r ddyled yn gostwng wrth i’r
camau hyn ddod i rym.
Holwyd
ynghylch defnydd deallusrwydd artiffisial ac a oedd cynllun gweithredu a
phrotocol ar waith ar gyfer ei ddefnyddio o fewn y Cyngor, gan nodi’r
posibilrwydd o ddefnyddio’r dechnoleg i ddarparu gwasanaethau’n rhatach ac yn
fwy effeithlon. Cwestiynwyd a yw’r Cyngor eisoes yn defnyddio deallusrwydd
artiffisial ar gyfer tasgau megis llunio adroddiadau cymhleth, a nodwyd y
dymuniad am reolaeth glir ar ei ddefnydd a chynllun i’w wreiddio yn y dyfodol.
Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwy sefydlog
o fewn y Cynllun Digidol a bod prosiect penodol wedi’i sbarduno yn ystod y
misoedd diwethaf.
-
Bod y prosiect yn ceisio creu astudiaethau achos
o’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial o fewn gwasanaethau’r Cyngor, gyda’r
bwriad i ddatblygu’r achosion defnydd hynny yn y lle cyntaf ac yna cynnal
gwaith manylach i sicrhau defnydd diogel a defnydd sy’n gwneud synnwyr busnes.
-
Bod y gwaith yn cael ei gynnal ar y cyd â chwmni
trydydd parti ac y disgwylid datblygu hyd at chwe astudiaeth achos.
-
Bod defnydd cyfyngedig o ddeallusrwydd artiffisial
eisoes yn digwydd, gyda nifer fach o swyddogion yn defnyddio Microsoft Copilot.
-
Bod y gwasanaeth wedi bod yn ofalus yn y dechrau
oherwydd amheuon ynghylch gallu’r meddalwedd gyda’r Gymraeg, ond nodwyd bod
hynny bellach wedi gwella’n sylweddol.
-
Bod swyddogion technegol wedi creu ambell i
ddatrysiad i ddarllen a chategoreiddio e-byst er mwyn blaenoriaethu gwaith yn
gyflymach.
-
Bod ymchwil a phrofi yn parhau ond nad oedd y
defnydd wedi’i ymestyn yn eang eto, gan nodi’r bwriad i symud ymlaen yn raddol.
-
Bod y prosiect astudiaethau achos yn fwriadol i
greu achos busnes ac i adnabod cyfleoedd arbedion posibl dros amser.
-
Bod cyllid ychwanegol wedi’i glustnodi i symud
ymlaen gyda’r gwaith hwn cyn gwneud cais pellach am gyllid i’w ehangu.
Holwyd
ynghylch llithriad mewn rhai prosiectau o fewn y Cynllun Digidol, a
chwestiynwyd a oedd unrhyw brosiect yn peri mwy o bryder na’i gilydd, gan
gynnwys enghraifft lle methwyd recriwtio i’r prosiect i arddangos y Cyngor fel
cyflogwr digidol. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod y swydd Hyfforddai Trawsnewid Digidol wedi ei
hysbysebu ddwywaith i geisio penodi swyddog ar lefel ôl-raddedig, ond nodwyd
nad oedd y profiad angenrheidiol ar gael yn y farchnad ar y pryd.
-
Bod y rhaglen brentisiaethau gradd yn parhau a bod
y gwasanaeth bellach ar y seithfed prentis, a bod bwriad i fynd allan eto y
flwyddyn ganlynol i geisio sicrhau’r adnodd penodol a fethwyd yn flaenorol.
-
Mai’r prosiect a fyddai’n peri’r pryder mwyaf pe
bai’n llithro yw’r system rheoli adnoddau dynol a chyflogau, gan nodi ei fod yn
hanfodol i allu talu staff ac aelodau.
-
Bod y system bresennol yn dod i ben ddiwedd Rhagfyr
2026 a bod gwaith paratoi a chynllunio manwl eisoes wedi’i wneud.
-
Bod llythyrau yn cael eu hanfon at ddarparwyr
potensial a bod cyfnod tawelu wedyn cyn cadarnhau penodiad.
-
Bod disgwyl gallu cadarnhau hynny cyn y Nadolig
gyda’r bwriad i ddechrau gwaith gosod ar unwaith yn y flwyddyn newydd.
-
Bod y cwmnïau a ystyriwyd yn gwmnïau profiadol sydd
wedi gweithio gyda nifer o gynghorau, a mynegwyd hyder yn safon yr opsiynau a
welwyd.
Cwestiynwyd
ynghylch cyfradd cwblhau gwaith archwilio mewnol o fewn cynllun gwaith 2025-26,
gan nodi bod 47 darn o waith o fewn y cynllun, gyda 16 wedi’u cwblhau erbyn 31
Hydref (34%). Holwyd a oedd hyn yn cyd-fynd â’r hyn a ddisgwylir ar gyfer y
cyfnod. Mewn ymateb, nodwyd bod proffil y cynllun yn wahanol gan fod llawer o’r
gwaith yn gysylltiedig â chynghorau cymuned drwy gytundeb. Nodwyd bod misoedd
cynnar y flwyddyn ariannol yn tueddu i ganolbwyntio ar y gwaith hwnnw cyn
canolbwyntio wedyn ar waith Cyngor Gwynedd. Nodwyd felly nad yw’r gyfradd yn
dilyn llinell syth drwy’r flwyddyn. Mynegwyd hyder y byddai’r cynllun yn cael
ei gwblhau. Pwysleisiwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn monitro’r
gwaith.
Cwestiynwyd
ynghylch carreg filltir oedd yn nodi y dylai’r Prif Weithredwr, cyfarwyddwyr a
Phennaeth Cyllid gyfarfod yn chwarterol i reoli effeithiau toriadau cyllidol
cenedlaethol, gan nodi nad oedd hyn wedi digwydd yn hanner cyntaf y flwyddyn.
Holwyd a oedd risg i’r Cyngor o ganlyniad. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd cred
bod risg sylweddol, a nodwyd bod adroddiadau ar y sefyllfa’n parhau i gael eu
cyflwyno. Ymhelaethwyd bod adroddiad wedi mynd i’r Cabinet a’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ym mis Hydref, ac y byddai adroddiadau pellach yn
mynd i’r ddau bwyllgor ym mis Ionawr. Nodwyd bod gwireddu’r cynlluniau arbedion
dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn uchel o ran canran, er nad oedd bob
amser wedi cyrraedd 100%. Pwysleisiwyd bod y gwaith ymarferol yn parhau yn y
cefndir er mai dyhead oedd cynnal mwy o gyfarfodydd ffurfiol.
Holwyd
ynghylch y newyddion diweddar ynghylch cyllido’r Cyngor, yn benodol a ellid
rhoi amcangyfrif o sut y byddai’n newid y rhagolygon ariannol. Mewn ymateb,
nodwyd bod angen ailystyried y sefyllfa ar ôl y cyhoeddiadau diweddar a bod pob
adran wedi cael cais i ystyried pa arbedion fyddai’n bosibl. Nodwyd mai’r
ddealltwriaeth oedd y gallai gweithredu’r newidiadau ym mis Ebrill 2027 fod yn
fwy realistig na mis Ebrill 2026, oherwydd yr amser sydd ei angen i wireddu’r
cynlluniau. Nodwyd y bwriad i gynnal gweithdai yn y flwyddyn newydd er mwyn
gweithio’n rhagweithiol gyda’r Aelodau. Pwysleisiwyd y byddai’r broses gosod
cyllideb yn mynd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 5 Chwefror, i’r
Cabinet ar 10 Chwefror, ac i’r Cyngor yn gynnar ym mis Mawrth. Nodwyd, o ran
lefel cynnydd yn y dreth gyngor, bod angen gwneud mwy o waith cyn gallu rhoi
ffigwr terfynol, ond nodwyd y posibilrwydd o fod o gwmpas tua 5% heb orfod
gwneud toriadau sylweddol. Nodwyd, cyn y datganiadau diweddar, bod posibilrwydd
y byddai angen edrych ar tua 12% heb wneud toriadau, ond bod y darlun bellach
wedi gwella.
Pryderwyd
bod llawer o ffermwyr yn cael hi’n anodd cyrraedd y trothwy 182 diwrnod ar
gyfer eiddo hunanarlwyo er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ardrethi annomestig.
Cydnabuwyd bod amryw o bobl wedi apelio yn ei erbyn, a chwestiynwyd pa mor
llwyddiannus yw’r apeliadau hyn ac a oedd hyn yn mynd i fod yn fwy o broblem yn
y blynyddoedd nesaf. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod y trothwy wedi newid yn ddiweddar, gan nodi bod
y drefn flaenorol yn caniatáu newid i’r system ardrethi annomestig ar ôl gosod
am 70 diwrnod y flwyddyn.
-
Bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r trothwy i 182
diwrnod, gan olygu bod yn rhaid gosod am tua hanner blwyddyn er mwyn bod o fewn
y drefn ardrethi annomestig; fel arall, byddai’r eiddo yn dychwelyd i
drefniadau treth cyngor.
-
Bod yr apeliadau cyntaf yn parhau ac mai drwy
Swyddfa’r Prisiwr Dosbarth y mae’r penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pa
restr sy’n berthnasol, ac felly nid penderfyniad i’r Cyngor yw hynny.
-
Bod adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ym mis Ionawr ar eithriadau ychwanegol posibl.
-
Cyfeiriad at bolisi o dan ddarpariaeth 13A a
gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Tachwedd, gan nodi bod hynny’n caniatáu i’r
Cyngor edrych ar eithriadau ychwanegol posibl y gallai’r Cyngor ddewis eu
cyflwyno, gan ystyried y risgiau.
-
Bod y gwaith yn derbyn sylw gan y gwasanaeth cyllid
a’r gwasanaeth cyfreithiol.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau.
Dogfennau ategol: