Cyflwynwyd gan:Cyng Llio Elenid Owen
Penderfyniad:
Derbyniwyd a chymeradwywyd y Strategaeth Caffael 2026 – 2031
(Atodiad 1).
Rhoddwyd yr hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
wneud addasiadau gweithredol i’r Strategaeth fel mae’r angen yn codi i sicrhau
cydymffurfiaeth â chanllawiau statudol (megis canllawiau statudol y Ddeddf
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a chymeradwywyd y Strategaeth Caffael 2026 – 2031
(Atodiad 1).
Rhoddwyd yr hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
wneud addasiadau gweithredol i’r Strategaeth fel mae’r angen yn codi i sicrhau
cydymffurfiaeth â chanllawiau statudol (megis canllawiau statudol y Ddeddf
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)).
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan fanylu ar y broses Caffel sef
sicrhau nwyddau, gwasanaethau neu waith ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor.
Amlygwyd ei fod yn rhan allweddol o weithgarwch y Cyngor.
Datgelwyd pwysigrwydd bod gan y Cyngor Strategaeth Caffael.
Ymhelaethwyd gan nodi y bydd yn ofyn statudol yn y dyfodol agos, ac y mae’n
sicrhau y caiff y Cyngor y gwerth gorau am arian cyhoeddus, ac yn sicrhau’r
ansawdd gorau i bobl Gwynedd.
Adnabuwyd bod y Cyngor yn gwario oddeutu £200 miliwn y
flwyddyn ar weithgarwch caffael. Pwysleisiwyd yr angen i gael y nwyddau,
gwasanaethau neu waith am y pris gorau, gan sicrhau’r ansawdd gorau yn ogystal.
Amlygwyd bod hefyd angen cyfarch amcanion eraill, megis datgarboneiddio a
sicrhau gwerth cymdeithasol - mae’r Strategaeth yn gosod y cyfeiriad a’r
weledigaeth er mwyn galluogi i hyn ddigwydd.
Cyfeiriwyd at y 7 maes blaenoriaeth a gaiff eu cynnwys yn y
Strategaeth, gan amlygu fod pob maes blaenoriaeth wedi’i adnabod fel maes
allweddol yng nghyd-destun caffael yng Nghyngor Gwynedd. Rhestrwyd y meysydd
hyn a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad.
Cadarnhawyd bod y Strategaeth Caffael wedi bod gerbron y
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref 2025, a phenderfynodd y
Pwyllgor Craffu dderbyn y Strategaeth a’r adroddiad.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Diolchwyd am y strategaeth a gofynnwyd sut y
mae’r Cyngor yn mesur gwerth caffael. Nodwyd bod gan yr adran fesur o ran y
budd lleol, a gaiff ei fesur yn rheolaidd drwy drefniadau herio perfformiad.
Ychwanegwyd bod y Strategaeth yn rhoi cyfle i edrych ar feysydd eraill ar draws
y Cyngor lle mae caffael yn effeithio arnynt, a datblygu mesurau i gyd-fynd â’r
blaenoriaethau hynny. Amlygwyd bod gwerth am arian yn ffactor yma, yn ogystal â
gwerth cymdeithasol, sy’n cynnwys nifer o fesurau pellach. Nodwyd bod y
Strategaeth yn rhoi cyfle i fesur gwerth caffael mewn amryw o feysydd ar draws
y Cyngor.
·
Holwyd am ddefnydd y Gymraeg i gyflenwyr, gan
amlygu bod y mater hwn wedi’i godi gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn
ogystal. Datganwyd bod cyngor cyfreithiol wedi ei dderbyn, a bod hwnnw’n cael
ei weithredu i’r eithaf. Mae’r Gymraeg yn ofynnol mewn nifer o gontractau,
felly nodwyd bod bwriad i ddilyn hynny cyn belled ag sy’n bosib.
·
Cyfeiriwyd at y 7 blaenoriaeth gan gwestiynu a
oes prif flaenoriaeth o’r 7 a nodwyd. Datganwyd mai’r brif flaenoriaeth yw i “wneud
y mwyaf o werth y bunt yng Ngwynedd” fel y nodir ar flaen y Strategaeth, a
soniwyd bod y 7 blaenoriaeth hyn yn unigryw i Wynedd.
·
Gofynnwyd a oes unrhyw densiynau’n codi rhwng y
blaenoriaethau. Datganwyd bod tensiynau yn anorfod ac yn rhywbeth fydd rhaid
i’r timau categori caffael fod yn wyliadwrus ohono.
·
Holwyd sut y mae rhwystrau pellach am gael eu
hadnabod a’u lleihau wrth symud ymlaen. Soniwyd am adnabod y contractau sy’n
debygol o gael eu gosod, ac yna tywys y cwmnïau drwy’r trefniadau gan drafod
unrhyw rwystrau posib sy’n debygol o godi. Ychwanegwyd bod adolygiad yn cael ei
gwblhau unwaith mae’r broses tendro wedi’i chwblhau, er mwyn asesu’r gefnogaeth
a roddwyd i’r cwmnïau lleol.
·
Tynnwyd sylw at y ganmoliaeth sydd wedi ei
dderbyn am y broses gaffael hon.
· Ategwyd
mai prif drafodaeth y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi oedd sylwadau am y
Gymraeg mewn perthynas â’r trefniadau caffael.
Awdur:Arwel Evans, Rheolwr Caffael
Dogfennau ategol: