Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones

Penderfyniad:

Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad ar y Polisi Cludiant Addysg (Drafft).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad ar y Polisi Cludiant Addysg (Drafft).

 

TRAFODAETH

 

Pwysleisiwyd mai Polisi ar ei ffurf drafft sydd yma, gan mai gofyn i’r Cabinet am hawl i gynnal ymgynghoriad yw diben dod a’r eitem i’r cyfarfod hwn.

Datganwyd bod y Polisi presennol ar waith ers 2009 felly adnabuwyd ei bod felly’n amserol i ddatblygu polisi newydd.

 

Cyfeiriwyd at y Cynllun Seddi Gweigion gan egluro y cynigir sedd wag i ddysgwyr nad oes ganddynt hawl i gludiant di-dâl os bydd argaeledd sedd ar gludiant. Ychwanegwyd bod gofynion deddfwriaethol yn ei gwneud yn anoddach i gynnig y trefniant hwn bellach.

 

Esboniwyd bod cludiant wedi bod yn cael ei ddarparu i ysgolion ffydd yn unol â’r gofyn statudol, ond nad oes cyfeiriad at ysgolion ffydd yn y polisi presennol. Bydd y Polisi (Drafft) gerbron yn cynnig yr eglurder o ran y cludiant a gynigir.

 

Amlygwyd bod y Cyngor yn darparu cludiant dewisol i ddysgwyr ôl-16 llawn amser ar hyn o bryd, a manylwyd ar gynnig y Polisi (Drafft) i ddarparu cludiant i’r ysgol ddalgylch/addas agosaf, ynghyd ag i’r safle coleg agosaf sy’n darparu’r cwrs. Ymhelaethwyd ar y cynnig gan nodi nad yw’n cyfyngu ar opsiynau dysgwyr o ran y cyrsiau sydd ar gael iddynt, ond ei fod yn sicrhau mai cludiant i’r safle agosaf sy’n cynnig y cwrs hwnnw yn unig a gaiff ei gynnig.

 

Nodwyd bod y Polisi (Drafft) hefyd yn cynnig mwy o wybodaeth am breswyliad deuol, gan ategu y bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant o’r prif gyfeiriad.

 

Pwysleisiwyd nad oes unrhyw newid i’r drefn cludiant i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Polisi (Drafft) hwn, nac i’r drefn o fesur pellter teithio i dderbyn cludiant am ddim.

 

Cyfeiriwyd at y ddwy ran sydd i’r Polisi, gan nodi nad oes newid o ran y gofynion statudol i ddarparu cludiant addysg y mae’n rhaid eu cyfarch. Adnabuwyd mai addasiadau a newidiadau i elfennau’r Polisi sydd o dan ddisgresiwn yr Awdurdod a gaiff eu cynnig yma.

Datganwyd y bydd y Polisi (Drafft) hwn yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ag Economi yn dilyn yr ymgynghoriad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Holwyd am eglurder o ran y dull mesur pellter teithio, a soniwyd am addasrwydd y lonydd a’r llwybrau cerdded y mae disgwyl i ddysgwyr eu defnyddio er mwyn cyrraedd yr ysgol. Cadarnhawyd y caiff pellter ei fesur drwy system fapio (GIS) a’i fod felly’n gyson i bob dysgwr. Ychwanegwyd bod system i asesu addasrwydd ffyrdd a llwybrau yn ogystal, ac y buasai cludiant yn cael ei ddarparu os nad yw llwybr yn addas. Anogwyd unrhyw un sy’n wynebu rhwystrau o ran cludiant i ymateb i’r ymgynghoriad, fel bod posib i’r sylwadau hynny gael eu hystyried.

·       Datganwyd cefnogaeth i lwybr y Polisi (Drafft) hwn, gan nodi ei fod yn ffordd ddemocrataidd o fabwysiadu’r ddogfen. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd i drigolion ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

·       Sicrhawyd nad oes effaith yn cael ei ragweld ar gostau byw yn deillio o’r Polisi (Drafft) hwn.

·       Nodwyd nad yw’r Polisi (Drafft) yn cyfeirio’n fanwl at drefniadau hebryngwyr i ddysgwyr ADY gan fod hynny’n digwydd drwy Banel yn unol â gofynion Cynllun Datblygu Unigol y dysgwr.

·       Holwyd os oes trafodaeth wedi ei chynnal gyda Llywodraeth Cymru am y Cynllun Seddi Gweigion, gan mai eu canllawiau hwy sy’n gorfodi’r newid. Cadarnhawyd bod y Llywodraeth wedi bod yn ymgynghori ar ganllawiau newydd cludiant addysg, a bod y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw yn nodi’r rhwystrau i gynnig hyblygrwydd o ran hwyluso teithio i’r ysgol. Ychwanegwyd nad yw’r Llywodraeth wedi adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r ymgynghoriad eto.   

Awdur:Debbie Jones, Pennaeth Cynorthwyol Addysg

Dogfennau ategol: