Agenda item

Newid defnydd swyddfeydd i 5 fflat preswyl, yn cynnwys estyniad ar y cefn. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer a gosod drws i storfa gwastraff.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 

 

1.       5 mlynedd.

2.       Unol a chynlluniau.

3.       Cytuno manylion unedau pwmp gwres ffynhonnell

4.       Defnydd C3 yn unig

5.       Amod Tai Fforddiadwy

6.       Gwelliannau Bioamrywiaeth

7.       Oriau gwaith

8.       Rhaid i’r 3 ffenestr llawr cyntaf yn yr estyniad bwriedig fod wedi eu cymylu

         

Nodyn Bioamrywiaeth

Nodyn Llythyr Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cofnod:

Newid defnydd swyddfeydd i 5 fflat preswyl, yn cynnwys estyniad ar y cefn. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer a gosod drws i storfa gwastraff.

 

a)          Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio Rhagfyr 2025 er mwyn derbyn mwy o wybodaeth a thystiolaeth o’r angen am yr unedau yn unol â gofynion polisi TAI 8. Cyfeiriwyd at ddatganiad pellach oedd wedi ei gyflwyno yn egluro’r cynllun gan yr ymgeisydd, ynghyd a sylwadau Uned Strategol Tai oedd yn cadarnhau’r angen am unedau fforddiadwy.

 

Eglurwyd bod yr adeilad yn un o faint sylweddol wedi ei leoli ar gornel y stryd fawr o fewn ffin datblygu Tref Caernarfon ac Ardal Cadwraeth Safle Treftadaeth y Byd. Nid oedd bwriad newid edrychiad blaen nac ochr yr adeilad sy’n amlwg o’r stryd fawr. 

 

Cydnabuwyd bod yr ymgeisydd yn bwriadu defnyddio’r unedau fel math penodol o lety ar gyfer sicrhau unedau addas a diogel ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety argyfwng anaddas o fewn Caernarfon yn barod; byddai’r bwriad gydag amod tai fforddiadwy yn sicrhau hyblygrwydd ar gyfer diwallu anghenion llety parhaol trigolion yr ardal i’r dyfodol.  Nodwyd fod yr holl unedau yn cael eu cynnig fel unedau fforddiadwy gyda’u maint yn unol â safonau Llywodraeth Cymru (WDQR / WHQS) ar gyfer unedau fforddiadwy. Cyfeiriwyd at sylwadau Uned Strategol Tai oedd yn cadarnhau fod y bwriad yn cyfarch angen wedi ei brofi am unedau 1 a 2 ystafell wely i bobl drwy Wynedd sydd yn dymuno byw yng Nghaernarfon. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn cynnwys cyfiawnhad am y cynnig o ran y math, nifer a maint o unedau a gynigir ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisi TAI 8  o ran cymysgedd tai, ynghyd â gofynion o fewn polisi TAI 15 yn ddarostyngedig i amod unedau fforddiadwy i sicrhau fod y bwriad yn paratoi unedau fforddiadwy am byth. Cadarnhawyd bod capasiti digonol o fewn cyflenwad dangosol Caernarfon ar gyfer y datblygiad yma ar hyn o bryd.

 

Byddai’r gwaith addasu yn cynnwys newidiadau mewnol, ac adeiladu estyniad 3 llawr o fewn iard gefn yr eiddo ac felly  ni fyddai’n effeithio ar edrychiad na chymeriad yr adeilad sy’n amlwg i’r cyhoedd na chael  effaith weledol andwyol ar Safle Treftadaeth y Byd na’r Ardal Gadwraeth. Byddai’r gwaith yn cynnwys gosod ffenestri llawr daear a ffenestri llawr cyntaf ar gyfer ystafelloedd gwely cefn a chadarnhawyd y byddai’r ffenestri llawr cyntaf i’w gosod gyda gwydr wedi eu cymylu - bydd modd gosod amod cynllunio er mwyn sicrhau hyn. Nodwyd hefyd fod bwriad gosod amod cynllunio ar gyfer cyflwyno manylion a lleoliad y pwmp gwres ffynhonnell aer. O ganlyniad, ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar drigolion cyfagos.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli yng nghanol y Dref ble mae gofodau parcio cerbydau ar y strydoedd ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. O ran materion bioamrywiaeth cyfeiriwyd at y gwelliannau oedd wedi eu cynnig ac adroddwyd bod y datganiad iaith a gyflwynwyd yn datgan effaith niwtral i bositif ar yr iaith.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau lleol a chenedlaethol a’r swyddogion yn argymell caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod amodau perthnasol

 

b)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·       Yn unol â dymuniad y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf, bu iddo gael trafodaeth adeiladol gyda’r Pennaeth Tai ac Eiddo a'i fod yn diolch iddi am roi eglurhad clir am y rhesymeg tu ôl i’r cais ac amlinelliad o raddfa’r her i ymateb i ddigartrefedd yng Ngwynedd.

·       Ei fod yn cydymdeimlo yn fawr gyda’r sefyllfa.  Ei fod yn ymwybodol o nifer sylweddol o etholwyr yn ei ward mewn sefyllfaoedd bregus o ran diogelwch eu tenantiaethau. Ei fod yn cydnabod fod y maes yn un anodd gyda phwysau sylweddol ar y gwasanaeth.

·       Y byddai posibilrwydd y byddai’r fflatiau ar gael i’w rhentu ar delerau tai cymdeithasol, os a phan fydd y galw am lety digartrefedd yn dod i ben - yn croesawu hyn yn fawr - dim gwrthwynebiad i’r cais pe byddai’r bwriad yn bennaf i’w ddefnyddio ar gyfer tai rhent cymdeithasol parhaol

·       Pryder parhaus am y nifer fach o wardiau sy’n ysgwyddo llawer mwy o’r baich i fynd i’r afael ag argyfwng digartrefedd y Sir. Rhain yn bennaf yn wardiau canol trefi  sydd yn aml eisoes yn wynebu heriau sylweddol yn sgil tlodi ac amddifadedd

·       O safbwynt  cynllunio a chynaladwyedd cymunedol, pwysig gweithio tuag at gymunedau cytbwys lle nad yw’r un ardal yn cael eu gorlethu na’i chymesur gan fath penodol o  ddarpariaeth

·       Yn cymryd y cyfle i dynnu sylw at yr anghymesuredd daearyddol presennol o ran pwy a lle sydd yn ysgwyddo’r baich, ac yn annog yr AdranTai ac Eiddo, wrth symud ymlaen, i ystyried datblygu strategaeth gliriach i wasgaru’r ddarpariaeth mewn modd tecach a chynaliadwy ar draws y Sir

 

c)          Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

ch)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·       Bod yr angen wedi ei brofi

·       Yn ddiolchgar am y wybodaeth ychwanegol

·       Yn gobeithio bydd y sefyllfa ddigartrefedd yn gwella i’r dyfodol

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau 

 

1.         5 mlynedd.

2.         Unol a chynlluniau.

3.         Cytuno manylion unedau pwmp gwres ffynhonnell

4.         Defnydd C3 yn unig

5.         Amod Tai Fforddiadwy

6.         Gwelliannau Bioamrywiaeth

7.         Oriau gwaith

8.         Rhaid i’r 3 ffenestr llawr cyntaf yn yr estyniad bwriedig fod wedi eu cymylu

           

Nodyn Bioamrywiaeth

Nodyn Llythyr Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ategol: