Caniatâd cynllunio dros dro am gyfnod o 40 mlynedd i godi System Storio
Ynni (ESS), ynghyd â seilwaith cysylltiedig, mynediad i’r safle, tirlunio a gwaith
atodol ar dir yn Tyddyn Forgan, Llanddeiniolen,
Caernarfon, LL55 3AN
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones a’r
Cynghorydd Menna Baines
Penderfyniad:
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r
cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
3.
Cydymffurfio â’r
cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
4.
Cydymffurfiaeth gydag
argymhellion y dogfennau Asesiad Effaith Ecolegol, Asesiad Effaith
Coedyddiaeth, Nodyn Technegol Ecolegol a’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd.
5.
Cydymffurfiaeth
gyda’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd.
6.
Cyfyngu
amseroedd adeiladu
7.
Gosod uchafswm
ar gyfer allyriadau sŵn
8.
Cytuno ar
fesurau monitro sŵn
9.
Amod i sicrhau camau priodol os darganfyddir llygredd annisgwyl.
10.
Cytuno gyda
gorffeniadau allanol y strwythurau.
11.
Sicrhau enw
Cymraeg ac arwyddion dwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.
12.
Cytuno rhaglen
waith Archeolegol
13.
Cyflwyno Cynllun
Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol diwygiedig (i gynnwys rheolaeth o’r cyswllt
gyda chyfarpar SP Manweb)
14.
Cyflwyno Cynllun
Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg ddiwygiedig i gymryd i ystyriaeth sylwadau’r Uned
Bioamrywiaeth
15.
Rhaid adfer y
safle i’w gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio wedi i’r cyfnod
gweithredol y datblygiad ddod i ben
Nodiadau:
Uned Dŵr ac Amgylchedd
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd
Dŵr Cymru
SP Manweb
Cofnod:
Caniatâd cynllunio dros dro am gyfnod o 40 mlynedd i godi System Storio
Ynni (ESS), ynghyd â seilwaith cysylltiedig, mynediad i’r safle, tirlunio a
gwaith atodol ar dir yn Tyddyn Forgan, Llanddeiniolen, Caernarfon, LL55 3AN.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 12-01-26
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio bod
y math o system yn storio ynni dros ben o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy pan
fo galw isel am drydan yna mae'n rhyddhau'r trydan fel mae’r galw yn codi.
Gyda’r Aelodau Lleol yn
methu a bod yn bresennol, cyflwynodd y Swyddog ymatebion a dderbyniwyd ganddynt
drwy e-bost;
Cyng. Menna Baines:
“Mae rhan fechan o’r
datblygiad yn fy ward i gan fod is-orsaf drydan Pentir o fewn ei ffiniau. Mae’r
Cyngor wedi ymrwymo i’r nod o fod yn garbon sero net erbyn 2030 ac mae’n
ymddangos i mi fod y cynllun hwn yn gydnaws efo’r nod a’r egwyddor honno, a
hynny am y byddai’n ffurfio rhan o rwydwaith cefnogol y gellid ei ddefnyddio yn
ôl yr angen wrth reoli’r cyflenwad o ynni adnewyddol. Rwyf yn nodi pryderon a
godwyd am ‘orddatblygiad’ o gynlluniau o’r fath yn yr ardal ond mae’n ymddangos
bod lleoli’r datblygiad penodol yma ger yr is-orsaf yn ffordd o fanteisio ar y
seilwaith sydd yno’n barod yn hytrach na chreu galw am fwy o geblau neu waith
trwm pellach. O’r safbwynt hwnnw mae’r lleoliad yn gwneud synnwyr. O ran yr
effaith weledol, mae’n ymddangos na fydd effaith rhy fawr, yn enwedig o gofio
bod cyfarpar yr is-orsaf yno’n barod, a hefyd o ystyried mai dim ond yn rhannol
y bydd y datblygiad i’w weld wrth i’r gwaith plannu arfaethedig aeddfedu dros
amser gan sgrinio’r safle yn well. Rwyf hefyd yn nodi pryderon eraill a godwyd,
yn enwedig y rhai am golli bioamrywiaeth ac am beryglu rhan o’r dreftadaeth
archeolegol, ond rydw i’n derbyn bod amodau cadarn ynghlwm â’r argymhelliad o
ganiatáu’r datblygiad. O sicrhau bod y datblygiad yn cadw at yr amodau hyn a’r
rhai eraill sy’n cael eu rhestru, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r cais”.
Cyng. Elwyn Jones:
“Hoffwn ddatgan fy
ngwrthwynebiad i’r cais ynghyd a gwrthwynebiad Cyngor Cymuned Pentir anfonais
fel Clerc y Cyngor hwnnw i’r Adran Gynllunio fis Ebrill diwethaf.
Bu i’r Cwmni yma ein
cyfarfod yn rhithiol yng Nghyfarfod Cyngor Cymuned Llanddeiniolen wrth iddynt
geisio ein darbwyllo bod y system yma yn fanteisiol i’r Grid Cenedlaethol i
ddiwallu diffygion y grid. Wrth eu holi ynghyn diogelwch, sŵn, cyflogaeth,
a pham na fyddai'r Grid Cenedlaethol eu hunain yn buddsoddi mewn cyfarpar tebyg
ni chafwyd ateb o unrhyw fath dim ond waffl. Nid oedd ganddynt ateb ynglŷn
â’r ffordd roeddynt wedi ymgynghori gan iddynt ymffrostio dosbarthu rhai
cannoedd o bamffledi gwybodaeth er nad oedd neb yn y cymunedau agosaf wedi
derbyn unrhyw wybodaeth. Hawdd yw datgan wedyn nad oes gwrthwynebiad trigolion
lleol.
‘Rwyf yn falch mai
argymhelliad i wrthod mae swyddogion Gwynedd wedi ei ddatgan ar gyfer
C25/0277/18/LL Land South of B4547
Seion / Pentir LL55 3AN a braf fyddai bod wedi darllen yr un argymhelliad i’r
cais hwn.
Hoffwn nodi fy
ngwrthwynebiad fel a ganlyn
1.
Mae’n
or-ddatblygiad yng nghefn gwlad ag safle hwn ar ardal o ddiddordeb hanesyddol
lleol
2.
Fydd
eu tirweddu ddim yn cael ei wireddu yn effeithiol am o leiaf 15 mlynedd ac
felly wrth gwrs yn weledol am 15 mlynedd
3.
Tra
yn amheus o wir fanteision y system storio ynni nid yw mewn unrhyw ffordd yn
hwb i’r economi lleol a DIM cyflogaeth
4.
Mae
yn ffaith na ellir diffodd tan batri lithiwm - ond ei adael i losgi allan
5.
Dim
ymgynghoriad lleol wedi digwydd - nid yw gosod darn o bapur ar bolyn ar ochr
ffordd brysur lle nad oes fawr neb yn ei gerdded na thŷ o fewn 200 metr yn
ymgynghori nac yn rhoi cyfle i drigolion lleol fynegi barn
Er gwybodaeth cefais lythyr
Cymraeg a Saesneg o gefnogaeth i’r fenter ar e-bost heddiw gan Net Zero. Gan ei
fod wedi ei anfon o Lundain mi wnes eu ffonio i’w holi am y safle - wydda fo
affliw o ddim! Efallai mai yn Llundain mae’r Cwmni yma wedi bod yn ymgynghori.
Gwrthwynebwch a/neu dewch
draw am ymweliad safle”
Eglurwyd bod safle’r cais
yn cynnwys 4.6ha o dir pori garw sydd wedi ei ddosbarthu fel tir graddfa 3 a 5
mewn lleoliad yng nghefn gwlad agored y tu allan i unrhyw ffin datblygu
gyfredol ac ar dir cyfochrog i ffordd fynediad
is-orsaf drydan bresennol Pentir sydd oddeutu 150m i’r gogledd o ran agosaf y
safle. Saif o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig ac yn
rhannol o fewn Parth Llifogydd B fel y’i nodir yn y Mapiau Perygl Llifogydd.
Mynegwyd bod coetir cyfagos i’r de-ddwyrain, “Coed Tŷ’n Llwyn” a “Choed
Tyddyn Morgan” tua’r gogledd, yn “Safleoedd Bywyd Gwyllt Rhanbarthol”
cydnabyddedig.
Adroddwyd, fel rhan o’r
cais cyflwynwyd nifer o ddogfennau ac adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth
arbenigol gan gynnwys adroddiad ymgynghori cyn cyflwyno cais yn unol â gofynion
Deddf Gynllunio Gwlad a Thref gan fod y bwriad yn ddatblygiad a ddiffinnir yn ddatblygiad
mawr ac yn mesur mwy nag 1 ha.
Tynnwyd sylw at ymateb y
Gwasanaeth Bioamrywiaeth i’r cais, oedd wedi datgan eu bod yn gwrthwynebu’r
bwriad gan nad oedd mesurau lliniaru digonol ar gyfer colli cynefinoedd ac nad
oedd y datblygiad yn darparu gwelliant i fioamrywiaeth. Er hynny, roeddynt yn
cydnabod bod y cais yn ymgorffori llawer o fesurau ar gyfer lleihau effaith y
datblygiad ar fioamrywiaeth a chyfeiriwyd at y nifer o asesiadau ecolegol oedd
wedi eu cynnal ar y safle a bod mesurau cyfatebol i’r tir a’r golled o diroedd
yn cael eu cynnig. Nodwyd bod cyfathrebu
cyson wedi ei gynnal rhwng ecolegydd y datblygwr a’r uned bioamrywiaeth ac er
bod pryderon yr Uned Bioamrywiaeth yn parhau, pwysleisiwyd y materion canlynol:
·
Byddai
caniatáu yn galluogi rheolaeth o’r safle trwy amodau cynllunio at ddibenion
ecolegol gan nad oes amddiffyniad o'r fath ar gyfer y safle presennol
·
Gellid
cytuno ar y camau manwl sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Rheoli Tirwedd ac
Ecolegol yn ôl yr angen a'r Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu a'r Cynllun
Rheoli Tirwedd ac Ecolegol yn nodi mesurau fydd yn amddiffyn, cadw ac, yn y pen
draw, yn adfer a gwella'r cynefinoedd a gedwir o fewn ffin y llinell goch a'r
ardal lliniaru
·
Oherwydd
cyfyngder ac argaeledd tiroedd eraill, nid oes digon o le oherwydd yr angen am
hawddfraint 80 m ar y llinellau pŵer foltedd uchel uwchben yn yr ardal
sy'n lleihau'r arwynebedd o dir sydd ar gael ar gyfer yr unedau storio batri.
Yn ogystal nid oedd unrhyw ganiatâd gan y tirfeddiannwr i'r ymgeisydd ddatblygu
safle amgen.
·
Byddai
0.09ha ychwanegol o gynefin naturiol yn cael ei reoli'n benodol ar gyfer gwella
bioamrywiaeth o fewn yr ardal gyfagos.
Cyfeiriwyd at bryderon
Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y cynnig ond mynegwyd eu bod yn fodlon derbyn y
datblygiad yn ddarostyngedig i amodau fyddai’n sicrhau gweithrediad y
datblygiad yn unol â’r mesurau a gwelliannau a argymhellwyd. Ategwyd nad oedd y
safle wedi ei warchod yn ffurfiol mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd o safbwynt
bioamrywiaeth ac oherwydd hynny, nid oedd unrhyw reolaeth ffurfiol i atal
gwerth bioamrywiaeth y safle gael ei golli’n llwyr trwy newidiadau mewn
rheolaeth amaethyddol na fyddai angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer er
enghraifft.
Ystyriwyd y byddai’r
datblygiad yn cynnig cynnydd sylweddol ym maint y tir a fyddai’n cael ei
reoli’n benodol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a, thrwy gytuno cynllun
rheolaeth briodol, gellid sicrhau na fydd niwed arwyddocaol i fioamrywiaeth yn
deillio o’r datblygiad ac y gellid sicrhau camau a fyddai’n cynyddu gwerth
bioamrywiaeth y safle yn y tymor hir.
Ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ag yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol. Roedd y swyddogion yn
argymell caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;
·
Bod y bwriad yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i fod yn
garbon sero net erbyn 2030, a tharged Llywodraeth Cymru
·
Bod
safleoedd storio ynni yn hanfodol i gefnogi ynni adnewyddadwy - byddai’r system yn storio ynni dros ben o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy
pan fo galw isel am drydan ac yna yn rhyddhau'r trydan fel mae’r galw yn codi.
·
Yn
storio digon ar gyfer 323,000 o gartrefi - mwy na holl gartrefi Gogledd Cymru
·
Y
seilwaith presennol yn berffaith i ymateb i’r targedau lleol a chenedlaethol
·
Bod
y bwriad yn saff a safonol a chynllun diogelwch wedi ei gyflwyno gyda’r cais
·
Nad
oedd unrhyw wrthwynebiadau gan y Gwasanaeth Tan ac Achub
·
Bod
cysylltiad grid wedi'i gytuno gydag Is-orsaf Pentir - hyn yn lleihau effeithiau
gosod ceblau tanddaearol ac felly’r effaith weledol yn isel ar y dirwedd
oherwydd ei agosatrwydd at yr is-orsaf
·
Bod
trafodaethau cyn cyflwyno cais ac ymgynghoriadau lleol wedi eu cynnal yn unol â
gofynion ymarfer da
·
Bod
y bwriad yn cefnogi dosbarthiad lleol gan ynni SP Energy Network a dim
dosbarthiad ledled y DU - hyn yn fuddiol i gartrefi a busnesau lleol
·
Bod
Cronfa Budd Cymunedol i’w sefydlu o £100,000 gyda thrafodaethau gyda’r gymuned
ar sut i’w ddosbarthu
·
Yn
gynllun glan, yn wyrdd, yn gynllun ynni da, yn saff, fyddai’n cyfarch targedau
·
Y
buddion yn gorbwyso’r niwed
c)
Cynigwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
ch) Mewn ymateb i gwestiwn, pam bod 40
mlynedd yn cael ei ystyried yn ‘gyfnod dros dro’, nodwyd mai dyma yw bwriad y
cais yma a dyma’r cyfnod amser perthnasol i’r math yma o gais.
PENDERFYNWYD:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r
cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Cydymffurfio
â’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
4. Cydymffurfiaeth
gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Effaith Ecolegol, Asesiad Effaith
Coedyddiaeth, Nodyn Technegol Ecolegol a’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd.
5. Cydymffurfiaeth gyda’r
Asesiad Canlyniadau Llifogydd.
6. Cyfyngu amseroedd
adeiladu
7. Gosod uchafswm ar gyfer
allyriadau sŵn
8. Cytuno ar fesurau
monitro sŵn
9. Amod i sicrhau camau
priodol os darganfyddir llygredd annisgwyl.
10. Cytuno gyda gorffeniadau
allanol y strwythurau.
11. Sicrhau
enw Cymraeg ac arwyddion dwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.
12. Cytuno rhaglen waith
Archeolegol
13. Cyflwyno
Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol diwygiedig (i gynnwys rheolaeth o’r
cyswllt gyda chyfarpar SP Manweb)
14. Cyflwyno
Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg ddiwygiedig i gymryd i ystyriaeth
sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth
15. Rhaid
adfer y safle i’w gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio wedi i’r cyfnod
gweithredol y datblygiad ddod i ben
Nodiadau:
Uned Dŵr ac Amgylchedd
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd
Dŵr Cymru
SP Manweb
Dogfennau ategol: