Datblygiad arfaethedig o system storio ynni batri, seilwaith cysylltiedig, mynediad a thirlunio
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Sasha Williams a’r Cynghorydd Gwion Emyr
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
1. Fe
fyddai’r datblygiad hwn yn niweidiol i’r dirwedd gan y byddai’n cyflwyno elfen
ddiwydiannol ei naws i safle tir glas agored mewn lleoliad amlwg a fyddai ei
weld o fewn golygfeydd nodedig o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cais felly’n
groes i bolisïau ISA 1, ADN 3, PCYFF 1, PCYFF 2 a PCYFF 4 Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y maent yn ymwneud â sicrhau bod datblygiadau
yn gweddu i’w lleoliad.
Cofnod:
Datblygiad
arfaethedig o system storio ynni batri, seilwaith cysylltiedig, mynediad a
thirlunio
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 12-01-26
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cynlluniau fel hyn
yn storio ynni dros ben o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a’r grid pan fo galw
isel am drydan, gan ryddhau'r trydan yn ddiweddarach pan fo galw ac felly yn
helpu darparu diogelwch cyflenwad ynni.
Eglurwyd
bod y safle yn cynnwys 1.95ha o dir pori garw wedi ei leoli gyferbyn ag
is-orsaf drydan presennol Pentir mewn cefn gwlad agored y tu allan i unrhyw
ffin datblygu, ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig; y
tir wedi’i ddosbarthu’n 3a a 5 yn y Map Dosbarthiadau Tir Amaethyddol
rhagfynegol ar gyfer Cymru.
Mynegwyd
bod yr ymgeisydd wedi egluro bod y cynnig ar gyfer caniatâd cynllunio dros dro,
am gyfnod o 40 mlynedd, ac yn dilyn y cyfnod hwnnw bydd y cyfarpar yn cael ei
dynnu o’r safle a’r tir yn cael ei adfer i’w gyflwr presennol. Cadarnhawyd bod
yr ymgeisydd wedi ymgymryd ag ymgynghoriad cyn cyflwyno cais gan fod y bwriad
yn ddatblygiad dros 1ha ac felly’n cael
ei ddiffinio fel un mawr gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd
y datblygiad ei sgrinio ar gyfer Asesiad Effaith Amgylcheddol ac effaith
debygol y cynnig ar yr amgylchedd, ac wedi defnyddio’r meini prawf penodol, ni
ystyriwyd bod effaith y datblygiad ar yr amgylchedd yn annigonol i gyfiawnhau
cyflwyno datganiad amgylcheddol gyda’r cais.
Wrth
asesu effaith weledol y bwriad, ac er cydnabod bod proses rhesymegol wedi
digwydd wrth ddewis y safle, nodwyd fod y safle wedi ei wahanu o’r is orsaf gan
briffordd sylweddol ac nad oedd sgrinio presennol arwyddocaol i’r lleoliad.
Mynegwyd pryder y gall y datblygiad fod yn niweidiol i harddwch naturiol yr
ardal, yn enwedig wrth edrych dros y safle o’r gogledd orllewin, lle byddai’r
safle yn tynnu oddi ar y golygfeydd o Barc Cenedlaethol Eryri. Cyflwynwyd Asesiad Effaith Tirwedd a Gweledol
gyda’r cais yn cynnwys asesiad o’r effaith weledol o sawl cyfeiriad. Roedd
casgliadau'r gwaith hwnnw, er yn nodi byddai rhai effeithiau lleol arwyddocaol,
mai effaith cyfyngedig niweidiol bychan byddai’r datblygiad yn ei gael ar y
dirwedd yn gyffredinol. Yn ogystal â’r
sgrinio presennol a gynigiwyd gan ffurfiant y tir a
thyfiant, byddai’r datblygiad yn cynnwys
nodweddion tirweddu, megis rhes o goed, a fydd yn helpu gydag integreiddio’r
datblygiad i'r dirwedd o’i amgylch. Yn ogystal, cyfeiriwyd at y nodweddion
datblygedig presennol, oedd yn cynnwys y peilonau sydd yn union gerllaw, a
fyddai’n lleihau ei effaith ar y dirwedd. Nodwyd hefyd y byddai’r datblygiad yn
effeithio ar ardal gyfyngedig yn unig ac fe fyddai’n wirdroadwy.
Nodwyd
bod y safle o fewn Ardal Cymeriad Tirwedd 4 - Caernarfon - Arfordir a
Llwyfandir o fewn Strategaeth Tirwedd Gwynedd (2012) a bod y Strategaeth hynny
yn nodi y dylai pob cynnig datblygu yn yr ardal barchu natur y patrwm a
manylion cyfansoddiad hanesyddol y tirlun. Gyda’r safle hefyd o fewn Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol, ni ystyriwyd bod ymestyn datblygiad
diwydiannol sylweddol i dir glas agored yn briodol yn yr ardaloedd hyn. Yn
ogystal, byddai ymestyn tiroedd datblygedig i’r de o’r briffordd yn amharu’n
sylweddol ar batrwm datblygu presennol y dirwedd, yn enwedig wrth ystyried fod
pob datblygiad arall sy’n gysylltiedig ag Is-orsaf Pentir wedi eu cyfyngu i’r
tiroedd i’r gogledd o’r ffordd, lle mae cryn sgrinio presennol gan goed a
ffurfiant y tir.
Ystyriwyd
y byddai’r datblygiad yn debygol o gael effaith niweidiol ar y dirwedd ac ar
fwynderau gweledol yr ardal o ganlyniad i’w leoliad ar wahân i ddatblygiadau
eraill lleol. O ganlyniad, nid oedd y cynnig yn cwrdd â maen prawf 2 Polisi ADN
3, na pholisïau ISA 1, PCYFF 2 a PCYFF 4 fel maent yn ystyried amddiffyn
mwynderau gweledol yr ardal.
Nodwyd
bod asiant y cais yn dymuno gohirio’r cais er mwyn cynnal trafodaeth bellach
ynglŷn â’r gwrthwynebiad uchod ynghyd a materion eraill, ond mynegwyd bod
asesiad o’r safle yn cadarnhau fod ei leoliad yn golygu na ystyriwyd y gallai
fod yn dderbyniol o ran ei effaith weledol.
Yng
nghyd-destun materion Trafnidiaeth, Ecoleg a Sŵn er bod modd goresgyn rhai
o’r materion hyn, ni fyddai yn newid argymhelliad y cais. Nodwyd nad oedd y
cynllun diwygiedig sy’n cynnig mesurau lliniaru bioamrywiaeth wedi ei
gyflwyno’n ffurfiol fel rhan o’r cais, ond yn hytrach wedi ei gyflwyno i’r Uned
Bioamrywiaeth am drafodaeth.
O
ran y cynlluniau diwygiedig ar gyfer y mynediad newydd, nodwyd bod sylwadau
ychwanegol wedi eu derbyn gan yr Uned Drafnidiaeth mewn ymateb i’r cynlluniau
diwygiedig yn cadarnhau, o ystyried bod nifer y cerbydau sy’n gwasanaethu’r
safle yn gymharol isel, fod y ddarpariaeth welededd yn dderbyniol ac ar sail
hynny dilëwyd rheswm gwrthod rhif 2. Yn ogystal, nodwyd bod cadarnhad wedi ei
dderbyn gan Dŵr Cymru yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl ac yn cynnig
sylwadau a nodiadau cyngor yn unig.
Ystyriwyd,
er bod egwyddor y math hwn o ddatblygiad yn gallu bod yn dderbyniol yng nghefn
gwlad am resymau ymarferol yn ymwneud ag effeithlonrwydd y system ddosbarthu
trydan, nid yw’r datblygiad penodol hwn yn dderbyniol oherwydd ei effaith
weledol debygol ar sail ei leoliad. Byddai’r datblygiad diwydiannol ei naws ar
safle tir glas agored yng nghefn gwlad yn mynd tu hwnt i ffiniau naturiol
datblygiadau sy’n gysylltiedig ag Is-orsaf Pentir. O ganlyniad, ystyriwyd fod y
bwriad yn annerbyniol ac felly argymhellwyd gwrthod y cais.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr
ymgeisydd y sylwadau canlynol;
·
Bod yr
ymgeisydd o dan yr argraff bod yr holl faterion wedi eu cyfarch, ond wedi
derbyn y wybodaeth ddiweddaraf, yn gweld bod materion megis tirweddu ac
effeithiau gweledol heb eu cyfarch yn llawn
·
Nad
oedd yr ymgeisydd wedi cael amser digonol i ymateb i bryderon y swyddogion am
faterion tirwedd ac effeithiau gweledol ac roedd yn awyddus iawn i drafod
ymhellach.
·
Nid
oedd sylwadau tirweddwr proffeshiynol
wedi eu cynnwys yn asesiad y swyddogion
·
Bod
modd ymchwilio i bosibiliadau i liniaru’r effeithiau gweledol a chryfhau’r
sgrinio
·
Be
byddai’r pryderon wedi eu rhannu yn gynharach gellid bod wedi cynnal trafodaeth
i edrych yn fanylach ar addasiadau pellach. Ni chafodd y cyfle ei gynnig – nid
yw hyn yn ymarfer cynllunio da
·
Gan nad
yw’r materion hyn wedi eu trafod yn llawn, yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried
gohirio’r penderfyniad fel bod modd cynnal trafadoaethau
pellach.
c) Nododd y Swyddog Monitro nad oedd gan yr Aelodau
Lleol sylwadau i’w cynnig ar y cais
ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd gohirio’r cais fel bod modd i’r ymgeisydd gael cyfle i ystyried
pryderon y swyddogion am yr effeithiau gweledol
Pleidleisiwyd ar y cynnig. Disgynnodd y cynnig
Cynigwyd
ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad
PENDERFYNWYD:
Rheswm:
Byddai’r
datblygiad hwn yn niweidiol i’r dirwedd gan y byddai’n cyflwyno elfen
ddiwydiannol ei naws i safle tir glas agored mewn lleoliad amlwg a fyddai ei
weld o fewn golygfeydd nodedig o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cais felly’n
groes i bolisïau ISA 1, ADN 3, PCYFF 1, PCYFF 2 a PCYFF 4 Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y maent yn ymwneud â sicrhau bod datblygiadau
yn gweddu i’w lleoliad.
Dogfennau ategol: