Agenda item

Sicrwydd o ran gweithrediad y Cynllun Ymateb.

Penderfyniad:

1) Nodi’r rhaglen waith

2) Gofyn am adroddiad cynnydd mewn 6 mis ar y rhaglen waith gan gynnwys gwybodaeth am y polisi canu’r gloch a’i weithrediad

3) Gofyn am adroddiad ar y gwaith o sicrhau statws Sir Plentyn Gyfeillgar a dod yn Gyngor Trawma Wybodus

4) Gofyn i’r Cabinet ystyried

  • ychwanegu enw cyswllt benywaidd allanol i’r poster rhannu gwybodaeth am bryderon a sicrhau bod manylion cyswllt ar gael ar wefannau ysgolion a gwefan y Cyngor
  • rhoi sylw i lais y teulu yn ogystal â llais y plentyn yn ffrwd gwaith 1
  • diwygio’r testun o dan y pennawd ‘2.3 – Archwiliad Estyn o Adran Addysg y Cyngor’ ar dudalen 18 y Cynllun Ymateb i gynnwys brawddeg sy’n adlewyrchu y cyd-destun sef serch y ganmoliaeth gan Estyn arestiwyd pennaeth ysgol ychydig fisoedd wedyn
  • sicrhau bod hyfforddiant meithrin perthnasoedd amhriodol ‘grooming’ ar gael i bawb sydd ei angen
  • darparu hyfforddiant diogelu arbenigol allanol i aelodau ac i lywodraethwyr
  • ychwanegu “lles plant a phobl ifanc” at ddisgrifiad ffrwd gwaith 7 - Cefnogi a Sefydlogi Ysgol Friars
  • gohebu gyda Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder am y heriau a’r risgiau ynghylch rôl llywodraethwyr ysgolion

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, gan ddiolch i aelodau’r pwyllgor am y cyfle i ddod a’r Cynllun Ymateb i’r Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder i graffu, cyn iddo gael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cabinet. Ymddiheurwyd eto i’r holl ddioddefwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddu erchyll Neil Foden, a chydnabuwyd bod y Cyngor wedi eu methu, ac ni chafodd lleisiau plant eu clywed. Pwysleisiwyd ymrwymiad y Cyngor i weithredu a sicrhau bod pethau yn newid. Dywedwyd bod y Cyngor yn blaenoriaethu’r addewid i ddysgu a newid, er mwyn sicrhau ni fydd methiannau o’r un fath byth yn digwydd eto. Amlygwyd bod y Cynllun Ymateb yn gam ar y daith hir ymlaen i adfer hyder ymhlith y cyhoedd, trigolion a staff, a nodwyd bod tryloywder yn hanfodol i hyn. Nodwyd bod y Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw, ac yn gyhoeddus. Nodwyd bod cofnodion cyfarfod y bwrdd rhaglen hefyd yn gyhoeddus, felly bydd modd i weld a monitro’r cynnydd sydd yn digwydd. Cydnabuwyd nad yw’r mater hwn yn fater hawdd i drafod, a chydnabuwyd bod canfyddiadau’r adroddiad yn erchyll. Diolchwyd am barodrwydd yr aelodau i graffu’r pwnc anodd yma, ac i gyfrannu at wellhad gweithdrefnau diogelu plant er mwyn sicrhau ni fydd hyn yn digwydd byth eto yng Ngwynedd. Diolchwyd am arweiniad arbennig yr athro Sally Holland, Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.

Nodwyd bod cynnydd i weld mewn sawl adran yn y Cynllun, a nodwyd ei fod yn enghraifft o gydweithio trawsadrannol i gyrraedd yr un nod, sef i wella trefniadau diogelu yng Ngwynedd. Mynegwyd bod y Cyngor yn cydnabod bod gwarchod a diogelu plant rhag niwed yn gyfrifoldeb ar bawb, a chroesawyd sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw feirniadaeth gan aelodau er mwyn adeiladu a gwella’r Cynllun ac i sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn gyflawn ac yn drwyadl. Pwysleisiwyd pwysigrwydd mewnbwn aelodau i gryfhau’r Cynllun Ymateb ac i helpu llunio dyfodol mwy diogel i blant a phobl ifanc y sir. 

Manylwyd ar y Cynllun Ymateb gan y Prif Weithredwr. Nodwyd bod y Cynllun Ymateb cyntaf wedi ei gyhoeddi dros flwyddyn yn ôl, ymhell cyn cyhoeddiad yr adolygiad ymarfer plant. Nodwyd bod llawer wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod yma, gan nodi bod oddeutu 42 i 43 o dasgau gwaith gwahanol wedi eu cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ceisio mynd i’r afael a’r hyn mae’r Cyngor yn ei wynebu. Esboniwyd fod cydnabyddiaeth wedi bod o’r cychwyn y byddai angen ail edrych ar y Cynllun Ymateb yn dilyn cyhoeddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant, er mwyn gweithredu ar yr argymhellion priodol.

Cyfeiriwyd at atodiad 2 sydd yn cynnwys adroddiadau sydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith ymateb i’r adolygiad, crynhoi beth sydd wedi newid ac yn amlygu’r pethau pwysig ar y gweill. Tynnwyd sylw’r aelodau at atodiad 3, sydd yn cynnwys y rhaglen waith byw sydd ar waith gan y Cyngor i fonitro’r cynnydd sydd yn digwydd ymhob adran mewn ymateb i’r argymhellion. Manylwyd ar y rhaglen waith, gan nodi ei fod yn cynnwys bob argymhelliad yn yr Adolygiad Ymarfer Plant ac argymelliadau a ffrydiau gwaith pellach sydd wedi eu hychwanegu er mwyn cyflawni. Nodwyd mai 27 argymhelliad oedd yn yr Adolygiad Ymarfer Plant, a bod 74 o ffrydiau gwaith yn y Cynllun Ymateb. Nodwyd bod amserlenni pendant wedi eu cynnwys, er mwyn monitro’r gwaith yn drwyadl ac i sicrhau cyflawniad.

Nodwyd bod y Cynllun eisoes wedi ei herio gan nifer o arbenigwyr ac asiantaethau, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Bwrdd Diogelu Cymru, Llywodraeth Cymru, ESTYN, yr Arolygaeth Gofal a nifer o gyrff eraill. Eglurwyd fod hyn wedi bod yn fuddiol, wrth herio a monitro’r Cynllun yn gyson a sicrhau eu bod yn adeiladu’r Cynllun gorau posib. Esboniwyd bydd y Cynllun Ymateb yn cael ei graffu gan aelodau yn y Pwyllgor hwn, yn ogystal â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a’r Cyngor Llawn, cyn iddo gael ei fabwysiadu yn ffurfiol gan y Cabinet.

Tywyswyd yr aelodau trwy’r adroddiad. Cyfeiriwyd at y Cynllun sydd wedi ei strwythuro fesul ffrwd gwaith, gan nodi’r swyddog dynodedig sydd yn gyfrifol am sicrhau cyflawniad a llwyddiant yn y maes. Cynhaliwyd y drafodaeth fesul ffrwd gwaith, er mwyn ymateb i bob thema yn briodol ac yn gyflawn.

 

Ffrwd Gwaith 1 – Llais y Plentyn a Chefnogi Dioddefwyr

Nodwyd mai’r Pennaeth Adran Addysg sydd yn arwain y ffrwd yma, sydd yn sicrhau fod llais y plentyn yn ganolog mewn materion sydd yn ymwneud â phlant, a bod hynny wedi gwreiddio drwy holl weithgareddau. Nodwyd bod y ffrwd yn sicrhau gwrandewir ar blant a’u bod yn cael eu credu a’u cymryd o ddifri, wrth roi llais i blant a phobl ifanc mewn prosesau sydd wedi’u cynllunio i’w cadw’n ddiogel. Amlygwyd bod y ffrwd yn sicrhau bod y Cyngor yn cefnogi’r dioddefwyr a goroeswyr ac yn sefydlu perthynas gofalgar gyda hwy.

Wrth gyfeirio at bwynt 1.4, sydd yn manylu ar y Cynllun Cefnogaeth Bersonol, cydnabuwyd nad oedd yr holl ddioddefwyr yn yr achos wedi derbyn cymorth a chynhigiwyd iddynt ar y pryd. Gofynnwyd a oes cyfle iddynt dderbyn y cymorth hwn yn y dyfodol, ac os yw’r drws yn parhau i fod ar agor iddynt dderbyn cefnogaeth gan y Cyngor petaent angen y cymorth mewn blynyddoedd i ddod? Holwyd os yw’r dioddefwyr yn ymwybodol o le i gael y gefnogaeth hon ac os oes cyfarwyddiadau clir iddynt?

Mewn ymateb i’r cwestiwn, cadarnhawyd bod y Cyngor yn cydnabod bod y trawma sydd wedi ei achosi i’r dioddefwyr yn barhaol, a’u bod yn croesawu dioddefwyr i ddod ymlaen i dderbyn cefnogaeth ar unrhyw bryd. Cadarnhawyd bod cyfarfod rheolaidd yn digwydd efo’r gwasanaeth prawf, IDVA, ISFA i gynnig gwasanaeth yn rheolaidd i’r dioddefwyr. Ymhelaethwyd bod y Cyngor hefyd yn gweithio’n agos efo RASA er mwyn sicrhau bod mwy o gefnogaeth ar gael. Yn bellach, nodwyd bod y Cyngor wedi comisiynu mwy o wasanaeth er mwyn blaenoriaethu’r gefnogaeth pan fo angen.

Wrth gyfeirio at bwynt 1.8 yn y ffrwd hon, croesawyd y ffaith bod aelod allanol o’r corff llywodraethu yn cael ei amlygu ar gyfer darparu cymorth i blant mewn ysgol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod swyddog allanol ar gael i blant gysylltu ag os ydynt yn pryderu, a sicrhau bod y ddarpariaeth yma yn glir i blant mewn ysgolion.

Cadarnhawyd mai’r Swyddog Arweinydd Ansawdd Diogelu a Llesiant yw’r swyddog dynodedig sydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt i blant os oes ganddynt bryderon. Awgrymwyd y dylid sicrhau bod swyddog dynodedig benywaidd ar gael fel pwynt cyswllt i blant hefyd, a dylid cynnwys ei manylion cyswllt ar y gyfres o bosteri hefyd. Mynegwyd awydd i weld y manylion cyswllt yma ar bob gwefan ysgol a gwefan y Cyngor, er mwyn i bobl o du allan i’r ysgolion hefyd gallu cysylltu efo’r person allanol.

Sicrhawyd bod y Cyngor yn annog ysgolion i arddangos manylion cyswllt mewn man gweledol clir, fel bod plant yn gallu cael mynediad i’r wybodaeth yn ystod eu hamser eu hunain. Eglurwyd bod y wybodaeth ar gael mewn toiledau, a bod datblygiadau mewn lle i sicrhau bod hyn yn fwy hygyrch. Sicrhawyd bod staff yn cyfathrebu yn rheolaidd efo’r plant wrth ofyn iddynt a ydynt yn ymwybodol o bwy i gysylltu ag os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon. Ymhelaethwyd bod Llais y Plentyn yn allweddol i’r Cynllun Adfer, felly mae’r Cyngor a’r ysgolion yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cynorthwyo’r broses adfer.

Sicrhawyd bod Awdit wedi cael ei gynnal yn yr adran plant i fonitro’r prosesau, a chadarnhawyd bod newidiadau cadarn wedi’u gweithredu. Eglurwyd bod pob cyfeiriad adran 5 wedi ei adolygu gan y Cyngor i ganfod rhai achosion a oedd yn codi pryder er mwyn ceisio tynhau systemau. Eglurwyd nad yw’r Cyngor bellach gwneud penderfyniadau ar faterion diogelwch fel asiantaeth unigol. Ymhelaethwyd bydd y Cyngor bellach yn delio a materion diogelu wrth gydweithio yn agos iawn gydag asiantaethau gwahanol, megis y Bwrdd Iechyd, a’r Heddlu, ac yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i wneud penderfyniadau ac i fonitro cynnydd yr achos.

Cyfeiriwyd at y gwaith sydd yn mynd rhagddo yn yr Adran Addysg gyda datblygiad y Fforwm Ieuenctid. Esboniwyd fod y Fforwm yn rhoi platfform a grym i bobl ifanc rhwng 13-21 i drafod materion ac i ddylanwadu ar bolisïau sydd yn effeithio pobl ifanc yng Ngwynedd. Nodwyd bod y fforymau yn gweithredu ar lefel ardal ar hyn o’r bryd ac yn y broses o ddatblygu i fod yn fforwm sirol, gydag aelodaeth gyflawn ar draws y sir. Gobeithiwyd bydd modd i’r Fforwm esblygu i fod yn Gyngor Ieuenctid yn y dyfodol. Eglurwyd bod Swyddog penodol wedi ei gomisiynu i ddatblygu’r fforymau dros yr hirdymor. Mewn ymateb i ymholiad, sicrhawyd bod cynrychiolaeth o bobl ifanc ar draws y sir yn rhan o’r Fforwm, a bod strwythur cadarn iddo. Nodwyd bod bwriad i ymhelaethu ar yr ymgysylltu i gynnwys plant mewn gofal, mudiadau megis Derwen, er mwyn sicrhau bod lleisiau plant amrywiol yn cael eu cynnwys. Ymhelaethwyd bod hyn yn allweddol i flaenoriaethau’r Cyngor i fod yn Sir Plentyn Cyfeillgar. Cydnabuwyd fod plant yn aml yn fwy cyfforddus yn rhannu pryderon gyda phlant eraill, felly gobeithir bydd y Fforwm yn darparu modd ychwanegol iddynt rannu a chodi unrhyw bryderon.

Mynegwyd awydd i graffu’r Polisi Canu’r Gloch. Nodwyd bod gwaith sylweddol wedi’i wneud i adolygu ac atgyfnerthu’r Polisi, a’r trefniadau hyfforddiant cysylltiedig. Cadarnhawyd bydd fersiwn diwygiedig o’r polisi yn cael ei drafod gan y Cabinet wythnos nesaf. Bydd rhaglen hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth i ddilyn, cyn gweithredu a monitro’r polisi newydd. Eglurwyd mai Polisi ar gyfer staff y Cyngor sydd dan sylw, ac eglurwyd bod polisi gwahanol yn berthnasol i ysgolion. Sicrhawyd byddai holl ysgolion Gwynedd yn mabwysiadu’r polisi. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod polisi gwahanol ar gyfer aelodau’r Cyngor, a bydd yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol yn codi ymwybyddiaeth o hyn efo’r aelodau. Amlygwyd bod atodiad wedi’i gynnwys yn amlinellu gwahanol ddulliau o godi gwahanol fathau o bryderon yn hwn ac yn crynhoi’r wybodaeth mewn un ddogfen.

Holwyd sut mae’r Cynllun Adfer yn ystyried sicrhau bod llais y teulu yn cael sylw a chydnabyddiaeth drwyadl, yn ogystal â llais y plentyn. Mynegwyd awydd i weld fframwaith mewn lle i wrando ar lais y teulu, ac i sicrhau bod y teulu yn rhan o’r prosesau diogelu pan yn briodol. Mewn ymateb i hyn, sicrhawyd ei fod yn bosib tynnu sylw at hyn yn fwy clir yn y Cynllun Ymateb i ddangos yn glir bod y llais y teulu yn rhan annatod o’r gwaith. Sylwyd bod hyn yn rhan bwysig o’r newid diwylliant yn y Cyngor ac ar lawr gwlad, fydd yn deyrnged i’r goroeswyr.

 

 

Ffrwd Gwaith 2 – Rheoli honiadau a phryderon am oedolion sy’n gweithio gyda phlant

Nodwyd mai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol sydd yn gyfrifol am y ffrwd hon, sydd yn sicrhau bod trefniadau diogelu'r Cyngor yn gadarn ac o’r safon gorau posib. Pwysleisiwyd bod amddiffyn plant wrth wraidd y ffrwd, trwy sicrhau bod pryderon yn gallu cael eu cymryd o ddifri ac yn cael eu gweithredu arnynt yn gyflym. Nodwyd ei fod yn sicrhau bod trefniadau Adran 5 yn cefnogi ymateb aml-asiantaeth cyson a chadarn i honiadau a phryderon am oedolion sydd yn gweithio gyda phlant.

Cyfeiriwyd at bwynt 2.2 yn y Cynllun, sydd yn nodi bod Swyddog Arweiniol Diogelu yr Adran Addysg wedi cynnal ymweliadau Monitro Trefniadau Diogelu yng Ngwynedd ers Ebrill 2023.

Wrth gyfeirio at bwynt 2.9 yn y Cynllun, sydd yn manylu ar yr ymholiadau Adran 47 a Rhan 5 o'r gweithdrefnau diogelu Cymru, holwyd os yw’r argymhellion wedi ei gweithredu arno a sut mae’r datblygiadau yn esblygu. Mewn ymateb, cadarnhawyd fod hyn wedi ei weithredu yn rhannol, a bod datblygiadau eraill ar y gweill.

Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cyflwyno mesurau i sicrhau nad yw penderfyniadau ar gyfeiriadau yn disgyn ar unigolyn a bydd y Cyngor yn peilota prosesau newydd ar gyfer cyfeiriadau yn ymwneud ag unigolion mewn safle ymddiriedaeth. Eglurwyd bod y Cyngor wedi bod yn cydweithio efo’r Heddlu i ystyried ymarferoldeb a’r adnoddau sydd angen i weithredu ar hyn. Nodwyd bod nifer helaeth o gyfeiriadau yn cael eu cyflwyno bob blwyddyn. Ymhelaethwyd bod newidiadau eisoes wedi eu cyflwyno i weithdrefnau trafodaethau Rhan 5 fel bod holl wybodaeth ar gofnodion plentyn yn cael ei adolygu wrth asesu eu risg. Cyfeiriwyd at y diwygiadau sydd wedi digwydd i’r ffurflenni cyfeiriadau, a eglurwyd bod Swyddog Diogelu wedi ei gomisiynu gan y Cyngor i gynnal y gwaith ac i sicrhau trefniant sgyrsiau aml asiantaethol.

Cyfeiriwyd at y nifer o fethiannau a fu yn yr achos yn Ysgol Friars, a holwyd pwy sydd yn gyfrifol am benderfynu os yw pryder yn cyrraedd trothwy diogelu neu amddiffyn plant neu beidio. Cydnabuwyd bod angen cryfhau a safoni’r broses o adrodd ar bryderon lefel isel, ar draws y gwasanaethau. Eglurwyd bydd y Cyngor yn sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw o unrhyw aelod o staff sydd wedi bod yn destun pryder o dan Rhan 5, a bydd system fflagio yn sicrhau bod y pryderon yn cael eu hadnabod a’u hystyried. Ategwyd bod rhagor i wneud megis ffurfioli cyfarfodydd efo’r Heddlu. Esboniwyd fod trafodaethau yn mynd rhagddo gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau a gweithrediad cenedlaethol ar hyn.

Mynegwyd awydd i ESTYN ymweld ag ysgolion cyn rhoi rhagrybudd, er mwyn gallu asesu’r ysgolion yn seiliedig ar ymweliad dilys.

Cyfeiriodd Aelod at ddyfyniad cadarnhaol gan Estyn yn yr adroddiad a oedd yn canmol ansawdd gweithredu rhan 5 cyn arestio Foden. Awgrymwyd nad oedd yn briodol ei gynnwys o ystyried y cyd-destun ac y dylid addasu’r testun. Ategwyd bod hyn yn engraifft o ddiwylliant amddiffynnol a bod angen i’r  Cyngor fynd ati i chwalu’r diwylliant amddiffynnol wrth ymgymryd â gweithrediad argymhellion yr Adolygiad i sicrhau fod gwir newid mewn diwylliant ymhob agwedd. Sicrhawyd bod hyn yn flaenoriaeth gan y Cyngor ac yn ymrwymiad o ddifri. Cydnabuwyd byddai hyn yn cymryd amser i altro dros y blynyddoedd i ddod wrth i bolisïau newydd gael eu mabwysiadu.

Ffrwd gwaith 3 – Hyfforddiant a Pholisïau

Cadarnhawyd mai’r Pennaeth Adran Gwasanaeth Corfforaethol sydd yn gyfrifol am y ffrwd yma, gan sicrhau fod pecynnau hyfforddiant yn briodol a bod staff wedi derbyn hyfforddiant addas i’w swyddogaeth. Nodwyd mai nod y ffrwd hon yw sicrhau fod ysgolion y sir yn mabwysiadu a gweithredu polisïau, a sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi i “feddwl yr hyn na ellir ei amgyffred” a deall “y gallai ddigwydd yma”.

Amlygwyd bod y Cyngor wedi ymrwymo i annog staff i ‘feddwl yr hyn na ellir ei amgyffred’ a deall y gallai ddigwydd yma. Credwyd y dylid hyfforddi staff a thaclo’r meddylfryd lle mae unigolion yn dueddol o roi pobl mewn swyddi ‘parchus’ ar bedestal. Nodwyd bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o ddyletswyddau diogelu staff y Cyngor. Nodwyd bod swyddog wedi ei phenodi fel Hyrwyddwr Diogelu a bod gwaith yn mynd rhagddo i annog staff ar draws y Cyngor i gwblhau hyfforddiant diogelu. Nodwyd bod pecynnau hyfforddiant diwygiedig wedi’u darparu i holl staff, sydd yn cynnwys gwybodaeth ddiwygiedig ar amddiffyn plant, diogelu a chamdriniaeth. Cadarnhawyd bod y trefniadau yn cael eu goruchwylio gan y panel strategaeth.

Mynegwyd awydd i weld mwy o hyfforddiant allanol yn cael ei gynnig i staff ac aelodau. Sicrhawyd bydd hyn yn bosib a bod modd cynnal hyfforddiant allanol gydag arbenigwyr allanol. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod modd cynnig yr hyfforddiant yma i Lywodraethwyr Ysgolion hefyd. Sicrhawyd bod yr hyfforddiant sydd eisoes yn cael ei ddarparu yn hyfforddiant safonol wedi ei ddynodi gan Gofal Cymru. Canmolwyd yr hyfforddiant sydd eisoes yn cael ei ddarparu yn fewnol yn y Cyngor. Ategwyd bod y modiwlau hyfforddiant sydd yn cael ei ddarparu i aelodau ar ystod eang o faterion gwerth chweil.

Cydnabuwyd bod staff yr Adran Plant yn dioddef pwysau aruthrol yn eu gwaith yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd. Ystyriwyd yr heriau sylweddol sydd yn eu gwynebu a pha effaith mae hyn yn cael ar y staff rheng flaen. Holwyd sut mae’r gwaith caled a welir ar lawr gwlad yn cael ei adlewyrchu mewn gwerthfawrogiad a chefnogaeth?   Mewn ymateb, cadarnhawyd bod cefnogaeth yn cael ei roi i staff yn gyson a diolchwyd i’r staff am eu hymrwymiad a phroffesiynoldeb trwy gydol hyn i gyd. Talwyd teyrnged arbennig i staff Ysgol Friars a chydnabuwyd pa mor anodd mae hi wedi bod i barhau i ddarparu gwasanaeth. Sicrhawyd bod systemau mewn lle i gadarnhau bod staff yn gallu dygymod efo’r pwysau a'r heriau, a chyfeiriwyd at y ddarpariaeth sydd ar gael gan y Tîm Diogelu a Llesiant. Nodwyd byddai’r capasiti ychwanegol gan y Tîm yn rhoi gwell cefnogaeth i’r ysgolion.

Holwyd os fyddai’n bosib i holl staff y Cyngor, aelodau’r Cyngor, Llywodraethwyr ysgol a disgyblion dderbyn hyfforddiant “grooming”. Mewn ymateb, sicrhawyd bod y Cyngor wedi bod yn gweithio ar brosiect trawsadrannol i greu pecyn hyfforddi i fynd i’r afael ac ymddygiad “grooming” ac i rannu hwn efo’r rhanddeiliaid priodol. Nodwyd eu bod yn gweithio yn sydyn i amserlen dynn er mwyn ei ddarparu yn fuan ac amserol, a bydd y Cyngor yn mabwysiadu’r hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru pan ddaw maes o law. Sicrhawyd bod trafodaethau cyson a pharhaus yn mynd rhagddo rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru i gyflawni’r argymhellion cenedlaethol. Cyfeiriwyd at y Bwrdd Sicrwydd sydd wedi ei sefydlu a nodwyd bod y Cyngor yn derbyn arweiniad y Llywodraeth ac yn adrodd ar y cynnydd ar yr ymrwymiad i droi bob carreg a gweithredu.

Cyngor yn drawma gwybodus. Croesawyd cyfle i drafod y modd mae’r Cyngor wedi ei nodi fel Cyngor Drawma Gwybodus.

 

Ffrwd Gwaith 4 – Llywodraethiant Ysgolion

Nodwyd bod y Swyddog Adrodd i’w gadarnhau ar gyfer y ffrwd hon. Nodwyd mai blaenoriaeth y ffrwd yma yw rhoi’r gefnogaeth gorau posib i Lywodraethwyr ysgolion i’w harfogi i arddel eu rolau. Sicrhawyd bod llywodraethau yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau i gadw plant yn ddiogel a bod systemau yn eu lle sy’n mesur diwylliant ehangach ysgolion.

Mynegwyd awydd i sefydlu a darparu hyfforddiant i wella’r diwylliant yn yr Adran Addysg i hybu cydweithio rhwng yr Adran Addysg a Llywodraethwyr a Staff Ysgolion. Ystyriwyd darparu hyfforddiant i ddiffinio ac esbonio rôl a chyfrifoldebau pob endid yn glir, a rhoi canllawiau ac arweiniad i gyrff llywodraethol. Cydnabuwyd bod llawer o waith i wneud i ddarparu cefnogaeth i Lywodraethwyr a sicrhawyd bod y gwaith yn mynd rhagddo dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Ategwyd bod y Cyngor yn cefnogi’r gwaith ac yn cyfrannu yn sylweddol i sicrhau eglurder. Ategwyd ymrwymiad y Cyngor i ragori yn y maes wrth symud ymlaen.

Cydnabuwyd nad yw swydd Llywodraethwr Ysgol yn ddeniadol nac yn un hawdd bob amser. Diolchwyd i Lywodraethwyr Ysgolion ar draws y Sir ac ar draws Cymru am eu hymroddiad fel gwirfoddolwyr i weithio dros eu cymuned. Ystyriwyd os oes gormod o faich ar y gwirfoddolwyr hyn, a nodwyd bod angen edrych ar y model a’r perthynas rhwng y corff Llywodraethol a’r asiantaethau ehangach. Mynegwyd awch i alw ar y Llywodraeth i weithredu ar hyn. Pwysleisiwyd bod y newid diwylliant yn hollbwysig i Lywodraethiant effeithiol a gellir gweithredu ar hyn yn uniongyrchol trwy’r Cyngor. Gwerthfawrogwyd y gwaith sydd yn mynd rhagddi i sicrhau cefnogaeth i Lywodraethwyr. Sicrhawyd byddai’r Adran yn diweddaru aelodau yn gyson am y cynnydd sydd yn digwydd trwy ffurf strwythuredig, megis y bwletin aelodau.

 

Mynegwyd pryder bod y nifer staff o fewn yr adran addysg wedi eu cwtogi  a bod disgwyl iddynt gymryd mwy o faich. Cydnabuwyd nad yw rôl llywodraethwr ysgol yn hawdd a bod angen ei symleiddio er mwyn ei wneud yn swydd sydd yn haws. Nodwyd ei fod yn hollbwysig sicrhau bod gan Lywodraeth leol yr adnoddau sydd ei angen i ddarparu cefnogaeth gadarn i ysgolion a nodwyd bod yr arweiniad yn glir yn y Cynllun Ymateb i’r Cyngor gweithredu. Atgoffwyd bod gwaith Llywodraethwyr Ysgol hefyd yn gallu bod yn rôl wobrwyol gyda llawer o fodlonrwydd wrth i aelodau cael cyfle i weithio dros eu trigolion a phlant eu cymuned. Awgrymwyd dylid y Cyngor gohebu gyda Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder am yr heriau a’r risgiau ynghylch rôl llywodraethwyr ysgolion.

 

Manylwyd ar y gefnogaeth uniongyrchol sydd ar gael i Lywodraethwyr yng Ngwynedd. Rhoddwyd trosolwg o'r gefnogaeth sydd eisoes yn cael ei ddarparu, a nodwyd eu bod yn gweithio ar fodel agenda ar gyfarfodydd. Cadarnhawyd bod llawlyfr i lywodraethwyr wedi ei ddosbarthu eleni yn manylu ar y rôl ac yn darparu gwybodaeth ar y gefnogaeth sydd ar gael i lywodraethwyr. Eglurwyd bod rhaglen hyfforddiant mandadol ar gael ar gyfer llywodraethwyr yn weithredol ar draws y sir a bod cyngor a chefnogaeth barhaus ar gael i gyrff llywodraethu drwy’r Swyddog Cefnogi Addysg Cynorthwyol. Amlygwyd bod cefnogaeth ac arweiniad i glercod llywodraethwyr ac yn sefydlogi trefniadau yn Ysgol Friars.

 

Ffrwd Gwaith 5- Grym Rhesymol

Nodwyd bod y Swyddog Adrodd i’w gadarnhau ar gyfer y ffrwd hon. Nodwyd mai blaenoriaeth y ffrwd yma yw sicrhau bod holl ysgolion yn gwneud popeth i sicrhau fod holl ysgolion yn gweithredu arferion defnydd o rym rhesymol yn briodol. Nodwyd bod y polisi grym rhesymol ysgolion unigol yn cael eu gwirio mewn ymweliadau ansawdd gan y Tîm Diogelu a bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i Ysgolion gan y gwasanaeth cynhwysiad. Cadarnhawyd bod Swyddog Diogelu a Llesiant ychwanegol wedi ei benodi i’r Tîm yn ddiweddar er mwyn cyflawni ymweliadau ansawdd blynyddol.  Sicrhawyd bydd yr awdurdod yn parhau i adolygu cynnwys y polisi i adlewyrchu'r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei gyhoeddi ac yn cyfathrebu unrhyw newidiadau perthnasol i’r ysgolion a'r cyrff llywodraethol.

 

Frwd Gwaith 6 – Cynllunio Argyfwng ac Ymateb i Argyfwng Diogelu

Amlygwyd mai’r Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol sydd yn arwain ar waith y ffrwd yma. Manylwyd mai’r nod yw sicrhau fod trefniadau cynllunio ac ymateb i argyfwng yn briodol a bod holl staff yn ymwybodol o sut i ymateb mewn sefyllfa o argyfwng diogelu. Nodwyd ei fod yn cefnogi staff ysgolion i ymateb i’r sefyllfa heriol i godi cwyn yn erbyn yr arweinyddiaeth, os oes angen.

 

Ffrwd Gwaith 7 - Cefnogi a Sefydlogi Ysgol Friars

Nodwyd mai blaenoriaeth y ffrwd yma yw sicrhau fod safonau addysg bresennol yn parhau i gael eu cynnal, fod staff yn hyderus a bod arweinyddiaeth Corff Llywodraethu'r ysgol yn sefydlog ac yn effeithiol. Esboniwyd bod llawer wedi newid yn Ysgol Friars dros y ddwy flynedd diwethaf, a bod y Cyngor yn gweithredu i gefnogi’r staff, llywodraethwyr a’r pennaeth dros dro.

Holodd Aelod os yw’r plant yn hapus yn Ysgol Friars? Mewn ymateb, cydnabuwyd fod hwn yn gwestiwn anodd i ateb a bod yr ysgol wedi mynd trwy gyfnod o hunllef.  Er hyn, sicrhawyd bod y Cyngor gyda ffydd yn yr uwch dim rheoli presennol yn Friars ac yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd i fonitro’r cynnydd. Pwysleisiwyd bod perthynas staff efo plant yr ysgol yn holl bwysig i sicrhau ei fod yn amgylchedd iach, sy’n ffynnu ac yn gadarnhaol. Cadarnhawyd bod gwaith da yn mynd rhagddo i hybu llesiant a chynhwysiad yn yr ysgol a sicrhawyd bod datblygiadau meysydd ymwybyddiaeth o drawma yn yr ysgol. Credwyd bod hyn rhoi hyder bod yr ysgol yn blaenoriaethu lles plant a gobeithiwyd bod y plant yn teimlo hyder eu bod yn gallu mynegi unrhyw bryderon gyda’r staff pe bai angen.

Gobeithiwyd bod yr ysgol yn dechrau symud ymlaen o’r hyn sydd wedi digwydd trwy gefnogaeth y Cyngor a gwersi wedi  eu dysgu. Mynegwyd ei fod yn glod i’r ysgol fod yr ysgol wedi gallu ymdopi ac yn parhau i lwyddo. Ymfalchïwyd ei fod yn ysgol lwyddiannus a nodwyd bod newid cadarnhaol wedi bod i adeiladu a hybu diwylliant newydd cadarnhaol a diogel yn yr ysgol. Eglurwyd bod Tîm rheoli a chorff llywodraethol yr ysgol wedi newid, a bod y tîm yn parhau i adeiladu ar y cynnydd a’r newid yn niwylliant. Nodwyd bod swydd pennaeth parhaol wedi ei hysbysebu a bod unigolyn wedi ei phenodi. Canmolwyd y penodiad a nodwyd bod y person o safon a bydd yn parhau i arddel yr egwyddorion sydd i weld yn yr ysgol. Diolchwyd am y cydweithio arbennig sydd yn cefnogi’r ysgol ac yn sicrhau ei fod yn mynd o nerth i nerth i bennod newydd cyffrous yn hanes yr ysgol. Cydnabuwyd fod cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i graffu ar y mater yn ail godi llawer o straen i gymuned Ysgol Friars. Dymunwyd nodi hynny,cydymdeimlo gyda hwy a diolch iddynt am barhau i lwyddo. Canmolwyd y gwaith sydd yn mynd ymlaen yn yr ysgol i greu cynlluniau newydd.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd lles a chynhwysiant i blant yn yr ysgol a blaenoriaethwyd adlewyrchu hyn yn y Cynllun Ymateb. Holwyd os oes modd ychwanegu’r gair lles yn nisgrifiad pwrpas y ffrwd hon (7) er mwyn mireinio pwrpas y ffrwd ac i dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd a lles y disgyblion.

Holwyd os oes capasiti llawn ar y bwrdd llywodraethwyr yn Ysgol Friars? Mewn ymateb, cadarnhawyd bod nifer o aelodau newydd wedi ymuno a’r corff ers blwyddyn. Cydnabuwyd bod y corff llywodraethol yn ei ddyddiau cynnar, ac y bydd yndatblygu dros y cyfnod nesaf i wireddu gweledigaeth yr Ysgol. Esboniwyd bod nifer o bethau cyffrous ar y gweill. Cydnabuwyd bod ambell sedd wag ar y bwrdd, a esboniwyd ei fod yn heriol i lenwi bob sedd. Ymhelaethwyd fod hyn yn frwydr barhaus a gobeithiwyd bydd y sefyllfa yn altro yn fuan. Holwyd os fyddai’n bosib i aelodau’r Cyngor gael gwybod beth yw’r niferoedd o seddi llywodraethwyr gwag yn ysgolion y Sir. Mewn ymateb, cadarnhawyd byddai modd i glercod amlygu’r nifer o seddi gwag sydd ymhob corff llywodraethol fesul ysgol. Cadarnhawyd bydd yr adran addysg yn hapus i rannu’r wybodaeth yma maes o law.

Holwyd os oes modd i aelodau’r Pwyllgor derbyn diweddariad ar y cynnydd yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Craffu Gofal ym mis Mawrth. Cynigwyd y dylid derbyn diweddariadau cyson ar y cynnydd bob 6 mis, er mwyn gallu monitro’r sefyllfa yn llawn.

 

PENDERFYNIAD

 

1) Nodi’r rhaglen waith

2) Gofyn am adroddiad cynnydd mewn 6 mis ar y rhaglen waith gan gynnwys gwybodaeth am y polisi canu’r gloch a’i weithrediad

3) Gofyn am adroddiad ar y gwaith o sicrhau statws Sir Plentyn Gyfeillgar a dod yn Gyngor Trawma Wybodus

4) Gofyn i’r Cabinet ystyried

  • ychwanegu enw cyswllt benywaidd allanol i’r poster rhannu gwybodaeth am bryderon a sicrhau bod manylion cyswllt ar gael ar wefannau ysgolion a gwefan y Cyngor
  • rhoi sylw i lais y teulu yn ogystal â llais y plentyn yn ffrwd gwaith 1
  • diwygio’r testun o dan y pennawd ‘2.3 – Archwiliad Estyn o Adran Addysg y Cyngor’ ar dudalen 18 y Cynllun Ymateb i gynnwys brawddeg sy’n adlewyrchu y cyd-destun sef serch y ganmoliaeth gan Estyn arestiwyd pennaeth ysgol ychydig fisoedd wedyn
  • sicrhau bod hyfforddiant meithrin perthnasoedd amhriodol ‘grooming’ ar gael i bawb sydd ei angen
  • darparu hyfforddiant diogelu arbenigol allanol i aelodau ac i lywodraethwyr
  • ychwanegu “lles plant a phobl ifanc” at ddisgrifiad ffrwd gwaith 7 - Cefnogi a Sefydlogi Ysgol Friars
  • gohebu gyda Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder am y heriau a’r risgiau ynghylch rôl llywodraethwyr ysgolion

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10:30yb a daeth i ben 13:00yp.

 

 

 

Dogfennau ategol: