Ystyried Adroddiad Blynyddol, (2014 -15), Cartrefi Cymunedol Gwynedd.
Cofnod:
(a)
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol
Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) 2014 - 2015. Cyfeiriwyd at y Cytundeb
Trosglwyddo a nodwyd bod yn ofynnol iddynt nodi sut maent wedi gwireddu’r addewidion a wnaed i
denantiaid yn y Ddogfen Gynnig a gweithredu goblygiadau dan y Cytundeb
Trosglwyddo. Tynnwyd sylw at rai materion penodol:
· Bod 167 (98.8%)
o'r addewidion o fewn y Ddogfen Gynnig "Eich Cartref, Eich Dewis"
wedi eu cyflwyno'n llwyddiannus, ers diwedd mis Mawrth 2015. Nodwyd bod CCG yn
parhau i roi blaenoriaeth i swyddi lleol gan sicrhau bod y gwariant yn cael ei
gylchdroi. Ar ddiwedd Mawrth 2015 roedd 257 yn cael eu cyflogi ar raglen gwella Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar draws yr holl ddarparwyr gwasanaeth. Wrth
i lif gwaith a rhaglen gwella SATC dynnu tua'r terfyn, nodwyd bod lefelau
staffio Darparwyr Gwasanaeth yn gostwng ac o ganlyniad ffigyrau nifer
prentisiaid a hyfforddeion yn lleihau.
· CCG wedi ennill gwobr
Partneriaeth a Mentergarwch Cymdeithas Penseiri Ymgynghorol (2013), a gwobr am Gyfraniad
Arbennig yn y Gwobrwyon Caffael Cenedlaethol (2014). Yn dilyn hynny, maent wedi
derbyn canmoliaeth am y modd y mae busnesau lleol a phobl leol wedi cael budd
o'r swyddi a'r prentisiaethau sydd wedi eu creu. Yn 2015, derbyniwyd gwobr gan
Caffael Cenedlaethol Cymru.
· Ers bodolaeth CCG a hyd at Fawrth 2015, mae
180 o brosiectau cymunedol wedi derbyn budd o grantiau (cyfanswm £975,699) drwy
Gronfa Budd Cymunedol CCG gyda buddsoddiad ychwanegol o £5.6M wedi ei ddiogelu
drwy arian cydgyfeirio.
· Bod pwyslais CCG
yn newid. Dros y pum mlynedd diwethaf y pwyslais oedd sicrhau bod stoc y
gymdeithas yn cydymffurfio a’r safon ac mae hyn yn parhau yn ymrwymiad clir.
Erbyn hyn, mae cyfeiriad y busnes yn newid a lluniwyd Cynllun Corfforaethol
2015/20 yn amlinellu strategaeth a dyheadau am y pum mlynedd nesaf. Bydd
mesurau lles yn gwasgu ar denantiaid a rhaid rhoi ystyriaeth ar y ddarpariaeth
fydd yn cael ei gynnig.
· Y busnes yn parhau
i dyfu er mwyn sicrhau hyfywedd tymor hir - datblygiadau newydd ym Maesgeirchen
a Phwllheli ynghyd â chyrraedd targed i ddarparu tai
fforddiadwy ac ymchwilio i ffynonellau incwm newydd. Er bydd y gwariant yn
lleihau o’r flwyddyn yma ymlaen, bydd CCG yn parhau i fuddsoddi a chylchdroi
arian o fewn y Sir.
· Elfennau
cydweithio gyda chwmnïoedd mawr a threfniadau is-gontractio yn codi rhai
pryderon, ond CCG yn parhau i weithio drwy hyn.
· Parhau i ymgynghori gyda thenantiaid i gynnwys cwsmeriaid ym mhopeth
maent yn wneud.
· O ganlyniad i’r newid pwyslais, y berthynas gyda’r Cyngor, o safbwynt
monitro yn newid.
(b)
Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol:
i.
Llongyfarchwyd CCG ar eu
llwyddiant o dderbyn gwobr Caffael Cenedlaethol Cymru ac ar eu hadroddiad
positif. Diolchwyd iddynt am lwyddiant y gronfa gymunedol a’u parodrwydd i
wella stadau cymysg eu heiddo.
ii.
Cymeradwywyd datblygiadau o’r newydd, ond angen
sicrhau mwy o unedau ar gyfer pobl hŷn ac unedau un llofft. Mewn ymateb
nodwyd bod CCG yn ymwybodol o gynnydd yn
nifer pobl hŷn ac o’r ystadegau clir sydd tystiolaethu’r pwyslais ar gadw pobl hŷn yn eu cartrefi
- y mater eisoes wedi ei drafod yn y Bartneriaeth Tai ac felly'r
cymdeithasau tai yn cydweithio i ymateb i’r galw a sicrhau bod y datblygiadau
yn y llefydd cywir.
iii.
Dirywiad safonau ceginau, er enghraifft yn debygol o
ddod gyda'i gilydd ac felly rhagweld y bydd angen buddsoddiad pellach ymhen
rhyw bymtheg mlynedd. Mewn ymateb nodwyd bod ystyriaeth wedi roi i hyn yn y
cynllun busnes.
iv.
Cais i gryfhau cyswllt yr aelodau lleol, Cyngor Bro
gyda’r wardeniaid lleol o ran rhannu gwybodaeth. Mewn ymateb nodwyd bod y
Protocol Aelodau Etholedig yn sicrhau llif gwybodaeth i un cyfeiriad gyda phob
ymholiad ac ymateb yn cael ei gofnodi yn briodol. Dywedwyd bod sefydlu un pwynt
cyswllt yn rhoi agwedd broffesiynol i’r drefn. O ran cysylltu gyda wardeniaid,
amlygwyd nad oedd hyn yn effeithiol gan fod y warden yn dueddol o fod allan yn
y maes drwy’r dydd. Amlygwyd hefyd bod Pencampwr
Aelodau wedi ei benodi yn bwrpasol i
rannu gwybodaeth. Ategwyd yr aelodau bod y protocol aelodau yn effeithiol a
llongyfarchwyd Gethin a’r tîm am eu gwybodaeth a’u hymatebion amserol.
v.
O ran gwerthiant tai
nodwyd bod y cyfartaledd wedi gostwng i rhwng 5 – 7 tŷ yn cael eu gwerthu
yn flynyddol. Nodwyd bod gan y Llywodraeth fwriad i ostwng y disgownt o £16,000
i £8,000 fydd yn gwneud y broses yn llai deniadol i’r tenant. Mae’r fenter
‘Hawl i Brynu’ yn parhau gyda chyfnod cymhwyso o fod wedi byw yn yr eiddo am
ddwy flynedd cyn gwneud cais. Yn ôl Llywodraeth San Steffan, mae’n ddymuniad,
ar gyfer pob tŷ sydd yn cael ei werthu, dylai un gael ei adeiladu yn ei
le, ond ymddengys bod gan Llywodraeth Cymru ymrwymiad cadarn i waredu’r
prosiect ‘Hawl i Brynu’.
vi.
Wrth ymateb i gais gan Aelod am wybodaeth i rannu
gyda thenantiaid yng nghyd-destun pwy sydd yn cael blaenoriaeth, nodwyd bod
ceisiadau yn cael eu rheoli gan y Tîm Opsiynau Tai gyda chydweithio da gyda’r
Gwasanaethau Tai. Amlygwyd hefyd bod rhaid parchu Diogelwch Gwybodaeth ac felly
ni ellir rhannu gwybodaeth am denantiaid. Gwerthfawrogwyd y gwaith roedd
aelodau yn ei wneud i liniaru sefyllfaoedd.
vii.
Mewn ymateb i sylw yn nodi siom fod CCG wedi penodi
dau uwch Swyddog di-gymraeg a’r drwg deimlad roedd wedi ei greu, amlygwyd nad
oedd yn benderfyniad hawdd. Nodwyd bod problemau recriwtio a’u bod wedi ceisio
ymateb i’r sefyllfa. Mae gwaith CCG at y Gymraeg yn parhau, ond fel busnes
rhaid sicrhau bod y bobl iawn yn y swyddi iawn ac felly hyn yn flaenoriaeth.
viii.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwella trefniadau
cydweithio o ran sefyllfa Tai Gwag, nodwyd bod tai gwag yn broblem ariannol i
CCG ac felly os gall aelodau lleol gefnogi CCG drwy hyrwyddo tai gwag buasent
yn ddiolchgar iawn.
ix.
O ran perchnogaeth
tiroedd, amlygwyd y buasai CCG yn cysylltu gydag aelodau unigol
x.
O ran newid perthynas,
amlygwyd y buasai’r aelodau yn hoff o weld y berthynas yn parhau rhwng y Cyngor
a CCG gan fod cydweithio yn llesol. Gwnaed awgrym cychwynnol y buasai modd
cynnal trafodaeth flynyddol yn y
Pwyllgor Craffu Cymunedol i drafod / craffu gwaith yr holl gymdeithas
tai sydd yn darparu cartrefi yng Ngwynedd.
Diolchwyd i bawb
am eu cyfraniad i’r drafodaeth ac i
gynrychiolwyr Cartrefi Cymunedol Gwynedd am fynychu’r cyfarfod.
Derbyniwyd yr adroddiad.
Dogfennau ategol: