Agenda item

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r cynnydd, y sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt Trosolwg Arbedion

 

Nodyn /Awgrym

Cynnig cefnogaeth wedi ei dargedu ar gynlluniau nad yw’r Adrannau yn gallu eu gwireddu

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ac ystyried gwybodaeth i’r Cabinet ei dderbyn (20-01-26) a sylwebu fel bo angen.

 

Yn adroddiad Cyllideb 2025/26 i’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth 2025, adroddwyd bod arbedion gwerth £3.5 miliwn wedi eu proffilio ar gyfer cyllideb 2025/26 sydd yn gyfuniad o werth £100k wedi eu cymeradwyo o’r newydd yn 2025 a £3.4 miliwn oedd wedi eu cymeradwyo mewn blynyddoedd blaenorol. Atgoffwyd yr Aelodau, fel sydd wedi ei adrodd yn gyson yn y Pwyllgor, bod trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai meysydd.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol,

 

·        Nodwyd bod 98% o’r arbedion hanesyddol wedi eu gwireddu sef £33.8 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion, bellach wedi eu gwireddu. Wrth fanylu ar y cynlluniau sydd yn parhau heb eu gwireddu (gwerth £590 o filoedd), bod y mwyafrif ohonynt yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

·        O’r cynlluniau arbedion newydd gwerth £15.6 miliwn, adroddwyd bod 81% o’r arbedion eisoes wedi eu gwireddu a 3% pellach ar drac i gyflawni’n amserol; bod risgiau i wireddu’r arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd gyda’r prif rai yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd.

 

Yn dilyn cyhoeddiad yn Rhagfyr 2025 bod llawr o 4.1% ar gyfer setliad ariannol i Lywodraeth Leol, fyddai’n golygu nad oedd brys i’r Cyngor weithredu arbedion ar gyfer 2026/27, byddai angen parhau i adnabod arbedion ar gyfer blynyddoedd dilynol sy’n debygol o fod yn heriol.

 

Wrth grynhoi'r darlun, adroddwyd bod £47 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu sydd yn 93% o’r £50 miliwn gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelwyd y bydd 1% pellach yn cael ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ond y byddai oediad a rhai risgiau i gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill.

 

Diolchwyd am yr adroddiad trylwyr

 

Derbyniwyd bod 98% o gynlluniau arbedion hanesyddol 2015/16 - 2025/26 (yn mynd yn ôl dros 10 mlynedd) wedi eu gwireddu, ond dim ond 81% o gynlluniau arbedion newydd 2023/24 i 2025/26 sydd wedi ei gwireddu gyda 23 o gynlluniau wedi llithro neu gyda risg i gyflawni’r arbediad. Er hynny, awgrymwyd i’r Gwasanaethau Canolog ystyried gynnig cymorth wedi ei dargedu ar gynlluniau nad yw’r Adrannau yn gallu eu gwireddu.

 

Bod risgiau i’r cyhoedd ac i’r Cyngor drwy geisio arbedion sydd ddim ar gael, yn enwedig os yw’r galw am wasanaethau yn cynyddu. Awgrymwyd bod asesiad risg trylwyr o’r peryglon o doriadau yn cael ei gynnal ar bob cynllun. Mewn ymateb, mynegodd Aelod Cabinet Cyllid bod y sefyllfa o ganfod toriadau yn mynd yn anoddach a’r effeithiau i wasanaethau trigolion y Sir yn fwy amlwg. Ategodd y Pennaeth Cyllid mai anodd yw darganfod arbedion ac felly bod trefniadau amgen mewn lle. Wrth i’r Adran Cyllid adolygu a thrafod cynlluniau gydag Adrannau a dod i gasgliad nad yw’r cynllun gwreiddiol yn hyfyw, bydd rhaid ystyried cynllun amgen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, a yw’r sefyllfa yn cael effaith ar wasanaethau statudol ac o ganlyniad yn agosáu at sefyllfa o orfod gwrthod gwasanaethau, nodwyd, er enghraifft bod gwaith megis Llechen Lân yn mynd i’r afael â phwysau tebygol ar y gwasanaethau, ac yn mabwysiadu cyfeiriad strategol a chynllun gweithredu fyddai’n lliniaru problemau i’r dyfodol. O ganlynaid i’r gwaith ymchwil, adroddwyd, bod mwyafrif helaeth o arian ychwanegol yn cael ei gyfeirio at y maes gofal i gydnabod y pwysau ychwanegol yma. Roedd y Pennaeth Cyllid yn hyderus na fydd cynlluniau arbedion newydd yn cael eu cyflwyno, ac nid oedd yn rhagweld y byddant y gorfod torri ar gynigion sydd yn cael eu cynnig i drigolion.

 

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn ag Adrannau yn darparu rhagolwg gorwariant blynyddol a chadw cofrestr risg fel nad ydynt yn gorwario, nodwyd, er nad oedd cynllun busnes penodol yn cael ei gyflwyno i’r Adran Gyllid, bod yr Uned Cyfrifeg yn edrych ar sefyllfaoedd staffio Adrannau ac os byddai angen gweithredu unrhyw newid bydd rhaid i’r Adran berthnasol gwblhau ffurflen newid strwythur fel modd i’r Uned Gyfrifeg a’r Uned Adnoddau Dynol sicrhau bod arian ar gael cyn cymeradwyo. Ategwyd mai cyfrifoldeb deilydd y gyllideb yw bod gwariant o fewn eu cyllideb ac y bydd angen cyflwyno cais am fwy o arian os na fydd hyn yn bosib. Mewn ymateb i sylw ategol bod rhaid cynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod modd ariannu cynlluniau, nodwyd bod ceisiadau grant yn cael ei gyflwyno drwy’r Adran Cyllid a bod cyfrifydd yn sicrhau bod rheolaeth dros yr adnoddau.

 

PENDERFYNWYD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r cynnydd, y sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt Trosolwg Arbedion

 

Nodyn /Awgrym

Cynnig cefnogaeth wedi ei dargedu ar gynlluniau nad yw’r Adrannau yn gallu eu gwireddu

 

Dogfennau ategol: