Agenda item

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2025 o’r Gyllideb Refeniw
  • Nodi sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.  Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2025/26, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Gofynnwyd i’r  Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet Ionawr 20fed 2026.

 

Yn dilyn adolygiad diwedd Tachwedd nodwyd bod y rhagolygon yn awgrymu gorwariant o £6.5 miliwn gan adrannau’r Cyngor, oedd yn gynnydd bychan o ragolygon Awst gyda 76% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant. Eglurwyd, yn dilyn ymlaen o dueddiad mewn blynyddoedd blaenorol, bod gorwariant sylweddol hefyd yn y maes gwastraff, priffyrdd a bwrdeistrefol, ond tanwariant ar gyllidebau corfforaethol, sy’n golygu fod hynny yn lleihau’r rhagolygon gorwariant yn ei gyfanrwydd i £2.3 miliwn.

Tynnwyd sylw at y prif faterion:

 

·        Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – rhagolygon diweddaraf  yn awgrymu os na fydd newid mewn gweithredu yn ystod y flwyddyn, bydd diffyg cyllidebol o £3miliwm erbyn diwedd y flwyddyn. Bu i werth £3 miliwn o arian parhaol ei ddyrannu i’r maes ar gyfer 2025/26, ond bod gwerth miliwn o arbedion a thoriadau,  heb eu cyflawni hyd yma.

 

Yng nghyd-destun gwasanaethau pobl hŷn, gwelwyd cynnydd yn y galw am ofal preswyl pobl hŷn a hefyd cynnydd annisgwyl ac anarferol am ofal preswyl oherwydd materion iechyd meddwl; y pwysau ar y ddarpariaeth gofal cartref hefyd yn parhau.

 

·       Adran Plant a Theuluoedd - yn rhagweld diffyg cyllidebol o £1.8 miliwn, gyda meysydd megis lleoliadau all-sirol, a’r ddarpariaeth plant gydag anableddau yn y gwasanaeth Derwen a Hafan y Sêr yn wynebu pwysau.

 

·        Byw’n Iach – dros y blynyddoedd diwethaf, Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol gan y Cyngor uwchlaw taliad cytundebol y cytundeb darparu, i'w galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Adroddwyd bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r rhagolygon o’r swm gofynnol erbyn diwedd y flwyddyn wedi cynyddu i £295k.

 

·        Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC - rhagwelir diffyg cyllidebol o £492k, gydag arbedion nad ydynt yn cael eu gwireddu yn cyfrannu at y sefyllfa. Gwelwyd lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sydd o ganlyniad yn cael effaith negyddol ar incwm  gwasanaethau priffyrdd. Yn yr Uned Bwrdeistrefol, amlygwyd bod cyfuniad o ffactorau, oedd yn cynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus; colledion incwm yn faterion cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus.

 

·        Adran Amgylchedd – bod diffyg cyllidebol o £685k yn cael ei ragweld, gyda’r tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau ac yn gyfrifol am £617k o’r gorwariant. 

 

·        Tai ac Eiddo – tuedd o bwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda rhagolygon gwariant o £6.6 miliwn yn y maes eleni, o gymharu â £6 miliwn y llynedd. Y sefyllfa ariannol yn cynnwys cyllideb ychwanegol o £3m sydd wedi ei ddyrannu o bremiwm treth cyngor a chyllideb un-tro ychwanegol a ddyrannwyd fel rhan o'r drefn bidiau i gynorthwyo gyda'r pwysau ychwanegol. Rhagwelir y bydd yr adran yn ei gyfanrwydd yn gorwario £248k.

 

·        Corfforaethol – tanwariant o £4.2 miliwn ar nifer o benawdau corfforaethol oedd yn cynnwys costau cyfalaf, dychwelyd cyllidebau a bidiau a derbyniad grant; gwelwyd hefyd gynnyrch treth ychwanegol.

 

Ategwyd, yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol 2024/25, adolygwyd Incwm Treth Cyngor a’r Premiwm sydd yn deillio o’r dreth ar ail gartrefi ac eiddo gwag. Y canlyniad yw bod £2 filiwn sy’n berthnasol i Bremiwm Treth Cyngor 2024/25 i’w drosglwyddo o’r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol i’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i sylw bod £0.5 miliwn o ddiffyg yn y gyllideb, er bod argraff wedi ei roi bod y gyllideb yn well, nodwyd mai cyfeiriad tuag at y setliad oedd hyn a bod y setliad ‘yn well’ na’r hyn a ragwelwyd yn Adolygiad Diwedd Awst 2025. Ategwyd, wrth fynd ati i osod cyllideb ar gyfer 2026/27 bydd angen ystyried yr angen tu hwnt i chwyddiant mewn rhai meysydd oherwydd y gwariant.

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2025 o’r Gyllideb Refeniw

·        Nodi sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

 

Dogfennau ategol: