Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn manylder y Cynllun Ymateb
  • Yn diolch i’r Swyddogion am eu gwaith ac yn croesawu bod y Cynllun Ymateb yn cael ei drafod mewn sawl fforwm
  • Bod angen crynodeb / blaen dudalen syml a phendant o’r prif bwyntiau gweithredu
  • Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y camau sydd wedi eu gweithredu neu sydd yn cael eu hystyried fel ymateb addas a phriodol â’r sefyllfa
  • Cais gan y Pwyllgor i Estyn gydnabod gwendidau eu hadroddiad ar drefniadau diogelwch y Cyngor, Mehefin 2023
  • Bod Trefniadau Canu’r Gloch a Threfniadau Diogelu angen bod ymysg y gorau;

-   croesawu adolygiadau i’r polisïau hyn

-   angen diweddariad ar y gwaith, yr amserlen a’r modd maent yn cael eu mabwysiadu

                                          

Nodyn:

Cais i adolygu paragraff olaf 2.5 o’r Cynllun Ymateb: ‘Ymchwiliad i Ddigwyddiadau 2019 sydd wedi bod yn destun sylw gan y wasg’ – angen mwy o gyd-destun am yr ymchwiliad annibynnol a gwblhawyd a beth oedd y penderfyniad dros beidio rhannu’r adroddiad / casgliadau.

Cais i osod cyd-destun i ganmoliaeth Estyn i drefniadau diogelu'r Cyngor (Mehefin 2023). Y geiriad fel y mae yn amhriodol o ystyried y methiannau a ddaethpwyd i’r amlwg yn ddiweddarach.

 

Cofnod:

Diolchodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Nia Jeffreys am y gwahoddiad i gyflwyno cynllun ymateb y Cyngor i’r Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.

 

Fel Arweinydd, ymddiheurodd yn ddiffuant i’r dioddefwyr a phawb sydd wedi eu heffeithio gan droseddau erchyll cyn Bennaeth Ysgol Friars. Ni chafodd lleisiau’r plant eu clywed a nododd yn glir bod eu profiadau a’u lleisiau yn bwysig iddi. Ategodd mai geiriau gwag fyddai ymddiheuro heb weithrediad, a’r deyrnged fwyaf gellid ei roi i ddewrder y dioddefwyr yw sicrhad ac addewid o newid;  nod y cynllun yw sicrhau na fydd methiannau o’r fath yn digwydd eto yng Ngwynedd a bod yr heriau sydd yn wynebu’r Cyngor i newid trefniadau a diwylliant yn hanfodol i fater mor ddifrifol. Nodwyd y byddai’n gwerthfawrogi sylwadau’r pwyllgor yng nghyd-destun monitro a rheoli risg y cynllun; bod tryloywder yn angenrheidiol ac yn adfer hyder ymysg y cyhoedd.

 

Eglurwyd bod y Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw, gyhoeddus ac y bydd cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb yn adrodd ar y cynnydd fydd yn digwydd.

 

Diolchodd am barodrwydd y Pwyllgor i drafod pwnc mor anodd, ond y byddai eu cyfraniad yn arwain at wella trefniadau diogelu'r Cyngor er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Mynegodd bod diogelu a gwarchod plant rhag niwed yn gyfrifoldeb ar bawb. Diolchodd am y cydweithio arbennig sydd wedi digwydd hyd yma gyda Sally Holland (Cadeirydd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb), pawb sy’n ymwneud â’r Cynllun, gyda gwaith gwych gan sawl  Adran o’r Cyngor yn rhan o’r ymateb. Er na all un Gwasanaeth, un Adran, un grŵp gwleidyddol neu unigolyn gyflawni hyn ei hun, pwysleisiodd yr angen i gydweithio ar draws Pwyllgorau, ar draws Adrannau ac ar draws gwahaniaethau gwleidyddol, fel y gellid gwneud cynnydd gwirioneddol ac amserol mewn maes hanfodol. O ganlyniad, bydd y broses o graffu nid yn unig yn dal y Cyngor i gyfrif, ond yn cyfrannu at lunio dyfodol mwy diogel i blant a phobl ifanc y Sir.

 

Awgrymodd ddychwelyd i adrodd ar gynnydd y Cynllun ymhen 6 mis i flwyddyn, pe bai’r Pwyllgor yn dymuno hynny.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr, fanylion ac ymarferoldeb y Cynllun Ymateb. Amlygodd bod y Cynllun Ymateb gwreiddiol wedi ei fabwysiadu gan y Cabinet (Ionawr 2025) a’i fod, fel unrhyw ddogfen fyw, wedi esblygu ers hynny. Ers cyhoeddi Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder (Tachwedd 2025) diwygiwyd y Cynllun i fynd i’r afael â’r themâu a’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad. Bydd sylwadau / ystyriaethau, gan ymgynghorai eraill, gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio hwn, Pwyllgor Arbennig Craffu Addysg ac Economi, Pwyllgor Arbennig Craffu Gofal a chyfarfod Cyngor Arbennig,  yn cael eu cynnwys yn  y Cynllun Ymateb terfynol fydd i’w  gyflwyno i'r Cabinet yn ffurfiol Mawrth 2026.

 

Wrth fynd i’r afael a blaenoriaethau’r cynllun, amlygwyd mewn sefyllfaoedd lle rhaid aros i eraill weithredu bod trefniadau interim mewn lle. Adroddwyd bod saith prif thema o fewn y Cynllun Ymateb sydd yn cyd-fynd gyda’r themâu’r adroddiad a bod swyddog penodol yn arwain ar bob thema.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Nododd y Cadeirydd mai dyletswydd y Pwyllgor oedd ystyried bod y Cynllun Ymateb yn briodol a chyfiawn, bod y prif flaenoriaethau yn cael eu gweithredu, a rhoi cyngor ar ymdrin â dibyniaethau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod yr adroddiad yn swmpus, ac efallai ar rai adegau yn rhy eiriog. Er hynny, canmoliaeth i’r rhai hynny oedd wedi cydlynu’r gwaith - gwaith sylweddol, proffesiynol

·        Croesawu bod y Cynllun Ymateb yn cael ei drafod mewn sawl fforwm

·        Bod angen crynodeb / blaen dudalen syml a phendant o’r prif bwyntiau gweithredu

·        Er derbyn yr angen i ddiogelu plant mewn ysgolion, bod rhai diogelu plant ymhob sefyllfa

·        Ffrwd gwaith 3: Cyfeiriad at hyfforddiant ‘grooming’ (3.4) - angen addasu pwyslais yr hyfforddiant / teitl yr hyfforddiant i gynnwys cydnabyddiaeth o atal meithrin perthynas amhriodol

·        Cyfeiriad at adroddiad bar gyfreithwraig ‘Ymchwiliad i Ddigwyddiadau 2019 sydd wedi bod yn destun sylw gan y wasg’ - angen mwy o gyd-destun i’r ymchwiliad annibynnol a gwblhawyd a beth oedd y penderfyniad dros beidio rhannu’r adroddiad / casgliadau ymysg yr atodiadau? A oedd y bar gyfreithwraig yn rhan o’r cwmni oedd yn rhoi cyngor cyfreithiol i'r Cyngor? Naratif  paragraff 2.5 yn aneglur.

·        Croesawu manylder y Cynllun Ymateb i’r hyn sydd yn mynd i ddigwydd, ond angen adfyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd. Angen datgelu methiannau staff o’r bôn i’r brig a chynnal trafodaethau gyda’r rhai hynny oedd yn greiddiol i’r methiannau. Angen sicrhau bod proses wedi ei dilyn i ddeall cyd-destun yr hyn aeth o le.

·        Yng nghyd-destun ‘cyfleoedd a gollwyd’ a ‘dyletswydd broffesiynol’, er derbyn nad oes modd trafod achosion penodol, bod angen sicrwydd bod trefniadau disgyblu mewn lle, amserlen ar gyfer y broses disgyblu a modd o adrodd ar y weithred; bod hyn yn deg i’r teuluoedd hynny sydd wedi cael eu heffeithio.

·        Croesawu bod y cynllun yn rhoi pwyslais ar drefniadau canu’r gloch a diogleu (safeguarding) – angen bod ar ein gorau yn y meysydd hyn. Er yn croesawu adolygiadau i’r polisïau, angen diweddariad ar y gwaith, yr amserlen a’r modd maent yn cael eu mabwysiadu

·        Bod rhaid i brosesau fod yn fyr, yn fanwl gywir ac effeithiol ac y dylid gwreiddio gweithdrefnau diwylliant ac nid ymateb i ymarfer ticio blwch

·        Croesawu bod trefniadau gyda’r Heddlu a'r Bwrdd Iechyd yn cael eu tynhau

·        Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y camau sydd wedi eu gweithredu neu sydd yn cael eu hystyried fel ymateb addas a phriodol â’r sefyllfa

 

Mewn ymateb i sylw bod yr ymdrech i edrych ar y gyfundrefn o’r newydd o bosib yn peri newid gormodol, yn hytrach na chanolbwyntio ar sicrhau bod staff yn dilyn polisïau a phrosesau, ac a’i methiant cyfundrefnol oedd yma ynteu fethiant unigolion, nodwyd bod yr adroddiad yn adnabod yr angen i newid a gwella nifer o drefniadau ac felly'r Cyngor yn cymryd y cyfle i edrych ar yr holl drefniadau. Ategwyd bod rhai systemau angen eu gwreiddio yn well o fewn  trefniadau Cyngor, ond bod rhai o’r argymhellion yn gofyn am arweiniad cenedlaethol megis newid polisïau a gweithdrefnau, hyfforddiant, ymddygiadau a chyfrifoldeb dros weithredu; Bod yr ymateb yn cynnig mwy na newid proses - yn gosod uchelgais o newid diwylliant.

 

Mewn ymateb i sylw bod cyfeiriadau helaeth at Estyn er bod yr arolwg, a gynhaliwyd Mehefin 2023 wedi bod yn ddiffygiol a chamarweiniol ynglŷn â threfniadau diogelu, ac nad oedd cydnabyddiaeth o’r diffygion hynny yn amlwg yn yr adroddiad, cytunwyd y byddai modd ychwanegu’r wybodaeth i’r adroddiad terfynol fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet. Ategodd y Pennaeth Addysg y byddai yn codi’r mater gydag Estyn, ac yn amlygu bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio angen derbyn cydnabyddiaeth gan Estyn bod eu harolwg wedi bod yn gamarweiniol. Byddai hyn yn adfer hyder y cyhoedd mewn adroddiadau Estyn i’r dyfodol.

 

Gwnaed sylw bod enghreifftiau digonol yn yr hyn a aeth o’i le ond dim rhesymeg ‘pam?’ (ffactorau megis Bwriadol? Anfwriadol? Diogi? Perthynas agos? Diwylliant? Diffygion?) ac mewn ymateb i sylw pellach bod rhai elfennau o’r methiannau efallai yn cael eu cuddio tu ôl i brosesau a systemau, ac nad oedd cyfeiriad digonol, ffeithiol yn y Cynllun Ymateb i hyn, nododd y Prif Weithredwr, bod gan y Cyngor ddyletswydd i edrych i mewn i hyn ac fel y daw mwy o dystiolaeth a chasgliadau i’r amlwg, bydd y darlun yn gliriach. Ategodd bod methiannau i systemau a threfniadau yn amlygu methiant, ond anodd yw cynnwys yr elfen ddynol.

 

Er nad oes pris ar ddiogelwch plentyn, nodwyd mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau’r broses, bod costau i ymchwiliadau a chostau ôl-lenwi a chefnogaeth i Ysgol Friars - byddai costau unrhyw newidiadau pellach yn rhan o broses gyllidebu’r Cyngor. Ategwyd bod costau’r broses wedi eu cynnwys ar gofrestr risg y Cyngor ac yng Nghynllun y Cyngor, ac er yn derbyn cyfraniad ariannol gan Llywodraeth Cymru, bod y costau yn tynnu amser staff ac adnoddau o lefydd eraill.

 

Yng nghyd-destun cyfrifoldebau Llywodraethwyr a’r angen i gysoni safonau, sicrhau hyfforddiant priodol i gyflawni dyletswyddau’r swydd yn effeithiol, sicrhau addasrwydd Cadeirydd Llywodraethwyr i’r swydd ac awgrym i gyfyngu tymor Llywodraethwyr, nododd yr Aelod Cabinet Addysg, bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad i bryderon trefn llywodraethwyr ysgolion, ac y byddai casgliadau’r adolygiad i’w rannu Gwanwyn 2026. Ategodd bod y drefn yng Nghymru wedi dyddio ac mai pwrpas yr adolygiad oedd edrych ar wahanol gyfrifoldebau Llywodraethwyr. Awgrymwyd hefyd bod angen i Lywodraethwyr Cymunedol cael rôl fwy arwyddocaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chost achosion llys i’r dyfodol, nododd y Prif Weithredwr nad oedd yn ymwybodol o achosion llys ar hyn o bryd, ond pe bai achos neu hawliad yn codi o’r sefyllfa, yna bod gan y Cyngor yswiriant a chronfa wrth gefn digonol i ymdopi â’r sefyllfa. Ni fydd y costau yn amharu ar gyllidebau refeniw'r Cyngor. Ategodd bod gan y Cyngor haenau o yswiriant ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd ac y byddai modd ymdrin yn briodol a phob achos.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau ac i’r swyddogion am gyflwyno ymatebion.

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn manylder y Cynllun Ymateb

·        Yn diolch i’r Swyddogion am eu gwaith ac yn croesawu bod y Cynllun Ymateb yn cael ei drafod mewn sawl fforwm

·        Bod angen crynodeb / blaen dudalen syml a phendant o’r prif bwyntiau gweithredu

·        Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y camau sydd wedi eu gweithredu neu sydd yn cael eu hystyried fel ymateb addas a phriodol â’r sefyllfa

·        Cais gan y Pwyllgor i Estyn gydnabod gwendidau eu hadroddiad ar drefniadau diogelwch y Cyngor, Mehefin 2023

·        Bod Trefniadau Canu’r Gloch a Threfniadau Diogelu angen bod ymysg y gorau

-   croesawu adolygiadau i’r polisïau hyn

-  angen diweddariad ar y gwaith, yr amserlen a’r modd maent yn cael eu mabwysiadu

                                            

Nodyn:

Adolygu paragraff olaf 2.5 o’r Cynllun Ymateb: ‘Ymchwiliad i Ddigwyddiadau 2019 sydd wedi bod yn destun sylw gan y wasg’ – angen mwy o gyd-destun am yr ymchwiliad annibynnol a gwblhawyd a beth oedd y penderfyniad dros beidio rhannu’r adroddiad / casgliadau.

Gosod cyd-destun i ganmoliaeth Estyn i drefniadau diogelu'r Cyngor (Mehefin 2023). Y geiriad fel y mae yn amhriodol o ystyried y methiannau a ddaethpwyd i’r amlwg yn ddiweddarach.

 

Dogfennau ategol: