I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cynnwys y Polisi, ystyried penderfyniad y Cabinet a sylwebu fel bo angen.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
unrhyw
newidiadau deddfwriaethol neu newid mewn amgylchiadau gael eu cyflwyno.
Nodyn / Awgrym
Ail eirio paragraff 3.3 atodiad
2 – Asesiad Effaith Cydraddoldeb i atgyfnerthu’r datganiad
Ychwanegu twristiaeth
gynaliadwy fel maes blaenoriaeth i baragraff 4.5, Adroddiad Cabinet
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid mewn ymateb i gais gan y
Pwyllgor yn dilyn trafodaeth a gafwyd ym mhwyllgor 13 Tachwedd 2025 ar
Gyfraddau Casglu Treth Cyngor. Amlygodd y Pennaeth
Cyllid bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r Polisi (11.11.25) ac yn unol â
gweithdrefnau’r Cyngor, daeth yn weithredol ar 26.11.25. Datganwyd bod Adran
13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi pwerau disgresiwn
ychwanegol i’r Cyngor leihau swm y dreth Cyngor sy’n ddaliadwy ar gyfer
unigolion neu ddosbarthiadau o drethdalwyr.
Amlygwyd bod y Cyngor yn defnyddio Adran 13A o Ddeddf 1992 fel modd o
gyflwyno eithriadau lleol, dewisol mewn achosion cyfyng iawn a cyn cymeradwyo’r
polisi, y Cabinet yn unig oedd â’r hawl i wneud y penderfyniadau hyn. Yn dilyn
newidiadau mewn Deddfwriaeth a chyflwyno premiwm bu i’r sefyllfa amlygu’r angen
am bolisi fyddai’n rhoi hawl i swyddogion ymdrin â cheisiadau am ostyngiadau
(sefyllfaoedd eithriadol), heb fynd drwy’r Cabinet. Yn ychwanegol lluniwyd
canllawiau gweithredu, ac yn unol â chymeradwyaeth y Cabinet, bod panel yn cael
ei sefydlu i ystyried y ceisiadau fel modd o gael cysondeb mewn penderfyniadau.
Byddai’r panel yn cynnwys Aelod Cabinet Cyllid, Pennaeth Cyllid (neu Bennaeth
Cynorthwyol), a Rheolwr Trethi gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol a Swyddog
Monitro yn cael gwahoddiad i arsylwi a chynghori. Ategwyd bod pump cyfarfod
wedi eu trefnu ar gyfer 2026 gyda’r hyblygrwydd i gyfarfod yn amlach os bydd
angen. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar y polisi, a all arwain
at addasu rhai o’r eithriadau statudol. Nodwyd y bydd y Polisi yn cael ei gadw
o dan adolygiad parhaus, a’i addasu wrth i unrhyw newidiadau deddfwriaethol neu
ddiweddariadau i'r polisi gael eu cyflwyno.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Bod y polisi yn gam bras
i’r cyfeiriad cywir
·
Bod parodrwydd i
addasu’r polisi yn ddibynnol ar amgylchiadau i’w groesawu
·
Yng nghyd-destun asesiad
effaith, bod angen ystyried yr effaith ar yr iaith a theuluoedd Cymreig sydd yn
neud bywoliaeth o dwristiaeth - rhaid amlygu twristiaeth gynaliadwy fel
blaenoriaeth
·
Yn derbyn y bydd
adolygiadau parhaus i’r polisi a bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y
Premiwm Treth Cyngor yn ddiweddar
·
Yn derbyn bod y polisi
newydd wedi ei ddatblygu gyda mewnbwn yr Uned Trethi
Mewn ymateb i
sylw y byddai risg cyfreithiol o gael premiwm heb bolisi, nododd y Pennaeth
Cyllid bod risg cyfreithiol boed polisi neu beidio. Ategodd bod pob polisi yn
gytbwys ar sail tegwch a diogelu risg. Petai eithriadau yn codi, neu fod angen
edrych ar garfanu penodol, megis llety hunan ddarparu yn methu cyrraedd trothwy
182 diwrnod (o
dan y rheolau presennol, rhaid i lety
gwyliau gael ei osod am 182 diwrnod bob blwyddyn i fod yn
gymwys ar gyfer ardrethi busnes. Petai’r annedd yn methu’r
targed, bydd yr eiddo yn cael
ei ailddosbarthu fel ail gartref a threth cyngor yn
cael ei godi
arno), a heb amod
cynllunio yna, bydd posib i’r panel ystyried yr anghymesur - o geisio dangos
gwahaniaeth nad yw'n deg, yn rhesymol, nac yn ddisgwyliedig. Bydd rhaid
ystyried hefyd os caniatáu’r eithriad, y byddai’r Cyngor yn agored i her ac
felly trafodaethau cyfreithiol a mewnbwn gan y Swyddog Monitro ar y panel yn
hanfodol.
Mewn ymateb i
gwestiwn ategol ynglŷn ag eithriad parhaol, nodwyd y byddai hyn yn bosib
os yn unol â’r polisi. Wrth i’r polisi ddatblygu dros amser, os bydd achosion
yn codi, neu batrwm yn amlygu ei hun yna bydd modd diweddaru’r polisi.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â rhoi terfyn ar achosion hanesyddol, megis y cyfnod cyn
bod ceisiadau am lety gwyliau yn cynnwys amod cynllunio perthnasol, nodwyd bod
y sylw yn un pwysig i’w ystyried ac y bydd y panel yn adolygu’r sefyllfa.
Mewn ymateb i’r
angen i ystyried risgiau ynghlwm â’r polisi a beth oedd y sefyllfa cyn i’r
Cabinet fabwysiadau’r polisi ym mis Tachwedd 2025, nodwyd bod pob penderfyniad
cyn mabwysiadu’r polisi yn cael ei gyfeirio at y Cabinet ac o ganlyniad i
gynnydd mewn ceisiadau am ostyngiadau ers cyflwyno premiwm a newidiadau mewn
deddfwriaeth, mai priodol fyddai sefydlu polisi gyda chanllawiau i swyddogion
ymateb i’r sefyllfa mewn modd deg a diogel; bod y polisi yn lleihau risg i’r
Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â’r Cyngor yn derbyn llai o
incwm oherwydd effaith y polisi, nodwyd, yn realistig bod yr achosion tebygol
yn rai o wir galedi ac felly nid oedd yn rhagweld y byddai’r polisi yn cael
effaith ar yr incwm trethi, ond yn fodd rhagweithiol ac o osgoi costau i’r
dyfodol.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol
·
Croesawu penderfyniad y
Cabinet i gymeradwyo’r Polisi
·
Croesawu bod y Polisi o
dan adolygiad parhaus a bod modd i’w addasu wrth i unrhyw newidiadau
deddfwriaethol neu newid mewn amgylchiadau gael eu cyflwyno.
Nodyn / Awgrym
Ail eirio paragraff 3.3 atodiad 2 - Asesiad Effaith Cydraddoldeb i
atgyfnerthu’r datganiad ‘yn cynorthwyo teuluoedd lleol i aros yn yr ardal ac adnewyddu
tai’
Ychwanegu twristiaeth gynaliadwy fel maes blaenoriaeth i baragraff 4.5,
Adroddiad Cabinet
Dogfennau ategol: