Agenda item

Sicrwydd o ran gweithrediad y Cynllun Ymateb.

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

1.          Derbyn a nodi’r adroddiad a’r rhaglen waith gan ofyn am ddiweddariad mewn 6 mis.

2.          Argymell i’r Cabinet:

 

Ffrwd Gwaith 1: Llais y Plentyn a Chefnogi Dioddefwyr

·       Dylid sefydlu trefniadau mesuradwy sy’n dangos yn glir sut mae llais y plentyn a phrofiad dioddefwyr yn dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau a chanlyniadau;

·       Bod angen sicrhau cefnogaeth hirdymor i ddioddefwyr heb beri rhagor o drawma;

·       Bod angen rhoi sylw priodol i blant sy’n wynebu heriau ac osgoi rhagfarn ddiarwybod;

·       Dylid sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn hawdd i’w ddarllen ac yn hygyrch i blant.

 

Ffrwd Gwaith 2: Rheoli Honiadau a Phryderon am Oedolion sy’n gweithio gyda Phlant

·       Dylai’r trefniadau ar gyfer rheoli honiadau a phryderon sicrhau bod unrhyw amheuaeth am addasrwydd oedolion i weithio gyda phlant ac oedolion bregus yn cael ei hasesu’n gynnar, ei uwch gyfeirio yn briodol, a’i herio’n annibynnol, beth bynnag yw statws ymarferydd;

·       Bod angen trefniadau diogelu clir ar gyfer unigolion sy’n codi pryderon;

·       Bod angen edrych ar ddigwyddiadau sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol efo plant;

·       Dylid casglu tystiolaeth i ddangos fod newid yn digwydd ac i alluogi craffu yn y dyfodol;

·       Dylid ystyried ymestyn cyfnod amser yr awdit o honiadau Rhan 5, Gweithdrefnau Diogelu Cymru, ymhellach na dwy flynedd;

·       Dylid gwirio bod mecanwaith mewn lle i sicrhau, os oes angen, y symudir o brosesau adnoddau dynol i weithdrefnau Rhan 5.

 

Ffrwd Gwaith 3: Hyfforddiant a Pholisïau

·       Dylai polisïau a hyfforddiant fod yn drylwyr a chael eu hadolygu i gefnogi barn broffesiynol a her;

·       Bod angen tystiolaethu bod hyfforddiant yn newid ymddygiad a phenderfyniadau yn ymarferol, nid mater o bresenoldeb yn unig;

·       Dylai cofnodion diogelu cael eu hadolygu a’u goruchwylio’n rheolaidd gan swyddog penodol er mwyn sicrhau eu bod yn unol â’r gofynion;

·       Dylai ‘grooming’ gael ei adnabod yn benodol yn nhrefniadau hyfforddiant a chael sylw amserol.

 

Ffrwd Gwaith 4: Llywodraethiant Ysgolion

·       Dylai trefniadau llywodraethu ysgolion gael eu cryfhau i adnabod patrymau risg dros amser, sicrhau llwybrau uwch gyfeirio clir, a chynnwys elfen o her neu sicrwydd annibynnol; 

·       Dylid cynnig cefnogaeth addas i arfogi llywodraethwyr i herio’n briodol ac adnabod patrymau;

·       Bod angen ystyried yr hyfforddiant a ddarperir ar gyfer Cadeiryddion a Llywodraethwyr Dynodedig Diogelu.

 

Ffrwd Gwaith 5: Grym Rhesymol

·       Dylid sicrhau bod staff yn deall pryd mae defnyddio grym rhesymol yn briodol, a’u bod yn teimlo’n hyderus ac wedi’u cefnogi i weithredu i ddiogelu plant;

·       Dylid sicrhau bod adolygiadau’n canolbwyntio ar ddysgu gwersi yn hytrach na beio.

 

Ffrwd Gwaith 6: Cynllunio Argyfwng ac Ymateb i Argyfwng Diogelu

·       Dylai cynllunio ac ymateb i argyfwng gael ei drin fel proses fyw sy’n rhan o’r broses ddiogelu a dylid ei brofi yn rheolaidd;

·       Bod angen eglurder o ran rolau;

·       Dylid sicrhau cyfathrebu effeithiol efo staff;

·       Bod angen adolygu trefniadau yn barhaus er mwyn sicrhau bod gwersi a ddysgwyd o Ysgol Friars yn parhau’n weithredol dros amser.

 

Ffrwd Gwaith 7: Cefnogi a Sefydlogi Ysgol Friars

·       Dylai cefnogi a sefydlogi Ysgol Friars gael ei ddefnyddio fel sail i ddysgu ar lefel system gyfan, gan brofi bod sefydlogrwydd wedi arwain at welliant cynaliadwy mewn diogelu a newid diwylliannol ar draws ysgolion;

·       Dylid gofyn i ysgolion:

Ø  gynnwys gwybodaeth am eu trefniadau diogelu yn amlwg ar eu gwefannau;

Ø  ystyried addasu cynnwys eu cwricwlwm addysg cyd-berthynas i adlewyrchu’r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Friars.

 

Cyffredinol

·       Bod angen sicrhau bod trosolwg o’r ffrydiau gwaith yn eu cyfanrwydd;

·       Ystyried rhoi trefniadau mewn lle i sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn ddiymdroi ac yn gwirio ei systemau pan mae pryder sylweddol a all fod yn systemig ei natur yn dod i law;

·       Bod angen rhoi sylw i drefniadau cyfathrebu gwybodaeth efo rhieni a theuluoedd er mwyn sicrhau cyfathrebu effeithiol;

·       Dylid ystyried rhyddhau cymaint o wybodaeth a phosib er mwyn sicrhau tryloywder;

·       Ni ddylid dyfynnu na chyfeirio at Adroddiad Archwiliad Estyn o Adran Addysg y Cyngor yn 2023 yn y Cynllun Ymateb.

 

 

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad gan nodi bod ymddiheuriad diffuant eisoes wedi’i gyflwyno i’r dioddefwyr ac i bawb a effeithiwyd gan y troseddau difrifol a amlygwyd yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, gan bwysleisio bod ymddiheuriad yn wag heb weithredu pendant. Pwysleisiwyd mai camau gweithredu oedd yn allweddol er mwyn sicrhau newid ymarferol a rhoi sicrwydd na fyddai methiannau o’r math yn digwydd eto. Nodwyd nad oedd lleisiau plant wedi’u clywed yn flaenorol, ond bod profiadau a lleisiau plant yn ganolog i’r Cynllun Ymateb wrth symud ymlaen.

Nodwyd bod craffu’n rhan hanfodol o’r broses ddemocrataidd, a bod her adeiladol yn hanfodol ar fater mor ddifrifol. Cadarnhawyd bod y cyfarfod yn rhan o gyfres o gyfarfodydd craffu, a bod trafodaethau yn y Pwyllgor Craffu Gofal a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi arwain at argymhellion ymarferol a chamau gweithredu penodol. Nodwyd bod nifer o argymhellion eisoes wedi’u gweithredu ar unwaith gan swyddogion er mwyn cryfhau trefniadau diogelu.

Pwysleisiwyd bod tryloywder yn hanfodol er mwyn adfer hyder y cyhoedd a hyder staff. Cadarnhawyd mai dogfen fyw a chyhoeddus yw’r Cynllun Ymateb, a byddai cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor er mwyn galluogi aelodau a’r cyhoedd i weld y cynnydd a wneir.

Cydnabuwyd bod y pwnc yn un anodd i’w drafod ac y bu’r adroddiad yn anodd i’w ddarllen, a diolchwyd i’r Pwyllgor am graffu’r mater mewn modd sensitif a phroffesiynol. Pwysleisiwyd mai diogelu a gwarchod plant rhag niwed yw’r cyfrifoldeb pwysicaf i’r Cyngor. Nodwyd ei fod yn gadarnhaol bod nifer o aelodau yn craffu ar y Cynllun.

Mynegwyd hyder yn y Cynllun Ymateb a’r gwaith trawsadrannol sy’n digwydd er mwyn gwella trefniadau diogelu. Diolchwyd i’r Athro Sally Holland, Cadeirydd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb, am ei harweiniad. Cydnabuwyd nad yw’r Cynllun Ymateb yn cynnwys pob ateb ar hyn o bryd gan ei fod yn ddogfen fyw, ac o’r herwydd bod mewnbwn y pwyllgorau craffu yn bwysig.

Gwahoddwyd y Pwyllgor i gyflwyno sylwadau, awgrymiadau a beirniadaeth adeiladol er mwyn cryfhau’r Cynllun Ymateb cyn ei gyflwyno i’r Cabinet i’w fabwysiadu’n ffurfiol. Nodwyd bod gwella trefniadau diogelu yn dibynnu ar rannu gwybodaeth, gweithio’n gyson gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, a chydweithio ar draws gwasanaethau a rhaniadau gwleidyddol, ac na allai un gwasanaeth, un adran, un grŵp gwleidyddol nac unigolyn gyflawni’r gwaith hwn ar ei ben ei hun. Nodwyd y byddai parodrwydd i ddychwelyd gerbron y Pwyllgor maes o law i adrodd ar gynnydd y Cynllun Ymateb ac i gynnal y ddeialog.

Nododd y Prif Weithredwr bod y cyfarfod yn gam pwysig arall ymlaen ar lwybr heriol i adfer hyder a chyrraedd y nod o sicrhau’r trefniadau diogelu gorau posibl. Cydnabuwyd bod y pwnc yn un anodd, ond ei fod yn bwysig gallu trafod y mater yn agored ar ôl cyfnod hir o adolygiadau ac ymchwiliadau, a bod hynny wedi bod yn rhwystredig i bawb. Nodwyd bod y Cynllun Ymateb cyntaf wedi’i gyhoeddi dros flwyddyn yn ôl, cyn cyhoeddi’r adolygiad ymarfer plant, a bod cydnabyddiaeth o’r cychwyn y byddai angen ei adolygu a’i ddiweddaru ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, a mai’r fersiwn ddiwygiedig oedd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn.

Cadarnhawyd bod y Cynllun eisoes wedi’i ystyried gan Fwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb ac wedi bod yn destun her gan sefydliadau allanol. Nodwyd y byddai’r Cynllun yn dychwelyd i’r Bwrdd Rhaglen i ystyried sylwadau’r cyfarfodydd craffu a chyngor llawn arbennig, cyn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w fabwysiadu, gyda gwaith craffu pellach i ddilyn.

Nodwyd bod tri maes penodol i’w craffu. Nodwyd yn gyntaf yr angen am sicrwydd bod y Cynllun yn gyflawn ac yn ymateb yn briodol ac yn gynhwysfawr i adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac ystyried os oedd unrhyw beth pellach y dylid ei gynnwys neu unrhyw fater a allai fod wedi’i anwybyddu. Nodwyd yn ail yr angen am arweiniad ar flaenoriaethau’r Cynllun, gan gydnabod nad oedd yn ymarferol cyflawni popeth ar yr un pryd, dylid ystyried a oedd rhai elfennau angen eu blaenoriaethu yn fwy nag eraill. Nodwyd yn drydydd yr angen i ystyried dibyniaethau rhwng argymhellion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

O ran dibyniaethau, nodwyd enghraifft o ddibyniaethau a’r angen i flaenoriaethu mewn perthynas â gweithdrefn pryderon lefel isel. Nodwyd bod trefn o’r fath yn bodoli yn Lloegr ond nid yng Nghymru, a bod argymhelliad cenedlaethol i Lywodraeth Cymru sefydlu gweithdrefn o’r fath. Nodwyd y gallai hynny gymryd amser oherwydd natur y gwaith ar draws nifer o awdurdodau, a phwysleisiwyd na ellid aros am hynny. Cadarnhawyd bod gwaith eisoes ar y gweill i sefydlu gweithdrefn fewnol gan y Cyngor, gyda’r posibilrwydd o’i haddasu yn nes ymlaen pe bai trefn genedlaethol wahanol neu well yn cael ei chyflwyno.

Nodwyd bod trefniadau canu’r gloch wedi bod yn destun trafodaeth sylweddol. Cadarnhawyd bod trefniadau staff yn bodoli eisoes ond bod angen eu diweddaru a’u gwella, a bod y gwaith hwnnw wedi’i wneud yn gyflym er mwyn galluogi staff i’w defnyddio. Nodwyd ymhellach fod angen gwella trefniadau ar gyfer aelodau a llywodraethwyr gan fod y trefniadau presennol wedi’u gwasgaru ar draws gwahanol ddogfennau a’u bod yn anodd eu llywio. Cadarnhawyd bod gwaith eisoes wedi dechrau i’w symleiddio a’u cryfhau, gan gynnwys y bwriad i gynnwys arbenigedd allanol a defnyddwyr y drefn yn y gwaith o lunio’r trefniadau gorau posibl.

Nodwyd bod yr atodiadau i’r adroddiad yn cynnwys y Cynllun Ymateb diwygiedig ar ffurf naratif, wedi’i rannu’n saith thema a oedd yn cyd-fynd â themâu adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Nodwyd bod arweinydd wedi’i benodi ar gyfer pob thema. Nodwyd mai’r saith thema oedd:

-        Llais y plentyn a chefnogi dioddefwyr - sicrhau bod plant yn cael eu gwrando, eu credu a’u cymryd o ddifrif, gan gryfhau trefniadau i roi llais i blant er mwyn eu cadw’n ddiogel.

-        Rheoli honiadau a phryderon am oedolion sy’n gweithio gyda phlant - sicrhau trefniadau diogelu o’r safon uchaf, bod pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn cael sylw’n brydlon, a bod trefniadau Rhan 5 yn gadarn, yn gyflawn ac yn hawdd eu deall.

-        Hyfforddiant a pholisïau - pwyslais ar sicrhau bod hyfforddiant yn briodol i rolau, bod polisïau’n cael eu mabwysiadu a’u gweithredu’n llawn mewn ysgolion, a bod pawb yn deall yr angen i feddwl yr annirnadwy a chydnabod y gallai digwyddiadau ddigwydd mewn unrhyw leoliad.

-        Llywodraethiant ysgolion - sicrhau bod llywodraethwyr yn deall ac yn gallu cyflawni eu rolau’n effeithiol.

-        Defnydd o rym rhesymol - angen i’w ddefnyddio dim ond pan fo’n angenrheidiol ac mewn modd priodol.

-        Cynllunio Argyfwng ac Ymateb i Argyfwng.

-        Cefnogi a sefydlogi Ysgol Friars.

Nodwyd bod yr atodiadau yn cynnwys enghreifftiau o’r math o adroddiadau monitro roedd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb yn ei dderbyn a oedd yn nodi amserlen ar gyfer pob argymhelliad. Nodwyd bod yr atodiad olaf yn cynnwys y cynllun gweithredu manwl, gyda nifer fawr o gamau gweithredu, gan bwysleisio mai diben ei gyflwyno oedd dangos lefel y manylder, bod arweinwyr wedi’u nodi ar gyfer pob ffrwd waith, bod amserlenni clir, a bod camau wedi’u torri i lawr er mwyn lleihau’r risg o golli unrhyw elfennau. Pwysleisiwyd y bwriad i sicrhau Cynllun cadarn a chryf, a chroesawyd derbyn unrhyw awgrymiadau newydd o ran cynnwys y Cynllun Ymateb.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Diolchwyd am y cyflwyniad gan nodi ei bod yn briodol cydnabod y gwaith sylweddol a wnaed i lunio’r Cynllun Ymateb. Cwestiynwyd a oedd y Cynllun Ymateb yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng gweithdrefnau a diwylliant yn y gweithle, gan nodi bod prosesau’n gallu bodoli ond nad ydynt o reidrwydd yn cael eu gweithredu oherwydd diwylliant. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn gymharol hawdd i’w llunio a’u rhoi ar waith ar bapur, ond bod newid diwylliant yn broses fwy cymhleth.

-        Bod newid diwylliant yn fwy anodd ac yn cymryd mwy o amser ond yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn glynu wrth bolisïau ac yn eu gweithredu’n gyson.

-        Bod angen cyflawni’r camau cychwynnol yn awr, ond bod y gwaith ar newid diwylliant yn elfen hollbwysig ochr yn ochr â’r camau gweithdrefnol.

-        Bod yr ymateb yn cynnwys sawl haen, sef y camau ymarferol y gellir eu rheoli’n fewnol a’u gweithredu’n gyflym, ynghyd â’r elfennau mwy meddal sy’n gofyn am amser, gan gynnwys newid diwylliant o fewn y Cyngor ac o fewn ysgolion.

Ffrwd Gwaith 1: Llais y Plentyn a Chefnogi Dioddefwyr

Nodwyd bod y cyfarfod yn ddechrau’r daith graffu a bod adfer hyder pobl Gwynedd yn debygol o gymryd blynyddoedd. Holwyd sut y byddai’r ffrwd gwaith yn sicrhau na fyddai trefniadau a gweithdrefnau’r Cyngor yn ail-drawmateiddio’r plant a’r dioddefwyr. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod pryder ynghylch sut y gallai’r drafodaeth barhaus a’r sylw cyhoeddus gael effaith ar ddioddefwyr, teuluoedd, y gymuned, staff, aelodau etholedig a phawb arall.

-        Bod ymwybyddiaeth o’r risg o ail-drawmateiddio, a bod angen i unrhyw gamau neu weithdrefnau osgoi ehangu’r trawma hwnnw.

-        Bod y prosesau sy’n ymwneud â dioddefwyr yn ceisio lleihau’r trawma, gyda’r nod o’u cefnogi drwy’r profiad yn hytrach na’i waethygu.

-        Bod ymrwymiad i roi ystyriaeth bellach ar ôl y cyfarfod er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw elfen o’r gwaith arfaethedig yn ychwanegu at y trawma wrth symud ymlaen.

Holwyd sut yr oedd mecanweithiau’r Cynllun wedi sicrhau bod llais y plentyn wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau penodol. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y Cynllun wedi’i ddatblygu ac wedi’i lunio ar sail ffrydiau gwaith.

-        Bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o’r Cynllun, a bod trafodaethau wedi digwydd yn y Fforwm Plant a Phobl Ifanc.

-        Bod angen bod yn ofalus i beidio â gofyn gormod i blant am yr un pwnc dro ar ôl tro, gan gydnabod bod angen taro cydbwysedd rhwng cynhwysiad ac amddiffyn rhag gorlwytho.

-        Bod ffrwd waith benodol ar lais y plentyn, a bod ymrwymiad i gryfhau’r gwaith o gynnwys llais plant a phobl ifanc wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu a bod llais plant yn cael ei glywed yn fwy ystyrlon.

-        Bod angen rhoi sylw penodol i lais y dioddefwyr mewn ffordd ofalus iawn er mwyn osgoi achosi ail-fyw trawma.

-        Bod y mater yn cael ei ystyried yn fanwl fel rhan o waith y Bwrdd Ymateb.

Holwyd a fyddai’n bosibl cadw cofnod o’r achlysuron lle ystyriwyd llais y plentyn neu lle y gwnaed wahaniaeth, er mwyn galluogi craffu yn y dyfodol. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod bwriad i sicrhau bod llais y plentyn yn cael dylanwad gwirioneddol ar benderfyniadau, ac nid yn unig gwneud datganiadau uchel eu proffil heb sicrhau effaith ymarferol.

-        Bod Fforwm Pobl Ifanc wedi’i ailsefydlu, gyda swyddog penodol yn gweithio ar ei ddatblygu.

-        Bod dyhead i ddatblygu’r Cyngor yn un sy’n fwy cyfeillgar i blant, gyda’r posibilrwydd dros amser i’r Fforwm Pobl Ifanc ddod yn rhan gadarn o’r broses ddemocrataidd.

-        Bod gwaith ehangach ar y gweill i ddatblygu’r Sir fel sir gyfeillgar i blant, a bod y sylwadau’n bwydo mewn i’r gwaith hwnnw.

Tanlinellwyd nad yw plant yn grŵp unffurf, a holwyd sut y byddai’r gwaith yn sicrhau bod llais pob plentyn yn cael ei glywed, gan gynnwys y rhai mwyaf bregus neu’r rhai y gallai eu cefndir neu’u hymddygiad olygu eu bod yn cael eu cymryd yn llai o ddifri. Nodwyd pryder ynghylch rhagfarn anymwybodol a’r modd y gallai hynny ddylanwadu ar sut y gwrandewir ar rai plant, a nodwyd bod thema debyg yn ymddangos yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, gyda’r perygl bod troseddwyr yn targedu plant y credir eu bod yn llai tebygol o gael eu credu. Mewn ymateb, nodwyd bod perygl o glywed lleisiau rhai carfannau’n gryfach na lleisiau eraill, a bod angen osgoi hynny er mwyn peidio â than-gynrychioli’r rhai llai amlwg. Pwysleisiwyd y bwriad, wrth symud ymlaen, i sicrhau bod lleisiau plant o garfannau llai amlwg yn cael eu clywed, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, plant sy’n agored i wasanaethau plant, a grwpiau perthnasol eraill, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ehangach yn y gwaith. Cadarnhawyd bod trefniadau eisoes o fewn gwasanaethau plant i wrando ar lais y plentyn ym mhob achos, er bod heriau ymarferol yn gysylltiedig â’r gwaith, a bod y Cyngor yn ceisio cryfhau’r dull yn sgil yr adroddiad.

Cwestiynwyd a oedd gwaith penodol yn cael ei wneud i fynd i’r afael â rhagfarn anymwybodol drwy hyfforddiant, gan gynnwys atgoffa’r sawl sy’n gweithio gyda phlant o’r risg o wneud rhagdybiaethau a’r angen i adnabod bregusrwydd yn gynnar. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod gwaith penodol ar ragfarn anymwybodol o fewn y gwasanaethau addysg heb ei ddatblygu hyd yma.

-        Bod cydnabyddiaeth y gall canfyddiadau staff gael eu dylanwadu gan broffil plentyn.

-        Bod y pwynt yn un dilys, a byddai’r mater yn cael ei ystyried ymhellach er mwyn ymateb yn gadarnhaol.

-        Bod yr egwyddor o estyn y tu hwnt i’r lleisiau arferol yn berthnasol ar draws meysydd gwaith y Cyngor, a bod angen sicrhau bod ymgysylltu yn cyrraedd ystod ehangach o blant, pobl ifanc a chymunedau.

-        Bod gweithwyr cymdeithasol yn derbyn hyfforddiant ar ragfarn anymwybodol fel rhan o’u cymwysterau, gyda hyfforddiant ychwanegol ar gael ar y pwnc.

-        Bod gwaith y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn parhau er mwyn sicrhau bod lleisiau’r plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth yn cael eu clywed, a bod bid ariannol ar y gweill i geisio penodi swyddog ychwanegol i ganolbwyntio ar hynny.

-        Bod gofynion hyfforddiant yn dod yn fwy cymhleth, gyda nifer o gyrsiau’n cael eu disgwyl o weithwyr yn sgil yr adroddiad. Angen blaenoriaethu ac ystyried cyfuno elfennau lle bo hynny’n ymarferol.

-        Bod mewnbwn pwyllgorau craffu yn berthnasol i’r drafodaeth ar flaenoriaethu hyfforddiant a sicrhau ei fod yn realistig ac yn effeithiol.

-        Bod aelodau etholedig eisoes wedi derbyn hyfforddiant ar ragfarn anymwybodol, ond bod bwriad i ddarparu cyfle i’r sawl a fethodd neu i’r sawl oedd yn dymuno ail-gwblhau’r hyfforddiant.

Holwyd a ellid sicrhau y byddai’r drws ar agor i ddioddefwyr dderbyn cymorth gan y Cyngor am flynyddoedd i ddod gan bod trawma yn gallu effeithio ar unigolion flynyddoedd yn ddiweddarach ac, yn aml, drwy gydol eu hoes, gan gydnabod nad oedd pob dioddefwr yn dymuno derbyn y cynnig ar hyn o bryd. Mewn ymateb, cytunwyd yn llwyr â’r pwynt a godwyd, gan nodi y gall trawma effeithio ar bobl am ddegawdau. Pwysleisiwyd bod angen cadw’r drws ar agor i’r dioddefwyr yn y tymor hir a bod y pwynt yn un y dylid ei wneud yn glir yn y Cynllun Ymateb er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth am barhad y cynnig.

Nodwyd pryder bod Polisi Diogelu Plant Ysgolion Gwynedd yn ddogfen gymhleth a chynhwysfawr, a bod disgwyl i Gadeirydd Cyngor yr Ysgol ei lofnodi ar ran disgyblion. Nodwyd nad oedd y ddogfen yn gyfeillgar i blant nac yn hawdd ei deall i ddisgyblion cynradd nac uwchradd, a holwyd pam nad oedd fersiwn hygyrch neu hawdd ei darllen eisoes ar gael i blant, gan nodi y dylai plant allu gweld y polisi a’i drafod yn ddeallus. Mewn ymateb, nodwyd bod y polisi’n cynnwys nifer o elfennau ac yn adlewyrchu gofynion cenedlaethol i sicrhau bod trefniadau’n glir ac yn gyflawn. Ymhelaethwyd bod bwriad i weithio gyda’r Fforwm Plant a Phobl Ifanc ar fersiwn gryno, ac i sicrhau bod fersiwn i blant ar gael y tro nesaf y byddai’r polisi yn cael ei gyflwyno fel y gallai disgyblion ei darllen, ei thrafod, a’i llofnodi i ddangos dealltwriaeth, gyda’r ddogfen lawn ar gael i’r sawl oedd yn dymuno ei darllen.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod manylion cyswllt yr aelod allanol o’r corff llywodraethu ar gyfer adrodd pryderon tu allan i’r ysgol yn weladwy ac yn hawdd eu cyrraedd i bawb. Nodwyd y dylid sicrhau bod y manylion ar wefannau ysgolion ac mewn mannau amlwg eraill. Nodwyd pryder am ragdybiaethau posibl ynghylch pwy allai fod yn ddioddefwyr, gan bwysleisio’r angen i sicrhau nad oedd y trefniadau yn eithrio bechgyn ac y dylai’r wybodaeth fod yn eglur i bob plentyn a rhiant. Nodwyd pwysigrwydd gallu cysylltu’n gyflym ac yn hawdd pan fydd pryder.

Cwestiynwyd a oedd gofal bugeiliol yn bodoli bellach mewn ysgolion. Mewn ymateb, nodwyd bod gofal bugeiliol yn bodoli ar draws yr ysgolion, a bod cymorth bugeiliol yn ffurfio rhan sylweddol o waith dydd i ddydd staff addysg. Pwysleisiwyd bod llawer o athrawon yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi plant a phobl ifanc, a’u teuluoedd, ochr yn ochr â’u dyletswyddau addysgu.

Ffrwd Gwaith 2: Rheoli Honiadau a Phryderon am Oedolion sy’n Gweithio Gyda Phlant

Holwyd sut yr oedd trefniadau rheoli honiadau a phryderon am oedolion wedi eu newid yn ymarferol. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod rhai newidiadau eisoes wedi’u rhoi ar waith, gyda gwaith pellach i dynhau’r systemau.

-        Bod trefniadau wedi’u hychwanegu i sicrhau bod pob atgyfeiriad yn cael ei gofnodi’n briodol, a bod cadarnhad clir bod atgyfeiriadau blaenorol wedi’u gwirio a’u hystyried.

-        Bod y wybodaeth berthnasol yn cael ei gasglu a’i ddadansoddi er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail darlun llawn o’r hyn sydd wedi digwydd.

-        Bod bwriad i sicrhau bod gweithiwr cymdeithasol yn gweld ac yn siarad â phob plentyn sy’n gysylltiedig ag unrhyw fath o honiad, gan nodi bod hyn eisoes wedi dechrau digwydd, gyda rhagor o waith i’w wreiddio’n gyson.

-        Bod heriau ymarferol wedi codi gyda rhai rhieni ddim yn fodlon â’r dull, yn enwedig pan nad yw’r plentyn, yn eu barn hwy, yng nghanol yr honiad. Nodwyd y bwriad i barhau â’r egwyddor.

-        Bod y gwaith o siarad â’r plentyn i’w wneud gan weithiwr cymdeithasol cymwys bob tro, yn hytrach nag unrhyw ymarferydd arall, er mwyn sicrhau safon broffesiynol gyson.

-        Bod y dull hwn yn arwain at heriau adnoddau i’r adran, a nodwyd bod bid ariannol sylweddol wedi’i gyflwyno i gryfhau capasiti a chynyddu nifer y gweithwyr cymdeithasol, gyda gobaith y byddai’r Cabinet a’r Cyngor yn ei gefnogi.

-        Bod angen sicrhau nad yw penderfyniadau ar drothwyon a meini prawf yn cael eu gwneud gan un swyddog yn unig, a bod y bwriad i sicrhau trafodaeth a phenderfynu ar y cyd.

-        Bod bwriad i gryfhau’r elfen amlasiantaethol, gan nodi bod trefniadau ar hyn o bryd yn digwydd mewn modd mwy ad hoc ac ar sail mynediad agored gyda’r heddlu.

-        Bod trafodaethau’n parhau gyda’r heddlu ar y dull gorau, gan nodi bod y heddlu yn ffafrio mynediad agored, ond bod y Cyngor yn ystyried a ellid ffurfioli’r trefniadau drwy gyfarfodydd mwy rheolaidd a strwythuredig yn sgil yr adroddiad.

-        Bod y cynllun gweithredu yn cynnwys dros 200 o linellau ac mae nifer sylweddol yn berthnasol i’r maes hwn.

Holwyd pa dystiolaeth oedd bod y drefn hon yn debygol o atal methiannau fel y rhai a welwyd yn y gorffennol, yn hytrach na newidiadau gweinyddol yn unig. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y term tystiolaeth yn heriol yn y cyd-destun hwn gan ei bod yn rhy gynnar i ddarparu tystiolaeth gadarn a mesuradwy bod y newidiadau hyd yma wedi arwain at system fwy effeithiol neu fwy cadarn.

-        Bod nifer o ffynonellau wedi darparu argymhellion dros gyfnod diweddar, gan gynnwys yr adolygiad ymarfer plant, a bod y rhain yn tynnu i’r un cyfeiriad o ran nodi beth yw arfer da.

-        Bod yr argymhellion yn cyd-fynd ac yn atgyfnerthu ei gilydd, a bod pob argymhelliad yn cael eu gweithredu arnynt ac ei dilyn i fyny.

-        Bod rhai agweddau ar arfer da yn datblygu’n genedlaethol, ac y gallai hynny olygu y bydd angen i ganllawiau cenedlaethol esblygu dros amser, ond nodwyd nad oedd hynny’n rheswm i oedi’n lleol.

-        Bod yr argymhellion yn berthnasol i bob awdurdod yng Nghymru, ond bod y gallu i weithredu rhai elfennau yn dibynnu ar adnoddau. Roedd angen buddsoddiad ac adnoddau ychwanegol i wireddu rhai camau yn ymarferol.

-        Bod enghraifft benodol, sef sicrhau ymweliad gan weithiwr cymdeithasol cymwys gyda phob plentyn sy’n gysylltiedig â honiad, yn gofyn am gyllid a recriwtio, a nodwyd bod hyn yn cael ei yrru ymlaen yn lleol drwy gyflwyno bid ariannol a chynllunio’r gweithlu.

-        Bod goblygiadau ehangach ar lefel genedlaethol o ran sut y caiff awdurdodau eu hariannu a’u cefnogi i weithredu’r disgwyliadau newydd yn llawn.

Nodwyd bod gwelliannau wedi digwydd o ran systemau, ond bod pryder nad oedd yr elfen ddiwylliannol wedi’i datrys yn llawn. Nodwyd bod amcanion y Cynllun Ymateb yn cynnwys sefydlu holl ffeithiau’r achos a dysgu’r holl wersi, a nodwyd bod adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn amlygu cyfleoedd a gollwyd mewn nifer sylweddol o achosion. Nodwyd bod gwybodaeth gefndirol wedi dod gerbron y Cyngor ar y pryd, ac nad oedd yn eglur pam na aethpwyd ymhellach gyda’r materion hynny. Nodwyd bod barn bargyfreithiwr wedi’i chomisiynu ond nad oedd wedi’i chyhoeddi, a nodwyd y byddai’n ddefnyddiol gweld gwaith a allai egluro’r rhesymau dros y cyfleoedd a gollwyd. Nodwyd, pe na ellid cyhoeddi’r adroddiad bargyfreithiwr am resymau cyfreithiol dilys, y dylid sicrhau bod gwaith arall ar yr un trywydd yn cael ei gomisiynu fel y gellid ei gyhoeddi.

Holwyd pa sicrwydd oedd bod pryderon yn cael eu huwchgyfeirio’n briodol pan fo’r risg yn uchel. Holwyd beth oedd rôl yr ail swyddog diogelu sydd wedi’i benodi, a fyddai atgyfeiriadau’n mynd at fwy nag un swyddog diogelu o hyn ymlaen, a sut y byddai hynny’n digwydd yn ymarferol. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y Swyddog Penodedig Awdurdod Lleol (LADO) eisoes yn trafod gydag swyddogion eraill, a bod hynny’n rhan o’r weithdrefn bresennol.

-        Bod adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn gosod gofynion penodol o ran sicrhau hyfforddiant a goruchwyliaeth benodol i’r LADO.

-        Bod goruchwyliaeth eisoes yn bodoli, ond bod y trefniadau bellach yn cael eu tynhau yn sgil yr adroddiad.

-        Bod penderfyniadau trothwy a meini prawf yn cael eu gwneud gan fwy nag un unigolyn, a bod gwaith pellach yn parhau i fireinio rhai o’r trefniadau hynny.

Pwysleisiwyd yr angen i gadw capasiti a chyllid priodol yn ganolog o fewn yr awdurdod lleol i gynnal swyddogaethau diogelu. Nodwyd hyder y gallai’r Cyngor arwain ar lefel genedlaethol drwy’r ymateb hwn, a nodwyd y byddai awdurdodau eraill yn edrych ar y gwaith er mwyn dysgu.

Nodwyd nad oedd pris ar ddiogelu plant, ac na ddylai unrhyw gais am adnoddau ychwanegol gael ei wrthod ar sail cost yn unig. Mewn ymateb, nodwyd bod cyfarwyddyd clir wedi bod o’r cychwyn mai’r nod oedd sicrhau’r trefniadau gorau posibl, ac y byddai cost ynghlwm wrth hynny. Nodwyd bod nifer sylweddol o geisiadau am adnoddau yn y maes hwn, a nodwyd bod hynny’n briodol o ystyried natur a maint y gwaith. Ymhelaethwyd bod penderfyniad ffurfiol ar adnoddau ychwanegol yn cael ei wneud yng nghyfarfod y Cabinet ar 10 Chwefror 2026, a nodwyd nad oedd blaenoriaeth uwch na hyn ar hyn o bryd.

Holwyd am ddiweddariad ar yr ymchwiliad craffu i drefniadau diogelu mewn ysgolion. Mewn ymateb, nodwyd bod oedi wedi bod, yn bennaf oherwydd yr angen i sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i’r ymchwiliad. Nodwyd bod anawsterau wedi bod wrth geisio penodi darparwr addas i wneud gwaith penodol ar glywed llais disgyblion, a bod hynny wedi ychwanegu at yr amserlen. Ymhelaethwyd bod angen cynnal trafodaethau ychwanegol cyn llunio adroddiad drafft. Cadarnhawyd bod gwaith yn parhau ac yn symud ymlaen, ond na ellid rhoi dyddiad pendant ar pryd byddai’r adroddiad drafft yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan ei fod yn dibynnu ar nifer o ffactorau.

Holwyd am ragor o wybodaeth am beilot prosesau newydd o dan Adran 47 a threfniadau Rhan 5, gan gynnwys gwaith ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mewn ymateb, nodwyd bod yr adolygiad ymarfer plant yn gofyn am sicrhad bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd â’r heddlu, a bod angen ffurfioli’r trafodaethau hynny ymhellach. Nodwyd bod trafodaethau’n parhau ynghylch trefniant lle gellid cynnal sgwrs ddyddiol am achosion drwy ddull rhithiol, ond nodwyd nad oedd yr heddlu mor awyddus i symud i drefn fwy ffurfiol gan eu bod yn ffafrio’r trefniant presennol o fynediad agored. Nodwyd bod y drafodaeth ar ffurfioli trefniadau yn parhau, ond cadarnhawyd bod cydweithio agos iawn yn digwydd eisoes gyda’r heddlu.

Holwyd am addasrwydd i weithio gyda phlant ac, yn benodol, am risg drosglwyddadwy, lle gall ymddygiad amhriodol gan oedolyn tuag at oedolyn arall mewn lleoliad gwaith megis ysgol godi cwestiwn a ddylai hynny gael ei ystyried fel risg i blant ac felly fel mater o dan brosesau Rhan 5. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod yr ateb yn dibynnu ar amgylchiadau penodol pob achos, a bod Rhan 5 yn berthnasol i oedolion bregus ac oedolion heb gapasiti yn ogystal â phlant.

-        Bod trefniant i gadw cofnod o bob honiad o dan Rhan 5 yn cryfhau’r gallu i weld patrwm a chysylltu gwybodaeth os daw pryderon pellach yn y dyfodol.

-        Bod sefyllfaoedd penodol, megis niwed i oedolyn bregus, yn faterion Rhan 5 ac yn codi cwestiynau ynghylch addasrwydd i weithio.

-        Bod rhai senarios eraill yn fwy cymhleth ac efallai’n syrthio’n bennaf o fewn prosesau disgyblu a phrosesau adnoddau dynol.

-        Bod y term addasrwydd yn cael ei ddefnyddio’n amlach yn y trafodaethau bellach, gan awgrymu newid mewn diwylliant a ffocws wrth ystyried pryderon.

Awgrymwyd y posibilrwydd y dylai fod mecanweithiau cliriach i sicrhau bod materion sy’n codi drwy brosesau disgyblu ysgolion neu brosesau adnoddau dynol y Cyngor yn sbarduno ystyriaeth Rhan 5 pan fo hynny’n briodol, er mwyn osgoi sefyllfa lle mai dim ond achosion sy’n cyrraedd gwasanaethau cymdeithasol sydd yn cael eu hystyried drwy lens diogelu. Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn faes cymhleth a bod y cwestiwn yn codi materion ehangach o ran canllawiau cenedlaethol. Mynegwyd parodrwydd i fynd yn ôl i edrych yn fanylach ar y trefniadau gyda chydweithwyr ar draws adrannau.

Holwyd ynglŷn â’r awdit a wnaed o gyfnod o ddwy flynedd i adnabod unrhyw bryderon ynghylch unigolion mewn swyddi ymddiriedaeth, gan holi a oedd y cyfnod yn ddigonol, ac i ba raddau y gellid bod yn sicr nad oedd unigolion yn gweithio gyda phlant na ddylent fod. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod yr archwiliad wedi canolbwyntio ar atgyfeiriadau a ddaeth i law dros y cyfnod penodol, a bod pob atgyfeiriad o fewn y cyfnod hwnnw wedi’i groesgyfeirio yn erbyn cofnodion hanesyddol er mwyn gweld a oedd pryderon blaenorol yn bodoli, hyd at ba mor bell yn ôl ag y caniataodd y cofnodion.

-        Bod y gwaith felly wedi edrych ymhell y tu hwnt i ddwy flynedd o ran hanes unigolion lle’r oedd atgyfeiriad wedi digwydd, er bod y sampl wedi’i seilio ar y cyfnod o atgyfeiriadau a ddewiswyd.

-        Bod modd ymestyn yr awdit yn ôl ymhellach o ran atgyfeiriadau pe bai’r Pwyllgor yn argymell, ond y byddai hynny’n golygu gwaith ychwanegol.

-        Bod y gwaith wedi ymateb i’r her ymarferol yn yr adroddiad ynghylch yr angen i ystyried atgyfeiriadau lluosog gyda’i gilydd wrth wneud penderfyniadau.

Nodwyd sylw bod angen cadw cydbwysedd priodol gan gofio bod athrawon yn bobl a gyda bywydau y tu allan i’r gwaith. Nodwyd pryder penodol am ddiwylliant mewn ysgol lle y gall bwlio, iaith ‘misogynistic’ neu iaith amhroffesiynol barhau heb gael ei herio. Pwysleisiwyd pwysigrwydd hyfforddiant i staff i alw ymddygiad annerbyniol allan.

Cwestiynwyd a oedd hierarchaeth a theitlau swyddi yn gallu arwain at wahaniaethau yn y modd y delid â phryderon. Mewn ymateb, nodwyd bod y mater o hierarchaeth a phŵer yn thema a amlygwyd yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, a bod diwylliant a strwythurau pŵer yn gallu hwyluso gallu unigolion cryf i reoli ac amddiffyn eu safle, gan nodi bod angen i brosesau, hyfforddiant a pholisïau, ynghyd â newid diwylliant, weithio gyda’i gilydd i atal hynny.

Pwysleisiwyd bod y weithdrefn adnoddau dynol yr un fath i athrawon, cynorthwywyr, staff swyddfa a gofalwyr. Nodwyd bod gwahaniaeth ymarferol yn codi yn achos penaethiaid gan mai cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol yw eu rheolwr llinell. Nodwyd bod hynny’n gyfrifoldeb mawr, a mynegwyd pryder nad yw pob cadeirydd llywodraethwyr, wrth gamu i’r rôl, o bosibl, yn llwyr ymwybodol o’r cyfrifoldebau ehangach, gan gynnwys materion disgyblu, cefnogi’r pennaeth, a delio ag absenoldeb salwch. Nodwyd bod cymryd rôl wirfoddol i ymgymryd â chyfrifoldebau mor gymhleth yn her sylweddol.  Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried canllawiau llywodraethu ysgolion gyda’r bwriad y byddai’r gefnogaeth yn gryfach yn y dyfodol.

Nodwyd pryder ynghylch torri cod ymddygiad gan lywodraethwyr yn Ysgol Friars, a holwyd a oedd unrhyw gamau wedi’u cymryd yn sgil hynny, gan nodi ei bod yn anodd bod â hyder mewn trefniadau llywodraethu os nad oes canlyniadau. Mewn ymateb, nodwyd bod Ysgol Friars bellach mewn sefyllfa wahanol iawn i’r hyn oedd hi ddwy flynedd yn ôl, gyda chorff llywodraethu newydd, cadeirydd newydd, newidiadau sylweddol i’r Uwch Dîm Rheoli, a diwylliant gwahanol. Nodwyd cydnabyddiaeth o’r gwaith caled a wnaed yn ddiweddar, gan gynnwys rôl y pennaeth dros dro.

Holwyd am y trefniadau gyda’r heddlu, gan nodi bod cwynion wedi’u gwneud ond nad oedd hynny’n amlwg yn arwain at gamau ar y pryd. Mynegwyd barn y dylai Heddlu Gogledd Cymru adolygu eu trefniadau yn yr un modd â’r Cyngor. Mewn ymateb, nodwyd bod cydweithio gyda’r heddlu wedi bod yn rhagorol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda phryderon yn cael sylw’n gyflym, a nodwyd bod y cydweithio yn parhau. Nodwyd bod argymhellion Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn berthnasol i nifer o gyrff, a nodwyd y disgwyliad y byddai’r heddlu yn ystyried yr adroddiad yn yr un modd â’r Cyngor. Cadarnhawyd bod trafodaethau eisoes wedi digwydd gyda swyddogion perthnasol.

Pwysleisiwyd bod angen i sawl corff cyhoeddus adolygu eu trefniadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, Heddlu Gogledd Cymru, y Cyngor a’r Gwasanaeth Iechyd. Mewn ymateb, nodwyd bod argymhellion penodol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda dealltwriaeth bod gwaith ar y gweill i’w gweithredu a bod y Bwrdd Rhanbarthol yn monitro cynnydd.

Pwysleisiwyd mai un o’r gwersi mwyaf oedd yr angen i feddwl yr annirnadwy, a pheidio â chredu na allai hyn ddigwydd yn lleol, gan nodi’n eglur bod hyn wedi digwydd a bod y gwaith presennol yn anelu i sicrhau na fyddai’n digwydd eto. Pryderwyd ynghylch rôl pŵer a dylanwad o fewn strwythurau ysgol, gan nodi bod staff yn tueddu i ddilyn protocolau ond bod pryderon yn gallu taro mur. Nodwyd pwysigrwydd i weithwyr proffesiynol wybod pryd i uwchgyfeirio neu fynd â phryderon ymhellach os ydynt yn cael eu rhwystro.

Nodwyd bod adolygiad o drefniadau llywodraethu ysgolion ar y gweill a bod hynny’n cael ei groesawu. Nodwyd bod gwaith ar y gweill i adolygu rôl byrddau diogelu rhanbarthol ac y byddai hynny’n debygol o ystyried y berthynas rhwng y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a’r heddlu. Nodwyd bod y ddau adolygiad i fod i adrodd yn y gwanwyn, a nodwyd pwysigrwydd i gynrychiolwyr etholedig lobïo’r llywodraeth nesaf i roi’r materion hyn ar frig yr agenda, gan nodi, er nad ydynt o bosibl yn atyniadol yn wleidyddol, eu bod yn hanfodol. Ymhelaethwyd bod llawer o’r argymhellion yn ymwneud â newidiadau cenedlaethol, a bod angen sicrhau bod pwysau ariannol ac adnoddau staffio yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd y caiff awdurdodau lleol eu hariannu.

Ffrwd Gwaith 3: Hyfforddiant a Pholisïau

Holwyd pa fath o hyfforddiant y byddai swyddog dynodedig diogelu plant wedi’i dderbyn yn y cyfnod pan oedd y materion dan sylw yn digwydd, a holwyd a fyddai hynny’n gyson â hyfforddiant swyddogion cyfatebol ar draws y wlad. Mewn ymateb, nodwyd bod rhwydwaith o swyddogion dynodedig ar draws y wlad, gyda threfniadau cysylltu a chyfleoedd hyfforddi cenedlaethol, a nodwyd y byddai cyfleoedd hyfforddi perthnasol wedi bod ar gael. Pwysleisiwyd bod disgwyl i unrhyw unigolyn a benodir i rôl fod yn gymwys ac yn fedrus i’w chyflawni.

Nodwyd bod ansawdd cofnodi pryderon a chofnodion yn allweddol er mwyn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed. Holwyd a oedd gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod cofnodion diogelu yn cael eu cynnal i safon, a phwy oedd yn monitro hynny. Holwyd ymhellach pwy fyddai’n gyfrifol am ddarparu hyfforddiant ar gadw cofnodion, a faint o amser y caiff cofnodion eu cadw. Mewn ymateb, nodwyd:-

-       Bod trefniadau monitro a sicrhau ansawdd cofnodion eisoes yn bodoli, a bod gwaith pellach yn cael ei wneud yn sgil yr adolygiad ymarfer plant i gryfhau a chrynhoi’r trefniadau hynny.

-       Bod y gwaith yn cynnwys datblygu un polisi clir o fewn gwasanaethau plant sy’n nodi’n benodol beth yw’r prosesau monitro a sicrwydd ansawdd, gyda’r bwriad o gyflwyno drafft i’r Bwrdd Ymateb yn fuan.

-       Bod cytundeb wedi’i lofnodi i beilota system ‘Magic Notes’, gyda’r bwriad o’i integreiddio i’r systemau a’i defnyddio ar draws gwasanaethau plant ac oedolion.

-       Bod hyfforddiant pellach i holl weithwyr cymdeithasol ar gadw cofnodion i’w ddarparu er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cyrraedd, ynghyd â gwaith i egluro beth ddylid ei gofnodi a beth yw’r canllawiau cenedlaethol.

-       Bod bwriad i ddarparu hyfforddiant mandadol penodol ar gofnodi honiadau, ond bod her ymarferol yn codi gan mai Gofal Cymdeithasol Cymru yw perchennog y platfform e-ddysgu.  Roedd trafodaethau ar y gweill ynghylch ychwanegu cynnwys neu ddatblygu cynnwys lleol.

-       Bod cofnodion honiadau Rhan 5 a ffeiliau achosion plant mewn cyd-destun materion amddiffyn plant yn cael eu cadw am 75 mlynedd.

Awgrymwyd y dylid neilltuo rôl i swyddog dynodedig i wirio ac i fonitro ansawdd cofnodion sy’n ymwneud â diogelu plant. Mynegwyd pryder ynghylch achosion lle na chofnodwyd yn briodol yn y gorffennol, a holwyd i ba raddau y gwneir yn glir y gallai methu cofnodi’n briodol mewn sefyllfaoedd diogelu arwain at ganlyniadau disgyblu difrifol. Mewn ymateb, nodwyd bod y sylw am bennu cyfrifoldeb clir yn cael ei dderbyn, a nodwyd bod bid ariannol eisoes yn bodoli i benodi rôl a fyddai’n ymateb yn rhannol i’r pryder, gyda pharodrwydd i fynd yn ôl i gynnwys y swyddogaeth benodol honno’n fwy eglur o fewn y bid. Nodwyd bod disgwyliadau proffesiynol yn glir o ran cofnodi i safon o fewn rolau gwasanaethau cymdeithasol. Eglurwyd bod y safonau perthnasol yn cael eu gosod gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Holwyd ynghylch hyfforddiant ar ‘grooming’, gan nodi bod patrymau yn cael eu hamlygu yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder a’i bod yn anodd deall pam na chafodd y rhain eu hadnabod ar y pryd. Holwyd sut y byddai hyfforddiant o’r fath yn cael ei gynnwys ar gyfer staff ysgolion, staff y Cyngor ac aelodau etholedig. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod gwaith wedi dechrau i adnabod beth sydd ar gael eisoes o ran hyfforddiant, gan nodi nad oedd hyfforddiant penodol ar ‘grooming’ ar gael yn gyson ar gyfer ysgolion a’r gweithlu addysg hyd yma.

-        Bod gwaith yn digwydd ar y cyd â gwasanaethau plant i bennu hyfforddiant priodol ac amserlen i’w gyflwyno cyn gynted â phosibl.

-        Bod her ymarferol mewn ysgolion o ran amser a chapasiti i gwblhau’r nifer cynyddol o sesiynau hyfforddi mandadol.

-        Bod ymateb wedi’i gyflwyno i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar hyfforddiant mewn swydd, gyda’r awgrym y dylai o leiaf un diwrnod hyfforddiant mewn swydd ganolbwyntio ar faterion diogelu. Nodwyd y byddai hyfforddiant ar arwyddion ‘grooming’ yn rhan annatod o hynny.

-        Bod y mater yn cael ei gymryd o ddifrif, a bod bwriad i symud yn gyflym i sicrhau’r hyfforddiant.

-        Nid oedd arwydd clir hyd yma y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn hyfforddi cenedlaethol penodol ar hyn ar gyfer ysgolion.

Pwysleisiwyd bod angen i unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â phlant allu adnabod arwyddion cynnar a’r fflagiau coch o ran ‘grooming’. Mewn ymateb, cytunwyd yn llwyr, gan nodi bod gwybodaeth am ‘grooming’ eisoes wedi’i gynnwys yn y modiwlau diogelu ar gyfer staff fel cam cychwynnol. Ymhelaethwyd na fyddai hyn yn ymarfer unwaith yn unig ond yn waith tymor hir i newid diwylliant a meddylfryd.

Holwyd a ellid gwneud rhywbeth i helpu teuluoedd i adnabod arwyddion bod plant o bosibl yn cael eu ‘groomio’. Awgrymwyd y gellid defnyddio adnoddau cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth ymysg teuluoedd, a dylid ystyried fel pwnc posibl i’w drafod ar y Podlediad Mam, Dad a Magu. Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r awgrym yn cael ei ystyried ymhellach.

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod y drafodaeth wedi amlygu bod lle mae pwerau’n eistedd o ran mynnu hyfforddiant yn fater allweddol. Pwysleisiwyd bod gallu’r awdurdod addysg i fynnu hyfforddiant penodol yn gyfyngedig o dan y trefniadau presennol, ac y byddai’n haws a chliriach pe bai gan awdurdod addysg fwy o rym i osod gofynion ac amserlenni, a gallu monitro hynny.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod cyrff llywodraethu yn herio’n briodol, gan nodi mai eu rôl yw bod yn ffrind beirniadol, a bod angen herio’n briodol pan fo pryder ynghylch dull arweinyddiaeth neu ddiwylliant pŵer lle nad yw penderfyniadau’n cael eu cwestiynu.

Cwestiynwyd sut y gellid cynnwys, drwy hyfforddiant, yr hyder a’r gallu i herio. Nodwyd bod dau risg yn Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, sef y risg o niwed i blant, a’r risg bod gweithwyr proffesiynol o amgylch yn methu adnabod beth sy’n digwydd neu’n bwrw pryderon yn ôl. Nodwyd bod angen arfogi pobl i godi pryderon nid yn unig am unigolion a allai niweidio, ond hefyd am weithwyr proffesiynol neu gydweithwyr nad ydynt yn ymateb fel y dylent, gan gydnabod ei bod yn anodd weithiau herio cydweithwyr neu unigolion uwch yn y gadwyn gyflogaeth. Pwysleisiwyd pwysigrwydd magu diwylliant lle mae pobl mewn sefyllfaoedd o rym yn croesawu cael eu herio.

Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn thema ganolog yn yr adroddiad ac yn faes cymhleth, heb un ateb pendant. Nodwyd y byddai’n datblygu dros amser drwy gyfuniad o hyfforddiant a newid diwylliant, gyda phwyslais ar arweinyddiaeth, trefniadau chwythu’r chwiban, a sicrhau bod pryderon ac atgyfeiriadau yn cael eu trin yn briodol er mwyn meithrin hyder yn y broses. Cadarnhawyd bod y drafodaeth am ddiogelu bellach yn digwydd yn ddyddiol ar draws adrannau, gyda lefel uwch o ymwybyddiaeth.

Diolchwyd i’r Adran Addysg am y gwaith ar y Cynllun Ymateb ac am y gwaith parhaus. Cwestiynwyd a ellid cael mynediad at bolisïau addysg mewn un man canolog ar y we er budd craffu ac er mwyn i staff allu eu darganfod yn haws. Mewn ymateb, nodwyd bod adrannau penodol eisoes ar y wefan ar gyfer polisïau. Nodwyd bod tudalennau gwe newydd wedi’u creu ar gyfer y Cynllun Ymateb, gyda’r bwriad o gynnwys dogfennau perthnasol yno, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Ymateb. Ymhelaethwyd bod pecyn o bolisïau enghreifftiol yn cael ei ddarparu bob blwyddyn i gyrff llywodraethu ysgolion, ond mai’r ysgol unigol sy’n eu mabwysiadu. Pwysleisiwyd y gall llywodraethwyr annog ysgolion i roi polisïau allweddol ar-lein.

Holwyd sut y byddai effeithiolrwydd y polisïau a’r hyfforddiant yn cael eu profi dros amser, a sut y byddai hynny’n cael ei fesur. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn faes heriol, gan nodi bod y ffocws hyd yma ar osod y trefniadau ar waith, a bod y cam nesaf yn ymwneud â datblygu mesurau i ddangos pa wahaniaeth a wnaed dros amser. Nodwyd bod mesurau meintiol yn haws, megis nifer y staff sydd wedi cwblhau hyfforddiant penodol, ond bod mesur effaith ansoddol ar ddiwylliant ac ar brofiad plant yn fwy anodd. Nodwyd bod gwaith pellach i’w wneud ar hynny, gyda mewnbwn sylweddol gan Gadeirydd y Bwrdd Ymateb. Eglurwyd y cynhelir gweithdai pellach i ystyried mesurau addas.

Holwyd a oedd enghreifftiau o achosion lle roedd hyfforddiant neu’r trefniadau newydd wedi arwain at herio penderfyniad neu at bobl yn teimlo’n fwy hyderus i herio. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod lefel uwch o ymwybyddiaeth ynglŷn â diogelu, a bod trafodaethau a herio ynghylch diogelu yn digwydd yn rheolaidd ar draws y Cyngor.

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bryder ynghylch cynaladwyedd yr ymwybyddiaeth dros gyfnod hirach. Awgrymwyd y gallai fod rôl i’r Pwyllgorau Craffu i fonitro cynnydd mewn blynyddoedd i ddod, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnal ymchwiliad craffu neu grŵp tasg a gorffen i edrych ar sut y mae’r trefniadau’n gwreiddio dros amser. Mynegwyd gobaith y byddai Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn cael dylanwad cenedlaethol. Pwysleisiwyd bod angen monitro gweithrediad argymhellion cenedlaethol dros amser.

Ffrwd Gwaith 4: Llywodraethiant Ysgolion

Nodwyd bod rôl llywodraethwyr yn un anodd a bod y gwaith yn wirfoddol, gyda phryder am brinder llywodraethwyr. Nodwyd y gallai dealltwriaeth lawn o gyfrifoldebau arwain at lai o bobl yn fodlon ymgymryd â’r rôl, gan nodi bod gofynion ar gyrff llywodraethu yn enfawr. Nodwyd bod hyn yn cysylltu â’r ddadl am adnoddau, gan nodi bod cadw rhywfaint o adnoddau yn ganolog yn galluogi’r Adran Addysg i gefnogi llywodraethwyr. Pwysleisiwyd bod y baich ar lywodraethwyr wedi cynyddu dros ddegawdau wrth i fwy o gyfrifoldebau symud i ysgolion a chyrff llywodraethu oddi wrth awdurdodau lleol ac adrannau addysg. Nodwyd bod angen mwy o hyfforddiant a dealltwriaeth os yw’r grym i aros gyda chyrff llywodraethu, a nodwyd mai mater ehangach na Gwynedd yn unig oedd hyn.

Mewn ymateb, diolchwyd i lywodraethwyr ar draws y sir am eu gwaith, a nodwyd y byddai hyfforddiant a chefnogaeth ychwanegol yn cael eu cynnig heb aros am newidiadau cenedlaethol. Pwysleisiwyd bod gwaith pellach i’w wneud i gryfhau llywodraethiant mewn ysgolion. Nodwyd bod clercio effeithiol yn hanfodol i lywodraethu, a bod rhai ysgolion yn ei chael yn anodd recriwtio clercod, ond bod gwaith yn mynd rhagddo i unioni’r sefyllfa. Nodwyd bod angen adolygu a chryfhau hyfforddiant cadeiryddion, a bod bwriad i gryfhau’r gefnogaeth i lywodraethwyr a chadeiryddion drwy ehangu’r tîm sy’n eu cefnogi i ddau swyddog er mwyn gallu ymateb yn gyflymach pan fo angen cyngor a chymorth.

Holwyd pa sicrwydd oedd bod cyrff llywodraethu yn herio’n effeithiol yn ystod cyfarfodydd yn hytrach na derbyn gwybodaeth yn unig, a sut y gellid mesur hynny. Mewn ymateb, nodwyd pwysigrwydd rôl llywodraethwyr i ddarparu lefel briodol o her ar raglenni gwaith ac ar waith penaethiaid, gan bwysleisio’r egwyddor o fod yn gyfaill beirniadol a’r angen i daro’r cydbwysedd cywir. Nodwyd bod ansawdd clercio a chysondeb cofnodion yn rhan o’r modd y gellir adnabod ac amlygu elfennau o her a thrafodaeth o fewn cyfarfodydd.

Cwestiynwyd sut byddai’r drefn llywodraethu bresennol wedi ymateb yn wahanol i achos Friars. Mewn ymateb, nodwyd bod gweithdrefnau a pholisïau ar y cyfan wedi’u cryfhau. Nodwyd bod Tîm Diogelu Addysg yn mynd i ysgolion i wirio cynnwys polisïau a gweithdrefnau ysgolion, er mwyn sicrhau eu bod yn gyson ar draws ysgolion y sir. Nodwyd bod ymweliadau gwirio ansawdd yn cael eu cynnal er mwyn profi dealltwriaeth plant, pobl ifanc a staff o’r polisïau, ac er mwyn i’r adran fod yn fwy ymwybodol o’r diwylliant o fewn yr ysgol yn gyffredinol.

Awgrymodd yr Aelod Cabinet Addysg fod angen i arolygiadau Estyn graffu ar waith cyrff llywodraethu ysgolion yn fwy manwl, a’i fod yn fater y dylai Llywodraeth Cymru edrych i mewn iddo ymhellach. Pwysleisiwyd yr angen i edrych ymhellach i mewn i rôl llywodraethwyr ac i ystyried a oedd gormod o faich arnynt, ac a ddylai’r rôl fod yn wirfoddol.

Cwestiynwyd sut mae trefniadau llywodraethu ysgolion yn adnabod patrymau risg dros amser ac ar draws achosion. Mewn ymateb, nodwyd y gall aelodau’r corff llywodraethu newid o flwyddyn i flwyddyn ac felly bod cadw cofnodion yn hollbwysig i adnabod patrymau hirdymor. Pwysleisiwyd bod yr awdurdod yn cadw copi o gofnodion unrhyw honiadau ac felly bod hyn yn bwydo i mewn i’r broses lywodraethu. Nodwyd, er nad oedd trefn benodol i edrych ar unigolion dros gyfnod o amser o fewn ysgolion, bod trefniadau diogelu plant a threfniadau adnoddau dynol yn bodoli, a bod disgwyl i’r ysgol a’r corff llywodraethu fod â pholisïau a gweithdrefnau cytunedig i’w cefnogi, ac i sicrhau bod y trefniadau yn gwbl briodol.

Gofynnwyd am farn broffesiynol y Pennaeth Addysg, o ran cael trefn benodol i gyrff llywodraethu adnabod patrymau risg ymysg staff ysgolion dros amser. Mewn ymateb, mynegwyd barn na ddylai trefn o’r fath fodoli o fewn y gyfundrefn bresennol gan mai lleygwyr yw llywodraethwyr, ac felly byddai’n gofyn gormod ganddynt. Mynegwyd barn y dylai rhyw fath o drefn fodoli, ond y byddai angen disgwyl canlyniadau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drefniadau Llywodraethu Ysgolion cyn rhoi barn bellach.

Nodwyd y byddai mwy o wybodaeth gyffredinol yn cael ei ddarparu i gyrff llywodraethu yn y dyfodol, gan ei fod yn argymhelliad o fewn yr adroddiad adolygiad ymarfer plant, i’w galluogi i wneud penderfyniadau a chael trafodaethau mwy ystyrlon o ran gwaharddiadau a phresenoldeb. Mynegwyd ansicrwydd a fyddai’r wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â cyfeiriadau gan fod llawer o ysgolion y sir yn gymharol fychan, byddai’n bosib adnabod plant o’r data.

Cadarnhawyd y byddai’r drefn ynglŷn â phryderon nad ydynt yn cyrraedd y trothwy o gymorth yn y dyfodol yn cyfrannu at adnabod patrymau risg. Pwysleisiwyd bod cyfyngiadau o ran yr hyn y gall yr awdurdod ei wneud o dan y gyfundrefn bresennol hyd nes y bydd newid cenedlaethol yn digwydd. Mynegwyd gobaith y byddai’r adolygiad cenedlaethol i mewn i drefniadau llywodraethiant ysgolion yn gyfle i’r Llywodraeth ddefnyddio canfyddiadau adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder i wneud newidiadau cenedlaethol.

Nodwyd bod y Cyngor wedi edrych i greu polisi pryderon lefel isel ond y byddai cyflawni hyn yn heriol iawn gan ei fod yn gwrthdaro â chanllawiau diogelu cenedlaethol. Pwysleisiwyd yr angen i bolisi pryderon lefel isel o’r fath gael ei greu’n genedlaethol.

Cwestiynwyd a oedd modd sicrhau bod pob llywodraethwr o fewn ysgolion y sir wedi derbyn hyfforddiant priodol cyn dechrau yn y rôl. Mewn ymateb, nodwyd bod pob Llywodraethwr Dynodedig Diogelu yn derbyn hyfforddiant priodol bob dwy flynedd, a’i fod yn ofyniad i bob corff llywodraethu i ddarparu lefel sylfaenol o hyfforddiant diogelu i’r corff yn ei gyfanrwydd.

Mynegwyd barn nad oedd lefel yr hyfforddiant diogelu sydd ar gael i gadeiryddion cyrff llywodraethu yn ddigonol, ac y dylai fod yn uwch. Nodwyd bod llywodraethwyr wedi derbyn cais i gwblhau hyfforddiant ‘Atal’ (Prevent). Mewn ymateb, nodwyd bod yr hyfforddiant yn fandadol ac ar wahân i’r cwrs sylfaenol diogelu sy’n ofynnol i lywodraethwyr. Pwysleisiwyd bod lefel yr hyfforddiant a ddarperir yn cael ei bennu’n genedlaethol. Derbyniwyd y sylw ynglŷn â lefel hyfforddiant diogelu cadeiryddion, gan nodi ei fod yn debygol y byddai hyfforddiant uwch o fudd. Pwysleisiwyd mai nid yr Adran Addysg sy’n gwneud y penderfyniadau hyn ac nad oedd gan yr adran y grym i’w newid.

Ffrwd Gwaith 5: Grym Rhesymol

Holwyd sut mae’r Cyngor yn diffinio’n glir pryd mae defnyddio grym rhesymol yn briodol er mwyn atal plentyn rhag gwneud rhywbeth sy’n peri risg. Mewn ymateb, nodwyd bod polisi enghreifftiol ar ddefnydd o rym rhesymol yn cael ei ddarparu i ysgolion, a mai cyfrifoldeb pob corff llywodraethu yw ystyried y polisi’n ofalus. Nodwyd bod y polisi enghreifftiol yn cynnwys pwyntiau penodol ynghylch pryd y gellir cyfiawnhau defnyddio grym rhesymol, ond nodwyd mai’r term rhesymol sy’n peri’r prif her gan fod dehongliad yn gallu amrywio rhwng unigolion. Nodwyd bod cwmni allanol wedi’i gomisiynu i adolygu’r polisi a’r canllawiau er mwyn asesu a ydynt mor gadarn â phosibl ac i edrych yn benodol ar eglurder y defnydd o’r term rhesymol, gyda’r bwriad o weithredu unrhyw argymhellion yn syth. Ymhelaethwyd bod ysgolion fel arfer yn mabwysiadu’r hyn a ddarperir, ond bod gan ysgolion yr hawl i ddiwygio’r polisi os dymunant.

Cwestiynwyd sut mae’r cynllun yn sicrhau bod staff yn hyderus ac yn barod i ymyrryd pan fo angen defnyddio grym rhesymol i ddiogelu plentyn. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod hyfforddiant ar ddefnydd o rym rhesymol yn cael ei dargedu at staff y bernir sydd ei angen, yn hytrach na’i ddarparu i bawb.

-        Bod achosion yn cael eu cyfeirio at fforwm penodol i ystyried a oes angen hyfforddiant ar aelod o staff, yn aml mewn cyd-destun cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu ymddygiad heriol.

-        Bod peidio â darparu hyfforddiant i bawb yn fwriadol gan y bernir y gallai hynny gynyddu’r risg o gamddehongli pryd a sut i ymyrryd.

-        Bod y term rhesymol yn parhau i greu elfen o ansicrwydd, a bod hynny’n rhan o’r gwaith sy’n cael ei adolygu.

Nodwyd bod angen bod yn dryloyw am wendid hanesyddol, gan nodi bod dulliau hyfforddi ar ddefnydd o rym rhesymol wedi bod yn wahanol rhwng gwasanaethau addysg a gwasanaethau cymdeithasol, a bod hynny wedi bod yn heriol. Nodwyd bod y gwahaniaethau hyn yn cael eu hadnabod, a bod gwaith ar y gweill i ddeall pa system sydd fwyaf priodol ac i symud tuag at un system hyfforddi yn y dyfodol.

Nodwyd pryder am gyfyngiadau trefniadol, gan bwysleisio bod y Cyngor yn gallu darparu polisi i ysgol ond mai’r ysgol sy’n penderfynu a fydd yn ei fabwysiadu neu’n ei newid. Pwysleisiwyd yr angen i wthio’r mater ymlaen ar lefel genedlaethol gyda’r awgrym o gryfhau’r disgwyliadau statudol ar y maes hwn.

Mewn ymateb, nodwyd bod gan yr awdurdod rôl i oruchwylio a monitro’r defnydd o rym rhesymol mewn ysgolion. Nodwyd bod disgwyl i ysgolion hysbysu’r awdurdod bob tro y defnyddir grym rhesymol, a bod y wybodaeth yn cael ei dadansoddi gyda’r tîm iechyd a diogelwch i ystyried a yw’r dulliau’n briodol, a yw’r trefniadau adrodd yn cael eu dilyn, a pha sylw sy’n cael ei roi i lais y plentyn. Cadarnhawyd bod rhieni yn cael eu hysbysu am ddigwyddiadau o’r fath. Cadarnhawyd bod trefn wirio ansawdd ar waith, gyda’r trefniadau yn gwirio a fu defnydd o rym rhesymol ym mhob achos o fewn ysgolion y sir ac, os felly, a ddilynwyd y system yn gywir; ac os na welwyd cofnod drwy’r system, nodwyd na ellid ystyried bod y drefn wedi’i dilyn yn briodol, gan arwain at gamau dilynol i sicrhau cydymffurfiaeth.

Cwestiynwyd a oedd yn ofynnol i ysgolion hysbysu’r Adran Addysg os ydynt yn diwygio polisïau. Mewn ymateb, nodwyd bod y dull wedi dod yn fwy cadarn nag yn y gorffennol, gyda’r neges i ysgolion beidio â newid y polisi, ac, os byddai newid yn digwydd, i hysbysu’r awdurdod. Nodwyd bod polisïau yn cael eu gwirio, er na fyddai’n ymarferol gwirio pob gair ym mhob polisi ym mhob ysgol bob blwyddyn. Nodwyd, fodd bynnag, bod y gwaith yn canolbwyntio ar wirio polisïau allweddol er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r arweiniad a ddarperir.

Mynegwyd barn y dylai ysgolion fabwysiadu’r polisïau enghreifftiol yn llawn, neu, os byddai unrhyw ddiwygiadau’n cael eu gwneud, y dylent dynnu sylw’r awdurdod at hynny fel y gellid ystyried a chytuno ar y newidiadau. Holwyd a ellid anfon neges at gynghorwyr ynghylch pwysigrwydd rôl llywodraethwyr wrth sicrhau bod ysgolion yn glynu wrth y polisïau a ddarperir gan yr awdurdod. Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai neges yn cael ei rannu gyda chyngorwyr.

Holwyd pa gymorth oedd ar gael i aelodau staff ar ôl defnyddio grym rhesymol, gan nodi y gall hynny beri pryder i staff ynghylch a ydynt wedi croesi ffin mewn sefyllfa dan bwysau. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd trefniant penodol wedi’i sefydlu i gynnig y math hwnnw o gymorth, ond bod modd i ysgolion gael cyngor gan staff arbenigol sy’n cefnogi plant ag anghenion penodol, ac mai hynny yn aml sy’n sbarduno hyfforddiant. Nodwyd, pan fo digwyddiad yn cynnwys athro, y byddai’r pennaeth yn debygol o gynnig cefnogaeth ac arweiniad, ac, pan fo’n ymwneud â’r pennaeth, y gallai gael ei gyfeirio i gadeirydd y llywodraethwyr, gan adleisio’r pryder ynghylch a oes gan gadeiryddion y sgiliau i gefnogi mewn amgylchiadau cymhleth. Nodwyd y gallai swyddogion iechyd a diogelwch ymwneud â’r mater pan fo’n briodol, ac y byddai cyswllt yn cael ei wneud â’r ysgol pe bai’n amlwg bod y digwyddiad wedi bod yn arbennig o anodd. Nodwyd bod y pwynt yn un da a rhoddir ystyriaeth pellach iddo er mwyn cwestiynu a oedd y trefniadau presennol yn rhoi digon o gefnogaeth i staff sy’n gorfod gweithredu mewn sefyllfaoedd anodd, yn enwedig mewn ysgolion arbennig lle gallai’r sefyllfa godi’n amlach.

Ffrwd Gwaith 6: Cynllunio Argyfwng ac Ymateb i Argyfwng

Holwyd sut yr oedd trefniadau cynllunio argyfwng wedi’u diweddaru  ar sail y gwersi a ddysgwyd o achos Ysgol Friars. Mewn ymateb, nodwyd bod gwaith ar y gweill i roi cynllun argyfwng newydd ar waith, a bod deall yn llawn beth ddigwyddodd yn Ysgol Friars yn elfen greiddiol o’r gwaith hwnnw. Nodwyd nad oedd hyn yn seiliedig ar ddarllen adroddiadau yn unig, ond bod trafodaethau wedi digwydd gyda swyddogion o’r heddlu i ddeall eu profiad, a nodwyd y byddai trafodaethau’n digwydd gyda staff sy’n parhau yn yr ysgol er mwyn deall eu profiadau ar y diwrnod.

Holwyd pa dystiolaeth oedd bod yr ymateb i argyfwng bellach yn gyflymach ac yn fwy penderfynol. Mewn ymateb, nodwyd bod ymwybyddiaeth wedi codi ar draws y sir, ond bod y gwaith o roi’r trefniadau newydd ar waith yn parhau ar hyn o bryd. Nodwyd mai’r her fyddai gosod mesurau priodol a fyddai’n dangos beth fyddai’n wahanol.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymateb cyflym a chlir mewn argyfwng, gan nodi bod oedi yn achos Friars wedi ychwanegu at y trawma. Mynegwyd barn y dylai’r trefniadau fod yn gadarn o ran atal dros dro tra bod ymchwiliad yn mynd rhagddo, er y cydnabuwyd y gallai hynny greu heriau ymarferol o ran staffio.

Holwyd i ba raddau y byddai’r gwaith yn cynnwys cerdded staff drwy sefyllfaoedd posibl er mwyn deall y llwybr gweithredu pan fo datgeliad neu bryder yn codi, pwy sy’n cysylltu â phwy a phryd, a’r eglurder ynghylch cyfrifoldebau. Mewn ymateb, nodwyd mai dyna’n union fyddai natur y gwaith unwaith y byddai cynllun cadarn wedi’i lunio a’i gyflwyno i’r byrddau perthnasol i’w gymeradwyo. Nodwyd bod angen sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd pawb yn yr ysgol, nid arweinwyr yn unig, a bod gwaith yn mynd rhagddo i fapio’r trefniadau a chynnwys senarios o’r fath yn y cynllun a’r hyfforddiant cysylltiedig.

Nodwyd bod rhai negeseuon ymarferol eisoes wedi’u rhoi i staff mewn perthynas â gweithredu’n brydlon, a bod gwelliannau mewn trefniadau wedi dechrau. Nodwyd bod y ffrwd gwaith yma yn debygol o ddatblygu dros amser. Pwysleisiwyd pwysigrwydd hyfforddiant yn y maes hwn er mwyn i staff allu ymarfer a mynd drwy’r gwahanol senarios.

Holwyd pam y byddai angen hyfforddiant i ffonio 999 pan fo plentyn mewn perygl, gan nodi y dylai’r egwyddor fod yr un fath ag mewn unrhyw sefyllfa arall. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod hynny’n eglur, ond nodwyd bod ymateb i argyfwng diogelu yn cynnwys camau ychwanegol y tu hwnt i’r alwad argyfwng, gan gynnwys gofalu am y plentyn, diogelu tystiolaeth, ac ystyried trefniadau ar y safle. Nodwyd bod hyfforddiant ymarferol, drwy senarios a thrafodaeth, yn rhan hanfodol o sicrhau bod pobl yn gallu gweithredu’n briodol dan bwysau.

Pwysleisiwyd bod angen sicrhau bod staff a’r gymuned ysgol yn gallu siarad am eu profiadau ar ôl digwyddiad er mwyn adeiladu darlun llawn a chefnogi adferiad. Mynegwyd pryder am sefyllfaoedd lle teimlwyd na ellid trafod pryderon yn agored.

Ffrwd Gwaith 7: Cefnogi a Sefydlogi Ysgol Friars

Holwyd am fater pensiwn yr unigolyn a gyflawnodd y troseddau, gan fynegi pryder ynghylch y posibilrwydd ei fod yn parhau i dderbyn pensiwn, a holwyd pwy oedd yn gyfrifol am hynny. Mynegwyd barn bod y ffaith bod yr unigolyn hwn yn dal i dderbyn ei bensiwn yn annerbyniol ac yn anfoesol, ond cadarnhawyd nad oedd gan Gyngor Gwynedd y pŵer i atal pensiwn athro o dan y trefniadau perthnasol. Nodwyd bod y mater wedi’i godi ar lefel genedlaethol gan yr Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts. Nodwyd bod y mater wedi’i dynnu at sylw’r adran berthnasol, a mynegwyd gobaith y byddai’r achos yn cael ei ystyried fel rhan o waith ehangach ar achosion tebyg.

Nodwyd sylw ynghylch cyhoeddusrwydd trefniadau diogelu, gan nodi bod gwefan Ysgol Friars yn cynnwys pennawd amlwg ar ddiogelu ar y dudalen flaen, tra nad oedd hynny’n gyson ar wefannau ysgolion eraill. Awgrymwyd y dylid annog ysgolion eraill i wneud yr un fath. Mewn ymateb, nodwyd y gellir annog ysgolion i wneud hyn, ond mai’r corff llywodraethu a’r ysgol sy’n gyfrifol am weithredu’n ymarferol. Nodwyd ymhellach y dylai llywodraethwyr ddefnyddio eu dylanwad i sicrhau bod gwybodaeth diogelu yn hawdd ei ganfod. Nodwyd y dylid sicrhau bod rhestr glir ar wefan y Cyngor o’r manylion diogelu perthnasol ar gyfer pob ysgol.

Cwestiynwyd beth oedd yn cael ei wneud i helpu plant i adnabod a deall pan fo ‘grooming’ yn digwydd iddynt. Holwyd sut y gellid addasu’r ddarpariaeth addysgol, yn benodol yn Ysgol Friars, gan gynnwys addysg perthnasoedd a rhywioldeb, er mwyn sicrhau bod pob plentyn, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cyflwyno fel rhai sydd angen cymorth, yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau i adnabod arwyddion a chodi pryderon yn gynnar. Mewn ymateb, nodwyd bod argymhelliad cenedlaethol yn bodoli i gryfhau’r ddarpariaeth yn y cwricwlwm, a nodwyd y byddai’r Cyngor yn bwriadu symud yn gyflymach a pheidio aros am newidiadau cenedlaethol. Nodwyd bod Ysgol Friars yn datblygu’r cwricwlwm bugeiliol, a bod gwaith ar y gweill i gryfhau’r sylfeini, gan gynnwys datblygu cynhaliaeth bugeiliol a mannau cymorth o fewn yr ysgol. Pwysleisiwyd bod gwaith ar y gweill i adnabod darparwyr a rhaglenni addas i’w hargymell i ysgolion, gyda’r bwriad o adeiladu darpariaeth sy’n datblygu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddechrau’n gynnar mewn modd sy’n briodol i oedran, fel bod plant yn datblygu’r sgiliau i adnabod ymddygiad niweidiol ac i ddatgelu pryderon. Pwysleisiwyd y dylai’r ddarpariaeth fod yn gynaliadwy ac nid yn ymyrraeth untro.

Mynegodd aelod farn y dylid darparu addysg ar ‘grooming’ i blant o oedran iau, gan ddechrau yn dair oed.

Cwestiynwyd a ddylai unigolion a fethodd â gweithredu’n briodol, neu a fethodd â rhannu gwybodaeth yn achos Ysgol Friars, gael eu cyfeirio at Gyngor y Gweithlu Addysg. Mewn ymateb, nodwyd bod trafodaethau eisoes wedi digwydd gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, ac y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal gyda’r Prif Weithredwr i drafod yr adroddiad yr wythnos ganlynol.

Holwyd sut oedd y gefnogaeth i Ysgol Friars yn cyfrannu at sefydlogrwydd tymor hir yn hytrach na datrysiad dros dro. Mewn ymateb, nodwyd bod y dull wedi canolbwyntio ar osod sylfeini cadarn, gan ddechrau gyda’r corff llywodraethu ac yna arweinyddiaeth yr ysgol. Nodwyd nad oedd pennaeth parhaol wedi’i benodi eto, ond bod y swydd yn cael ei hysbysebu. Nodwyd bod trafodaethau gyda’r llywodraethwyr a’r uwch dîm rheoli yn adeiladol ac yn symud i’r cyfeiriad cywir, ond y byddai’n cymryd amser. Nodwyd yn benodol bod staff Ysgol Friars wedi bod drwy gyfnod eithriadol o anodd, a bod angen cydnabod eu profiad, gan nodi eu bod wedi parhau i ddarparu addysg o ansawdd i ddisgyblion drwy’r cyfan, heb lithro o ran safonau, a’u bod yn haeddu clod am hynny. Nodwyd bod y gefnogaeth yn barhaus, gyda chysylltiad rheolaidd, trafodaethau gyda chynrychiolwyr undebau, a bwriad i ymweld â’r ysgol er mwyn rhoi cyfle i bobl rannu eu barn. Nodwyd bod staff yn codi materion yn gynnar, a bod y berthynas rhwng yr awdurdod a’r ysgol yn gryf, gyda pharodrwydd i gefnogi ac ymateb i geisiadau.

Holwyd pa dystiolaeth oedd bod diogelwch a lles disgyblion wedi gwella yn fesuradwy yn Ysgol Friars. Mewn ymateb, nodwyd bod y galw am gefnogaeth wedi cynyddu a bod nifer y cyfeiriadau wedi codi, gan nodi bod hynny’n adlewyrchu lefel uwch o ymwybyddiaeth ac effaith y drafodaeth barhaus ymhlith staff a disgyblion. Nodwyd bod yr ysgol wedi penodi aelod ychwanegol i’r tîm diogelu er mwyn cynyddu capasiti, gan alluogi’r dirprwy bennaeth i ganolbwyntio ar ddiogelu ochr yn ochr â chyfrifoldebau eraill, gan gydnabod bod diogelu a chynhwysiant yn aml yn rhoi pwysau sylweddol ar rôl dirprwy benaethiaid mewn ysgolion. Pwysleisiwyd bod gwaith sylweddol o hyd i’w wneud i sicrhau newid diwylliant ar draws corff mawr o staff, disgyblion a’r gymuned, a bod hyn yn daith hirdymor.

Holwyd i ba raddau yr oedd modd bod yn hyderus nad oedd mwy o staff yn ymwybodol o ymddygiad amhriodol a ddigwyddodd yn Ysgol Friars ond wedi’u hanwybyddu. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y math hwn o ddamcaniaethu yn debygol o arwain at ateb pendant, gan bwysleisio bod yr achos wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ac adolygiad ymarfer plant, a bod trefniadau cyfreithiol a gweithdrefnol ar gael i ymateb i unrhyw gamymddwyn neu dystiolaeth newydd. Pwysleisiwyd bod y Cyngor yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif ac yn dilyn y trefniadau perthnasol. Cadarnhawyd bod ymchwiliadau pellach gan yr heddlu yn parhau, ond nad oedd modd rhoi manylion am eu cwmpas na’u canlyniadau.

Holwyd am ethos yr ysgol ar hyn o bryd, ac i ba raddau y mae disgyblion yn hapus. Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn gwestiwn heriol iawn, ond nodwyd, ar sail profiadau ymweliadau a thrafodaethau gyda’r corff llywodraethu a’r tîm rheoli, fod disgyblion yn ymddangos yn gwrtais, yn hyderus ac yn gadarnhaol. Ymhelaethwyd bod newid arweinyddiaeth ac arddull arwain yn anorfod ar ôl ymadawiad unigolyn o’r fath, a bod hynny’n her i’r gymuned ysgol, y llywodraethwyr a’r staff, gan gynnwys sicrhau cefnogaeth i staff i ymateb i ymddygiad heriol. Serch hynny, mynegwyd barn fod yr ysgol yn parhau i ffynnu’n academaidd ac bod y disgyblion, ar y cyfan, yn hapus er gwaethaf yr hyn a ddigwyddodd, a chydnabuwyd gwaith y staff a’r llywodraethwyr.

Cwestiynau Cyffredinol

Codwyd pryder nad oedd cydnabyddiaeth yn y Cynllun Ymateb ynghylch diffygion adroddiad Estyn i adran addysg y Cyngor, gan nodi bod yr adroddiad wedi camarwain y Pwyllgor wrth roi’r argraff bod trefniadau diogelu’r awdurdod yn gadarn pan nad oeddent. Awgrymwyd y dylid cyflwyno sylwadau i Estyn ar y mater er mwyn derbyn ymateb ffurfiol ganddynt, gan bwysleisio dibyniaeth pwyllgorau ar sicrwydd gan gyrff allanol. Mewn ymateb, cadarnhawyd y bwriad i gysylltu ag Estyn i ofyn am sylwadau ffurfiol.

Holwyd pwy benderfynodd beidio â chynnwys yr adroddiad bargyfreithiwr a gomisiynwyd gan y Cyngor ymysg yr atodiadau gerbron y Pwyllgor hwn, ar ba sail gyfreithiol. Gofynnwyd a ellid darparu’r ddogfen neu grynodeb. Mewn ymateb, nodwyd bod cyngor cyfreithiol allanol wedi’i dderbyn bod y ddogfen yn gysylltiedig â phrosesau adnoddau dynol ac, fel cyflogwr, nad oedd yn briodol ei rhannu ar hyn o bryd. Nodwyd bod yr argymhellion wedi’u rhannu, a bod cynnwys tebyg i’r hyn a drafodwyd yn cael ei adlewyrchu drwy’r adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant, ond bod cyhoeddi’r ddogfen lawn neu grynodeb ar hyn o bryd yn gam rhy bell. Nodwyd y byddai’r safbwynt yn cael ei adolygu wrth i bethau symud ymlaen, yn ddibynnol ar gyngor cyfreithiol.

Holwyd a oedd un uwch swyddog gyda trosolwg o’r Cynllun Ymateb, a phwy oedd y pwynt cyswllt clir i’r cyhoedd, rhieni, staff, aelodau neu’r wasg i gynnig mewnbwn neu geisio derbyn diweddariad ar gynnydd. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd hynny wedi’i nodi’n eglur yn y Cynllun Ymateb, a diolchwyd am godi’r pwynt. Nodwyd bod y Prif Weithredwr â chyfrifoldeb gweithredol cyffredinol, ond bod maint y Cynllun a nifer y camau gweithredu yn gwneud goruchwyliaeth gan un person yn heriol, ac y byddai goruchwyliaeth ychwanegol yn bwysig. Nodwyd bod y Bwrdd Ymateb yn rhan o’r trefniadau, a bod y Cadeirydd yn adrodd i’r Cabinet yn rheolaidd drwy adroddiadau cyhoeddus, gyda disgwyliad y byddai’r Cadeirydd yn tynnu sylw’n glir pe bai cynnydd yn annigonol.

Pwysleisiwyd yr angen am atebolrwydd a goruchwyliaeth glir i sicrhau bod trefniadau diogelu’r sir yn gadarn.

Nodwyd bod oedi o tua blwyddyn a mis cyn dechrau ymchwiliadau mewnol annibynnol yn dilyn arestio Neil Foden. Holwyd pa wersi oedd wedi’u dysgu o’r cyfnod hwnnw ac a fyddai’r un penderfyniad i oedi yn cael ei wneud eto. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd yn debygol bod popeth wedi’i wneud yn berffaith mewn sefyllfa ddigynsail, gyda sawl peth yn digwydd ar yr un pryd, ac ymchwiliad yr heddlu yn parhau. Nodwyd bod neges glir ar y pryd i osgoi camau a allai danseilio’r broses droseddol. Nodwyd roedd disgwyliad i’r adolygiad ymarfer plant gael ei gyhoeddi o fewn chwe mis, ond bod y broses honno wedi llithro.

Cwestiynwyd pa mor sicr y gellid bod nad oedd plentyn wedi dod i niwed yn ystod y cyfnod o flwyddyn a mis cyn i wirio annibynnol gael ei gynnal o brosesau diogelu’r sir. Mewn ymateb, nodwyd bod darn o waith ynghylch cyfeiriadau yn ystod y cyfnod hwnnw wedi dod i gasgliadau ar hynny.

Cwestiynwyd sut a pryd byddai’r camau gweithredu a gymerwyd hyd yma a’r rhai sydd ar waith yn cael eu cyfathrebu gyda rhieni. Mewn ymateb, nodwyd bod cyfathrebu’r gwaith yn heriol, a bod gwaith ar y gweill i symleiddio a chrynhoi’r Cynllun Ymateb gan ei fod yn rhy gymhleth i’w gyfathrebu’n effeithiol i’r cyhoedd heb golli’r manylder angenrheidiol. Nodwyd bod fersiwn hawdd i’w ddarllen o adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder wedi bod yn ddefnyddiol ac yn cael ei ddarllen yn eang, ac y byddai fersiwn hygyrch o’r Cynllun Ymateb hefyd yn gam ymarferol i wella tryloywder a dealltwriaeth.

Mynegwyd pryder ynghylch pryd y byddai mwy o wybodaeth ar gael am gasgliadau’r bargyfreithiwr a’r trefniadau mewnol, gan nodi bod oedi yn peri pryder, yn tanseilio hyder, ac yn gallu cynyddu’r gost i’r pwrs cyhoeddus. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd modd rhoi amserlen ar hyn o bryd oherwydd cymhlethdod prosesau parhaus, ac na ddylid rhoi dyddiadau nad oedd modd eu gwarantu. Nodwyd, er hynny, fod gwaith dysgu a newid eisoes yn digwydd drwy’r Cynllun Ymateb manwl, ond cydnabuwyd bod rhwystredigaeth yn parhau hyd nes y bydd modd cau’r prosesau’n ffurfiol a rhannu mwy o wybodaeth.

Codwyd pryder cyffredinol ynghylch pwysau’r gwaith ar swyddogion ac aelodau’r Cabinet, gan awgrymu y gallai gwaith ymateb mor helaeth olygu bod meysydd eraill yn llithro, gan gynnwys meysydd diogelu eraill. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod y gwaith yn rhoi pwysau ar unigolion. Nodwyd bod unigolion yn dewis canolbwyntio ar y gwaith gan ei fod yn flaenoriaeth allweddol, a bod asesiadau risg yn cael eu cadw’n gyfredol i sicrhau blaenoriaethu priodol. Nodwyd y gallai hynny olygu bod rhai pethau eraill yn symud ar gyflymder arafach dros dro, gan nodi mai dyna oedd realiti’r sefyllfa.

Nododd y Cadeirydd sylwadau cyn cloi’r drafodaeth gan bwysleisio bod y Cynllun Ymateb yn dangos yn glir bod Cyngor Gwynedd wedi dysgu iaith yr Adolygiad Ymarfer Plant, ond mai’r her allweddol bellach yw sicrhau bod y dysgu yn cael ei wreiddio drwy atebolrwydd clir, her weithredol a dysgu parhaus er mwyn sicrhau newid gwirioneddol mewn ymarfer a diwylliant, nid ar bapur yn unig. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gwneud penderfyniadau’n wahanol pan fo risg yn anodd, sicrhau disgwyliad pendant i staff a Chynghorwyr herio pryderon, a sicrhau bod hynny’n cael ei gefnogi yn weithredol gan arweinwyr ar bob lefel. Nodwyd bod angen system sy’n gwneud atebolrwydd yn weladwy, sy’n croesawu her broffesiynol ac annibynnol, ac sy’n trin methiannau fel cyfleoedd i ddysgu a gwella yn hytrach na’u cuddio. Pwysleisiwyd bod atgyfnerthu a mesur yr ymddygiadau hyn dros amser yn hanfodol er mwyn dangos bod gwersi’r Adolygiad Ymarfer Plant wedi’u mewnoli yn wirioneddol, gan arwain at well darpariaeth i ddiogelu plant a newid parhaol yn niwylliant a phenderfyniadau’r sefydliad o ddydd i ddydd.

PENDERFYNWYD

1.          Derbyn a nodi’r adroddiad a’r rhaglen waith gan ofyn am ddiweddariad mewn 6 mis.

2.          Argymell i’r Cabinet:

 

Ffrwd Gwaith 1: Llais y Plentyn a Chefnogi Dioddefwyr

·       Dylid sefydlu trefniadau mesuradwy sy’n dangos yn glir sut mae llais y plentyn a phrofiad dioddefwyr yn dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau a chanlyniadau;

·       Bod angen sicrhau cefnogaeth hirdymor i ddioddefwyr heb beri rhagor o drawma;

·       Bod angen rhoi sylw priodol i blant sy’n wynebu heriau ac osgoi rhagfarn ddiarwybod;

·       Dylid sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn hawdd i’w ddarllen ac yn hygyrch i blant.

 

Ffrwd Gwaith 2: Rheoli Honiadau a Phryderon am Oedolion sy’n gweithio gyda Phlant

·       Dylai’r trefniadau ar gyfer rheoli honiadau a phryderon sicrhau bod unrhyw amheuaeth am addasrwydd oedolion i weithio gyda phlant ac oedolion bregus yn cael ei hasesu’n gynnar, ei uwch gyfeirio yn briodol, a’i herio’n annibynnol, beth bynnag yw statws ymarferydd;

·       Bod angen trefniadau diogelu clir ar gyfer unigolion sy’n codi pryderon;

·       Bod angen edrych ar ddigwyddiadau sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol efo plant;

·       Dylid casglu tystiolaeth i ddangos fod newid yn digwydd ac i alluogi craffu yn y dyfodol;

·       Dylid ystyried ymestyn cyfnod amser yr awdit o honiadau Rhan 5, Gweithdrefnau Diogelu Cymru, ymhellach na dwy flynedd;

·       Dylid gwirio bod mecanwaith mewn lle i sicrhau, os oes angen, y symudir o brosesau adnoddau dynol i weithdrefnau Rhan 5.

 

Ffrwd Gwaith 3: Hyfforddiant a Pholisïau

·       Dylai polisïau a hyfforddiant fod yn drylwyr a chael eu hadolygu i gefnogi barn broffesiynol a her;

·       Bod angen tystiolaethu bod hyfforddiant yn newid ymddygiad a phenderfyniadau yn ymarferol, nid mater o bresenoldeb yn unig;

·       Dylai cofnodion diogelu cael eu hadolygu a’u goruchwylio’n rheolaidd gan swyddog penodol er mwyn sicrhau eu bod yn unol â’r gofynion;

·       Dylai ‘grooming’ gael ei adnabod yn benodol yn nhrefniadau hyfforddiant a chael sylw amserol.

 

Ffrwd Gwaith 4: Llywodraethiant Ysgolion

·       Dylai trefniadau llywodraethu ysgolion gael eu cryfhau i adnabod patrymau risg dros amser, sicrhau llwybrau uwch gyfeirio clir, a chynnwys elfen o her neu sicrwydd annibynnol; 

·       Dylid cynnig cefnogaeth addas i arfogi llywodraethwyr i herio’n briodol ac adnabod patrymau;

·       Bod angen ystyried yr hyfforddiant a ddarperir ar gyfer Cadeiryddion a Llywodraethwyr Dynodedig Diogelu.

 

Ffrwd Gwaith 5: Grym Rhesymol

·       Dylid sicrhau bod staff yn deall pryd mae defnyddio grym rhesymol yn briodol, a’u bod yn teimlo’n hyderus ac wedi’u cefnogi i weithredu i ddiogelu plant;

·       Dylid sicrhau bod adolygiadau’n canolbwyntio ar ddysgu gwersi yn hytrach na beio.

 

Ffrwd Gwaith 6: Cynllunio Argyfwng ac Ymateb i Argyfwng Diogelu

·       Dylai cynllunio ac ymateb i argyfwng gael ei drin fel proses fyw sy’n rhan o’r broses ddiogelu a dylid ei brofi yn rheolaidd;

·       Bod angen eglurder o ran rolau;

·       Dylid sicrhau cyfathrebu effeithiol efo staff;

·       Bod angen adolygu trefniadau yn barhaus er mwyn sicrhau bod gwersi a ddysgwyd o Ysgol Friars yn parhau’n weithredol dros amser.

 

Ffrwd Gwaith 7: Cefnogi a Sefydlogi Ysgol Friars

·       Dylai cefnogi a sefydlogi Ysgol Friars gael ei ddefnyddio fel sail i ddysgu ar lefel system gyfan, gan brofi bod sefydlogrwydd wedi arwain at welliant cynaliadwy mewn diogelu a newid diwylliannol ar draws ysgolion;

·       Dylid gofyn i ysgolion:

Ø  gynnwys gwybodaeth am eu trefniadau diogelu yn amlwg ar eu gwefannau;

Ø  ystyried addasu cynnwys eu cwricwlwm addysg cyd-berthynas i adlewyrchu’r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Friars.

 

Cyffredinol

·       Bod angen sicrhau bod trosolwg o’r ffrydiau gwaith yn eu cyfanrwydd;

·       Ystyried rhoi trefniadau mewn lle i sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn ddiymdroi ac yn gwirio ei systemau pan mae pryder sylweddol a all fod yn systemig ei natur yn dod i law;

·       Bod angen rhoi sylw i drefniadau cyfathrebu gwybodaeth efo rhieni a theuluoedd er mwyn sicrhau cyfathrebu effeithiol;

·       Dylid ystyried rhyddhau cymaint o wybodaeth a phosib er mwyn sicrhau tryloywder;

·       Ni ddylid dyfynnu na chyfeirio at Adroddiad Archwiliad Estyn o Adran Addysg y Cyngor yn 2023 yn y Cynllun Ymateb.

 

Dogfennau ategol: