Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025
ar gyfer y CBC (Atodiad 1).
Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025
ar gyfer yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (y Cynllun Twf), gan gynnwys y sefyllfa
cronfeydd wrth gefn (Atodiad 2 a 3).
Nodwyd a derbyniwyd proffil gwariant cyfalaf diwygiedig y
Cynllun Twf (Atodiad 4).
Nodwyd a derbyniwyd yr adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025
ar gyfer y PSRh (Atodiad 5).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Pennaeth Cynorthwyol
Cyllid – Cyngor Gwynedd)
PENDERFYNWYD:
Nodi a derbyn Adolygiad diwedd Rhagfyr 2025 ar gyfer :-
·
Y Cydbwyllgor Corfforedig (Atodiad 1).
·
Yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (y Cynllun Twf),
gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn (Atodiad 2 a 3).
·
Cynllun Cyfalaf y Cynllun Twf (Atodiad 4)
·
Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (Atodiad
5).
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi
amcan o sefyllfa ariannol y CBC. Mynegwyd eu bod yn amcanu tanwariant o £959mil
ar gyfer eleni. Nodwyd fod hyn yn gynnydd o’r £411mil a ragwelwyd yn adolygiad
Gorffennaf. Eglurwyd fod hyn oherwydd llwyddiant y CBC i sicrhau cyllideb grant
gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol a gweithredu’r
Cydbwyllgor.
Tynnwyd sylw at y Cynllun Twf gan nodi eu bod yn amcanu
tanwariant o £618mil, sydd eto yn gynnydd o £281mil a ragwelwyd ym mis
Gorffennaf. Mynegwyd fod hyn oherwydd tanwariant pellach mewn gwariant
gweithwyr a rolau llywodraethol ychwanegol, gwasanaethau cefnogol y corff ateb
a’r penawdau prosiectau.
Nodwyd fod proffil cyfalaf diwygiedig ar gyfer y Cynllun TWF
yn dangos gostyngiad net o £7.46m yn y gwariant disgwyliedig ar gyfer 2025/26.
Ategwyd bod llithriad ar rai prosiectau, er bod rhai yn symud ymlaen ac o
ganlyniad wedi lleihau’r tanwariant.
Mynegwyd o ystyried cyllideb y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y bydd y
sefyllfa yn niwtral, ac wedi ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru ynghyd â
chronfa wrth gefn.
Diolchwyd am yr adroddiad a tynnwyd sylw at y tanwariant gan
nodi eu bod yn deall ei fod o ganlyniad i ddiffyg penodi i swyddi. Gofynnwyd a
oes modd i leihau cyfraniad Awdurdodau Lleol gan fod cymaint o danwariant yn
cael ei ragweld. Ymatebwyd gan nodi fod y cyfraniadau wedi ei nodi yng
nghytundeb ariannu ag arwyddwyd gan yr holl Awdurdodau. Mynegwyd fod y
gorwariant yn cael ei rhoi mewn cronfeydd penodol ac ar gael ar gyfer ariannu
diffygion megis yng nghyllideb rhaglen Cynllunio Strategol. Eglurwyd fod yr
arian wrth gefn wedi ei benderfynu gan yr aelodau'r llynedd ac y bydd yn cael
ei drafod eto yn yr adroddiad diwedd blwyddyn er mwyn cymeradwyo’r defnydd o’r
tanwariant.
Amlygwyd pryder am y tanwariant yn wyneb yr heriau ariannol
sydd yn wynebu Llywodraeth Leol a chyllidebau mor dynn â gwasanaethau rheng
flaen ar draws y rhanbarth yn gorwario.
Eglurwyd fod cyllidebau yn y Cynllun Datblygu Strategol yn
amlygu defnydd o’r cronfeydd wrth gefn ar gyfer sicrhau cyllideb lawn ar gyfer
5 mlynedd y Cynllun. Amlygwyd y bydd gwybodaeth bellach ar y mater hwn i’w weld
yn eitem 9 o’r agenda heddiw.
Nodwyd dealltwriaeth o’r rhesymeg tu ôl i roi'r arian mewn
cronfeydd wrth gefn, ond fod angen sicrhau ddim yn pentyrru arian yn ddiangen,
a drwy osod cyllideb yn flynyddol heb gynllun tymor canolig neu dymor hir mae
pryder for cynydd aruthrol
yn mynd i fod yn ardoll o un flwydd i’r llall. Ymatebwyd drwy nodi fod y CBC yn
gorff newydd ac o ganlyniad fod swyddi heb eu llenwi. Pwysleisiwyd mai
rhagolygon yw’r adroddiad hwn ac nad oes penderfyniad yn cael ei wneud ar y
tanwariant heddiw bydd yn hyn yn cael ei benderfynu yn yr adroddiad diwedd y
flwyddyn. Ategwyd y bydd yr arian yn cael ei roi i ddefnydd penodol dros y
blynyddoedd nesaf wrth i gostau’r CBC gynyddu. Eglurwyd y bydd yr arian wrth
gefn gobeithio yn cynorthwyo i gadw’r ardoll mor isel â phosib.
Gofynnwyd am adroddiad llawn gwybodaeth ar gyfer y
penderfyniad diwedd y Flwyddyn, gan fod cymaint o bryderon am y tanwariant
eleni. Pwysleisiwyd yn ogystal nad oes sicrwydd o’r sefyllfa yn dilyn
etholiadau Llywodraeth Cymru ym mis Mai.
Dogfennau ategol: