Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol.
Penderfyniad:
Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio
Datblygu Strategol Rhanbarthol.
PENDERFYNWYD
Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y
Cynllun Datblygu Strategol.
Y RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol sydd yn gyfrifol
am baratoi'r Cytundeb Cyflawni drafft.
Mae gan yr is-bwyllgor swyddogaethau cydlynu a chynllunio ynghylch pob
cam tuag at gyflawni'r CDS.
TRAFODAETH
Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol
Rhanbarthol adroddiad yn crynhoi canlyniad cyfarfod y Cyd-bwyllgor Corfforedig
a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026, a'r camau a arweiniodd at yr argymhelliad i
gyflwyno Cytundeb Cyflawni y Cynllun Datblygu Strategol yn ffurfiol i
Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth weinidogol. Eglurwyd bod yr adroddiad
yn gosod trywydd archwilio cynhwysfawr a oedd yn rhoi diweddariad i'r
Is-bwyllgor ac yn tystiolaethu'r camau y mae'r Cytundeb Cyflawni wedi mynd
drwyddynt. Cyfeiriwyd at adran gefndirol yr adroddiad hwn, a oedd yn cynnwys
cyfeiriadau at y cyfarfodydd ble roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y Cytundeb
Cyflawni yn y gorffennol ac ar ba sail yr oedd argymhellion yn cael eu gwneud.
Adroddwyd bod mis Medi 2025 wedi bod yn garreg
filltir allweddol, gan fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried fersiwn ddrafft o'r
Cytundeb Cyflawni a'r priodoldeb i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer
cymeradwyaeth ffurfiol, yn ddarostyngedig i gadarnhad y gallai'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig osod cyllideb 2026-2027 ac adnabod y cyllid ychwanegol sydd ei
angen i ddechrau'r Cynllun Datblygu Strategol a chynnal y gwaith cyflawni ar
hyd y rhaglen pum mlynedd. Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi
cadarnhau'r un safbwynt amodol ar 19
Medi 2025, gan nodi'r pryderon ariannol a godwyd, ac na allai'r Cytundeb
Cyflawni fynd yn ei flaen nes bod cyllideb 2026-2027 wedi'i gosod.
Eglurwyd, drwy'r broses o osod cyllideb yn yr
Hydref, bod gwaith wedi'i gynnal gyda'r Prif Swyddog Cyllid a swyddogion cyllid
i adnabod opsiynau oedd yn cyd-fynd â'r gofynion a nodwyd yn flaenorol, sef y
dylid dod o hyd i'r adnoddau ychwanegol oedd eu hangen ar gyfer y Cynllun
Datblygu Strategol, pan fo'n bosib, o fewn adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd
ac na ddylid rhoi baich ychwanegol sylweddol ar gyllidebau awdurdod lleol drwy
gynyddu'r ardoll yn sylweddol. Adroddwyd bod y broses gosod cyllideb wedi nodi
ffordd o gwrdd â gofyniad cyllido y flwyddyn gyntaf heb greu pwysau ardoll
ychwanegol a fyddai’n cael ei briodoli i'r Cynllun Datblygu Strategol. Nodwyd
bod y cynnydd yn yr ardoll ar gyfer 2026-2027 wedi'i gyfyngu i gynnydd
chwyddiannol o 3.5%.
Nodwyd mai oddeutu £655,000 y flwyddyn oedd yr
amcangyfrif o ofyniad cyllido blynyddol ar gyfer cyflawni'r Cynllun Datblygu
Strategol dros y rhaglen pum mlynedd. Nodwyd bod cyllideb blwyddyn un wedi'i
gosod ar £597,000, oedd yn adlewyrchu'r gofyniad arfaethedig ar gyfer y
flwyddyn gyntaf, yn hytrach na gofyn am y swm cyfartalog llawn, ac y bydd y
gyllideb yn cael ei hadolygu a'i gosod yn flynyddol drwy'r cylch cyllideb
arferol.
Adroddwyd bod y gallu i osod cyllideb blwyddyn un
heb effaith sylweddol ar ardoll wedi'i
gyflawni drwy ddefnyddio adnoddau mewnol, gan gynnwys tanwariant yn erbyn
cyllideb refeniw y Cynllun Datblygu Strategol yn 2025 i 2026, a sicrhau grant
perfformiad o £200,000 gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn. Nodwyd bod yr
elfennau hyn wedi lliniaru pwysau ariannol posib ar yr awdurdodau cyfansoddol a
gallant ddarparu lliniaru tebyg ym mlwyddyn dau, ac o bosib y tu hwnt i hynny,
yn dibynnu ar amgylchiadau'r dyfodol.
Mewn trafodaeth, gofynnwyd a fyddai cyllid grant
Llywodraeth Cymru ar gael yn y flwyddyn i ddod er mwyn cefnogi'r Cynllun
Datblygu Strategol. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd unrhyw wybodaeth rhagnodol
wedi'i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, a nodwyd bod sicrwydd ynghylch
grantiau'r dyfodol yn annhebygol yn agos at gyfnod yr etholiad. Nodwyd, er nad
oedd cyllid ar gael naw i ddeg mis ynghynt, bod grant perfformiad o £200,000
wedi'i sicrhau, a ffurfiodd ran o ddyraniad £400,000 ar draws y pedwar
Cyd-bwyllgor Corfforaethol, a dangosodd hyn y budd o ddangos cynnydd da gyda'r
cynllun. Nodwyd ymhellach mai'r Cynllun Datblygu Strategol oedd un o feysydd
gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig ac ni wnaeth hyn ddenu ychwanegiad grant
blynyddol yn awtomatig. Nodwyd y byddai sylwadau i Lywodraeth Cymru yn parhau,
gyda chynnydd yn cael ei ddefnyddio i gryfhau achosion yn y dyfodol ar gyfer
cyllid, yn benodol ar ôl yr etholiad yn dibynnu ar flaenoriaethau polisi.
Gofynnwyd a fyddai modd defnyddio llog ar gronfeydd
i gefnogi'r Cynllun Datblygu Strategol a lleihau pwysau ardoll. Mewn ymateb,
adroddodd y Prif Swyddog Cyllid bod hyn wedi'i ystyried o fewn y broses
gyllideb a’r cynllun corfforaethol. Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
dal i fod yn gorff gymharol ifanc ac nad oedd rhai swyddi wedi'u llenwi mor
sydyn â'r disgwyl, gan arwain at gronni tanwariant. Adroddwyd bod y sefyllfa
hon wedi galluogi i'r ardoll a godwyd ar y chwe chyngor a'r Awdurdod Parc Cenedlaethol
i gael ei chadw i lawr ar gyfer 2026-2027. Nodwyd, er nad oedd y tanwariant
wedi'i gynllunio, bod y sefyllfa wedi galluogi i gyfran sylweddol o gronfeydd
gael eu defnyddio ar gyfer cyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol, sydd wedi
helpu i leihau cynnydd mewn ardoll mewn cyd-destun lle nad oedd modd gwarantu
cyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Pwysleisiwyd mai arwyddocâd cyflwyno'r Cytundeb Cyflawni i Lywodraeth
Cymru oedd gallu ariannu blwyddyn un, yn ogystal â’r ymrwymiad i ariannu'r
gwaith cyflawni ar draws y rhaglen pum mlynedd lawn. Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor
Corfforedig wedi cynnal trafodaeth fanwl ynghylch balansau a chronfeydd, ac
adroddwyd bod cynnal cronfeydd yn ddull darbodus a oedd yn lliniaru risg
ariannol yn y dyfodol a rhoi sicrwydd pe byddai ariannu amrywiol o flwyddyn i
flwyddyn. Nodwyd bod y dull hwn wedi cefnogi argymhelliad cadarnhaol i barhau
gyda chyflwyno ffurfiol, ac adroddwyd bod y sefyllfa ariannol yn ddigon cadarn
am o leiaf y ddwy i dair blynedd gyntaf, gan nodi na fyddai tanwariant o
angenrheidrwydd yn digwydd bob blwyddyn.
Gofynnwyd a ddylid rhagweld cynnydd ardoll sylweddol
y flwyddyn ganlynol os nad oedd mwy o danwariant na chyllid ychwanegol gan
Lywodraeth Cymru. Mewn ymateb, adroddwyd nad oedd modd rhoi gwarantau ond nad
oedd disgwyl cynnydd mawr yn yr ardoll y flwyddyn ganlynol. Nodwyd bod y dull a
gymerwyd wedi creu hyblygrwydd a lliniaru, oherwydd byddai'r grant £200,000
naill ai'n ariannu gwariant refeniw yn ystod y flwyddyn neu'n llifo i falansau
fel tanwariant, gyda'r ddau opsiwn yn cefnogi'r sefyllfa gyda gosod y gyllideb.
Ategwyd bod y Cynllun Datblygu Strategol yn ofyniad statudol, a nodwyd y byddai
angen adnabod cyllid drwy broses gyllideb y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn hytrach
na dibynnu ar grantiau, ynghyd ag ymdrechion parhaus i sicrhau cyllid allanol
ychwanegol. Pwysleisiwyd bod y prosiect yn y sefyllfa orau bosib yn ariannol ar
ddechrau prosiect o'r natur hwn.
Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ynghylch Grant
Perfformiad Strategol Llywodraeth Cymru o £200,000. Mewn ymateb, rhoddwyd
cadarnhad bod Grant Perfformiad Llywodraeth Cymru o £200,000 yn ymwneud â
2025-2026, wedi'i hawlio fel ôl-daliad a nodwyd bod oddeutu £50,000 wedi'i
hawlio hyd yn hyn gyda'r hawliad a oedd ar ôl i'w gyflwyno ar ddiwedd y
flwyddyn ariannol. Nodwyd y byddai'r incwm hwn i'w weld yng nghyfrifon
2025-2026 ac o fewn y llinellau incwm cynllunio strategol yn y wybodaeth
monitro refeniw berthnasol, a nodwyd ymhellach bod modd cario unrhyw danwariant
cysylltiedig ymlaen i'r cronfeydd wrth gefn i'w defnyddio yn 2026-2027.
Adroddwyd y byddai cynllun ariannol tymor canolig yn
cynnwys rhagolygon tair-i-bum-mlynedd yn cael ei gyflwyno tua mis Medi 2026, a
nodwyd y byddai modd gweld yn well y cyllid arfaethedig a'r newidiadau ardoll
tebygol fel hyn, gyda'r bwriad y byddai unrhyw effaith yn y dyfodol yn cael ei
deall cyn gosod cyllideb flynyddol.
Nododd aelod, pan fo'n bosib, y byddai arian sydd heb ei wario yn cael ei hawlio yn ôl fel arfer wrth ystyried y straen ariannol ar nifer o awdurdodau lleol, ond nodwyd bod cario cronfeydd ymlaen i gronfeydd wrth gefn i gefnogi'r rhaglen Cynllun Datblygu Strategol pum-mlynedd yn briodol wrth ystyried natur statudol y gwaith, yr angen i leihau effeithiau ardoll a'r budd o allu lliniaru ar gyfer y dyfodol. Mewn ymateb, adroddwyd y dylai Cynllun Datblygu Strategol, dros amser, leihau dyblygu ac arwain at ddull mwy effeithlon a symlach i adolygu cynllun datblygu lleol a dechrau cronni arbedion ariannol yn y tymor hwy.
Dogfennau ategol: