Cyflwynwyd gan:Cyng Craig ab Iago
Penderfyniad:
Cymeradwywyd a
galluogwyd y Gwasanaeth Parcio i fwrw ‘mlaen i wireddu dau gynllun arbedion
sydd angen
ystyriaeth bellach cyn dod i benderfyniad terfynol, sef:
1.1.1 Ymestyn oriau
gorfodaeth meysydd parcio arhosiad byr o 10:00 hyd at 16:30 i
9:00 hyd at
17:00.
1.1.2 Addasiad i Strwythur Ffioedd Arhosiad Hir
Band 2.
Cymeradwywyd
gorchymyn parcio newydd sydd yn cysoni trefniadau cyfredol a chynnwys y newidiadau
uchod.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd a galluogwyd y Gwasanaeth Parcio i fwrw ‘mlaen
i wireddu dau gynllun arbedion sydd angen ystyriaeth bellach cyn dod i
benderfyniad terfynol, sef:
Ymestyn oriau gorfodaeth meysydd parcio arhosiad byr o 10:00
hyd at 16:30 i 9:00 hyd at 17:00.
Addasiad i Strwythur Ffioedd Arhosiad Hir Band 2.
Cymeradwywyd gorchymyn parcio newydd sydd yn cysoni
trefniadau cyfredol a chynnwys y newidiadau uchod.
TRAFODAETH
Rhoddwyd cefndir i’r eitem, gan nodi fod y cynllun hwn yn
rhan o’r cynlluniau i gyfarch y diffyg rhwng y targed incwm parcio a’r hyn oedd
yn cael ei gyflawni. Nodwyd y bu’r eitem gerbron y Cabinet yn 2024, a
chadarnhawyd bod yr hyn a gymeradwywyd bellach yn weithredol ac yn perfformio
fel y rhagolygwyd.
Datganwyd bod y targed incwm wedi cynyddu ers i’r adroddiad
gael ei gyflwyno yn 2024/25, felly bod angen cymryd camau pellach i’w gyrraedd.
Datgelwyd bod y newidiadau a’u cyflwynwyd yn 2025 wedi eu
derbyn yn weddol, ac mai ond ychydig o adwaith a ddeilliodd o hynny. Tynnwyd
sylw at y tocynnau tymor sy’n cynnig gwerth am arian da o’i gymharu â thalu
gyda phob ymweliad.
Eglurwyd bod yr Adran wedi adolygu’r gorchymyn parcio, a
daethpwyd i’r casgliad bod angen cyflwyno gorchymyn newydd sy’n dod a mwy o
gysondeb thaclusrwydd o ran mapiau o’r meysydd parcio er enghraifft.
Amlygwyd bod y gwasanaeth yn y broses o gyflwyno 32 peiriant
talu ac arddangos newydd, gyda’r bwriad o ddarparu gwasanaeth o well safon i’r
cwsmer yn ogystal â sicrhau bod yr incwm yn cael ei ddenu.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Adnabuwyd ei bod yn hynod anodd i gymharu
sefyllfa strwythur parcio Gwynedd â siroedd eraill, oherwydd bod y strwythurau
yn amrywio o sir i sir. Er hyn, nodwyd bod modd cymharu rhai agweddau megis
prisiau tocynnau tymor blynyddol - ychwanegwyd bod y tocynnau hyn yn rhesymol
iawn yng Ngwynedd. Adroddwyd bod adborth gan ymwelwyr hefyd yn cefnogi’r ffaith
fod parcio yng Ngwynedd yn rhesymol o’i gymharu â’u hardaloedd lleol hwy.
Eglurwyd y credir bod cydbwysedd wedi’i gyrraedd yma o ran darparu ar gyfer anghenion
lleol ar y cyd â chynhyrchu incwm ble mae modd.
·
Cyfeiriwyd at brisiau tocynnau parcio lleol a’r
tocynnau parcio tymhorol, ac esboniwyd yr hyn a gynigir i drigolion. Datgelwyd
bod yr holl wybodaeth ynghylch y ddarpariaeth hon ar wefan y Cyngor.
·
Holwyd a oes ystyriaethau wedi’u gwneud i
effaith yr oriau gorfodaeth estynedig ar fusnesau lleol. Sicrhawyd bod
strategaeth parcio ar y stryd, sy’n galluogi i bobl barcio ar y stryd am
gyfnodau o 30munud i awr er mwyn galw’n sydyn i mewn i siopau.
·
Cwestiynwyd sut y caiff y newid hwn ei
gyfathrebu â’r cyhoedd, fel nad yw pobl yn cael eu dal allan. Mewn ymateb,
cynigwyd bod cyfle i fynd ymhellach na’r hyn sy’n ofynnol yn statudol wrth
rybuddio am y newid hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol trigolion.
·
Cynigiwyd y dylid cynnig cyfnod gras am gyfnod
cychwynnol y cyfnod gorfodaeth estynedig, ond sicrhawyd bod digon o amser rhwng
cymeradwyo’r cynnig a’i roi mewn grym er mwyn codi ymwybyddiaeth ddigonol o’r
newid. Ategwyd yr heriau y byddai cyflwyno cyfnod gras yn ei achosi o ran
cysondeb ar draws y sir, a’r heriau i’r swyddogion sy’n rhoi’r gorchmynion ar
waith.
·
Cyfeiriwyd at yr asesiad effaith cydraddoldeb,
gan fynegi balchder nad oes newid i ddeiliaid bathodyn glas. Adnabuwyd yr her y
mae pobl hŷn yn ei gael i ddefnyddio’r peiriannau parcio hyn, a
chynhigiwyd y dylid rhoi sylw i wneud meysydd parcio yn fwy oed gyfeillgar wrth
symud ymlaen. Mewn ymateb, gobeithiwyd y bydd y peiriannau newydd sy’n dod i'r
meysydd parcio yn cynnig mwy o gysondeb i drigolion a bod ymgais i wneud y
gwasanaeth yn fwy hygyrch.
· Tynnwyd
sylw at y ffaith nad oes signal ffôn mewn nifer o ardaloedd, felly bod rhai
pobl yn methu a thalu o ganlyniad.
Awdur:Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd
Dogfennau ategol: