Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones
Penderfyniad:
Cymeradwywyd cyhoeddi rhybudd statudol, yn caniatáu cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac arweiniad Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 011/2018: ar y cynnig a ganlyn –
“Cau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026.”
Bydd dalgylch Ysgol Cefn Coch yn cael ei ymestyn i gynnwys
dalgylch presennol Ysgol Y Garreg.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd cyhoeddi rhybudd statudol, yn caniatáu cyfnod
gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod yn unol â gofynion Deddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac arweiniad Cod Trefniadaeth Ysgolion
Llywodraeth Cymru 011/2018: ar y cynnig a ganlyn –
“Cau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch
fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026.”
Bydd dalgylch Ysgol Cefn Coch yn cael ei ymestyn i gynnwys
dalgylch presennol Ysgol Y Garreg.
TRAFODAETH
Mynegwyd tristwch wrth gyflwyno’r eitem hon ac amlygwyd bod
Ysgol y Garreg wedi gwasanaethu pentref Llanfrothen a’r gymuned ehangach dros
gyfnod hir.
Datganwyd bod gorfod cau ysgolion yn deillio o’r newidiadau
yn nemograffeg y Sir. Wrth gyfeirio at effaith y newidiadau hyn, datgelwyd bod
ychydig dros 1,500 yn llai o blant 0-15 oed yn y Sir yn 2021 o’i gymharu â
2011. Pwysleisiwyd pwysigrwydd trafod sefyllfa Ysgol y Garreg mewn cyd-destun
ehangach, gan nad yw sefyllfa’r Ysgol hon yn unigryw i Wynedd nac i Gymru –
cyfeiriwyd at y nifer llai o blant sy’n byw yn ein cymunedau.
Tynnwyd sylw at y ffaith mai 2 ddisgybl sy’n mynychu Ysgol Y
Garreg, a’r disgyblion hynny ym mlwyddyn 6. Ychwanegwyd nad oes unrhyw ddisgybl
wedi cofrestru ar gyfer cychwyn yn yr Ysgol ym mis Medi chwaith, felly ni fydd
disgyblion yn yr Ysgol. Nodwyd nad yw dyfodol Ysgol y Garreg yn gynaliadwy o
ganlyniad.
Diolchwyd i holl staff a llywodraethwyr yr Ysgol am eu
gwasanaeth dros y blynyddoedd.
Ategwyd tristwch y sefyllfa gan Aelod Lleol Ward Glaslyn, a
soniwyd bod yr Ysgol wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned ers oddeutu 143 o
flynyddoedd. Pwysleisiwyd y newid hwn mewn demograffeg a’r lleihad yn nifer o
blant yn ein cymdeithas, a chyfeiriwyd at allu rhieni i ddewis i ba ysgol i
anfon eu plant. Anogwyd y Cyngor gan yr Aelod Lleol i ystyried ailstrwythuro
adeilad yr Ysgol fel canolfan arbenigol ar gyfer disgyblion sy’n cael trafferth
setlo mewn ysgolion prif lif, ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer Ysgol Anghenion
Dysgu Arbennig.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Holwyd am farn y gymuned leol am y sefyllfa
bresennol a’r dyfodol pe bai’r dewis i gau’r Ysgol. Mewn ymateb, nodwyd bod y
weithdrefn i gau Ysgol sydd â llai na 10 disgybl yn wahanol i’r hyn a fyddai’n
ofynnol gydag ysgol fwy. Cadarnhawyd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal
gyda’r Ysgol a’r llywodraethwyr. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 92% o blant y
dalgylch eisoes yn cael eu haddysgu mewn dalgylchoedd eraill, a ddengys bod
nifer o rieni wedi gwneud y penderfyniad i anfon eu plant i ysgol arall yn
barod.
·
Ehangwyd ar y gwahaniaeth yn y weithdrefn o gau
ysgol sydd â llai na 10 o blant - nodwyd
nad oes ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel rhan o drefn cau ysgol sydd â llai
na 10 disgybl ond bod sesiynau ymgysylltu dal yn cael eu cynnal, ac yn dilyn
hynny mae’r drefn yn symud yn syth i gyflwyno’r rhybudd statudol i gau’r ysgol.
Cadarnhawyd y bydd cyfle i bobl wrthwynebu, ac y caiff y gwrthwynebiadau sydd
wedi eu cyflwyno eu hystyried cyn dod i benderfyniad terfynol.
·
Pryderwyd am staff Ysgol y Garreg a gofynnwyd a
fydd swyddi eraill ar eu cyfer. Amlygwyd bod nifer o staff ar gytundebau tymor
byr neu dros dro felly y bydd y rheiny yn dirwyn i ben. Eglurwyd bod
trafodaethau wedi mynd rhagddo gyda’r staff arlwyo a glanhau am y camau nesaf.
·
Mynegwyd pryder am gyflymder dirywiad y
niferoedd disgyblion. Ymfalchïwyd bod asesiad effaith wedi’i gynnal, er nifer
isel y disgyblion yn yr Ysgol.
·
Ategwyd y syndod am y gwymp yn y niferoedd
disgyblion gan swyddogion yr Adran Addysg, gan nodi fod 17 disgybl yn mynychu’r
Ysgol flwyddyn yn ôl. Esboniwyd nad oes gan ysgolion bach y gwydnwch i ddygymod
â newidiadau mewn niferoedd i’r un graddau ag ysgolion mwy, felly bod y broblem
hon yn un sy’n codi’n aml yng Ngwynedd.
·
O ran effaith cau Ysgol y Garreg ar ysgolion
cyfagos, eglurwyd nad oes effaith yn cael ei ragweld gan fod y rhan fwyaf o
rieni yn dewis anfon eu plant i ysgolion mewn dalgylchoedd eraill yn barod.
Cydnabuwyd nad oes modd rhoi ateb pendant am yr effaith hir dymor ar y funud.
·
Trafodwyd bod ystyriaethau wedi cael eu gwneud
ynglŷn ag ôl-ddefnydd posib i’r adeilad. Amlygwyd nad oes penderfyniad
wedi ei wneud hyd yma gan ei fod yn ddibynnol ar adnoddau’r Adran a’r galw am
ddarpariaeth.
Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg
Dogfennau ategol: