Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Strategaeth Ysgolion 2026 - 2036 (Atodiad 1), a
dirprwywyd awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn ymgynghoriad â
Phennaeth yr Adran Addysg, i wneud newidiadau an-arwyddocaol
a golygyddol i’r Strategaeth cyn ei chyhoeddiad ffurfiol, ar yr amod nad yw’r
newidiadau hynny’n effeithio’n sylweddol ar gynnwys, cyfeiriad strategol,
blaenoriaethau na goblygiadau ariannol y Strategaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd Strategaeth Ysgolion 2026 - 2036 (Atodiad 1), a
dirprwywyd awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn ymgynghoriad â
Phennaeth yr Adran Addysg, i wneud newidiadau an-arwyddocaol
a golygyddol i’r Strategaeth cyn ei chyhoeddiad ffurfiol, ar yr amod nad yw’r
newidiadau hynny’n effeithio’n sylweddol ar gynnwys, cyfeiriad strategol,
blaenoriaethau na goblygiadau ariannol y Strategaeth.
TRAFODAETH
Eglurwyd bod y Strategaeth flaenorol wedi dod i ben a’i fod
yn allweddol i strategaeth arall gael ei rhoi mewn lle ar gyfer y 10 mlynedd
nesaf.
Amlygwyd bod trafodaethau eang wedi eu cynnal mewn perthynas
â’r Strategaeth, a bod mewnbwn y sector, y gweithlu addysg a’r Fforwm Sirol
Plant a Phobl Ifanc wedi ei dderbyn yn ogystal.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd y Strategaeth hon i amlygu
gweledigaeth ac uchelgais y Cyngor am y 10 mlynedd nesaf. Amlinellir gan y
ddogfen yr heriau sy’n wynebu’r Sir, a nodwyd pwysigrwydd bod yr awdurdod a’r
cyhoedd yn ymwybodol ac yn effro i’r heriau hynny.
Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i’r
cyfarfod i gyflwyno argymhellion y Pwyllgor. Adnabuwyd y Strategaeth fel dogfen
allweddol i lywio cyfeiriad addysg y Sir ac esboniwyd y credir gan y Pwyllgor
fod angen cryfhau rhai elfennau o’r Strategaeth cyn symud ymlaen. Adroddwyd bod
angen ymgorffori lles a diogelu plant a phobl ifanc yn fwy pendant i mewn i’r
ddogfen, a bod galw i sicrhau fod llais y plentyn yn rhan ganolog o’r
cynllunio. Ymfalchïwyd bod newidiadau wedi eu gwneud i’r ddogfen yn sgil yr
argymhellion hyn. Wrth gyfeirio at anghyfartaledd, nodwyd bod diffyg mesurau
clir i asesu effaith penderfyniadau strategol ar y dysgwyr fwyaf bregus. Yn
ogystal, eglurwyd i’r Pwyllgor drafod yr heriau parhaus wrth recriwtio a
chadw’r gweithlu, gan ychwanegu fod angen mwy o bwyslais ar gynllunio’r
gweithlu i sicrhau cynaladwyedd hirdymor.
Aethpwyd ymlaen i egluro argymhellion pellach y Pwyllgor
Craffu, a gaiff eu nodi yn yr adroddiad.
Cadarnhawyd bod ystyriaeth wedi’i roi i’r holl argymhellion
a godwyd gan y Pwyllgor Craffu yn yr adroddiad.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Wrth gyfeirio at y newid yn nemograffeg yr
ardal, cwestiynwyd a oes ateb i’r her o recriwtio a chynllunio’r gweithlu yn y
Strategaeth hon. Mewn ymateb, datganwyd nad yw pob agwedd o’r maes yn cael ei
gyfarch drwy’r Strategaeth hon a bod amryw o strategaethau a gweithdrefnau
eraill i gyfarch yr agweddau hynny. Cyfeiriwyd at heriau eraill megis cyfrwng
iaith, yr angen i athrawon ddysgu amryw o bynciau, a’r ffaith fod nifer o bobl
ifanc y Sir yn symud i ffwrdd. Cydnabuwyd nad yw’r heriau hyn yn unigryw i Wynedd,
a bod y Strategaeth yn rhoi sylw parhaus i’r heriau hyn.
·
Mynegwyd syndod a siom bod yr holiadur
electronig ond wedi derbyn 19 ymateb, er ei fod yn agored am 8 wythnos. Ategwyd
y siom hwn gan y swyddogion, ond nodwyd efallai fod hyn yn adlewyrchiad o’r
ffaith iddo gael ei drafod cryn dipyn gydag ysgolion yn barod. Datgelwyd bod
nifer wedi cychwyn yr holiadur ond nid ei gyflwyno.
·
Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi ymgysylltu gyda’r
Fforwm Plant a Phobl Ifanc, ac eglurwyd am y drafodaeth yn y sesiwn.
Pwysleisiwyd bod barn gref y dylai’r Gymraeg fod yn rhan greiddiol ac yn
flaenoriaeth o fewn holl weithdrefnau’r Cyngor.
·
Holwyd a oes bwriad i ymgynghori ac ymgysylltu
ymhellach, yn dilyn y diffyg ymatebion i’r holiadur electroneg. Amlygwyd bod
cyfle teg wedi ei roi i bobl leisio eu barn ac felly nad oes bwriad i
ymgysylltu eto.
·
Gofynnwyd sut y bydd llwyddiant y Strategaeth hon
yn cael ei fesur, a sut y caiff ei hadolygu dros amser. Cyfeiriwyd at gyrraedd
y nod o sicrhau bod plant y Sir yn cyrraedd eu llawn botensial, a bod yr addysg
a’r gefnogaeth orau’n cael ei roi i ddisgyblion. Ategwyd na fydd pob ysgol yn
unfath, ond cadarnhawyd na fydd gwahaniaeth yn y safonau na’r cyfleoedd y mae’r
bobl ifanc yn eu derbyn.
·
Cwestiynwyd sut y bydd modd mesur cynnydd yn
lles emosiynol a llesiant disgyblion yn gyffredinol. Mewn ymateb, soniwyd bod
nifer o ysgolion yn gwneud hynny drwy amryw o holiaduron. Ychwanegwyd bod
presenoldeb a chyrhaeddiad disgyblion hefyd yn cael eu defnyddio fel
dangosyddion.
·
Nodwyd bod trafodaethau ynglŷn â mesur
llesiant disgyblion yn mynd rhagddo, a soniwyd am rôl llywodraethwyr o fewn
ysgolion i drafod hyn. Amlygwyd pwysigrwydd i lesiant gael ei drafod a’i fesur
ar lefel ysgolion unigol, yn ogystal ag ar lefel sirol.
·
Cyfeiriwyd yn ôl at y drafodaeth am y Fforymau
Plant a Phobl Ifanc, gan ddatgan mai’r bwriad yw dod a’r fforymau lleol at ei
gilydd er mwyn cynnal fforwm sirol. Adnabuwyd pwysigrwydd gwneud hyn mewn modd
cynaliadwy, a’i fod yn cael ei wreiddio yng ngwaith y Cyngor.
Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg
Dogfennau ategol: