Cyflwynwyd gan:Cyng Huw Wyn Jones
Penderfyniad:
Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2025) y
dylid:
1. Sefydlu cyllideb o
£379,701,110 ar gyfer 2026/27 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390
a £115,691,720 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.75% sylfaenol ynghyd
â 0.42% pellach i gyfarch y lefi gan yr Awdurdod Tan, ac felly’n rhoi cyfanswm
o 5.17%).
2. Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones
PENDERFYNIAD
Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2025) y
dylid:
1. Sefydlu cyllideb o
£379,701,110 ar gyfer 2026/27 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390
a £115,691,720 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.75% sylfaenol ynghyd
â 0.42% pellach i gyfarch y lefi gan yr Awdurdod Tan, ac felly’n rhoi cyfanswm
o 5.17%).
2. Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r rhagolygon ariannol o’r
flwyddyn ariannol bresennol. Datganwyd bod oddeutu £5.3 miliwn o orwariant ar
draws y Cyngor, a hynny lle nad oedd cyllidebau’r adrannau yn diwallu’r galw am
wasanaeth.
Cyfeiriwyd at y cynnydd yn y setliad a dderbyniai’r Cyngor
gan Lywodraeth Cymru i 4.1%. Nodwyd fod hyn dal ymysg yr isaf yng Nghymru, ond
yn gynnydd gwell na’r disgwyl.
Fel rhan o’r broses gosod cyllideb, rhagdybiwyd bod codiad
cyflog posib o 4% i athrawon, a 3.4% i weddill gweithlu’r Cyngor.
Rhoddwyd trosolwg o’r bidiau refeniw ar gyfer y flwyddyn
nesaf, a’r traws doriad fesul adran.
Adnabuwyd bod cynnydd arferol mewn ardollau, sy’n cynnwys £458,000
i'r Awdurdod Tân, ac yna symiau llai i Gyfoeth Naturiol
Cymru, Awdurdod Parc Eryri a Chydbwyllgor Corfforedig y Gogledd.
Amcangyfrifwyd y bydd angen gwario oddeutu £23.3 miliwn
ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn cynnal gwasanaethau’r Cyngor.
Amlygwyd y daw’r pwysau mwyaf o chwyddiant cyflogau, chwyddiant cyffredinol a’r
cynnydd mewn galw am wasanaethau.
Cadarnhawyd bod gofynion gwario’r flwyddyn ariannol 2026/27,
yn oddeutu £380miliwn. Amlygwyd bod y setliad gan Lywodraeth Cymru yn oddeutu
£264miliwn, sy’n gadael bwlch o dros £116miliwn i’w lenwi gan Dreth Cyngor ac
arbedion.
Nodwyd bod gwerth £644 o filoedd o arbedion eisoes wedi eu
cymeradwyo i
Gyllideb 2026/27 - gydag oddeutu chwarter miliwn o bunnoedd o’r arbedion hyn ar
gael i gyfrifo'r bwlch ariannu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Ers cyhoeddi’r adroddiad, tynnwyd sylw at y ffaith bod y
Cyngor wedi cael cadarnhad y bydd yn derbyn cymhorthdal tuag at ei gyfraniad at
gostau’r Awdurdod Tân, sydd yn oddeutu £50,000 ychwanegol. Datgelwyd bod y
Cyngor hefyd wedi manteisio ar y cyfle i ad-dalu benthyciad cyfalaf yn
ddiweddar iawn, sy’n gostwng y swm blynyddol sydd angen ei glustnodi ar gyfer
talu’r benthyciadau hyn.
Nodwyd bod hyn yn galluogi lleihau’r cynnydd mewn treth
Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf o 4.9%, sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad, i
4.75%. Ychwanegwyd y bydd yr elfen tân yn ychwanegol i hyn.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Gwnaed sylwad o’r rhwystrau y mae cyllideb fesul
blwyddyn yn ei greu ar gyfer cynghorau, a gofynnwyd unwaith eto am gyllideb
aml-flwyddyn gan y Llywodraeth fel bod modd cynllunio o flaen llaw.
·
Mynegwyd balchder bod arian ychwanegol wedi’i
gyllidebu i gefnogi Ysgolion Arbennig a gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol
o fewn ysgolion prif lif. Amlygwyd mai cyffwrdd yr ochrau yn unig y mae hyn, a
bod angen buddsoddiad cenedlaethol yn y maes hwn.
·
Holwyd am fanylion ychwanegol am yr ad-daliad o
fenthyciad a wnaed. Mewn ymateb, datgelwyd bod cyfle wedi dod i ad-dalu
benthyciad yn gynnar heb y costau ychwanegol. Cadarnhawyd bod cyngor wedi ei
dderbyn, a bod ad-dalu’r benthyciad yn gynnar yn cynnig arbedion i’r Cyngor.
Ychwanegwyd nad yw hyn yn digwydd yn aml.
·
Datganwyd cefnogaeth i’r buddsoddiad yn
adeiladau’r Cyngor, gan gynnwys ysgolion a chartrefi henoed, yn dilyn
blynyddoedd o lymder.
· Croesawyd
y bidiau parhaol sy’n mynd tuag at y diffyg cyllideb cyffredinol, ai fod yn
dangos awydd y Cyngor i wneud beth sy’n iawn i drigolion y Sir drwy ddarparu
i’r galw cynyddol sydd ar wasanaethau.
· Cydnabuwyd
bod unrhyw gynnydd yn y Dreth Cyngor am gael effaith ar bobl y Sir. Amlygwyd
bod cymorth ar gael, a bod posib dod o hyd i’r wybodaeth ar wefan y Cyngor neu
drwy ddod i gyswllt â Galw Gwynedd.
Awdur:Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid
Dogfennau ategol: