Agenda item

I graffu’r ddarpariaeth bresennol a’r adnoddau sydd ar gael i wireddu’r strategaeth.

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad.
  2. Nodi gwerthfawrogiad am y gwaith sy’n mynd rhagddo gan swyddogion yr adran Plant a Theuluoedd.
  3. Datgan pryder am y ffordd mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu yn y tymor byr ac effaith hynny ar y gwasanaeth a’r gweithlu.
  4. Gofyn am adroddiad ar adolygiad Gwasanaeth Derwen pan fydd hynny yn briodol.
  5. Gofyn am fanylion pellach am y cydweithio rhwng timau sy’n gweithredu Strategaeth Cadw Teuluoedd gyda’i Gilydd a swyddogion Adran Addysg. 
  6. Gofyn i’r cyngor sicrhau bod holl wasanaethau yn parhau ar gael er gwaethaf cyfnodau mamolaeth a gofyn am ddiweddariad sut mae hyn yn cael ei gyflawni.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd. Eglurwyd bod y gwaith hwn yn canolbwyntio ar roi cymorth amserol a penodol er mwyn cefnogi teuluoedd a’u cadw gyda’i gilydd ac yn ddiogel. Nodwyd bod strategaeth yr Adran yn seiliedig ar egwyddor glir, i gadw teuluoedd gyda’i gilydd cyn cyrraedd sefyllfa o argyfwng ac atal plant a phobl ifanc rhag mynd i ofal. Nodwyd mai prif nod yr Adran ydi cadw plant a phobl ifanc gyda’i teuluoedd os yw’n saff i wneud hynny a lleihau’r angen am ymyrraeth statudol. Nodwyd bod y strategaeth yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau ataliol o fewn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, gan gynnwys: 

 

·               Teuluoedd yn gyntaf 

·               Tîm o amgylch y teulu 

·               Tîm Cefnogi’r Teulu  

·               Trobwynt  

·               Derwen  

·               Hafan y Sêr  

 

Pwysleisiwyd bod cydweithio aml asiantaeth yn greiddiol i’r dull hwn gyda phartneriaid megis iechyd, addysg, tai a'r trydydd sector yn cyfrannu at gefnogi teuluoedd. Amlygwyd bod yr adroddiad yn amlinellu’r galw cynyddol ar y gwasanaethau hyn, y cymhlethdod cynyddol o ran anghenion teuluoedd a’r pwysau ar adnoddau, gan gynnwys dibyniaeth ar gyllid grant. Tynnwyd sylw at y cynnwys sydd yn dangos bod y gwaith ataliol hwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, wrth helpu sefydlu teuluoedd a lleihau'r angen i blant ddod i ofal. Nodwyd bod yr hybiau cymunedol hefyd yn helpu hybu gwybodaeth ar gyfer y teuluoedd. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad a chanmolwyd y gwaith sydd yn mynd rhagddo yn yr Adran wrth warchod teuluoedd mwyaf bregus Gwynedd. Cydnabuwyd bod y gwasanaeth yn gymhleth ac aml haenog a chanmolwyd ymroddiad y staff i gefnogi a diogelu plant a phobl ifanc y sir. 

 

Yn ystod y drafodaeth, cododd y sylwadau a chwestiynau a ganlyn; 

 

Wrth gyfeirio at ran 4.16 yn yr adroddiad, holwyd os yw’r niferoedd o blant a phobl ifanc sydd yn aros am asesiad ASD/ADHD yn cynnwys asesiadau awtistiaeth hefyd. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y nifer o blant a phobl ifanc cyfeiriwyd at yn yr adroddiad yn cynnwys amrywiaeth eang o blant a phobl ifanc sydd yn niwro wahanol, gan gynnwys awtistiaeth, dyspracsia, dyslecsia ayyb. 

 

Cyfeiriwyd at cyfarfod diweddar o’r Panel Rhiantu Corfforaethol lle bu gynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd yn mynychu, gan nodi bod y rhestrau aros am y cyflyrau yma yn cynyddu. Mynegwyd siom am hyn a nodwyd bod diagnosis am y cyflyrau yma gan seicolegydd yn holl bwysig er iechyd a lles unigolion. Hyderwyd bod y Bwrdd Iechyd bellach yn buddsoddi yn y gwaith hyn er mwyn sicrhau bod y rhestrau aros yn dod i lawr er mwyn cyfarch y galw cynyddol a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn aros mwy na 3 blynedd am asesiad. Gobeithiwyd bydd 2 flynedd yn fwy cyffredin o ran amser aros cyn bo hir. Atgyfnerthwyd bod gwaith y Tîm Awtistiaeth yng Ngwynedd yn cefnogi’r gwaith a’r strategaeth hwn wrth gynnig arbenigedd hanfodol a chynhwysfawr. Nodwyd eu bod yn cydweithio’n agos iawn efo’r Tîm Niwroddatblygiadol o fewn y Bwrdd Iechyd i gefnogi plant a phobl ifanc tra eu bod yn aros am ddiagnosis. Nodwyd eu bod yn cefnogi unigolion er mwyn ceisio lleihau’r pwysau a chryfhau’r darpariaeth sydd ar gael gan y Cyngor er budd y teuluoedd.  

 

Wrth amlygu bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am wasanaethau dros y ddwy flynedd diwethaf, holwyd beth yw’r achos mwyaf am y cynnydd yn y galw am wasanaethau teuluoedd yn gyntaf. Mewn ymateb, cydnabuwyd mai tasg heriol yw pennu rheswm penodol am y cynnydd oherwydd natur cymhleth y mater. Cydnabuwyd bod llawer o resymau amrywiol yn cyfrannu at y cynnydd yn y galw, gan nodi bod cynnydd ymwybyddiaeth teuluoedd hefyd yn eu hannog i gyflwyno eu plant am gyfeiriad a holi am gefnogaeth. Mynegwyd bod y sylw cynyddol ar les plant yn ffactor, yn ogystal â’r cynnydd yn y sylw yn y wasg a’r cyfryngau yn awtistiaeth ac achosion niwro amrywiol, sydd yn annog teuluoedd i gael diagnosis cywir ar gyfer eu plant. 

 

Amlygwyd bod newid sicr wedi bod mewn ymddygiad ac anghenion plant ers cyfnod COVID. Tynnwyd sylw at effeithiau tlodi yng Nghymru, a phwysleisiwyd yr angen i gefnogi plant a sicrhau bod teuluoedd yn aros efo'i gilydd ar draws y sir. Nodwyd rhwystredigaeth nad oedd y data ar gael gan y Bwrdd Iechyd yn y cyfarfod o’r Panel Rhiantu yn ddiweddar a ymrwymwyd i ddod i’r afael ar y data yma yn fuan. 

 

Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth Trobwynt. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod llawer o fodelau a rhaglenni yn cael eu defnyddio ar hyn o’r bryd i gefnogi rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc. Rhoddwyd enghreifftiau, gan nodi bod y gefnogaeth yn seiliedig ar a dymuniadau’r teulu perthnasol. Eglurwyd bod y gwasanaeth trobwynt yn canolbwyntio ar gyfuniad o bedwar elfen wahanol, a bod y modelau a strategaethau yn amrywio o ran dwysedd ac wedi eu llunio yn arbennig i weddu anghenion unigol. Manylwyd ar yr ymyrraeth, gan nodi bod y lefel yn amrywio, o ymyriadau dwys o 10 awr yr wythnos, hyd at flwyddyn gyda theuluoedd. Nodwyd bod yr ymyriadau hyn yn helpu cryfhau perthnasau, gwella lles emosiynol a chreu cartrefi mwy diogel a maethlon. Manylwyd ar y rhaglenni ar gael, megis siarad therapiwtig, cefnogi rhieni wrth chwarae efo’u plant a dysgu sgiliau amrywiol. Eglurwyd bod rhaglenni gwahanol ar gael i ferched a dynion ifanc sydd wedi dioddef trais a chefnogaeth gyson ar gael iddynt. Pwysleisiwyd bod anghenion teuluoedd Gwynedd yn hynod amrywiol, felly mae’r angen i fod yn hyblyg ac i deilwra cefnogaeth benodol yn hanfodol ar draws y sir. 

 

Cyfeiriwyd at yr heriau ariannol yn ymwneud ar waith hyn, gan nodi bod cyfnodau mamolaeth o fewn staff yn arwain at drosiant staff uchel ac anawsterau o ran pa gefnogaeth benodol sydd ar gael a phryd. Mewn ymateb i hyn, gofynnwyd beth mae’r Cyngor yn ei wneud i sicrhau nad yw darpariaeth gwasanaethau yn cael eu crebachu neu eu heffeithio yn negyddol oherwydd cyfnodau mamolaeth. Cydnabuwyd bod cyfarch anghenion y gwasanaeth yma yn heriol am amryw o resymau, gan gynnwys y ffaith ei fod yn heriol recriwtio staff a chymwysterau penodol ac arbenigol am gyfnod dros dro. Sicrhawyd bod y Cyngor yn y broses o geisio ymafael ar hyn, wrth gynnig cytundebau swyddi am gyfnod penodol i geisio hybu’r swydd a’i wneud yn fwy deniadol. Nodwyd bod yr adran hefyd yn hysbysebu ac yn creu swyddi a chytundeb parhaol i unigolion a chynnig hyfforddiant iddynt wrth ganolbwyntio ar fanteision hunanddatblygiad. 

 

Mewn ymateb i bryderon aelodau ynghylch darpariaeth a chefnogaeth i’r gymdeithas cefn gwlad y sir, cadarnhawyd bod y tîm yn gweithredu ar draws Gwynedd, gyda swyddfeydd ledled y sir. Amlygwyd bod swyddfeydd wedi eu lleoli yn Nolgellau, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli yn ogystal â Chaernarfon er mwyn gallu adnabod beth sydd ar gael yn y cymunedau a beth yw’r anghenion ymhob ardal. Nodwyd bod cydweithio ar draws y timau yn greiddiol i’r strategaethau, gan nodi bod amryw o sefydliadau cefnogaeth wedi eu lleoli yn Neiniolen, Bethesda, Hyfi a Talsarn. 

 

Holodd Aelod pa fath o gydweithio sydd yn mynd rhagddi efo’r Adran Addysg i gefnogi plant a theuluoedd. Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhai plant methu mynychu’r ysgol oherwydd amryw o resymau gwahanol, a holwyd pa fath o gydweithio a chefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd sydd yn wynebu heriau. Holwyd os yw’r Adran Plant yn cael mewnbwn i achosion penodol a pha fath o gymorth sydd ar gael, er enghraifft, i achosion gwaharddiadau. Mewn ymateb i’r cwestiwn, cadarnhawyd bod cydweithio agos yn digwydd rhwng yr adrannau, ar lefelau achosion unigol a strategaethau. Manylwyd ar yr ymdrechion i wella presenoldeb mewn ysgolion, gan nodi bod panel penodol yn edrych ar yr elfen ‘drws cywir’ i ymafael ar heriau. Nodwyd bod hyn yn cynnwys yr adrannau addysg, iechyd a phlant. Cadarnhawyd bod trafodaethau yn mynd ymlaen wrth fynd trwy restrau plant sydd ddim yn mynychu’r ysgol, i weld pa achosion sydd yn berthnasol a fydd yn gallu derbyn cefnogaeth gan dimau o fewn yr adran plant yn ei gyfanrwydd. Ceisiwyd darganfod pa fath o gefnogaeth benodol sydd ei angen, er mwyn gallu cyfeirio achosion at y timau cywir, sydd yna yn cydweithio gydag asiantaethau pellach, megis y Bwrdd Iechyd. 

 

Holwyd os oes gwaith penodol yn mynd rhagddi i osgoi plant yn cael eu gwahardd o’r ysgol. Cadarnhawyd bod gwaith ymyrraeth yn mynd rhagddi ar lefelau gwahanol er mwyn taclo’r heriau penodol, ond cydnabuwyd bod llawer o waith i wneud i gefnogi plant a phobl ifanc er mwyn eu cadw yn yr ysgol. Ymhelaethwyd ar hyn, gan nodi bod yr adran yn cydweithio yn agos iawn efo’r Adran Addysg, wrth gydweithio ar nifer o baneli diogelu ac ysgolion. Nodwyd bod ymdrechion i gynnal cyfarfodydd rhwng swyddogion a rhai ysgolion. Sicrhawyd bod perthynas trawsadrannol da o fewn y Cyngor, sydd yn cryfhau ac yn gwella ar raddfa dda. 

 

Wrth drafod y cydweithio sydd yn mynd rhagddi rhwng yr adrannau, holwyd pa fath o waith sydd yn mynd ymlaen a sut mae’r tîm plant yn cydweithio efo tîm iechyd meddwl y Cyngor. Mewn ymateb, cyfeiriwyd at yr amrywiaeth helaeth o heriau sydd gan deuluoedd efo iechyd meddwl, yn sgil amryw o resymau ar draws y sir. Cydnabuwyd bod llawer o rheini yn dioddef gydag iechyd meddwl gwael. Eglurwyd bod y Tîm Oedolion a chymunedol yn cydweithio efo’r adran plant a theuluoedd yn yr achosion hyn, yn ogystal â chydweithio ag asiantaethau megis y Bwrdd Iechyd hefyd. Ymhelaethwyd bod y Tîm Iechyd Meddwl newydd y Cyngor yn cydlynu’r a chefnogi’r gwaith yma. 

 

Cyfeiriwyd at y gwasanaeth ataliol Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, sydd yn rhoi pwyslais ar ymyrraeth gynnar, gweithgarwch atal a chynnig cymorth ar gyfer teuluoedd cyfan. Nodwyd bod y rhaglen yn hyrwyddo gwaith amlasiantaethol er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth cyd-gysylltiedig pan fydd angen. Amlygwyd rhai esiamplau o sefyllfaoedd sydd yn codi efo perthnasau yn dirywio o fewn teuluoedd, lle bu’r rhaglen yn cynnig gwasanaethau cymodi. Eglurwyd bod cydweithio yn digwydd efo’r Tîm ôl 16 i gyflawni hyn a nodwyd bod hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn.   

 

Holwyd beth yw effaith dibyniaeth y Strategaeth Cadw Teuluoedd efo'i gilydd ar gyllid grant, a sut mae hyn yn effeithio’r gwasanaeth ar hyn o’r bryd. Mewn ymateb, cydnabuwyd mai hyn yw un o brif risgiau’r rhaglen a chydnabuwyd yr ansicrwydd ar gyfer y dyfodol. Amlygwyd yr heriau sydd yn codi trwy hyn, gyda chynllunio, staffio a’r gweithlu.  Er hyn, cadarnhawyd bod y cynllun yn gweithredu o fewn y grant yn sefydlog am gyfnod penodol. Eglurwyd bod y grantiau wedi bod ar gael i’r gwaith yma ers blynyddoedd, ac felly mae’r adran wedi esblygu i gynnal y ddarpariaeth o fewn cyfyngiadau’r arian grant. Pwysleisiwyd fod yr adran yn ddibynnol ar y grantiau yma i ffynnu, a bod pwysau cynyddol ar y galw yn cryfhau’r angen amdanynt. Holwyd beth fyddai’n bosib i aelodau’r Cyngor ei wneud i sicrhau mwy o gyllid ar gyfer y gwaith yma yn y Cyngor. Cydnabuwyd bod bosibilrwydd o lywodraeth newydd ddod i rym am dymor newydd, a fydd hyn yn cael effaith ar y gyllideb ar gael. Eglurwyd bod yr adran yn creu cynlluniau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, felly mae’r cynlluniau yn parhau am gyfnod cytundebau amrywiol. Eglurwyd bod angen cynllunio’r ddarpariaeth ar gael i deuluoedd Gwynedd o fewn y cyllid penodol sydd ar gael bob blwyddyn. 

 

Wrth gyfeirio at y nifer o achosion sydd yn cau yn llwyddiannus gan Gydlynwyr Tîm o Amgylch y Teulu, holwyd beth yw’r rheswm am y lleihad mewn achosion yn cau dros y 2 flynedd diwethaf. Eglurwyd bod natur y cyfeiriadau wedi dwysau, felly mae achosion yn debygol o barhau am gyfnodau llawer hirach, oherwydd yr angen a’r amser ychwanegol sydd yn cael eu treulio efo’r teuluoedd. Nodwyd hefyd bod diffyg adnoddau hefyd yn ffactor, gan fod y tîm sydd yn gweithio ar hyn yn dîm bach iawn - sydd yn cael effaith ar y niferoedd o achosion sydd yn cael eu cyflawni yn effeithlon. Sylwyd bod cyfnodau mamolaeth hefyd yn creu heriau, wrth i’r nifer o staff gweld hi’n anodd ymdopi efo’r llwydd gwaith, gyda rhai aelodau’r tîm i ffwrdd am gyfnodau. Nodwyd bod rhestr aros am gefnogaeth yn fyw, sydd yn pwysleisio’r nifer o deuluoedd yng Ngwynedd yn aros am gymorth. 

 

Gofynnwyd beth mae’r adran yn ei wneud i gydweithio efo asiantaethau i hybu iechyd a llesiant, yn enwedig iechyd meddwl. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod cydweithio yn digwydd yn gyson trwy Adrannau’r Cyngor a’r trydydd sector. Nodwyd bod amryw o sesiynau hwyl ar gael dros fisoedd yr haf i deuluoedd ar draws y sir. Nodwyd mai’r prif ffocws yw mwynhau amser cadarnhaol efo’r teulu a chyfle i fynychu llefydd braf a chyfarfod pobl newydd a chymdeithasu fel teulu. Eglurwyd bod gwasanaethau a gweithgareddau yn cael eu hyrwyddo ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a trwy wybodaeth i deuluoedd. Nodwyd bod y digwyddiadau a sesiynau yn digwydd ar draws y sir, mewn canolfannau amrywiol a safleoedd Byw yn Iach. 

Mewn ymateb i ymholiad, ymhelaethwyd ar yr hybiau cymunedol sydd wedi eu sefydlu yng Ngwynedd, sydd yn fodd o rannu gwybodaeth ar gyfer teuluoedd iddynt wybod pa fath o gefnogaeth sydd yn cael iddynt ac er mwyn gallu cyfeirio unigolion at wasanaethau cywir. Nodwyd bod hyn yn atgyfnerthu'r cyd-weithio amlasiantaethol rhwng gwasanaethau statudol, ataliol a’r trydydd sector. Cyfeiriwyd at Hwb Dinas Bangor, sydd yn cydweithio yn agos gyda Gwasanaethau Plant a nodwyd eu bod yn y broses o sefydlu hwb plant a phobl ifanc ar gyfer Bangor fydd yn cyd-fynd a Hwb Dinas Bangor. Nodwyd bod yr adran yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y teuluoedd yn gwybod bod lleoliad pendant i fynychu. Amlygwyd bod cyrsiau rhiantu a sesiynau ‘drop in’ ar gael yno i rieni a phlant mynychu am unrhyw gyngor. Maent yn annog y teuluoedd i helpu eu hunain a dewis a dethol o’r cymorth sydd ar gael yn annibynnol, wrth addysgu teuluoedd ar sut i fagu plant yn ddiogel, a chyfreithlon. Nodwyd bod tîm Cefnogi Teulu Dechrau’n Deg wedi rhoi sesiynau rhiant a babi yn Hwb yr Orsaf, Penygroes a bod cydweithio gyda nifer o dimau plant, awtistiaeth a chefnogi teuluoedd yn digwydd yn Hwb Porthi Dre, Caernarfon. Croesawyd sgwrs bellach gyda’r aelodau am y ddarpariaeth arfaethedig sydd ar gael i deuluoedd Gwynedd. 

 

Holwyd sut mae’r nifer cynyddol o achosion Derwen a Hafan y Sêr yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod y galw ar wasanaethau Hafan y Sêr a Derwen yn heriol. Nodwyd eu bod yn ceisio cadw’r galw am y gwasanaethau i lawr cyn lleied ag sydd yn bosib, trwy gynnig cefnogaeth amrywiol i deuluoedd trwy’r broses ymyrraeth gynnar. Nodwyd ei fod yn anodd rheoli’r nifer o gyfeiriadau sydd yn cael eu derbyn gan Derwen, yn enwedig, oherwydd natur cymhleth y cyfeiriadau. Nodwyd bod yr ystod o anghenion sydd yn bodoli yno yn uchel, felly mae’r adran yn ymdrechu i roi cymorth trwy weithgareddau grŵp drwy ddarpariaeth cyllid grant. Nodwyd bod ysgolion, gwasanaethau ieuenctid a chanolfannau Byw yn Iach hefyd yn darparu gweithgareddau amrywiol, fel rhan o’r ymdrech trawsadrannol i fod yn hyblyg a datblygu o fewn cyfyngiadau ymarferol ac ariannol. Ymhelaethwyd bod 2 adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o’r bryd, sydd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd darpariaeth yr adran addysg a gwasanaethau plant a chymdeithasol. Gobeithiwyd dod ac adroddiad ymlaen i’r Cabinet ym misoedd y Gwanwyn. Disgwylir cael yr adroddiad, sydd wedi ei gomisiynu ar y cyd efo Ynys Môn  i adolygu gwasanaethau Derwen, erbyn diwedd mis Chwefror. 

 

Holwyd am fwy o wybodaeth am yr Academi Gofal, ac os yw’r adran plant a chefnogi teuluoedd yn gallu manteisio ar y rhaglen wrth gyflogi prentisiaid. Nodwyd bod yr adran wedi cyflogi prentisiaid ar rhai adegau ac wedi manteisio ar gyfleoedd sydd yn codi pan mae sefyllfa gwasanaethau yn addas. Nodwyd bod yr Academi Gofal yn ased i’r Cyngor a diolchwyd am y gwaith da sydd yn mynd rhagddo. 

 

Yn ystod y drafodaeth, anogwyd swyddogion i amlygu’r ffaith bod darpariaeth Cymraeg a Saesneg ar gael i blant a theuluoedd ar draws Gwynedd yn yr adroddiadau. Cydnabuwyd hyn a chytunwyd i dynnu sylw at y ddarpariaeth hon yn y dyfodol. Gofynnodd aelod a yw’n bosib i’r adroddiadau bod yn fwy syml ar adegau, gan gynnwys gwybodaeth glir wrth amlinellu cryfderau a heriau’r adran, er mwyn i’r aelodau graffu yn fwy effeithiol. Cafwyd trafodaeth am gyfyngiadau’r drefn craffu ac amlygwyd yr angen i wella cynnwys a strwythur rhai adroddiadau er mwyn ceisio sicrhau gwell effaith craffu yn y pwyllgorau yn y dyfodol. 

 

Pwysleisiwyd bod plant yn parhau i berthyn i’r teulu wedi iddynt droi yn 16, a holwyd am fwy o fanylion sut mae’r timau sydd yn cyflawni strategaeth cadw teuluoedd efo'i gilydd yn cydweithio efo’r timau ôl 16. Mewn ymateb, sicrhawyd mai prif nod y timau ôl 16 ydi cadw teuluoedd efo'i gilydd. Er hyn, cydnabuwyd bod ystod o wahanol heriau i bobl ifanc yn eu harddegau yn amrywio o ran dwysedd a diogelwch. Cyfeiriwyd at faterion digartrefedd a’r nifer o ffactorau gwahanol, megis alcohol a chyffuriau, sydd yn cyfrannu at y broblem yma. Wrth gyfeirio at yr elfen diogelu, cadarnhawyd mai sicrhau bod y plentyn yn gallu byw gartref ydi’r nod bob tro. Eglurwyd bod amgylchiadau yn aml yn codi o sefyllfa gefndirol y plentyn / person ifanc a bod hyn yn gallu effeithio ar eu sefyllfa ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod plant yn aml yn gadael gofal ar ôl 16 ac felly mae’r pwyslais i barhau’r gefnogaeth ac i gadw teuluoedd efo'i gilydd yn holl bwysig. 

 

PENDERFYNIAD 

 

1.    Derbyn yr adroddiad. 

2.    Nodi gwerthfawrogiad am y gwaith sy’n mynd rhagddo gan swyddogion yr adran Plant a Theuluoedd. 

3.    Datgan pryder am y ffordd mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu yn y tymor byr ac effaith hynny ar y gwasanaeth a’r gweithlu.  

4.    Gofyn am adroddiad ar adolygiad Gwasanaeth Derwen pan fydd hynny yn briodol. 

5.    Gofyn am fanylion pellach am y cydweithio rhwng timau sy’n gweithredu Strategaeth Cadw Teuluoedd gyda’i Gilydd a swyddogion Adran Addysg.   

6.    Gofyn i’r cyngor sicrhau bod holl wasanaethau yn parhau ar gael er gwaethaf cyfnodau mamolaeth a gofyn am ddiweddariad sut mae hyn yn cael ei gyflawni.  

 

 

Dogfennau ategol: