Agenda item

Sicrhau bod y gwasanaeth yn effeithlon

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad.
  2. Datgan pryder nad oes adnoddau i ddarparu cefnogaeth iaith a lleferydd
  3. Gofyn i’r aelod cabinet Plant a Theuluoedd ohebu gyda’r llywodraeth yn gofyn iddyn nhw ystyried sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael i ddarparu cefnogaeth iaith a lleferydd i bobl ifanc yn y system cyfiawnder.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd. Nodwyd bod y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) Gwynedd a Môn yn wasanaeth statudol, amlasiantaethol,  sydd yn cael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd ac yn weithredol ar draws y ddwy sir. Nodwyd bod rôl y gwasanaeth yn ganolog i atal troseddu ac ail droseddu gan blant a phobl ifanc gan weithredu o fewn fframwaith Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998, trwy ddull ‘Plentyn yn Gyntaf’ sy’n canolbwyntio ar gryfderau, llesiant a ad- sefydlu. Amlygwyd bod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o strwythur y gwasanaeth, trefniadau llywodraethu a chyllido, a’r ffordd mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phlant ar draws sbectrwm eang o ymyraethau. O atal a dargyfeirio tu allan i’r llys, hyd at orchmynion llys statudol a chefnogaeth mewn cyd-destunau mwy cymhleth, yn cynnwys dalfa ac ail sefydlu. Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth fanwl am berfformiad y gwasanaeth, gan gynnwys canlyniadau arolygiad HMIP yn 2023/24. Yn yr arolygiad, nodwyd bod y gwasanaeth yn dda a bod safon uchel o safon o asesu o fewn y gwasanaeth. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod heriau sylweddol i’r gwasanaeth yn parhau, gan gynnwys trais ieuenctid, troseddau cyllell, canlyniadau addysgol gwael, anghenion iechyd meddwl a lleferydd, a’r pwysau ariannol sydd yn gysylltiedig â’r ddibyniaeth ar grantiau. Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi sicrwydd o effeithiolrwydd y gwasanaeth, galluogi aelodau i holi a herio trefniadau presennol a chynnig mewnbwn i gefnogi datblygiad parhaus y gwasanaeth mewn cyd-destun o alw cynyddol a chymhlethdod. 

 

Bu cyfle i aelodau mynegi sylwadau a gofyn cwestiynau. Yn ystod y drafodaeth, cododd y sylwadau a ganlyn; 

 

Holwyd pa gynnydd sydd wedi digwydd wrth i’r gwasanaeth weithredu’r cynllun gwella yn dilyn arolygiad HMIP. Cadarnhawyd bod y Cynllun Gwella wedi ei sefydlu ym mis Mawrth 2024. Nodwyd bod y bwrdd rheoli yn adolygu cynnydd y cynllun yn drylwyr bob chwarter. Cadarnhawyd eu bod wedi cyflawni tua 80% o’r amcanion gweithredu yn y Cynllun yn bresennol, a bydd arolygiad terfynol o’r Cynllun yn digwydd ym mis Mawrth 2026.  Wrth gyfeirio at y dadansoddiad cynnydd, cydnabuwyd bod rhai materion dan sylw sydd angen eu cwblhau, megis, darparu Adroddiad Diogelu ar gyfer y grŵp Cyflawni Diogelu Lleol, Adolygu CLG ac arferion gweithio gyda CAMHS. Hyderwyd bod y rhan fwyaf o’r argymhellion wedi eu cwblhau.  

 

Mynegwyd pryder bod y gwasanaeth wedi bod heb gefnogaeth Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu ers 6 mlynedd, oherwydd diffyg darpariaeth adnoddau. Holwyd beth sydd yn digwydd i geisio goresgyn y broblem yma. Cydnabuwyd bod hyn yn un o brif gyfyngiadau’r gwasanaeth a’i fod yn broblem ar draws y sector Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru. Mynegwyd mai Gwynedd oedd ar y rheng flaen yng Nghymru efo’r ddarpariaeth iaith a lleferydd yn 2007/2008. Nodwyd bod hyn yn arloesol ar y pryd ac y cafodd ei gyllido gan arian grant. Eglurwyd bod y ddarpariaeth yma wedi dod i ben yn 2012 oherwydd diffyg cyllid ac adnoddau. Eglurwyd bod ymdrechion i archwilio opsiynau ar gyfer cymorth ac adnoddau yn y maes yma yn cael eu rhwystro oherwydd diffyg Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu Cyflawnder Ieuenctid yn eu hadroddiad ‘60% - Rhoi Llais iddynt’ (2023) lle bu iddynt wrthod yr argymelliadau. Nodwyd bod y Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gyndyn i ddarparu adnoddau oherwydd eu bod yn gweithredu o fewn cyfyngiadau cyllidol hefyd.  Mynegwyd siom difrifol am hyn, gan bwysleisio bod iaith statudol y gwasanaeth cyfiawnder yn aml yn anodd ei ddeall, sydd yn achosi rhwystredigaeth ac yn creu anghyfiawnder i bobl ifanc yn mynychu cwrt ac yn cysylltu â chyfreithwyr ayyb. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oes llawer o’r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y cwrt, sydd yn ychwanegu at anawsterau ieithyddol troseddwyr ifanc yng Nghymru. Pwysleisiwyd pwysigrwydd iaith a lleferydd yn y cyd-destun yma, a chadarnhawyd bod y gwasanaeth yn ceisio ymdopi efo’r heriau yma wrth gynnig cymaint o gefnogaeth ac sydd yn bosib. Nodwyd fod rheolwyr y gwasanaeth cyfiawnder ar draws Cymru wedi gweithio fel grŵp i gyflwyno adroddiad i’r Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid yn tynnu sylw at y sefyllfa ddifrifol a’r lefel o anghysondeb yn narpariaeth adnoddau iaith a lleferydd yng Nghymru. 

 

Cyfeiriwyd at yr adroddiad sydd yn nodi mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael o sgyrsiau cadarn ynghylch nodweddion gwarchodedig ac amrywiaeth yng nghyfarfodydd y Bwrdd Rheoli Strategol. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi cynnal amryw o asesiadau ynghylch nodweddion gwarchodedig ac amrywiaeth dros y 2 flynedd diwethaf, sydd wedi eu cyflwyno i’r Bwrdd Rheoli Strategol. Cadarnhawyd bydd adroddiadau chwarterol yn cael eu darparu i’r Bwrdd Rheoli, ar y nodweddion gwarchodedig a’r lefelau amrywiaeth ymysg y garfan o blant sy’n hysbys i’r system gyfiawnder. Adroddwyd bydd hyn yn cynnwys: 

 

·       Rhywedd  

·       Anghenion dysgu Ychwanegol 

·       Iechyd Meddwl a Niwro- ddatblygiadol 

·       Ethnigrwydd 

·       Iaith a Lleferydd 

·       Plant sydd wedi bod mewn gofal.  

 

Cadarnhawyd bydd yr adroddiadau a’r ymatebion gan y Bwrdd Rheoli Strategol a’r Gwasanaeth yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid blynyddol. Cydnabuwyd bod adroddiadau ethnigrwydd yn heriol i gyflawni oherwydd bod lefelau isel iawn o bobl o dras ethnig yng Ngogledd Cymru. Eglurwyd bod hyn yn creu effaith sylweddol ar y data cymharol gydag ardaloedd megis Caerdydd, Lerpwl, Manceinion ayyb. 

 

Awgrymwyd y gellir ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i bwysleisio heriau’r gwasanaeth er mwyn ceisio sicrhau cyllid ac adnoddau ychwanegol i ymafael a’r nifer o bobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder. Cydnabuwyd bod llawer o’r plant a phobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder yn deillio o fod yn y system gofal fel plant ifanc. Amlygwyd y cysylltiad rhwng lefelau addysgol plant a’r system cyfiawnder. Nodwyd bod angen rhoi cymorth a chefnogaeth i blant a theuluoedd yn gynnar, er mwyn atal problemau rhag datblygu. Rhoddwyd pwyslais ar gefnogaeth ac ymyrraeth gynnar yn yr aelwyd ac mewn ysgolion, a ‘r cydweithio amlasiantaethol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ataliol yn arwain at gyfraniad gwirfoddol a pherthnasau iach yn y dyfodol. Cadarnhawyd bod gwaith cydweithio yn mynd rhagddo gyda’r Adran Addysg, sydd yn canolbwyntio ar elfennau cefnogi a chynhwysiad, i godi lefelau presenoldeb a sicrhau bod disgyblion yn ddiogel ac yn ffynnu mewn ysgol. 

 

Mynegwyd pryder mai un cwrt ieuenctid yn unig sydd yng Ngwynedd. Nodwyd bod hyn yn creu anawsterau i blant a phobl ifanc ar draws y sir, yn enwedig yn Ne Meirionnydd, i gyrraedd y cwrt yng Nghaernarfon. Holwyd os oes darpariaeth ar gael er mwyn sicrhau cludiant a chefnogaeth i bobl ifanc yn mynychu’r cwrt. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y cwrt yn ceisio bod mor hygyrch â phosib, wrth drefnu achosion mewn da bryd ac ar adegau cyfleus i’r unigolyn, ar ôl ystyried eu sefyllfaoedd personol a beth fydd yn bosib iddynt. Cadarnhawyd mai 20% o achosion sydd yn cyrraedd lefel achos cwrt bellach, oherwydd y gwaith sydd yn mynd ymlaen ar draws y gwasanaeth i atal ac ymyrru yn gynnar. Atgyfnerthwyd eu bod yn cefnogi’r unigolion a’r teuluoedd yn gyson. Cadarnhawyd nad oes rhestr aros i unigolion fynychu’r cwrt cyfiawnder ieuenctid. Nodwyd bod hyn yn lleihau’r trawma a’r effaith ar y teulu. 

 

Wrth gyfeirio at argymhelliad y Cynllun Gweithredu, sydd yn nodi bod sicrhau presenoldeb yn y bwrdd rheoli gan uwch arweinwyr addysg ac iechyd, i gyflawni deilliannau addysg ac iechyd positif i blant, holwyd os oes problemau yn codi efo presenoldeb y bwrdd ac os yw hyn yn cael effaith ar allbwn ac amserlen y Cynllun. Nodwyd bod yr arolygiad wedi nodi hyn fel problem, ond bod presenoldeb y bwrdd wedi gwella yn sylweddol ers ei gyhoeddi. Hyderwyd bod lefelau presenoldeb cyfarfodydd y bwrdd yn uchel iawn yn ddiweddar, a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yng nghanfyddiadau’r adroddiad yn fuan.  

 

Nodwyd bod 121 o blant yn agored i’r gwasanaeth ar hyn o’r bryd, holwyd sut mae hyn yn cymharu efo’r blynyddoedd blaenorol? Esboniwyd bod y niferoedd i lawr i gymharu ag ystadegau tua 10 neu 15 mlynedd yn ôl, ond nodwyd eu bod yn uwch ar hyn o’r bryd i gymharu â’r blynyddoedd diweddar cynt. Eglurwyd bod hyn yn sgil datblygiadau rhaglenni newydd sydd yn canolbwyntio ar ataliad ac ymyrraeth gynnar. Nodwyd bod achosion yn cael eu cyflwyno a’u delio gyda llawer cynt, ac nid yw unigolion yn cael eu troseddlu mor gyflym. Nodwyd bod y gwasanaeth cyfiawnder yn gweithio yn agos iawn efo timau Teuluoedd Yn Gyntaf ac Ôl 16, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni asesiadau a chynnig cefnogaeth ar yr adeg gywir, trwy gydweithio yn gyson. 

 

Amlygwyd bod 80% o lwyth gwaith y gwasanaeth bellach yn waith ataliol. Manylwyd ar y math o waith sydd yn rhan o’r rhaglenni gwaith, yn enwedig y defnydd cynyddol o realiti rhithiol. Nodwyd bod y defnydd o realiti rhithiol yn llwyddiannus iawn, ac yn arwain at ymyrraeth lwyddiannus yn aml. Eglurwyd bod y ddyfais yn creu defnydd o gemau rhyngweithiol i ddangos beth yw’r sefyllfaoedd a senarios bosib sydd yn gallu codi o ganlyniad i benderfyniadau a gweithredoedd unigolion. Nodwyd ei fod yn canolbwyntio ar yr elfen o ddweud stori er mwyn annog pobl ifanc i wneud y dewis moesol iawn. Nodwyd bod yr elfen yma wedi cyfrannu at y broses o feithrin perthnasoedd da rhwng y plant a phobl ifanc a’u cefnogwyr, wrth adeiladu ymddiriedolaeth, yn unol â’r strategaeth Plentyn yn Gyntaf. 

 

Ymhelaethwyd ar y dulliau datblygol a ddefnyddiwyd gydag achosion troseddol mwy cymhleth, megis camdriniaeth, trais a throseddau cyllell, gan nodi bod y teclynnau realiti rhithiol yn effeithiol iawn. Eglurwyd bod modd i’r bobl ifanc chwarae gemau wrth wneud penderfyniadau gwahanol i weld pa benderfyniad fydd yn arwain at y canlyniad gorau. Nodwyd eu bod yn dysgu llawer trwy’r dull yma a’i fod yn waith arloesol yn y maes. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd mai trais a defnydd cyffuriau yw'r her fwyaf sydd yn wynebu’r gwasanaeth ar hyn o bryd. Eglurwyd bod defnydd y cyfryngau cymdeithasol wrth hybu a chynorthwyo trais hefyd yn heriol iawn. Nodwyd bod yr adran yn cydweithio yn agos efo’r heddlu ac amryw o asiantaethau gwahanol er mwyn taclo hyn. Nodwyd bod y nifer o achosion yn codi lle mae grwpiau yn ffilmio digwyddiadau treisgar a’i bostio ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol. Amlygwyd bod hyn yn arwain at gynnydd mewn bwlio ymysg plant a phobl ifanc. Gyda hyn, esboniwyd bod y gwasanaeth yn gwneud gwaith i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol eu bod yn atebol i’r gyfraith os ydynt yn rhan o drosedd treisgar wrth ffilmio digwyddiadau fel rhan o’r grŵp troseddol. Pwysleisiwyd bod cyffuriau yn broblem fawr yn y gymuned sydd yn achosi nifer fawr o achosion diogelu.  

 

Holwyd os yw’r gwasanaeth yn mynd o amgylch ysgolion a cholegau’r sir i ddysgu pobl ifanc am oblygiadau bywyd troseddol, a phwysigrwydd cadw yn ddiogel. Cadarnhawyd bod y gwasanaeth yn gweithio yn agos iawn efo’r heddlu i gydlynu digwyddiadau amrywiol fewn ysgolion. Eglurwyd bod swyddogion yn gweithio yn agos gyda’r ‘School Liaison Officers’ ac yn mynychu hybiau o fewn ysgolion i weld carfan benodol o ddisgyblion hefyd. Ymhelaethwyd byddai’r swyddog yna yn darparu cyflwyniad neu gwricwlwm i fynd i’r afael a’r broblem gyda'r bobl ifanc. Gobeithiwyd bydd cyfle i gynnal diwrnod llawn gweithgareddau diogelwch cymuned ar y cyd gydag asiantaethau eraill yn fuan. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cyllid swyddogion  ‘SLO’ yn yr ysgolion, yn enwedig yr ardaloedd sydd yn peri’r risg fwyaf. 

 

Gofynnwyd a oes ardaloedd penodol dan sylw gyda lefelau uwch o ymddygiad anghymdeithasol, cyffuriau a throsedd ieuenctid. Cadarnhawyd bod trosedd ieuenctid yn gysylltiedig â thlodi a diweithdra, a nodwyd bod diffyg cyfleoedd hefyd yn gyrru troseddu. Amlinellwyd rhai o’r ardaloedd mwyaf dan sylw gan y gwasanaeth, sef Caergybi, Llangefni, Caernarfon a Blaenau Ffestiniog. Mynegwyd pryder am y pentrefi yng Ngwynedd hefyd a mynegwyd awydd i gael mwy o ddata am yr achosion yma. 

Diolchwyd y gwasanaeth am eu gwaith a chanmolwyd yr adran am eu hymroddiad. Cydnabuwyd bod yr adroddiad braidd yn hirfaith a chymhleth i’w ddadansoddi, a gwahoddwyd aelodau’r pwyllgor i ymweld â’r swyddfeydd i sgwrsio gyda’r staff a gweld y gwaith sydd yn mynd ymlaen eu hunain. 

 

 

PENDERFYNIAD 

 

1.    Derbyn yr adroddiad.  

2.    Datgan pryder nad oes adnoddau i ddarparu cefnogaeth iaith a lleferydd 

3.    Gofyn i’r aelod cabinet Plant a Theuluoedd ohebu gyda’r llywodraeth yn gofyn iddyn nhw ystyried sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael i ddarparu cefnogaeth iaith a lleferydd i bobl ifanc yn y system cyfiawnder.  

 

 

Dogfennau ategol: