Agenda item

Sicrwydd o ran y ddarparieth ar gyfer rhai 16 oed +

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd. Nodwyd bod y Tîm Ôl 16 wedi ei sefydlu fel tîm penodol i ganolbwyntio ar yr achosion sydd yn agored i’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd rhwng 16 a 25 oed. Nodwyd bod y tîm yn cefnogi pobl ifanc sydd angen gofal a chefnogaeth, sydd mewn gofal neu sydd wedi gadael gofal. Pwysleisiwyd bod y gefnogaeth yn wirfoddol, ond bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael. Cadarnhawyd bu 249 achos yn agored i’r Tîm ar ddechrau Ionawr. Rhoddwyd trosolwg o gyllideb y Tîm, gan nodi bod £1,040 miliwn ar gael i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Nodwyd bod rhan helaeth o’r gyllideb (£800,000) ar gyfer anghenion llety a chefnogaeth. Holwyd os yw trefnu llety ar gyfer unigolion yn heriol ar hyn o’r bryd. Mewn ymateb, eglurwyd mai’r nod cyntaf yw cadw’r bobl ifanc yn eu cartref gyda’r teuluoedd os ydi hyn yn bosib. Er hyn, derbyniwyd nifer o gyfeiriadau o ddigartrefedd sydd yn ychwanegu at y galw am lety. Manylwyd ar y dyraniad gwaith a’r prosesau. Esboniwyd bod gweithiwr penodol yn cael ei ddynodi ar gyfer bob achos, gan ddibynnu ar natur yr achos. Nodwyd bod Gweithiwr Cymdeithasol hefyd yn ymgymryd â’r asesiadau ar gyfer achosion Gofal a Chefnogaeth. Adroddwyd bod yr ymyrraeth a gynigir yn ddibynnol ar yr achos unigol, wrth i asiantaethau gydweithio i gynllunio a diwallu anghenion yr unigolyn. Nodwyd eu bod yn canolbwyntio ar lesiant, sefydlogrwydd, addysg, gwaith, hyfforddiant a datblygu sgiliau annibynnol. Cyfeiriwyd at y nifer o Geiswyr Lloches sydd yng Ngwynedd ar hyn o’r bryd. Nodwyd bod 32 o’r cyfanswm o 249 achos sy’n agored i’r Tîm Ôl 16 yn Geiswyr Lloches, wedi dyraniad Gwynedd. Cydnabuwyd bod hyn yn ganran uchel, yn unol â’r cwota sydd wedi ei derbyn, dan Gynllun Trosglwyddo’r Swyddfa Gartref. Pwysleisiwyd mai cyfrifoldeb Gwynedd ydi sicrhau cefnogaeth a llety iddynt, oherwydd eu bod yn cael eu trin fel plant mewn gofal nes eu bod yn 18 oed. Wrth droi yn 18 oed maent yn cael eu hystyried fel Gadawyr Gofal ac yn gyfrifoldeb ar yr awdurdod lleol nes eu bod yn 25 oed. Ymhelaethwyd ar yr heriau a goblygiadau hynny, gan gyfeirio at gyfyngiad gwybodaeth gefndirol, dymuniadau, anghenion, trawma a lles emosiynol. Nodwyd bod y wybodaeth a geir drwy’r cyfeiriad yn sylfaenol iawn. Ategwyd bod iaith hefyd yn rhwystr, yn ogystal ag ansicrwydd y bobl ifanc a’r diffyg dealltwriaeth am y broses. Manylwyd ar y Cynllun Llwybr, gan nodi bod disgwyliad i bob person ifanc sydd yn gadael gofal fod a Chynllun Llwybr sydd yn cael ei adolygu yn rheolaidd yn ôl yr angen. Nodwyd bod cynnwys y Cynllun yn amrywio o unigolyn i unigolyn, ac yn dibynnu ar eu sefyllfa bersonol. Mynegwyd bod pwyslais ar sefydlogi a chael llety sefydlog a diogel i fyw fel blaenoriaeth, yn ogystal â threfnu addysg bellach, yn ôl gallu'r unigolyn. Eglurwyd bod meithrin perthynas gwell efo aelodau teulu a rhieni hefyd yn elfen, ac y caiff sawl agwedd ei ystyried. Cadarnhawyd bod y Cyngor yn parhau i fod yn ‘Rhiant Corfforaethol’ i'r unigolion nes eu bod yn troi yn 25. Holwyd am fwy o fanylion am y tîm a’r ffordd o weithredu a sut dyrannwyd y llwyth gwaith ymysg swyddogion y tîm. Mewn ymateb, manylwyd ar y trefniadau wrth gyfeirio at yr atodiad sydd yn dangos y nifer o achosion fesul swyddog. Cadarnhawyd bod y llwyth gwaith wedi ei rannu yn deg a’u bod yn gwneud gwahanol fathau o waith, gan gynnwys swyddogion cefnogol, gweinyddol ac adnoddau. Amlygwyd bod hyfforddiant ar gael i weithwyr ar bob lefel. Cadarnhawyd bod 4 gweithiwr cymdeithasol yn rhan o’r tîm ôl ofal, sydd yn gweithio yn agos efo swyddogion GISDA. Cadarnhawyd bod y gwaith yn gofyn am gydweithio amlasiantaethol trylwyr i gyflawni nod y gwasanaeth. PENDERFYNIAD • Derbyn a nodi’r adroddiad.

Dogfennau ategol: