Agenda item

Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad(au) sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru

 

• Llety dros dro, argyfwng hirdymor? 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn Adroddiad Cenedlaethol Archwilio Cymru
  • Derbyn ymateb sefydliadol y Cyngor i’r argymhellion;

-        A1 Gwerth am arian

-        A2 Cynllunio ar gyfer Atal

-        A3 Gweithio mewn Partneriaeth

  • Croesawu'r gwaith da sydd yn cael ei wneud gan yr Uned Digartrefedd
  • Cais am adroddiad yn rhoi diweddariad ar y gwaith peilot sydd yn cael ei wneud gan y Cyngor i ryddhau tai gwag yn ôl i ddefnydd
  • Derbyn diweddariad ar gynnydd y cynllun ymateb sefydliadol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn amlygu canlyniadau Archwilio Cymru i  archwiliad cenedlaethol i geisio adnabod cyfleoedd i wella gwerth am arian a dulliau Cynghorau o ymateb i’r galw am lety dros dro. Adroddwyd bod yr archwiliad wedi ei gynnal yng Ngwynedd rhwng Medi 2024 ac Ebrill 2025 gyda dogfennau allweddol gan fod un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi eu hadolygu. Yn dilyn yr archwiliad, cyflwynwyd tri argymhelliad i’r Cyngor a tynnwyd sylw at ffurflen ymateb y sefydliad i’r camau gweithredu perthnasol ynghyd ag amserlen a swyddog cyfrifol i gwblhau’r gwaith.

 

Diolchwyd am yr adroddiad oedd yn ymateb i sefyllfa heriol iawn ar draws y wlad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Bod angen diffiniad clir o’r gair ‘digartref’ a beth yw’r maen prawf

·        Croesawu bod Gwynedd yn ceisio prynu a sicrhau gofod eu hunain i sicrhau  lleoliadau addas a cheisio osgoi dibyniaeth ar safleoedd anaddas

·        Bod angen sicrhau cyfathrebu clir gyda’r cyhoedd - cynnal cyfarfodydd cyhoeddus a chyflwyno cynlluniau gyda gwahoddiad i’r Aelod Lleol

·        Bod angen annog proses haws i’r drefn cynllunio i allu defnyddio siopau gwag ar gyfer creu darpariaeth

·        Yn croesawu'r gwaith da mae GISDA yn ei wneud ym Mhwllheli a Caernarfon

·        Yn croesawu’r ddarpariaeth sydd yn cael ei brawf fesur ar gyfer y dyfodol – hyn yn hanfodol i gynlluniau dros dro

·        Bod cadw pobl mewn gwely a brecwast yn gostus iawn i’r Cyngor ac felly angen gwell ffordd o ymateb i’r sefyllfa

·        Bod angen torri'r stigma

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â cheisio defnyddio tai gwag y Sir ar gyfer y digartref, nodwyd bod elfennau cyfreithiol ynglŷn â pherchnogaeth eiddo, ond bod gwaith yn mynd yn ei flaen i geisio sefydlu peilot fyddai’n dod a pum tŷ i berchnogaeth y Cyngor drwy osod gorchymyn codi tal ar y perchennog (charging order) fel y cam olaf yn dilyn rhybuddion o gamau gorfodaeth. Ategwyd bod y Cyngor wedi ymgysylltu gyda chwmni arbenigol i gael cymorth ar y broses ac os bydd y peilot yn llwyddiannus, bydd y Cyngor yn edrych i ryddhau pum eiddo gwag arall i ddefnydd. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â defnydd polisi ar gyfer y broses, nodwyd bod Polisi Adennill wedi ei fabwysiadau yn Nhachwedd 2024 oedd hefyd yn amlygu camau yn y broses.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r drefn o leoli pobl ddigartref ac ystyriaeth ar sut mae pobl yn cael eu lleoli, nodwyd er nad oes modd rhannu gwybodaeth bersonol am y digartref, bod ystyriaeth ofalus yn cael ei wneud i sicrhau bod y lleoliad yn un addas. Ategwyd y byddai’r gwasanaeth yn cydweithio yn agos gydag asiantaethau, ac yn ystyried y gymuned, cyn gwneud penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn Adroddiad Cenedlaethol Archwilio Cymru

·        Derbyn ymateb sefydliadol y Cyngor i’r argymhellion;

-        A1 Gwerth am arian

-        A2 Cynllunio ar gyfer Atal

-        A3 Gweithio mewn Partneriaeth

·        Croesawu'r gwaith da sydd yn cael ei wneud gan yr Uned Digartrefedd

·        Cais am adroddiad yn rhoi diweddariad ar y gwaith peilot sydd yn cael ei wneud gan y Cyngor i ryddhau tai gwag yn ôl i ddefnydd

·        Derbyn diweddariad ar gynnydd y cynllun ymateb sefydliadol

 

 

Dogfennau ategol: