Agenda item

I ystyried a derbyn yr adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Derbyn bod pedwar o’r argymhellion yn cyfateb i gynlluniau gwaith sydd eisoes yng nghynllun ymateb adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder
  • Derbyn nad oedd dau o’r argymhellion yn y cynllun ymateb ond eu bod bellach wedi eu cynnwys ac yn derbyn sylw priodol
  • Er yn derbyn y bydd y mesurau sydd wedi eu diwallu neu wedi cyrraedd lefel o safon a bod y mater yn cael ei gau lawr, bod angen amserlen benodol, er derbyn mai anodd fyddai rhoi dyddiad pendant
  • Gwerthfawrogi dilynant / adroddiad cynnydd ar yr ymatebion i’r argymhellion
  • Siomedig eto nad oedd cydnabyddaieth gan Estyn ar fethianau eu harolwg ar drefniadau diogelwch y Cyngor, Mehefin 2023

 

Nodyn: Ymchwiliad Craffu Trefniadau Diogelu Mewn Ysgolion – angen diweddariad

 

Cofnod:

Yn dilyn cais gan y Cyngor i Estyn ac Arolygaeth Gofal Cymru gynnal arolwg ar y cyd i werthuso datblygiadau yn nhrefniadau diogelu Awdurdod Lleol Gwynedd, cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad yn amlygu canfyddiadau’r arolwg hwnnw. Eglurwyd, ers arestio cyn bennaeth Ysgol Friars, Neil Foden, yn 2023 ac yn ddiweddarach ei ganfod yn euog o droseddau rhyw yn Mai 2024, cyhoeddwyd adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy ein Dewrder’ mewn ymateb i gyfleoedd a gollwyd i bryderon yn ymwneud â Foden a’i ryngweithio â phlant.   Comisiynwyd yr adroddiad gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ac adolygwyd ymarfer plant a phrosesau diogelu y Cyngor.

 

Cynhaliwyd arolwg arolygiaethau Estyn ac Arolygaeth Gofal Cymru yn Nhachwedd 2025 ac yn dilyn yr arolygiad, cyflwynwyd argymhellion i’r Cyngor. Nodwyd bod rhai o’r argymhellion eisoes yn cael sylw drwy’r cynllun ymateb i Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder (a gyflwynwyd i’r Pwyllgor 15-01-26), a bod dau oedd heb eu cynnwys yn y cynllun yn cael eu hymgorffori ac yn derbyn ystyriaeth pellach. Ystyriwyd bod cael un cynllun gweithredu yn benderfyniad ymarferol. Tynnwyd sylw at un argymhelliad (4d) oedd yn ymwneud a threfniadau comisiynu a monitro cytundebau gwasanaeth oedd yn ymddangos yn eithriad, yn elfen strategol ac yn sefyll ar wahân, ond bod ymateb yn cael ei baratoi i’r argymhelliad hwnnw.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Er derbyn bod polisïau yn cael eu hadolygu / cael eu creu o’r newydd, bod prosesau yn cael eu tynhau, a gwybodaeth yn cael ei rannu yn well, bod y rhain wedi mewn lle beth bynnag ac a’i felly mai diffyg dealltwriaeth, dilyniant, methiannau staff ac atebolrwydd a arweiniodd at y methiannau? Angen rhoi sylw i hyn.

·        Ymchwiliad craffu  ‘Trefniadau Diogelu Mewn Ysgolion’ – pam nad yw canfyddiadau’r ymchwiliad ar gael? Angen diweddariad

·        Bod angen cynnal hyfforddiant i roi hyder i unigolion godi llais

 

Yng nghyd-destun gosod amserlen ar gyfer y gwaith, nodwyd pan fydd mesurau wedi eu diwallu neu wedi cyrraedd lefel o safon, yna'r gobaith yw erbyn Ebrill 2026 dylai nifer fod wedi eu cau i lawr. Er hynny, gyda rhai materion yn rhai diwylliannol a bod ee, creu polisïau newydd yn cymryd amser, yna anodd fyddai  gosod amserlen gyda dyddiadau pendant.

 

Wrth holi am gryfhau hyfforddiant diogelu i holl staff a Llywodraethwyr gan sicrhau ei fod yn addas i bwrpas, nodwyd nad oedd yr hyfforddiant presennol yn ddigon arbenigol ac felly mewn ymateb comisiynwyd gwaith i sicrhau bod hyfforddiant diogelu ar draws gwasanaethau yn cael ei ddiweddaru a’i gwblhau gan staff. Adroddwyd bod 77% o’r gweithlu bellach wedi cwblhau’r hyfforddiant sydd yn gynnydd sylweddol ar y perfformiad blaenorol.  Rhestrwyd y modiwlau mandadol sydd i’w cwblhau gan y gweithlu ac ategwyd bod modiwlau hyfforddiant perthnasol a gyfeiriwyd atynt gan y Bwrdd Diogelu ar gyfer cofnodi sgyrsiau wedi cael eu mabwysiadu ynghyd a sesiynau rhannu gwybodaeth am Fodel Finkelhor.

 

Yng nghyd-destun hyfforddiant i Lywodraethwyr ac os oedd hyfforddiant i’w grymuso gan sicrhau cymhwyster neu sgiliau priodol i’r swydd, nodwyd bod hyn yn cael ei ystyried, a cytunwyd bod angen cryfhau trefniadau llywodraethiant. Ategwyd bod clercod llywodraethu gyda sgiliau cynghori ac yn derbyn arweiniad ar sut i ddilyn trefn, ond bod angen edrych ar y ddarpariaeth. Nodwyd bod bwriad rhoi strwythur mewn i sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth ac yn cael ei arwain gan y Gwasanaeth Addysg. Amlygwyd bod gan y Cyngor un swyddog cefnogi Llywodraethwyr cyflogedig ar hyn o bryd, ond bod bwriad cyflogi un arall. Nodwyd nad oedd hawl gan y Gwasanaeth Addysg i blismona pwy sydd yn cael ei ethol yn Llywodraethwr a bod hyn yn dilyn trefn gyfansoddiadol.

 

Amlygwyd siom nad oedd cyfeiriad na chydnabyddiaeth gan Estyn ar fethiannau eu harolwg ar drefniadau diogelwch y Cyngor, Mehefin 2023 yn yr adroddiad. Nodwyd bod angen tryloywder, gan fod Estyn yn rhan o’r ‘hanes’. Nododd y Pennaeth Addysg y byddai yn ysgrifennu at Estyn am esboniad / datganiad yn dilyn cynnal cyfarfod tymhorol gyda hwy. Er yn derbyn y sylw, adroddwyd nad oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros gynnwys yr adroddiad ond bod gwersi wedi eu dysgu o’r adolygiad ymarfer gyda’r Cyngor yn torri tir newydd drwy wahodd Estyn ac Arolygaeth Gofal Cymru i arolygu ac ymateb ar y cyd - roedd hyn yn cynnig arbenigedd Addysg a Gofal. Ategwyd bod yr arolwg wedi bod yn gam ymlaen ac yn newid cyfeiriad i’r ffordd y mae Awdurdodau yn cael eu harolygu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd cyfeiriad at yr Heddlu yn yr adroddiad o ystyried yr angen am gydweithio ac ymyrraeth gynnar, nodwyd nad oedd eglurhad pam nad oedd cyfeiriad at yr Heddlu yn yr adroddiad, ond adroddwyd bod cydweithio da rhwng y Gwasanaeth Addysg a’r Heddlu. Ategwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal i ffurfioli’r hyn sydd yn cael ei weithredu gydag awgrym i ddefnyddio ‘open access’ fel bod gan y Cyngor fynediad agored, drwy Teams, at yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, a’r Gwasanaeth Iechyd.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Derbyn bod rhai o’r argymhellion (1,2,3,4,4b a 4c) yn cyfateb i gynlluniau gwaith sydd eisoes yng nghynllun ymateb adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder

·        Derbyn nad oedd dau o’r argymhellion (4a a 4d) yn y cynllun ymateb, ond eu bod bellach wedi eu cynnwys ac yn derbyn sylw priodol

·        Er yn derbyn y bydd y mesurau sydd wedi eu diwallu neu wedi cyrraedd lefel o safon a bod y mater yn cael ei gau lawr, bod angen amserlen benodol, er derbyn mai anodd fyddai rhoi dyddiad pendant

·        Gwerthfawrogi dilynant / adroddiad cynnydd ar yr ymatebion i’r argymhellion

·        Siomedig eto nad oedd cydnabyddaieth gan Estyn ar fethianau eu harolwg ar drefniadau diogelwch y Cyngor, Mehefin 2023

 

Nodyn: Ymchwiliad Craffu Trefniadau Diogelu Mewn Ysgolion – angen diweddariad

 

Dogfennau ategol: