Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried y
sylwadau ychwanegol a wnaed yn y cyfarfod hwn, yn ogystal a sylwadau y
Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, wrth
fabwysiadu’r Cynllun Ymateb newydd.
Penderfyniad:
Cadarnhawyd prif drafodaethau’r Cyfarfod fel a ganlyn:
PENDERFYNWYD:
Gofyn i’r Cabinet ystyried y sylwadau uchod, yn ogystal a
sylwadau Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Gofal (13 Ionawr 2026), Cyfarfod
Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi (19 Ionawr 2026) a’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio (15 Ionawr 2026), wrth fabwysiadu’r Cynllun Ymateb
newydd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
eitem hon gan y Cadeirydd gan nodi’r
prif bwyntiau canlynol:
Cydnabuwyd bod adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy ein
Dewrder’ yn ddogfen anodd ac emosiynol
i’w ddarllen a'i fod yn amlygu nifer o gyfleoedd a gollwyd, gan nifer o
gyrff yn cynnwys Cyngor Gwynedd, i geisio atal Neil Foden:
Cyn-bennaeth Ysgol Friars. Ategwyd ymddiheuriadau didwyll sydd wedi cael eu
cyflwyno i’r dioddefwyr a phwysleisio’r cyfrifoldeb i sicrhau bod popeth yn
cael ei wneud i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd eto.
Adroddwyd bod gwaith craffu sylweddol i’r
Cynllun Ymateb wedi cael ei gynnal yn ystod mis Ionawr 2026. Ymhelaethwyd bod
12 awr wedi cael ei dreulio yn craffu’r mater rhwng y Pwyllgor Craffu Gofal (13
Ionawr 2026), Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (15 Ionawr 2026) a Phwyllgor
Craffu Addysg ac Economi (19 Ionawr 2026). Amlygwyd bod sylwadau’r pwyllgorau
wedi cael eu cynnwys fel rhan o’r ddogfennaeth i’r cyfarfod hwn.
Tywyswyd yr aelodau drwy drefn y cyfarfod gan
nodi bod blaenoriaeth yn cael ei roi i’r Aelodau hynny nad ydynt wedi cael y
cyfle i gyflwyno sylwadau yn y
pwyllgorau uchod eisoes, er mwyn sicrhau fod
yr holl Aelodau yn cael cyfle i roi mewnbwn. Eglurwyd, er rhoi tegwch i
bawb, y dylai Aelodau atal rhag ailadrodd yr un materion a godwyd yn y
cyfarfodydd uchod gan hefyd nodi pa un o 7 thema’r Cynllun Ymateb y cyfeirient
ato. Atgoffwyd yr Aelodau o’r drefn arferol o geisio peidio cymryd mwy na 5
munud o amser y cyfarfod i gyfrannu i’r drafodaeth.
Pwysleisiwyd nad oes gan yr Aelodau na
swyddogion yr hawl i drafod unrhyw faterion cyflogaeth neu ymchwiliadau posib,
gan eu bod yn faterion sydd rhaid i gyflogwr ymdrin â hwy yn unol â
chyfansoddiad a hawliau cyflogaeth statudol. Atgoffwyd bod y Swyddog Monitro
wedi darparu a chylchredeg nodyn briffio i’r aelodau yn eu cynghori ar y mater
hwn.
Eglurwyd bod
sylwadau a gyflwynir yn ystod y drafodaeth yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet
ynghyd â sylwadau’r Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio,
pe byddai’r sylwadau yn derbyn cymeradwyaeth yr Aelodau ar ddiwedd y drafodaeth
ar yr eitem hon.
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd y Cyngor. Pwysleisiwyd y prif faterion canlynol:
Ymddiheurwyd yn ddiffuant i’r dioddefwyr ac i
bawb a effeithiwyd gan y troseddau erchyll sydd wedi cael eu cyflawni i ddod
a’r angen am adroddiad hwn ymlaen. Ymhellach, ymddiheurwyd na chafodd
lleisiau’r plant eu clywed, gan bwysleisio mai gweithredu er mwyn sicrhau newid
yw’r deyrnged fwyaf all y Cyngor ei gyflawni.
Cadarnhawyd bod y
Cynllun Ymateb hwn yn ceisio sicrhau na fydd methiannau o’r math a amlygwyd o
fewn yr Adolygiad yn digwydd eto. Croesawyd mewnbwn gan holl aelodau’r Cyngor
gan nodi bod her a thrafodaeth iach yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun.
Amlygwyd bod y
Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw a chyhoeddus, gan gadarnhau bydd cofnodion
cyfarfodydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb hefyd yn gyhoeddus. Nodwyd bod
tryloywder yn angenrheidiol er mwyn adfer hyder ymhlith y cyhoedd, staff ac
Aelodau.
Diolchwyd i’r
Aelodau am eu parodrwydd i drafod y mater anodd hwn mewn modd sensitif a
phroffesiynol, gan ddiolch hefyd am barodrwydd Aelodau i wella trefniadau
diogelu i leihau risg bod plant yn dioddef yn y fath fodd eto. Atgoffwyd bod
diogelu a gwarchod plant rhag niwed yn gyfrifoldeb i bawb. Nodwyd mai dim ond
drwy gydweithio gydag Aelodau, partneriaid a rhanddeiliad
y gellir gwneud cynnydd gwirioneddol ac amserol yn y maes hanfodol hwn.
Diolchwyd hefyd i’r Athro Sally
Holland am ei arweiniad arbennig yn ei rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen
Cynllun Ymateb ac i nifer o Adrannau o’r Cyngor sydd wedi gwneud cynnydd hyd
yma, am eu gwaith cydweithiol traws Adrannol i wella trefniadau diogelu plant o
fewn ysgolion Gwynedd.
Pwysleisiwyd na all unrhyw un gyflawni’r
newid hwn ar ei ben ei hun; boed yn wasanaeth, Adran, grŵp gwleidyddol neu
unigolyn. Adroddwyd yr angen i gydweithio ar draws pwyllgorau ac Adrannau’r
Cyngor a gwahaniaethau gwleidyddol er mwyn gweld gwir newid, dal y Cyngor yn
atebol a llunio dyfodol mwy diogel i blant a phobl ifanc Gwynedd.
Cydnabuwyd nad yw’r Cynllun Ymateb yn cynnwys
yr holl atebion, gan ddiolch i’r Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio am eu mewnbwn gwerthfawr ac adeiladol. Cadarnhawyd bod y Cyngor ar y
trywydd cywir, gan groesawu barn, awgrymiadau a beirniadaethau adeiladol yr
Aelodau i gryfhau’r Cynllun Ymateb ymhellach.
Derbyniwyd cyflwyniad gan y Prif Weithredwr.
Tynnwyd sylw at y prif faterion canlynol:
Cytunwyd gyda’r
Arweinydd a’r Cadeirydd bod y drafodaeth hon yn gam pwysig ar gyfer adfer,
gwella a sicrhau bod pob cam yn cael ei weithredu i ymateb yn effeithiol i’r
Adroddiad.
Atgoffwyd bod y Cynllun Ymateb gwreiddiol y
Cyngor wedi’i gyhoeddi cyn cyhoeddi adroddiad ‘Cyfiawnder drwy ein Dewrder’.
Cydnabuwyd yr angen i’r ddogfen fod yn un byw er mwyn gallu ymateb i wybodaeth
a fyddai’n dod i law wrth i’r Adroddiad gael ei gyhoeddi, ac addasu’r cynllun
yn llwyr i gyfarch y wybodaeth oddi fewn iddo. Cadarnhawyd mai canlyniad y
gwaith hwnnw yw’r ail fersiwn hon o’r Cynllun Ymateb, sydd yn cael ei drafod yn
y cyfarfod hwn. Tynnwyd sylw bod nifer o sefydliadau wedi ystyried y Cynllun Ymateb
eisoes yn ogystal â’r Pwyllgorau sydd wedi eu cydnabod eisoes, gan gynnwys
Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb, Comisiynydd Plant a’r Bwrdd Diogelu. Eglurwyd
bydd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon yn cael
eu cydnabod a bydd y ddogfen fyw yn cael ei addasu cyn ei gyflwyno i’r Cabinet
am ystyriaeth bellach a’i gymeradwyo.
Eglurwyd bod rhai addasiadau eisoes wedi cael ei wneud i’r ddogfen yn
dilyn ystyriaethau a sylwadau sydd wedi cael eu cyflwyno o’r trafodaethau sydd
eisoes wedi cymryd lle.
Adroddwyd bod y
Cynllun Ymateb wedi cael ei rannu i saith brif ffrwd gwaith fel a ganlyn:
1.
Llais y Plentyn a Chefnogi Dioddefwyr (Arweinydd Thema:
Gwern ap Rhisiart - Pennaeth Addysg). Dyma’r brif thema a godwyd o fewn yr
Adroddiad. Cadarnhawyd bod pedair nod o fewn y thema hon:
i.
Gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod llais
y plentyn yn ganolog mewn materion yn ymwneud â phlant, a bod hynny wedi
gwreiddio drwy’n holl weithgareddau.
ii.
Sicrhau y gwrandewir ar blant, a’u bod yn cael eu
credu a’u cymryd o ddifrif.
iii.
Rhoi llais i blant a
phobl ifanc mewn prosesau sydd wedi’u cynllunio i’w cadw’n ddiogel.
iv.
Gwneud popeth o fewn ein
gallu i gefnogi’r dioddefwyr a goroeswyr a sefydlu perthynas ofalgar a hwy.
2.
Rheoli honiadau a
phryderon am oedolion sy’n gweithio gyda plant (Arweinydd Thema: Dylan Owen – Cyfarwyddwr Corfforaethol). Cadarnhawyd
prif nod y thema fel a ganlyn:
i.
Sicrhau fod ein trefniadau diogelu yn gadarn ac o’r
safon gorau posib.
ii.
Amddiffyn plant trwy
sicrhau bod pryderon yn cael eu cymryd o ddifri ac yn gweithredu arnynt yn
gyflym.
iii.
Sicrhau bod trefniadau Adran 5 yn cefnogi ymateb
aml asiantaeth gyson a chadarn i honiadau a phryderon am oedolion sy’n gweithio
gyda phlant.
3.
Hyfforddiant a Pholisïau (Arweinydd Thema:
Ian Jones - Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol). Cadarnhawyd prif nod y
thema fel a ganlyn:
i.
Sicrhau fod pecynnau hyfforddiant yn briodol a bod
staff wedi derbyn hyfforddiant addas i’w swyddogaeth.
ii.
Gwneud popeth o fewn ein
gallu i sicrhau fod ysgolion y sir yn mabwysiadu a gweithredu polisïau.
iii.
Sicrhau bod staff wedi’u
hyfforddi i “feddwl yr hyn na ellir ei amgyffred” a deall “ y gallai ddigwydd
yma”.
4.
Llywodraethiant Ysgolion (Arweinydd Thema:
Alison Halliday – Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion). Cadarnhawyd prif
nod y thema fel a ganlyn:
i.
Rhoi’r gefnogaeth gorau
posib i Lywodraethwyr ein hysgolion i’w harfogi i arddel eu rolau.
ii.
Sicrhau bod
llywodraethwyr ysgolion yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau i gadw plant yn
ddiogel.
iii.
Sicrhau bod systemau yn
eu lle sy’n mesur diwylliant ehangach ysgolion.
5.
Grym Rhesymol (Arweinydd Thema: Llion Williams – Arweinydd Ansawdd Diogelu a
Llesiant).Cadarnhawyd prif nod y thema fel a ganlyn:
i.
Gwneud popeth posib i sicrhau fod holl ysgolion yn
gweithredu arferion defnydd o rym rhesymol yn briodol.
6.
Cynllunio Argyfwng (Arweinydd Thema: Catrin Love – Pennaeth Cynorthwyol Adran Gwasanaethau
Corfforaethol). Cadarnhawyd prif nod y thema fel a ganlyn:
i.
Sicrhau fod trefniadau
cynllunio ac ymateb i argyfwng priodol a bod holl staff yn gwybod sut i ymateb
mewn sefyllfa o argyfwng diogelu.
7.
Cefnogi a
Sefydlogi Ysgol Friars (Arweinydd Thema:
Margaret Davies – Pennaeth Ysgol Friars).Cadarnhawyd prif nod y thema fel a
ganlyn:
i.
Sicrhau fod y safonau
addysg presennol yn parhau i gael eu cynnal, fod staff yn hyderus a bod
arweinyddiaeth Corff Llywodraethu’r ysgol yn sefydlog ac effeithiol.
Llongyfarchwyd Margaret Davies ar ei
phenodiad fel pennaeth parhaol yr ysgol yn dilyn cyfnod fel Pennaeth dros dro
yn ddiweddar. Hyderwyd bydd y penodiad hwn yn sicrhau sefydlogrwydd i’r ysgol
i’r dyfodol.
Rhannwyd rhaglen waith y Cynllun Ymateb er
tryloywder. Atgoffwyd bod 26 o argymhellion yn deillio o’r Adroddiad ond
eglurwyd bod 74 o ffrydiau gwaith yn weithredol ar y rhaglen waith, ynghyd ag
amserlenni cyflawni ac unigolion arweiniol, i sicrhau ymateb effeithiol i’r
Adolygiad.
Gwahoddwyd
Cadeiryddion y pwyllgorau sydd eisoes wedi ystyried y Cynllun Ymateb, i grynhoi
sylwadau a gyflwynwyd o fewn eu cyfarfodydd.
Derbyniwyd y
sylwadau canlynol gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal, o brif ystyriaethau’r
cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2026:
Diolchwyd am y cyfle i rannu sylwadau’r
Pwyllgor, gan ddiolch i’r Cadeirydd am gynnal y cyfarfod hwn, yn sgil cais gan
Aelodau’r Pwyllgor am gyfarfod o’r Cyngor Llawn, er mwyn sicrhau bod pob Aelod
yn cael y cyfle i rannu sylwadau i ddatblygu’r Cynllun gorau posib.
Crynhowyd
penderfyniadau ac argymhellion y Pwyllgor fel a ganlyn, gan gadarnhau bydd y
Pwyllgor yn monitro eu datblygiad yn barhaus:
1.
Nodi’r Rhaglen waith
2.
Gofyn am adroddiad
cynnydd mewn 6 mis ar y rhaglen waith gan gynnwys gwybodaeth am y polisi canu’r
gloch a’i weithrediad
3.
Gofyn am adroddiad ar y
gwaith o sicrhau statws Sir Plentyn Gyfeillgar a dod yn Gyngor Trawma Wybodus.
4.
Gofyn i’r Cabinet
ystyried:
- Ychwanegu enw
cyswllt benywaidd allanol i’r poster rhannu gwybodaeth am bryderon a sicrhau
bod manylion cyswllt ar gael ar wefannau ysgolion a gwefan y Cyngor.
- Rhoi sylw i lais y teulu yn ogystal â llais y plentyn yn ffrwd gwaith 1.
- Diwygio’r testun o
dan bennawd ‘2.3 - Archwiliad Estyn o Adran Addysg y Cyngor’ ar dudalen 18 y
Cynllun Ymateb i gynnwys brawddeg sy’n adlewyrchu'r cyd-destun sef, serch y
ganmoliaeth gan Estyn arestiwyd pennaeth ysgol ychydig fisoedd wedyn.
- Sicrhau bod hyfforddiant meithrin perthnasoedd amhriodol ‘grooming’ ar gael i bawb sydd ei angen.
- Darparu hyfforddiant diogelu arbenigol allanol i aelodau ac i
lywodraethwyr.
- Ychwanegu “lles plant a phobl ifanc” at ddisgrifiad ffrwd gwaith 7 –
Cefnogi a Sefydlogi Ysgol Friars.
- Gohebu gyda
llywodraeth Cymru i ddatgan pryder am yr heriau a’r risgiau ynghylch rôl
llywodraethwyr ysgolion.
Derbyniwyd y
sylwadau canlynol gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, o brif
ystyriaethau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2026:
Mynegwyd balchder yn argymhellion y Pwyllgor
gan nodi eu bod yn ymgeisio i ystyried sut sefydliad yw Cyngor Gwynedd pan mae
pethau yn mynd o’i le a bod sefyllfaoedd heriol yn codi.
Rhannwyd crynodeb o
benderfyniadau’r Pwyllgor ar gyfer y prif themâu canlynol:
· Llais y Plentyn a
Chefnogi Dioddefwyr - Pwysleisiwyd bod yr argymhellion hyn yn
cadarnhau nad ydi gwrando ar lais y plentyn a dioddefwyr yn ymarfer symbolaidd
a bod eu llais yn treiddio drwy’r broses ymchwilio nes bod penderfyniadau yn
cael eu gwneud, hyd yn oed pan mae’r hyn a ddywedir
yn anghyfforddus ac yn mynd yn groes i agweddau sefydliadol. Adroddwyd ar yr
angen i newid prosesau a newid meddylfryd torfol.
· Eglurder, Cysondeb
ac Atebolrwydd mewn ymateb i bryderon - Credir bod diffyg pendantrwydd ac oedi
wrth ymateb i bryderon diogelu yn creu risg gwirioneddol i blant. Nodwyd bod
Argymhellion y pwyllgor yn galw ar lwybrau clir a phendant wrth wneud
penderfyniadau ac uwch gyfeirio pryderon. Ymhelaethwyd eu bod yn pwysleisio ar
yr angen i weld patrymau sy’n ymddangos dros amser ac atal preifateiddio
materion drwy eu hystyried yn faterion unigol yn hytrach na rhai systemig.
· Sicrhau
hyfforddiant sy’n newid ymddygiad gweledol, nid sicrhau cydymffurfiaeth
arwynebol - Pwysleisiwyd nad yw’r Pwyllgor yn galw ar fwy o hyfforddiant ar gyfer
ticio blychau, a dylid eu defnyddio ar gyfer rhoi hyder i staff ddefnyddio barn
broffesiynol, fel eu bod yn adnabod ‘grooming’, deall
ffiniau a gweithredu’n briodol pan mae risgiau diogelu yn gymhleth neu’n
ymwneud â phobl ddylanwadol o fewn y gadwyn cyflogaeth. Cadarnhawyd mai mater
ansawdd, dyfnder a moeseg yw darparu’r hyfforddiant allweddol yma. Eglurwyd nad
niferoedd neu hyd sesiynau hyfforddi sydd yn bwysig, ond yr allbwn a welir
ohono.
· Llywodraethiant sydd yn herio, nid osgoi gwrthdaro - Tynnwyd sylw at
bwyslais clir yr argymhellion i dynhau rôl Llywodraethwyr, Arweinwyr ysgolion a
strwythurau craffu i ofyn cwestiynau anodd megis; ‘Pam y gwnaed y penderfyniad
hwn? Beth oedd yn hysbys ar y pryd? Beth na welwyd neu na chafodd ei glywed?’.
Eglurwyd bod llywodraethiant effeithiol yn ymwneud a
chwilfrydedd a dewrder gan amlygu nad yw’n gyfrifoldeb cyfforddus ar pob
achlysur.
· Galw am
ddiwylliant sy’n gallu dysgu o’i fethiannau - Adroddwyd mai dyma un o’r themâu pwysicaf
a godwyd o fewn trafodaethau’r Pwyllgor. Eglurwyd bod yr Argymhellion yn
amlygu’n glir yr angen am ddiwylliant ble mae pobl yn teimlo’n ddiogel i rannu
pryderon yn ogystal â herio a chydnabod methiant heb orfod wynebu canlyniadau
personol. Rhybuddiwyd na fyddai unrhyw Gynllun Ymateb yn arwain at newid
parhaol pe na bai’r newid diwylliannol hyn yn digwydd.
Adroddwyd nad yw
argymhellion y Pwyllgor yn ymwneud â beio unigolion ond yn hytrach yn ymgeisio
i sicrhau atebolrwydd, creu system ble mae methiannau yn cael eu cydnabod,
archwilio a’u defnyddio i wneud pethau yn well.
Pwysleisiwyd nad
yw’r ymateb i’r Adroddiad yn ddigwyddiad unigol. Adroddwyd ei fod yn daith ble
bydd angen mesur cynnydd yn barhaus ac arddangos parodrwydd i addasu pan nad
ydi pethau yn gweithio fel y dylent.
Eglurwyd bydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi yn ail-weld a’r materion hyn yn rheolaidd, gan gadarnhau bod hynny ar
gyfer profi os yw gwersi wedi ei dysgu a bod newid yn weledol mewn bywyd go
iawn, nid i ail-agor hen friwiau. Ymhelaethwyd bydd llwyddiant yn cael ei fesur
ar y sail os yw plant, staff, rhieni a llywodraethwyr yn teimlo bod diwylliant
y Cyngor wedi newid.
Nodwyd bod penderfyniadau’r Pwyllgor i’w
gweld yn llawn ym mhapurau’r cyfarfod hwn, cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi ac ar wefan y Cyngor.
Derbyniwyd y
sylwadau canlynol gan Gadeirydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, o brif
ystyriaethau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2026:
Adroddwyd mai prif
ddyletswydd y Pwyllgor parthed yr Adroddiad oedd ystyried bod y Cynllun Ymateb
yn briodol a chyflawn, ei fod yn sicrhau bod y prif flaenoriaethau yn cael eu
gweithredu ac yn darparu cyngor wrth ymdrin â dibyniaethau. Cadarnhawyd y prif
ystyriaethau canlynol:
· Bod yr adroddiad
yn swmpus a rhy eiriog ar adegau. Fodd bynnag, mynegwyd canmoliaeth i’r rhai a
oedd wedi cydlynu’r gwaith gan ei fod yn ddogfen sylweddol a phroffesiynol.
· Croesawyd bod y Cynllun Ymateb yn cael ei drafod mewn sawl fforwm.
· Cytunwyd bod angen crynodeb neu blaen dudalen syml a phendant o’r prif
bwyntiau gweithredu.
· Derbynwyd yr angen i
ddiogelu plant mewn ysgolion, ond pwysleisiwyd y rheidrwydd i ddiogelu plant ym
mhob sefyllfa.
· Wrth ystyried
hyfforddiant ‘grooming’ yn rhan 3.4 o Ffrwd Gwaith 3,
nodwyd yr angen i addasu pwyslais yr hyfforddiant a’i deitl i gynnwys
cydnabyddiaeth o atal meithrin perthynas amhriodol.
· Croesawyd manylder
y Cynllun Ymateb i’r hyn sydd yn mynd i ddigwydd, ond pwysleisiwyd yr angen i
adfyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd. Pwysleisiwyd yr angen i ddatgelu
methiannau staff ar bob lefel a chynnal trafodaethau gyda’r rhai hynny oedd yn
greiddiol i’r methiannau. Amlygwyd yr angen i sicrhau bod proses wedi ei ddilyn
i ddeall cyd-destun yr hyn aeth o’i le.
· Yng nghyd-destun
‘cyfleoedd a gollwyd’ a ‘dyletswydd broffesiynol’, derbyniwyd nad oes modd
trafod achosion penodol. Fodd bynnag, adroddwyd ar yr angen i sicrhau bod
trefniadau disgyblu mewn lle, yn ogystal ag amserlen ar gyfer y broses disgyblu
a ffyrdd o adrodd ar y weithred, er tegwch i’r teuluoedd sydd wedi cael eu
heffeithio.
· Croesawyd bod y
cynllun yn rhoi pwyslais ar drefniadau canu’r gloch a diogelu. Pwysleisiwyd ei
fod yn hanfodol i’r Cyngor fod ar ei orau o fewn y meysydd hyn. Cefnogwyd yr adolygiadau i’r
polisïau gan bwysleisio’r angen am ddiweddariad ar y gwaith hynny yn ogystal ag
amserlen a’r modd maent yn cael eu mabwysiadu.
· Pwysleisiwyd yr angen i brosesau byr, manwl gywir ac effeithiol wreiddio
yng ngweithdrefnau’r diwylliant gan sicrhau nad ydynt yn ymateb i ymarferion
ticio blwch.
· Mynegwyd balchder bod trefniadau gyda’r Heddlu a’r Bwrdd Iechyd yn cael
eu tynhau.
· Dymunwyd bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y camau sydd
wedi eu gweithredu neu sydd yn cael eu hystyried fel ymateb addas a phriodol
i’r sefyllfa.
Ymhelaethwyd bod
trafodaethau’r Pwyllgor yn cynnwys sylwadau fod cyfeiriadau helaeth at Estyn. Er bod yr
arolwg, a gynhaliwyd Mehefin 2023 wedi bod yn ddiffygiol a chamarweiniol
ynglŷn â threfniadau diogelu, ac nad oedd cydnabyddiaeth o’r diffygion
hynny yn amlwg yn yr adroddiad, cytunwyd y byddai modd ychwanegu’r wybodaeth
i’r adroddiad terfynol fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet. Ategodd y Pennaeth
Addysg y byddai yn codi’r mater gydag Estyn, ac yn amlygu bod y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio angen derbyn cydnabyddiaeth gan Estyn bod eu harolwg
wedi bod yn gamarweiniol. Byddai hyn yn adfer hyder y cyhoedd mewn adroddiadau
Estyn i’r dyfodol.
Cadarnhawyd mai penderfyniadau’r Pwyllgor ar
ddiwedd y drafodaeth oedd y canlynol:
·
Derbyn manylder y Cynllun Ymateb
·
Yn diolch i’r Swyddogion am eu gwaith ac yn croesawu bod
y Cynllun Ymateb yn cael ei drafod mewn sawl fforwm
·
Bod angen crynodeb / blaen dudalen syml a phendant o’r
prif bwyntiau gweithredu
·
Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y
camau sydd wedi eu gweithredu neu sydd yn cael eu hystyried fel ymateb addas a
phriodol â’r sefyllfa
·
Cais gan
y Pwyllgor i Estyn gydnabod gwendidau eu hadroddiad ar drefniadau diogelwch y
Cyngor, Mehefin 2023
·
Bod
Trefniadau Canu’r Gloch a Threfniadau Diogelu angen bod ymysg y gorau
- croesawu adolygiadau i’r polisïau hyn
- angen diweddariad ar y gwaith, yr amserlen
a’r modd maent yn cael eu mabwysiadu
Diolchwyd i’r
Cadeiryddion am grynhoi trafodaethau eu cyfarfodydd. Eglurwyd bod y galw am y cyfarfod
hwn yn deillio o sylwadau a wnaed gan Arweinydd y Grŵp Annibynnol yn ystod
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Gofal. Gofynnwyd iddi agor y drafodaeth yn ffurfiol
ble rhannwyd y sylwadau canlynol:
Diolchwyd i bawb sydd wedi cyfrannu at
drafodaethau’r Cynllun Ymateb hwn ym mhob cyfarfod sydd wedi cael ei gynnal hyd
yma. Diolchwyd i’r plant a dioddefwyr am eu dewrder.
Mynegwyd
siomedigaeth nad oedd Jan Pickles,
Cadeirydd yr Adolygiad Ymarfer Plant, yn bresennol ar gyfer cynorthwyo’r
drafodaeth yn ystod y cyfarfod hwn.
Mynegwyd
rhwystredigaeth nad oes ymchwiliad cyhoeddus wedi ei gynnal gan Lywodraeth
Cymru, i’r mater hwn hyd yma. Pwysleisiwyd y byddai’n cynorthwyo’r Cyngor i
sicrhau newid diwylliannol a sefydliadol yn sgil y ffaith bod 52 cyfle wedi ei
golli i ddod a throseddau’r prifathro hwn i ben.
Pwysleisiwyd yr
angen i ‘droi pob carreg’ er mwyn sicrhau nad oes sefyllfa o’r fath yn digwydd
eto.
Ategwyd sylwadau
a gyflwynwyd eisoes sy’n galw i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau canu’r
gloch a diogelu yn gywir ac effeithiol.
Diolchwyd i
Arweinydd y Grŵp Annibynnol am ei sylwadau gan roi’r cyfle i Aelodau
eraill gymryd rhan yn y drafodaeth, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i’r
Aelodau hynny nad oedd yn aelodau o’r Pwyllgorau a drafodwyd uchod.
Cyfeiriwyd at
gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 18 Awst 2022 er mwyn trafod
Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, gan atgoffa Aelodau o natur fywiog y
cyfarfod hwnnw. Nodwyd bod Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol wedi nodi
bod Asesiad Risg wedi cael eu datblygu yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gan gynnwys
cyfarfodydd a gynhelir yn Siambrau’r Cyngor ac yn rhithiol. Gofynnwyd pam bod
asesiadau risg wedi cael eu datblygu ar gyfer y sefyllfaoedd hyn, ond bod
prosesau diffygiol ar waith i warchod plant o fewn ysgolion Gwynedd, megis
penodi’r troseddwr i fod yn bennaeth ar ddwy ysgol yng Ngwynedd.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod am asesiadau
risg, cadarnhaodd Aelod Cabinet Addysg bod asesiadau risg yn cael eu llunio gan
ysgolion unigol a’u llywodraethwyr gyda chefnogaeth yr Adran Addysg. Nodwyd bod
pob ysgol yng Ngwynedd yn derbyn ymweliad blynyddol erbyn hyn gan y Tîm Diogelu
a Llesiant. Mynegwyd balchder bod y Tîm hwn yn ehangu o 3 aelod i 4 aelod er
mwyn sicrhau bod modd gwirio pob trefniant ar gyfer pob ysgol yn y Sir yn
flynyddol.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod am y Cod
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg bod yr
hyn sydd wedi digwydd yn Ysgol Friars yn tanlinellu ei bwysigrwydd. Atgoffwyd
mai bwriad y Cod yw amlygu perthnasau iach a derbyniol i blant a phobl ifanc yn
ogystal â beth sydd yn gwbl annerbyniol. Tynnwyd sylw bod yr Adroddiad yn
argymell cynyddu ymwybyddiaeth ar beth yw ‘grooming’,
gan egluro bod y gwaith hynny ar waith er mwyn i blant a phobl ifanc allu
adnabod os oes gweithredoedd amhriodol yn digwydd iddynt, a deall sut allent
adrodd arnynt. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Addysg ei fod yn bwysig bod pob
plentyn a pherson ifanc yn ymwybodol o’r addysg hyn a'i fod yn cael ei
gyd-blethu i’r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd.
Gofynnwyd pa gamau disgyblu sydd ar waith
neu wedi eu cwblhau yn erbyn holl staff yr Awdurdod Lleol a amlygwyd o fewn yr
Adroddiad fel unigolion a oedd yn methu ag ymateb i bryderon. Mewn ymateb i’r
ymholiadau, cadarnhaodd y Prif Weithredwr nad oes modd gwneud unrhyw sylwad ar
achosion unigol. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod pethau wedi mynd o’i le ac
adroddwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod trefniadau cyflogaeth
a chyfreithiol yn cael eu prosesu’n drwyadl ac effeithiol.
Atgoffwyd bod pryderon am y troseddwr wedi
cael ei godi yn 2019 a'i fod wedi cael ei benodi yn bennaeth ar ail ysgol yng
Ngwynedd yn dilyn hynny. Mewn ymateb i ymholiad ar sut oedd y broses penodi
honno wedi dod i’r penderfyniad hwn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod y
penderfyniad anghywir wedi cael ei wneud gyda’r penodiad hwn a bod gwybodaeth
fanwl i’w weld yn yr Adroddiad. Cydnabuwyd nad oedd modd gwneud unrhyw sylw
pellach ar hyn o bryd, yn sgil y sefyllfa gyfreithiol sydd eisoes wedi ei
esbonio.
Tynnwyd sylw pellach bod y Cyngor wedi galw
ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i’r holl amgylchiadau ynghlwm
â’r troseddau hyn gan mai nhw sydd gyda’r grym statudol i’w sefydlu. Mewn
ymateb i’r sylw hyn, cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor ei bod wedi derbyn ymateb
i’r galwad gan Brif Weinidog Cymru a bydd yr ymateb hwnnw yn cael ei gylchredeg
i’r Aelodau.
Nodwyd bod yr adroddiad yn cadarnhau bod pob
ysgol yn derbyn Polisi Diogelu Ysgolion enghreifftiol gyda’r anogaeth i gwblhau
man addasiadau (megis enw’r ysgol, enw’r person dynodedig diogelu) a’i
fabwysiadu yn unol â gofynion canllawiau a safonau cydnabyddedig. Ymhelaethwyd
mai cyfrifoldeb y llywodraethwyr yw
sicrhau bod polisïau diogelu effeithiol wedi eu mabwysiadu ac yn cael eu
hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn gyda chefnogaeth yr Adran Addysg. Wrth
ystyried y materion hyn, pwysleisiwyd yr angen i sicrhau bod y trefniadau hyn
yn cael eu monitro’n gyson a bod y llywodraethwyr a phenaethiaid ysgolion yn
atebol am y penderfyniadau a wnaethpwyd. Atgoffwyd bod y ddogfennaeth hon yn
cynnwys gwybodaeth gyfrinachol ac felly ni all ei rannu gyda’r holl lywodraethwyr,
gan bwysleisio’r angen i’r llywodraethwyr ddal y person diogelu dynodedig i
gyfrif yn ogystal â phennaeth yr ysgol. Tynnwyd sylw bod hyn yn anodd iawn gan
nad oes modd iddynt eu herio heb y wybodaeth lawn. Mewn ymateb i ymholiad os
oes unrhyw un o fewn yr Adran Addysg gyda’r cyfrifoldeb o sicrhau bod y
gweithdrefnau hyn wedi cael eu dilyn, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Addysg bod y
Tim Diogelu a Llesiant yn monitro bod y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau gan bob
ysgol yng Ngwynedd.
Cydnabuwyd bod oedi ar adolygiad Llywodraeth
Cymru i drefniadau llywodraethu o fewn ysgolion, ond nodwyd ei fod yn debygol
bod posibilrwydd bod cyn-bennaeth Ysgol Friars wedi bod yn defnyddio hyn fel
esgus i beidio sicrhau newid yn y gorffennol. Pwysleisiwyd nad oes newid i
drefniadau llywodraethu ysgolion ers nifer helaeth o flynyddoedd a bod newid yn
y maes hwn yn allweddol. Mewn ymateb i’r sylwadau, cytunodd Aelod Cabinet
Addysg bod y drefn llywodraethu bresennol wedi torri a bod newidiadau angen cael
eu gwneud. Cadarnhawyd bod un swyddog o fewn yr Adran Addysg yn gweithio i
gefnogi llywodraethwyr, gan nodi bod ail swyddog wedi cael ei benodi’n
ddiweddar. Atgoffwyd mai gwirfoddolwyr yw llywodraethwyr ein hysgolion ac maent
angen cefnogaeth lawn. Ystyriwyd bod gormod yn cael ei ofyn o’r llywodraethwyr
gyda gormod o faich yn cael ei roi ar yr unigolion hynny sydd yn dymuno gwneud
cyfraniad i’w cymuned leol - megis bod yn rheolwr llinell i Bennaeth yr ysgol.
Gobeithiwyd bydd yr adolygiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn galluogi
penderfyniadau newydd ar yr hyn sydd yn addas a phriodol i fod o fewn
cyfrifoldebau llywodraethwyr. Diweddarwyd bod yr Adran Addysg wedi derbyn cylch
gorchwyl addasedig cychwynnol fel rhan o’r adolygiad hwn gan Lywodraeth Cymru
gan nodi bod y Cyngor wedi amlygu ystyriaethau ychwanegol iddynt ei nodi.
Ychwanegwyd bod y Cyngor yn gwthio i gael cynrychiolydd o Wynedd yn gweithio
gyda’r Llywodraeth ar yr adolygiad hwn er mwyn sicrhau bod llais pawb yn cael
ei glywed.
Croesawyd
cydnabyddiaeth bod Grym Rhesymol (ffrwd gwaith 5 yr Adroddiad) wedi cael ei adnabod
fel thema ble mae lle i wella. Fodd bynnag, cysidrwyd y dylai’r camau
gweithredu angenrheidiol fod yn fwy datblygol erbyn hyn, gan amlygu dylai
addasiadau i’r maes yma gychwyn oddeutu dwy flynedd a hanner yn ôl, pan
arestiwyd y troseddwr.
Tynnwyd sylw bod ffurflenni cyfeirio wedi
cael eu hychwanegu i wefan y Cyngor, gydag e-bost wedi cael ei yrru at holl
benaethiaid ysgolion Gwynedd. Ystyriwyd na ddylai un unigolyn yn unig fod yn
ymwybodol o honiadau, a bod modd monitro gwybodaeth yn barhaus. Cysidrwyd yr
angen i gylchreded y ffurflenni cyfeirio i’r person diogelu dynodedig,
cadeiryddion ac is-gadeiryddion y llywodraethwyr a phob unigolyn perthnasol
arall. Pwysleisiwyd dylai pawb fod yn ymwybodol sut i gael mynediad i’r
ffurflen. Gobeithiwyd bydd y Cynllun Ymateb yn arwain at newid agwedd
sefydliadol er mwyn sicrhau bod prosesau yn eu lle ar gyfer craffu effeithiol a
chyfathrebu clir ac atal y methiannau rhag digwydd eto. Mewn ymateb i’r
sylwadau, cadarnhaodd Aelod Cabinet Addysg bod y ffurflen gyfeirio wedi cael ei
rannu gyda pawb sydd wedi mynychu hyfforddiant Diogelu ac i bob person
dynodedig diogelu. Ychwanegwyd bod posteri wedi cael eu dosbarthu i ysgolion yn
amlygu i staff a disgyblion pwy yw’r person dynodedig diogelu a'u manylion cyswllt
gan ofyn i unrhyw un ddod i gyswllt gyda’r Adran os ydynt yn ymwybodol o unrhyw
ysgol sydd ddim yn arddangos posteri, fel bod modd rhannu mwy o bosteri iddynt.
Nodwyd bod sicrhau bod y posteri hyn yn weledol yn yr ysgolion yn rhan o
gyfrifoldeb y Tim Diogelu a Llesiant yn ystod eu hymweliadau blynyddol.
Gwnaed sylw y
dylid monitro cyfraddau gwaharddiadau ysgol a throsiant staff, gan nodi y gall
cyfraddau uchel olygu’r angen i gychwyn ymholiadau prosesau diogelu.
Mynegwyd cywilydd
bod 52 cyfle wedi ei golli i ddal y troseddwr hwn drwy ymateb i geisiadau gan
ddisgyblion, staff a rhieni, gan holi am fanylion pellach sut bod hyn wedi
digwydd.
Manylwyd ar Ffrwd Gwaith 1 (Llais y Plentyn
a Chefnogi Dioddefwyr) gan ategu ymddiheuriadau diffuant y Cyngor ar sawl
achlysur. Gofynnwyd am wybodaeth bellach ar faint o arian sydd yn cael ei wario
ar sesiynau therapi, cynghorwyr cwnsela a chymhorthion eraill mae’r dioddefwyr
wedi ei adnabod, ei angen. Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau bod digon o arian yn
cael ei wario i ddarparu’r cymorth yma, o’r safon gorau, er lles y dioddefwyr.
Dymunwyd sicrwydd bydd arian yn cael ei ddyrannu i sicrhau byddai’r gefnogaeth
hon ar gael yng nghyllidebau’r Cyngor i’r dyfodol yn barhaol. Eglurwyd bod
Arweinydd y Cyngor eisoes wedi cadarnhau bod Ysgol Friars wedi derbyn £500,000
o arian grant a bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £600,000 i’r Cyngor ar gyfer
gwella gwasanaethau. Mewn ymateb i’r sylwadau, cydnabuwyd ei fod yn anodd
cadarnhau’r data ar wariant cymorth i ddioddefwyr ar hyn o bryd. Fodd bynnag,
cadarnhawyd bod buddsoddiad ychwanegol wedi cael ei wneud yn y gwasanaeth
cwnsela yn Ysgol Friars. Eglurwyd bod lefel uwch o gefnogaeth yn Ysgol Friars
ers cyn i’r troseddau ddod i’r amlwg, o’i gymharu ag ysgolion eraill y sir, gan
fod hwb llesiant wedi cael ei sefydlu yn yr ysgol gyda dwy cwnselydd
ychwanegol i’r ddarpariaeth a gynigir mewn ysgolion eraill. Cadarnhawyd bod yr
arian yn cyrraedd yr Adran Addysg ac yn cael ei ddyrannu ymhellach i’r
ysgolion. Ymhelaethwyd bod cefnogaeth arbenigol wedi cael ei ddarparu i
ddioddefwyr ac i staff yr ysgol. Sicrhawyd bod unrhyw gefnogaeth ychwanegol
mae’r ysgol yn gofyn amdano, yn cael ei gymeradwyo. Adroddwyd bydd gwaith yn
cael ei wneud i gasglu’r wybodaeth ariannol a’i rannu gyda’r Aelodau.
Rhannwyd sylwadau ar Ffrwd Gwaith 2 (Rheoli
honiadau a phryderon am oedolion sy’n gweithio gyda phlant), gan egluro bod
nifer o Aelodau wedi mynychu cynhadledd arbennig i drafod yr hyn a ddysgwyd yn
dilyn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, a oedd wedi ei drefnu gan RASASC (Rape and Sexual Abuse Support Centre) Gogledd Cymru. Cadarnhawyd bod Jan Pickles wedi siarad yno am
drawma ac am ddiwylliant gwaith iach ac effeithiol a’r cyswllt rhwng y pynciau
hyn. Adroddwyd bod camdriniaeth rywiol yn erbyn plentyn yn achosi trawma amlwg.
Nodwyd os yw plentyn yn cael ei gam-drin gan berson mewn sefyllfa o
ymddiriedaeth, bod hynny yn ychwanegu haen ychwanegol o drawma. Eglurwyd bod
sylfeini seicolegol y mae plentyn yn dibynnu arnynt ar gyfer teimlo’n ddiogel
yn cael eu chwalu yn sgil eu camdriniaeth, a hyd yn oed yn fwy os gan unigolion
mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. Cadarnhawyd y diffinnir hyn fel ‘Trawma brad’ a
gall olygu bod plentyn yn tyfu i fod yn oedolyn sydd yn cael trafferth i
ymddiried mewn pobl ac yn gweld y byd fel lle anniogel ac anwadal. Ymhelaethwyd
bod ‘Trawma brad sefydliadol’ yn cael ei ychwanegu i’r trawma hyn pan mae’r
sefydliadau sydd i fod yn warchodol i’r plentyn yn troi llygad ddall i’r hyn
sy’n digwydd. Esboniwyd bod y math hwn o drawma yn gwneud i ddioddefwyr
teimlo’n fach, dibwys a di-lais gan fod sefydliadau yn blaenoriaethu enw da,
grym a chyfleustra dros eu diogelwch a gofal. Soniwyd yr arweinia hyn at
ail-weiriad yn system nerfol y dioddefwyr i fyw bywyd mewn modd ‘fight o’r flight’ gan nad yw
cymdeithas yn mynd i’w gwarchod. Mynegwyd siomedigaeth bod Cyngor Gwynedd wedi
chwarae rhan yn y trawma triphlyg hwn - Trawma camdriniaeth, Trawma brad a
Thrawma brad sefydliadol yn achos dioddefwyr dewr Ysgol Friars.
Ymhelaethwyd bod Rhan 5 o’r Adroddiad yn
ymwneud a’r weithdrefn sydd yn delio gyda phryderon am bobl sydd mewn sefyllfa
o ymddiriedaeth. Nodwyd nad oes dealltwriaeth ddigonol yn y Cyngor hwn o’r
gweithdrefnau nac o faen prawf ‘Addasrwydd i Weithio Gyda Phlant’. Eglurwyd bod
hyn yn peri pryder amlwg a'i fod hefyd yn gwneud i’r Cyngor ystyried os oes
pobl eraill yn gweithio gyda phlant yng Ngwynedd na ddylai fod yn gwneud hynny.
Mynegwyd canmoliaeth bod awdit o bryderon hanesyddol
yn cael ei ymestyn rhag ofn bod pryderon wedi syrthio drwy’r rhwyd. Gobeithiwyd
bod cynnal yr awdit yma yn ogystal â’r Cynllun Ymateb
a pholisïau eraill yn rai o gamau cyntaf y Cyngor i sicrhau’n hyderus na fydd
hyn yn digwydd eto drwy addasu ei ddiwylliant. Cydnabuwyd bod mesur gwendidau
diwylliannol yn heriol gan nad yw’n hawdd i fesur ei ddatblygiad, ond
cadarnhawyd yr angen iddo dreiddio o’r uchelfannau a threiddio i holl agweddau
o wasanaethau’r Cyngor. Gofynnwyd am sicrhad o arweinyddiaeth weithredol a
gweledol i sicrhau newid hirdymor i ddiwylliant y Cyngor. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Prif
Weithredwr ei fod yn cytuno gyda’r holl sylwadau a gyflwynwyd a chydnabuwyd bod
peth gwaith i’w wneud yn y maes hwn. Ymrwymwyd i sicrhau bod y gwaith a
ddatblygwyd o fewn y Cynllun Ymateb yn gwreiddio i ddiwylliant newydd y Cyngor.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor y byddai’n arwain drwy esiampl gan ategu bod rôl
gan bawb i sicrhau bod y diwylliant yn newid yn hirdymor i’r dyfodol.
Mewn ymateb bellach, diweddarodd Dirprwy
Arweinydd y Cyngor bod nifer o newidiadau i Ran 5 o’r Adroddiad, sy’n ymwneud
â’r weithdrefn sydd yn delio gyda phryderon am bobl sydd yn delio gyda
phryderon am bobl sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. Cadarnhawyd os oes unrhyw
bryderon yn codi yn unol a’r gweithdrefn hon, mae gweithiwr cymdeithasol yn
ymweld â’r plant hynny sydd yn cael eu henwi mewn honiad, er mwyn sicrhau bod
llais y plentyn yn cael ei glywed. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai
nid dim ond un unigolyn na sefydliad
sydd yn gwneud penderfyniadau ar drothwyon gan nodi ei fod yn fater
aml-sefydliadol. Adroddwyd bod nifer o argymhellion yr Adroddiad wedi cael eu
gweithredu arnynt gan gydnabod bod mwy o waith i’w wneud. Pwysleisiwyd bod
gwaith wedi cael ei wneud wrth gynnal awdit ar
bryderon hanesyddol yn cael ei ymestyn gan egluro os oes pryder yn cael ei godi
mwy nag un waith yn ymwneud ag un unigolyn, bod y Cyngor yn ail-ymweld a’r
cyfeiriadau hynny, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw fater wedi syrthio drwy’r
rhwyd.
Wrth ystyried Ffrwd Gwaith 3 (Hyfforddiant a
Pholisïau), tynnwyd sylw bod diffyg cadw cofnodion yn effeithiol yn thema gyson
o fewn yr Adroddiad, gan fod o leiaf dau gyfarfod wedi cael ei gynnal ynghylch
y troseddwr gydag Uwch Swyddogion yn bresennol ac nid oedd cofnodion wedi cael
eu hysgrifennu, gydag achosion eraill ble mae cofnodion yn ddiffygiol neu’n
absennol. Gofynnwyd beth yw’r polisi ar gyfer cymryd cofnodion yn y
sefyllfaoedd hyn ac os oes trothwyon penodol angen eu cyfarch cyn i’r angen am
gofnodion godi. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod
cofnodion trylwyr yn hanfodol bwysig a bod pob ymdrech yn cael eu gwneud i
sicrhau bod cofnodion yn cyfarch Safonau Proffesiynol Cymru sydd yn cael eu
gosod gan Ofal Cymdeithasol Cymru a safonau penodol hefyd yn cael eu rhoi ar
gyfer therapyddion galwedigaethol. Adroddwyd bod y safonau hyn yn gosod
disgwyliadau cenedlaethol i bob gweithiwr. Tynnwyd sylw hefyd at bolisïau
Sicrwydd Ansawdd y Cyngor ble mae Uwch Swyddogion Ansawdd ac Arweinyddion Timau
yn goruchwylio gwaith y gweithlu er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau
hynny. Mewn ymateb i’r Adroddiad, sicrhawyd bod dogfen Sicrwydd Ansawdd penodol
yn cael ei ddatblygu ar gyfer cymryd cofnodion yn effeithiol ar gyfer
gwasanaethau cymdeithasol yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd gan nodi bydd y
ddogfen honno yn cael ei graffu ac yn derbyn ystyriaeth Bwrdd Rhaglen Cynllun
Ymateb a’r CIW (Care Inspectorate Wales), er mwyn
sicrhau priodoldeb ac addasrwydd i’r dyfodol. Cydnabuwyd bod sylwadau wedi eu
gwneud nad oedd cofnodion o reidrwydd yn cael eu cadw yn ganolog gyda mynediad
rhwydd atynt, gan adrodd bod system ‘mosaic’ yn cael
ei ddatblygu sydd yn disodli system WCCIS erbyn yr Hydref ac mae system ‘magic notes’, sydd yn trosi
negeseuon llafar a dderbyniwyd gan staff, yn gofnod electronig i’r system mosaic. Pwysleisiwyd bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu
i holl weithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall sut i ddefnyddio’r system
newydd hon a fyddai hefyd yn mynd i’r afael â beth ddylid ei gofnodi a pryd
dylid gwneud hynny.
Mewn ymateb i’r sylwadau hyn gan y
Cyfarwyddwr Corfforaethol, nodwyd nad oedd cydymffurfio â’r safonau cofnodion
proffesiynol a ddisgrifiwyd wedi arbed y dioddefwyr yn yr amgylchiadau a
drafodir. Ystyriwyd y byddai’n werthfawr i benodi swyddog o fewn y Cyngor i
sicrhau bod cofnodion sydd yn cael eu hysgrifennu yn safonol, a’u bod yn cael
eu monitro’n gyson. Mewn ymateb, diolchodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor am yr
awgrym hwn o benodi swyddog newydd gan gytuno y byddai’n swyddogaeth bwysig i’w
ychwanegu i brosesau’r Cyngor.
Pryderwyd bod ffocws mawr yn cael ei roi i
weithdrefnau’r Cyngor ac nid ar ddiwylliant y Cyngor. Tynnwyd sylw bod nifer
o’r cyfleoedd a gollwyd yn deillio o fethiannau unigol i gydymffurfio â
gweithdrefnau priodol yn hytrach na bod y gweithdrefnau eu hunain yn
ddiffygiol. Nodwyd nad oes digon o gynlluniau ar waith i addasu’r meddylfryd
hyn er mwyn sicrhau nad oes modd i staff y Cyngor lwyddo i beidio â
chydymffurfio yn y dyfodol, drwy gyflawni addasiadau diwylliannol. Gofynnwyd pa
rôl sydd gan Aelodau i graffu, ymchwilio a monitro prosesau mewnol y Cyngor
sydd yn ymwneud ag aelodau staff, os oes rôl o gwbl. Pryderwyd os nad oes gan
yr Aelodau rôl i’w chwarae mewn prosesau o’r fath, ystyriwyd os yw staff y
Cyngor yn sgriwtineiddio beiau eu hunain.
Pwysleisiwyd na ddylai hyn ddigwydd ac ystyriwyd i ba raddau mae modd i hyn
ddigwydd yn dilyn prosesau presennol. Mewn ymateb i’r ystyriaethau, cadarnhaodd
y Prif Weithredwr bod trefniadau disgyblaethu staff i’w weld ar wefan y Cyngor
a sicrhawyd nad oes unrhyw aelod o staff gyda’r gallu na’r pŵer i asesu eu
beiau hunain gan nad yw’n briodol na thryloyw i wneud hynny. Sicrhawyd yr
Aelodau a’r cyhoedd bod y Cyngor yn derbyn arweiniad gan gwmni cyfreithiol
annibynnol bod prosesau cyflogaeth briodol ar waith ar gyfer pob unigolyn sydd
ynghlwm â’r mater hwn. Adroddwyd nad oes agwedd gwleidyddol i brosesau
cyflogaeth ac felly nid oes rôl flaenllaw i’r Aelodau yn y prosesau datblygu.
Fodd bynnag, mewn achosion penodol gall achosion cael eu cyflwyno i Bwyllgor
Penodi Prif Swyddogion sydd yn cynnwys Aelodau Etholedig, i wneud penderfyniad
ar faterion cyflogaeth, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
Cyflwynwyd sylwadau cyffredinol a oedd yn
adolygu’r drafodaeth hon. Pwysleisiwyd bod yr holl faterion a drafodwyd yn
aneffeithiol ar eu pen eu hunain, a bod angen cydblethu’r holl agweddau er mwyn
sicrhau bod y Cynllun Ymateb yn effeithiol i’r dyfodol. Eglurwyd bod hyn yn
hanfodol gan fod yr Adroddiad yn amlygu methiannau ar nifer o agweddau
gwahanol. Ystyriwyd mai’r cwestiwn pwysicaf i’w ystyried yw ‘Beth fyddai’n
digwydd yn wahanol heddiw pe byddai’r un pryderon yn cael eu codi?’.
Pwysleisiwyd yr angen i greu diwylliant ble mae staff yn barod i herio ac
arweinwyr yn barod i wrando a gweithredu. Adroddwyd byddai’n allweddol i’r
penderfyniadau cywir gael eu gwneud yn gyflymach ac yn ffafriol i faterion
diogelu pob tro, yn enwedig yn y sefyllfaoedd hynny ble mae’n anodd gwneud
hynny.
Gwnaed cais i Aelodau’r Cyngor ac i’r wasg i
gychwyn symud ymlaen o’r hyn sydd wedi digwydd gan beidio â defnyddio lluniau’r
troseddwr mwyach. Tynnwyd sylw bod ei lun yn cael ei ddefnyddio’n gyson ar y
newyddion ac mewn papurau newydd a’r cyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed mewn
datganiad diweddar a oedd yn cadarnhau penodiad Ms Margaret Davies fel pennaeth
Ysgol Friars. Pwysleisiwyd bod hyn yn ail-gynhyrchu trawma’r dioddefwyr a'i fod
yn gwbl amhriodol. Gofynnwyd i bawb ganolbwyntio ar y datblygiadau sydd ar
waith a’r cynnydd a welir i’r dyfodol, o hyn allan.
Ategwyd
sylwadau’r Aelodau gan Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr.
Cadarnhawyd prif drafodaethau’r Cyfarfod fel
a ganlyn:
·
Atgyfnerthu’r cais i Lywodraeth Cymru am ymchwiliad
cyhoeddus, gan rannu ymateb y Llywodraeth i’r cais gydag Aelodau’r Cyngor
Llawn.
·
Pwysleisio pwysigrwydd effeithlonrwydd Polisïau
Canu’r Gloch, Diogelu a Grym Rhesymol.
·
Gofyn i Ffurflenni Cyfeiriadau Diogelu gael eu
dosbarthu yn ehangach nac i Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr yn unig.
·
Rhannu gwybodaeth am wariant ar gefnogaeth, therapi
a chwnsela i ddioddefwyr i roi sicrwydd ein bod yn gwario digon ar y gefnogaeth
hyn.
·
Pwysleisio pwysigrwydd Polisi Grym Rhesymol a’i fod
yn cael sylw priodol yn yr ymateb.
·
Ystyriaeth i sut mae sicrhau fod polisi diogelu yn
cael ei ddilyn pan fo’r wybodaeth yn gyfrinachol a ddim yn hysbys i holl
aelodau o gorff llywodraethu ysgol
·
Rhoi ystyriaeth i sicrhau bod pryderon yn cael eu
hystyried o ddifrif a bod hynny yn cael ei
atgyfnerthu mewn diwylliant
·
Sicrhau bod trefniadau cadw cofnodion, ac unrhyw
hyfforddiant perthnasol, yn cael eu adolygu ac ystyried swyddog penodol i wirio
ansawdd cofnodion.
·
Yr angen am sicrwydd petai rhywun yn codi pryderon
heddiw beth fyddai’n wahanol
·
Yr angen i gyhoeddi fersiwn cryno a hawdd i
ddarllen o’r ddogfen.
PENDERFYNWYD:
Gofyn i’r Cabinet
ystyried y sylwadau uchod, yn ogystal â sylwadau Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor
Craffu Gofal (13 Ionawr 2026), Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi (19 Ionawr 2026) a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (15 Ionawr 2026),
wrth fabwysiadu’r Cynllun Ymateb newydd.
Dogfennau ategol: