Agenda item

I graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2026/27 i’r Cyngor Llawn

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
  • Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
  • Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2026/27 yn eu cyfarfod 10/02/26
  • Diolch i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r Gyllideb

 

  • Sefyllfa gorwariant yn bryderus
  • Pryder bod y gronfa wrth gefn yn lleihau – croesawu ymarferiad cynhaeafu
  • Cynlluniau datblygu / gwella darpariaethau Cartrefi Preswyl yng Ngwynedd - cais i ganfyddiadau ymchwiliad Housing LIN Cymru gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor

 

Nodyn:

-        Rhestr bidiau cyfalaf - cynllun i ymestyn maes parcio Ysgol y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am fanylion pellach ynglŷn â rhesymau dros lithrad amser (dyddiad gwreiddiol 2021) a’r costau ynghlwm  â’r llithriad

-        Awgrym i gyflwyno gwybodaeth am dreth y Cyngor mewn gwerth ariannol (£)  yn hytrach na chanran (%) yn unig

-        Datganiad y Swyddog Cyllid - ‘anochel bod y gyllideb yn cynnwys elfen o risg o ragdybiaethau’ ... a oes cynlluniau mewn lle petai ostyngiad yng nghasgliadau premiwm tai, ond cynnydd yn y galw am adeiladu tai?

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 4.1% ar gyfer 2026/27, sy’n cyfateb i gynnydd gwerth £10.4m mewn ariannu allanol. Adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2026/27 gyda’r angen i gynyddu gwariant o £23.3m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau.  Gyda phwysau mewn galw ar wasanaethau yn ogystal â chwyddiant uchel, nodwyd y bydd argymhelliad i gynnyddu Treth Cyngor o 5.32% i gyflawni’r amcan eleni gyda rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach wrth anelu i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2027/28.

 

Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau oedd wedi eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad fydd yn cael ei gymryd ganddynt yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru.

 

Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod 10/02/26) yn argymell i’r Cyngor Llawn (05/03/26) i sefydlu cyllideb o £379,866,050 ar gyfer 2026/27 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390 a £115,856,660 o incwm o’r Dreth Cyngor (sydd yn gynnydd o 5.32%) a sefydlu rhaglen gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y meysydd hynny;

·        Chwyddiant Cyflogau o £8.3m - amcan gynnydd cytundeb tâl 2026/27 4% ar gyfer athrawon a 3.4% ar gyfer gweddill y gweithlu

·        Chwyddiant cyflenwyr £6,075,390

·        Cynnydd mewn Ardollau i gyrff perthnasol - £528,810

·        Pwysau ar Wasanaethau - argymell cymeradwyo bidiau gwerth £9,910,580 am adnoddau refeniw parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau, a bidiau cyfalaf gwerth £840,010

·        Gwrthdroi Grant Yswiriant Gwladol Cyflogwr 2025/26 - £3,632,950

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, cyfeiriwyd at gynlluniau arbedion gwerth £320,500 oedd yn deillio o raglenni arbedion blaenorol ac eisoes wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor i leihau’r bwlch ariannol.

 

Adroddwyd y byddai angen cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth Cyngor ac o ganlyniad bydd y Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn i godi’r dreth 5.32% er mwyn diwallu’r pwysau ar wasanaethau wrth osod cyllideb gytbwys.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith gofynnol a wnaed i adrodd ar gadernid yr amcangyfrifon sydd yn sail i’r gyllideb, ac wedi ystyried yr holl risgiau a'r camau lliniaru roedd y  Pennaeth Cyllid o’r farn fod Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27 yn gadarn, yn ddigonol a chyraeddadwy.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad ac i’r staff am eu gwaith. Calongol oedd gweld bod y sefyllfa yn well na’r hyn oedd wedi ei amcangyfrif o ganlyniad i gynnydd grant Llywodraeth Cymru.

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod gorwariant adrannau yn parhau yn bryder

·        Bod angen cefnogi darpariaeth gofal y Sir - bod defnyddio darpariaeth allanol yn gostus. Angen i’r Cyngor roi cynlluniau darpariaeth fewnol mewn lle fyddai yn arwain at arbediad yn y dyfodol

·        Rhestr bidiau cyfalaf - cynllun i ymestyn maes parcio Ysgol y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am fanylion pellach ynglŷn â rhesymau dros lithrad amser (dyddiad gwreiddiol 2021) a’r costau ynghlwm  â’r llithriad

·        Datganiad y Swyddog Cyllid - ‘anochel bod y gyllideb yn cynnwys elfen o risg o ragdybiaethau’ ... a oes cynlluniau mewn lle petai ostyngiad yng nghasgliadau premiwm tai, ond cynnydd yn y galw am adeiladu tai?

·        Awgrym i gyflwyno gwybodaeth am dreth y Cyngor mewn gwerth ariannol (£)  yn hytrach na chanran (%) yn unig

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gostyngiad pensiwn a pham bod penderfyniad wedi ei wneud i gymryd yr arbediad o £3miliwn mewn un flwyddyn yn hytrach na £1 miliwn dros dair blynedd, nodwyd mai’r dewis oedd lleihad o 1% bob blwyddyn neu gymryd yr arbediad o £3 miliwn yn llawn. Ystyriwyd mai dyma oedd yr opsiwn orau gyda phosibilrwydd y bydd mwy na £3 miliwn oherwydd nad oedd y ffigyrau terfynol wedi eu rhyddhau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud a’r arian ychwanegol a dderbyniodd Cyngor Gwynedd gan Llywodraeth Cymru ac os oedd wedi gwella safle y Cyngor yn y tabl dyraniad fesul Awdurdod, a pha wahaniaeth fyddai'r arian yn ei wneud i Wynedd, nodwyd nad oedd y dull dyrannu wedi newid, ac felly Cyngor Gwynedd yn parhau yn safle 20 allan o 22. Ategwyd bod cyfanswm cyfradd cynnydd setliad ariannol Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Cymru yn 4.5% tra bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn llawr o 4.1%. Er hynny,  yr arian ychwanegol yn gymorth i ardaloedd gwledig, i gyllidebau adrannau sydd dan bwysau ac i ryddhau pwysau o orfod gweithredu arbedion ar gyfer 2026/27.

 

Mewn ymateb i sylw bod Cyngor Gwynedd yn codi llai o dreth cyngor na Chynghorau cyfagos a Chynghorau cyfagos yn talu gwell cyflogau i staff ac os  felly, a yw hyn yn gwneud Cyngor Gwynedd yn awdurdod drud i’w redeg, nodwyd bod gwraidd y mater yn un hanesyddol ac yn mynd yn ôl i 1996, pan ailstrwythurwyd Cyngor Gwynedd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994.  Ar y pryd, gosodwyd gwaelodlin / fformiwla ddyrys ar gyfer gwariant gyda nifer o gydrannau yn plethu ffactorau unigol megis poblogaeth, natur poblogaeth, oed, a thirwedd i gynnwys rhai.

 

Yng nghyd-destun y nifer o Gynghorwyr sydd gan y Sir, ynghyd ar nifer Aelodau Lleyg, a pham nad oedd cyfanswm eu cyflogau yn ymddangos ar y gyllideb, nodwyd bod y swm wedi ei gynnwys yn y gyllideb, ond nid yn yr adroddiad blaen. Ategodd bod nifer Cynghorwyr fesul Awdurdod yn cael ei benderfynu gan gorff allanol.

 

Yng nghyd-destun dyraniad cyllid ar gyfer cefnogi a datblygu’r economi yng Ngwynedd a chynlluniau i ddenu gwaith i’r Sir, nodwyd bod cyllideb ar gyfer ariannu tîm craidd yr Adran Economi, ond bod cynlluniau cyfalaf a ffynonellau ariannol eraill ar gael ar gyfer gwariant. Ategwyd bod Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd hefyd yn arwain ar y Cynllun TWF.

 

Yng nghyd-destun risg a sut yr oedd risg yn cael ei gyfrifo wrth osod y gyllideb, nodwyd bod  sefyllfa risg yn un hyblyg sydd yn cael ei fonitro yn rheolaidd, ond petai gostyngiad bach mewn cyfrifo risg byddai arbediad bychan posib ymhen blynyddoedd.

 

Amlygwyd pryder bod cronfa arian wrth gefn yn lleihau a bod y ganran ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yma yn cynrychioli tua 1.3% o wariant refeniw gros y Cyngor.  Pwysleisiwyd nad yw’r swm yn y gronfa wedi gostwng, ond ei fod wedi lleihau fel canran o wariant y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf gan nad oes arian wedi ei ychwanegu iddo chwaith. Ategwyd  bod y Cyngor yn adolygu’r Strategaeth Ariannol ac yn bwriadu gweithredu ymarferiad cynaeafu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bwriad i ddatblygu / gwella darpariaethau Cartrefi Preswyl yng Ngwynedd ac os oedd cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod yr adeiladau yn addas i bwrpas, nodwyd bod y Cyngor wedi comisiynu Housing LIN Cymru i ymchwilio i sefyllfa anghenion  poblogaeth y Sir ac y bydd adroddiad o’r canfyddiadau i’w ddisgwyl ymhen rhyw 6 wythnos.

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·        Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·        Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2026/27 yn eu cyfarfod 10/02/26

·        Diolch i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r Gyllideb

 

·        Sefyllfa gorwariant yn bryderus

·        Pryder bod y gronfa wrth gefn yn lleihau – croesawu ymarferiad cynhaeafu

·        Cynlluniau datblygu / gwella darpariaethau Cartrefi Preswyl yng Ngwynedd - cais i ganfyddiadau ymchwiliad Housing LIN Cymru gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor

 

Nodyn:

-        Rhestr bidiau cyfalaf - cynllun i ymestyn maes parcio Ysgol y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am fanylion pellach ynglŷn â rhesymau dros lithrad amser (dyddiad gwreiddiol 2021) a’r costau ynghlwm  â’r llithriad

-        Awgrym i gyflwyno gwybodaeth am dreth y Cyngor mewn gwerth ariannol (£)  yn hytrach na chanran (%) yn unig

-        Datganiad y Swyddog Cyllid - ‘anochel bod y gyllideb yn cynnwys elfen o risg o ragdybiaethau’ ... a oes cynlluniau mewn lle petai ostyngiad yng nghasgliadau premiwm tai, ond cynnydd yn y galw am adeiladu tai?

 

Dogfennau ategol: