I graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2026/27 i’r Cyngor Llawn
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Nodyn:
-
Rhestr bidiau cyfalaf - cynllun i ymestyn maes parcio Ysgol
y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am fanylion pellach ynglŷn â rhesymau
dros lithrad amser (dyddiad gwreiddiol 2021) a’r costau ynghlwm â’r llithriad
-
Awgrym i gyflwyno gwybodaeth am
dreth y Cyngor mewn gwerth ariannol (£)
yn hytrach na chanran (%) yn unig
-
Datganiad y Swyddog Cyllid - ‘anochel bod y gyllideb yn
cynnwys elfen o risg o ragdybiaethau’ ... a oes cynlluniau mewn lle petai
ostyngiad yng nghasgliadau premiwm tai, ond cynnydd yn y galw am adeiladu tai?
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi
derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 4.1% ar gyfer 2026/27, sy’n cyfateb i
gynnydd gwerth £10.4m mewn ariannu allanol. Adroddwyd y byddai nifer o
ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2026/27
gyda’r angen i gynyddu gwariant o £23.3m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r
gwasanaethau. Gyda phwysau mewn galw ar
wasanaethau yn ogystal â chwyddiant uchel, nodwyd y bydd argymhelliad i gynnyddu Treth Cyngor o 5.32% i gyflawni’r amcan eleni gyda
rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach wrth anelu i osod cyllideb gytbwys ar
gyfer 2027/28.
Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn
glir o’r ffeithiau oedd wedi eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad fydd yn
cael ei gymryd ganddynt yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.
Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i
gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon
oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru.
Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod 10/02/26) yn argymell i’r Cyngor
Llawn (05/03/26) i sefydlu cyllideb o £379,866,050 ar gyfer 2026/27 i’w ariannu
drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390 a £115,856,660 o incwm o’r Dreth Cyngor
(sydd yn gynnydd o 5.32%) a sefydlu rhaglen gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27.
Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb
ac amlygwyd y meysydd hynny;
·
Chwyddiant Cyflogau o
£8.3m - amcan gynnydd cytundeb tâl 2026/27 4% ar gyfer athrawon a 3.4% ar gyfer
gweddill y gweithlu
·
Chwyddiant cyflenwyr
£6,075,390
·
Cynnydd mewn Ardollau i
gyrff perthnasol - £528,810
·
Pwysau ar Wasanaethau -
argymell cymeradwyo bidiau gwerth £9,910,580 am adnoddau refeniw parhaol
ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu
gwasanaethau, a bidiau cyfalaf gwerth £840,010
·
Gwrthdroi Grant
Yswiriant Gwladol Cyflogwr 2025/26 - £3,632,950
Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, cyfeiriwyd at gynlluniau
arbedion gwerth £320,500 oedd yn deillio o raglenni arbedion blaenorol ac
eisoes wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor i leihau’r bwlch ariannol.
Adroddwyd y byddai angen cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth Cyngor ac
o ganlyniad bydd y Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn i godi’r dreth 5.32% er
mwyn diwallu’r pwysau ar wasanaethau wrth osod cyllideb gytbwys.
Cyfeiriwyd at y gwaith gofynnol a wnaed i adrodd ar gadernid yr
amcangyfrifon sydd yn sail i’r gyllideb, ac wedi ystyried yr holl risgiau a'r
camau lliniaru roedd y Pennaeth Cyllid
o’r farn fod Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27 yn gadarn, yn ddigonol a
chyraeddadwy.
Diolchwyd am y cyflwyniad ac i’r staff am eu gwaith. Calongol
oedd gweld bod y sefyllfa yn well na’r hyn oedd wedi ei amcangyfrif o ganlyniad
i gynnydd grant Llywodraeth Cymru.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Bod gorwariant adrannau
yn parhau yn bryder
·
Bod angen cefnogi
darpariaeth gofal y Sir - bod defnyddio darpariaeth allanol yn gostus. Angen
i’r Cyngor roi cynlluniau darpariaeth fewnol mewn lle fyddai yn arwain at
arbediad yn y dyfodol
·
Rhestr bidiau cyfalaf -
cynllun i ymestyn maes parcio Ysgol y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am
fanylion pellach ynglŷn â rhesymau dros lithrad amser (dyddiad gwreiddiol
2021) a’r costau ynghlwm â’r llithriad
·
Datganiad y Swyddog
Cyllid - ‘anochel bod y gyllideb yn cynnwys elfen o risg o ragdybiaethau’ ... a
oes cynlluniau mewn lle petai ostyngiad yng nghasgliadau premiwm tai, ond
cynnydd yn y galw am adeiladu tai?
·
Awgrym i
gyflwyno gwybodaeth am dreth y Cyngor mewn gwerth ariannol (£) yn hytrach na chanran (%) yn unig
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r gostyngiad pensiwn a pham bod penderfyniad wedi ei
wneud i gymryd yr arbediad o £3miliwn mewn un flwyddyn yn hytrach na £1 miliwn
dros dair blynedd, nodwyd mai’r dewis oedd lleihad o 1% bob blwyddyn neu gymryd
yr arbediad o £3 miliwn yn llawn. Ystyriwyd mai dyma oedd yr opsiwn orau gyda
phosibilrwydd y bydd mwy na £3 miliwn oherwydd nad oedd y ffigyrau terfynol
wedi eu rhyddhau.
Mewn ymateb i
gwestiwn yn ymwneud a’r arian ychwanegol a dderbyniodd Cyngor Gwynedd gan
Llywodraeth Cymru ac os oedd wedi gwella safle y Cyngor yn y tabl dyraniad
fesul Awdurdod, a pha wahaniaeth fyddai'r arian yn ei wneud i Wynedd, nodwyd
nad oedd y dull dyrannu wedi newid, ac felly Cyngor Gwynedd yn parhau yn safle
20 allan o 22. Ategwyd bod cyfanswm cyfradd cynnydd setliad ariannol
Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Cymru yn 4.5% tra bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn
llawr o 4.1%. Er hynny, yr arian
ychwanegol yn gymorth i ardaloedd gwledig, i gyllidebau adrannau sydd dan
bwysau ac i ryddhau pwysau o orfod gweithredu arbedion ar gyfer 2026/27.
Mewn ymateb i
sylw bod Cyngor Gwynedd yn codi llai o dreth cyngor na Chynghorau cyfagos a
Chynghorau cyfagos yn talu gwell cyflogau i staff ac os felly, a yw hyn yn gwneud Cyngor Gwynedd yn
awdurdod drud i’w redeg, nodwyd bod gwraidd y mater yn un hanesyddol ac yn mynd
yn ôl i 1996, pan ailstrwythurwyd Cyngor Gwynedd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol
(Cymru) 1994. Ar y pryd, gosodwyd
gwaelodlin / fformiwla ddyrys ar gyfer gwariant gyda nifer o gydrannau yn
plethu ffactorau unigol megis poblogaeth, natur poblogaeth, oed, a thirwedd i
gynnwys rhai.
Yng nghyd-destun
y nifer o Gynghorwyr sydd gan y Sir, ynghyd ar nifer Aelodau Lleyg, a pham nad
oedd cyfanswm eu cyflogau yn ymddangos ar y gyllideb, nodwyd bod y swm wedi ei
gynnwys yn y gyllideb, ond nid yn yr adroddiad blaen. Ategodd bod nifer Cynghorwyr
fesul Awdurdod yn cael ei benderfynu gan gorff allanol.
Yng nghyd-destun
dyraniad cyllid ar gyfer cefnogi a datblygu’r economi yng Ngwynedd a
chynlluniau i ddenu gwaith i’r Sir, nodwyd bod cyllideb ar gyfer ariannu tîm
craidd yr Adran Economi, ond bod cynlluniau cyfalaf a ffynonellau ariannol
eraill ar gael ar gyfer gwariant. Ategwyd bod Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd
hefyd yn arwain ar y Cynllun TWF.
Yng nghyd-destun risg a sut yr oedd risg yn cael ei gyfrifo wrth osod y
gyllideb, nodwyd bod sefyllfa risg yn un
hyblyg sydd yn cael ei fonitro yn rheolaidd, ond petai gostyngiad bach mewn
cyfrifo risg byddai arbediad bychan posib ymhen blynyddoedd.
Amlygwyd pryder bod cronfa arian wrth gefn yn lleihau a bod y ganran ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol yma yn cynrychioli tua 1.3% o wariant refeniw gros
y Cyngor. Pwysleisiwyd nad yw’r swm yn y
gronfa wedi gostwng, ond ei fod wedi lleihau fel canran o wariant y Cyngor dros
y blynyddoedd diwethaf gan nad oes arian wedi ei ychwanegu iddo chwaith.
Ategwyd bod y Cyngor yn adolygu’r
Strategaeth Ariannol ac yn bwriadu gweithredu ymarferiad cynaeafu.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bwriad i ddatblygu / gwella
darpariaethau Cartrefi Preswyl yng Ngwynedd ac os oedd cynlluniau ar y gweill i
sicrhau bod yr adeiladau yn addas i bwrpas, nodwyd bod y Cyngor wedi comisiynu Housing LIN Cymru i ymchwilio i sefyllfa
anghenion poblogaeth y Sir ac y bydd
adroddiad o’r canfyddiadau i’w ddisgwyl ymhen rhyw 6 wythnos.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
·
Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau
perthnasol
·
Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu
hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2026/27 yn eu cyfarfod 10/02/26
·
Diolch i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r
Gyllideb
·
Sefyllfa gorwariant yn bryderus
·
Pryder bod y gronfa wrth gefn yn lleihau – croesawu
ymarferiad cynhaeafu
·
Cynlluniau datblygu / gwella
darpariaethau Cartrefi Preswyl yng Ngwynedd - cais i ganfyddiadau ymchwiliad
Housing LIN Cymru gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Nodyn:
-
Rhestr bidiau cyfalaf - cynllun i
ymestyn maes parcio Ysgol y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am fanylion pellach
ynglŷn â rhesymau dros lithrad amser (dyddiad gwreiddiol 2021) a’r costau
ynghlwm â’r llithriad
-
Awgrym i
gyflwyno gwybodaeth am dreth y Cyngor mewn gwerth ariannol (£) yn hytrach na chanran (%) yn unig
-
Datganiad y Swyddog Cyllid - ‘anochel
bod y gyllideb yn cynnwys elfen o risg o ragdybiaethau’ ... a oes cynlluniau
mewn lle petai ostyngiad yng nghasgliadau premiwm tai, ond cynnydd yn y galw am
adeiladu tai?
Dogfennau ategol: