Agenda item

I ystyried a derbyn y wybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Bod angen diffiniadau cliriach i weithgaredd Cronfa Twf Byd-eang, yn enwedig o dân y testun ‘metrigau hinsawdd’
  • Bod llais a sylwadau'r Pwyllgor yn cael eu hystyried wrth i PPC wneud penderfyniadau ar fuddsoddi - rhaid sicrhau bod y buddsoddiadau yn gynaliadwy, yn gyfrifol ac o les i Wynedd

 

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddosddi bod yr adroddiad yn cynnwys diweddariad ar feysydd buddsoddi cyfrifol o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru. Eglurwyd bod swyddog o Hymans Robertson yn gweithio yn barhaus yn y maes yma, gyda swyddogion o’r 8 cronfa leol yn mynychu gweithgor buddsoddi cyfrifol yn rheolaidd i drafod y gwaith.

 

Tynnwyd sylw at y gwaith oedd wedi ei weithredu yn ddiweddar, oedd yn cynnwys:

·        Esblygu mandadau Black Rock i greu cronfa buddsoddi unigryw i ofynion cronfeydd Cymru gyda threfn pleidleisio pwrpasol i Gymru.

·        Cod Stiwardiaeth: Partneriaeth Pensiwn Cymru unwaith eto wedi ei gadarnhau fel llofnodwr cod stiwardiaeth y Cyngor Adrodd Ariannol (Financial Recording Council – FRC), sydd yn newyddion da.

·        Bod adroddiadau effaith hinsawdd ar lefel cronfa a lefel cenedlaethol yn cael eu cynhyrchu fydd yn ddefnyddiol i ddangos ystadegau cymharol y gronfa.

·        adolygiadau o’r is-gronfeydd sy’n amlygu bod llawer iawn o waith wedi'i wneud o fewn yr is-gronfeydd i adrodd ar gryfderau ESG ac adroddiadau stiwardiaeth.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod y perfformiad yn well na’r meincnod

·        Bod y wybodaeth yn ddefnyddiol

·        Bod angen diffiniadau cliriach i weithgaredd Cronfa Twf Byd-eang, yn enwedig o dan y testunmetrigau hinsawdd

  • O ran buddsoddi yn lleol i Wynedd, bod angen cefnogaeth pobl leol a pheidio mynd yn erbyn yr hyn maent yn ddymuno. Rhaid bod yn effro’n lleol, a chraffu sut y bydd penderfyniadau PPC ar fuddsoddi yn cael eu gwneud - rhaid sicrhau bod y buddsoddiadau yn gynaliadwy, yn gyfrifol ac o lês i Wynedd
  • Bod angen sicrhau hyder yn y buddsoddiadau, monitro perfformiad a  llywodraethu
  • Pryder y bydd rôl a rheolaeth y Pwyllgor ar fuddsoddiadau yn mynd yn wanach

 

Mewn ymateb i sylw bod angen buddsoddi’n gyfrifol ac osgoi buddsoddiad mewn materion sydd yn creu problemau mewn gwledydd eraill o’r byd (e.e., mwyngloddio ar gyfer batris AI - amodau rhai gwledydd sy’n mwyngloddio efallai ddim yn gynaliadwy), nodwyd bod goblygiadau buddsoddi yn cael eu monitro yn rheolaidd, ond y bydd y sylw yn cael ei gyfeirio at Hymans.

 

Mewn ymateb i sylw bod angen trafodaethau agored gydag Aelodau’r Pwyllgor i sicrhau eu bod yn deall y gofynion ac yn ymwybodol o’r sefyllfa, nododd y Pennaeth Cyllid bod y newidiadau yn rhan o ymateb i ofynion y Llywodraeth ac y bydd popeth yn cael ei wneud i geisio'r gorau i’r Pwyllgor. Ategodd ers i Gronfa Pensiwn Gwynedd ymuno â Phartneriaeth Pensiwn Cymru bod y berthynas gyda Rheolwyr Buddsoddi wedi newid ac nad oedd y Pwyllgor bellach yn cwrdd â hwy yn uniongyrchol. Er hynny, nododd, o’i ddealltwriaeth  ef, ac o dan y drefn newydd, bydd Swyddog Buddsoddi Cyfrifol yn mynychu’r Pwyllgorau Pensiwn ac y bydd cyfle i’r Aelodau ei herio a’i holi. Bydd cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor Pensiynau yn cael ei gynnal ar y 26ain o Chwefror i drafod a sicrhau bod y cytundebau yn gadarn ar gyfer Cronfa Gwynedd yn ei rôl fel cyfranddaliwr a chlient.

 

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Bod angen diffiniadau cliriach i weithgaredd Cronfa Twf Byd-eang, yn enwedig o dan y testun ‘metrigau hinsawdd’
  • Bod llais a sylwadau'r Pwyllgor yn cael eu hystyried wrth i PPC wneud penderfyniadau ar fuddsoddi - rhaid sicrhau bod y buddsoddiadau yn gynaliadwy, yn gyfrifol ac o les i Wynedd

 

Dogfennau ategol: