I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg
Drochi ac Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg. Tynnwyd sylw’n fras at y
prif bwyntiau canlynol:
Eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn grynodeb o adroddiad
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) Gwynedd a gyflwynwyd i
Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2025, gyda diweddariadau pellach.
Tynnwyd sylw at Bolisi Iaith Addysg Gwynedd gan gadarnhau
bod Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn gosod dyletswydd statudol ar y
Llywodraeth, Awdurdodau Lleol ac ysgolion i gynllunio er mwyn cynyddu’r
ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Eglurwyd nad yw’r ddeddf yn dod i’w lawn rym hyd oddeutu 2030. Nodwyd
mai bwriad yr Adran Addysg a’r Cyngor yw i fod yn rhagweithiol er mwyn sicrhau
bod gofynion y ddeddfwriaeth yn cael ei gyfarch.
Esboniwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar
ddrafft o Bolisi Iaith Addysg Gwynedd, yn dilyn ymgynghoriad cynhwysfawr gan
Meirion Prys Jones yn ystod 2024/25. Manylwyd bod sesiynau ymgysylltu wedi cael
eu cynnal gyda Penaethiaid ysgolion, disgyblion, rhieni, fforymau iaith,
mudiadau iaith, cynrychiolwyr o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a
cynrychiolwyr o Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn llywio datblygiad y Polisi.
Cadarnhawyd bod drafft o’r Polisi hwnnw wedi cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei
gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2025. Nodwyd y cymeradwywyd y Polisi drafft hwn fel
Polisi enghreifftiol a chymeradwywyd yr ymgysylltiad cyhoeddus. Tynnwyd sylw
bod y cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus wedi cychwyn ers mis Ionawr 2026 gan nodi
bydd yn dod i ben ar 25 Chwefror 2026. Ymhelaethwyd y bwriedir cyflwyno
adroddiad pellach i’r Cabinet er mwyn cyflwyno adborth o’r ymgynghoriad
cyhoeddus a gofyn am benderfyniad os y dylid mabwysiadau’r Polisi Iaith Addysg
Gwynedd ar ei newydd wedd cyn ei rannu i Gyrff Llywodraethol, cyn mis Medi
2026.
Mynegwyd balchder bod oddeutu 99% o athrawon ysgolion
cynradd ac oddeutu 89% o athrawon ysgol uwchradd yn teimlo’n hyderus i addysgu
drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn cydweithio
gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin i sicrhau bod staff yr ysgolion trosiannol
(Ysgol Friars – Bangor, Ysgol Ein Harglwyddes – Bangor ac Ysgol Uwchradd Tywyn)
yn derbyn cefnogaeth ychwanegol er mwyn cynorthwyo athrawon i deimlo’n hyderus
i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy dderbyn cefnogaeth gan diwtor unwaith bob
pythefnos. Mynegwyd balchder bod 17 o staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Tywyn
eisoes wedi manteisio ar y ddarpariaeth hon gan gadarnhau bod gwaith yn cael ei
wneud er mwyn sefydlu swydd Tiwtor Dysgu Cymraeg ar gyfer y safle i’r dyfodol.
Adroddwyd bod gwaith yn cael ei gyflawni er mwyn edrych ar
ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc. Nodwyd bod y Cyngor yn
derbyn Grant y Gymraeg yn flynyddol gan y Llywodraeth a’i fod yn cael ei
ddefnyddio er mwyn hybu gweithgareddau cyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i’r
dosbarthiadau a thu hwnt i oriau’r ysgol. Manylwyd ar gwaith y Gwasanaeth
Ieuenctid gan bwysleisio ei fod yn allweddol yn y maes hwn. Tynnwyd sylw at
ddigwyddiadau sydd yn cymryd lle mewn cydweithrediad â’r Siarter Iaith a Grant
y Gymraeg. Nodwyd bod ffocws yn cael ei roi ar gyfer digwyddiadau ymarferol ar
chymdeithasol megis gorymdeithiau, sesiynau pontio a gigiau. Eglurwyd y
defnyddir lleoliadau megis Pontio a Nant Gwrtheyrn er mwyn hwyluso’r
gweithgareddau. Mynegwyd balchder bod llawer mwy o ddiddordeb yn yr Ornest
Lyfrau nac a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Ymhelaethwyd bod timau o
ysgolion ar draws Gwynedd yn cymryd rhan ynddo eleni.
Cadarnhawyd bod yr Adran yn cydweithio gydag endidau eraill
megis Menter iaith Gwynedd er mwyn sicrhau bod prosiectau fel ‘Arwyr Iaith’ yn
parhau. Nodwyd ei fod yn cael ei gynnal yn Ysgol Abererch ac Ysgol Ffridd y
Llyn eleni.
Tynnwyd sylw bod yr Adran hefyd yn cydweithio gyda cwmnïau theatrig megis Arad Goch, sydd yn paratoi perfformiadau o
‘Natur’ gan Morgan Elwy yn yr wythnosau nesaf. Nodwyd hefyd bod yr Adran yn
parhau i gydweithio gyda cwmni Fran Wen.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y
sylwadau a ganlyn:-
Diolchwyd i’r Adran
am eu gwaith yn Ysgol Uwchradd Tywyn gan nodi bod trafferthion wedi bod er mwyn
penodi athrawon sydd yn gallu’r Gymraeg. Eglurwyd mai dim ond oddeutu 4% o’r
disgyblion sydd yn dod o gartrefi Cymraeg ond mae’r gymuned yn bositif am yr hyn
sydd yn mynd ymlaen yn yr ysgol. Mewn ymateb, diolchodd Pennaeth Cyfundrefn
Addysg Drochi ei fod yn galonogol gweld hyder yr athrawon a’r disgyblion yn
cynyddu, gan nodi mai dyma yw’r angen pennaf, nid dysgu’r iaith o’r cychwyn
cyntaf, gan nodi hefyd bod perthynas dda gyda’r Ganolfan Drochi yn yr ardal
hefyd.
Tynnwyd sylw at
brosiect Gwynedd Yfory sydd yn ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar
gyfer plant a phobl ifanc yng Gwynedd, ac awgrymwyd y dylid ystyried a oes angen penodi mwy nag un
Swyddog Ieuenctid. Nodwyd hefyd bod bylchau yn y ddarpariaeth yn ardaloedd
Llŷn a De Meirionnydd gan bwysleisio’r angen i sicrhau bod y ddarpariaeth
yn cael ei gynnig i ardaloedd gwledig y Sir ac nid yn unig i’r ardaloedd sydd
gyda’r dwysedd poblogaeth uchaf. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth
Cyfundrefn Addysg Drochi bod bwriad o ehangu strwythur staffio’r gwasanaeth
hon. Eglurwyd y gobeithir gwneud hyn drwy asesu’r niferoedd o gyfranogiadau, a
defnyddio hyn fel tystiolaeth i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn amlygu’r
angen am fuddsoddiad pellach yng Ngwynedd. Nodwyd mai £20,000 sydd yn cael ei
ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol ar gyfer y darpariaeth hon a
gobeithir bydd hyn yn cynyddu yn y dyfodol er mwyn denu siaradwyr Cymraeg
newydd ac i feithrin yr hyn sydd yn bodoli yng nghymunedau Cymraeg Gwynedd
eisoes. Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhawyd bod 21,305 o gyfranogiadau
ynghlwm gyda gweithgareddau’r prosiect yn y flwyddyn diwethaf, gan gadarnhau
bod y ffigwr hwn yn cynnwys unigolion sydd wedi mynychu mwy nag un digwyddiad.
Ymhellach, pwysleisiodd y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg mai darlun
rhannol o’r gwasanaethau sydd ar gael yw’r adroddiad hwn, gan ei fod yn manylu
ar gwaith yr Adran Addysg. Tynnwyd sylw at fudiadau trydydd sector sydd yn
darparu cyfleoedd gwerthfawr i blant a pobl ifanc megis Urdd Gobaith Cymru a
Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru.
Mewn ymateb i
ymholiad ar sut mae mesur llwyddiant darpariaethau sy’n sicrhau bod yr iaith
Gymraeg yn cael ei ddefnyddio’n gymdeithasol, cadarnhaodd Pennaeth Cyfundrefn
Drochi Gwynedd bod nifer o fforymau yn rhannu barn pobl ifanc am y Gymraeg.
Tynnwyd sylw at y Fforwm Ieuenctid sydd yn trafod barn a dyheadau pobl ifanc ac
hefyd Is-grŵp Pobl Ifanc Fforwm Iaith Gwynedd. Ymhellach, cadarnhaodd bod
disgwyliad i’r Cyngor adrodd ar farn pobl ifanc am ddefnydd cymdeithasol o’r
Gymraeg o fewn Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Nodwyd hefyd bod
disgyblion yn cyflawni hunanasesiad o fewn yr ysgolion a oedd yn nodi defnydd
cymdeithasol o’r iaith megis wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu wrando
ar gerddoriaeth. Cydnabuwyd nad oes modd i’r Adran gysylltu gyda cartrefi’r
disgyblion i’w holi am defnydd y Gymraeg yno heb gymorth yr ysgolion.
Ymhelaethodd Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg nad yw addasu arferion
cymdeithasol yn dasg a ellir ei gyflawni yn y byr-dymor gan groesau unrhyw
adnodd a ddaw i law er mwyn mynd i’r afael a’r mater. Ystyriwyd y cysyniad o
gynnal ymchwil yn achlysurol er mwyn gallu mesur llwyddiant yr ymdrechion hyn.
Nodwyd bod 11% o
athrawon ysgolion uwchradd Gwynedd ddim yn teimlo’n hyderus i addysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg Ategwydbod y ffigwr hwn yn gyfran
uchel o athrawon uwchradd y Sir, a gofynnwyd a
yw’r athrawon hyn yn gweithio yn yr ysgolion trosiannol neu ar draws y
sir. Mynegwyd balchder bod nifer o ffynonellau o gefnogaeth ar gael i’r athrawon
deimlo’n hyderus i addysgu yn y Gymraeg, gan ofyn a oes modd mesur eu
cyflawniad gyda’r ddarpariaeth hyn wrth i’w hyder gynyddu. Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi nad oes modd cadarnhau o ba
ysgolion daw’r athrawon dan sylw ond bydd y wybodaeth yn cael ei gylchredeg
gyda’r Aelodau pan yn amserol. Manylwyd ar y mathau o gyrsiau sydd yn cael eu
cynnal ar gyfer magu hyder gyda’r Gymraeg a’u bod yn cael eu cynnig mewn
cydweithrediad â Chanolfan Bedwyr a Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin ac yn ymateb
i anghenion unigol a sefyllfaoedd penodol o fewn yr Ysgolion Trosiannol. Nodwyd
byddai adroddiadau’r dyfodol yn cynnwys manylder ar ddatblygiad y ddarpariaeth
hon ac yn cynnwys data pendant ar ddatblygiad hyder yr athrawon i addysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg.
Mewn ymateb i’r
ymholiadau ar ymchwiliadau sydd yn cael eu gwneud ar ddefnydd y Gymraeg yn
gymdeithasol, nododd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod Rhwydwaith Iaith
WISERD wedi cael ei ail-sefydlu yn ddiweddar gan Brifysgolion Cymru.
Cadarnhawyd bod y Prifysgolion yn awyddus i gydweithio gydag Awdurdodau Lleol
er mwyn rhoi mewnbwn ar y mathau o wybodaeth y dymunir ei gasglu a bod cyswllt
gydag ymarferwyr polisi mewn awdurdodau lleol.
Mewn ymholiad i
weld os oes bwriad i sefydlu mwy o aelwydydd cymunedol yr Urdd yn sgil y
newyddion bod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Eryri yn 2028, cadarnhaodd Pennaeth
Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg mai 5 aelwyd gymunedol sydd yn weithredol ar
hyn o bryd. Cydnabuwyd ei fod yn her sylweddol i gynyddu’r niferoedd hyn
oherwydd y gofyn sydd ar wirfoddolwyr i’w cynnal. Fodd bynnag, nodwyd nad oes
modd ymhelaethu ar y bwriad i ehangu’r niferoedd aelwydydd cymunedol hyn nac y
niferoedd sydd yn eu mynychu gan ei fod yn ddarpariaeth sydd yn cael ei gefnogi
gan yr Urdd.
Cefnogwyd bwriad y
Cyngor a’r Adran Addysg i fod yn rhagweithiol i gydymffurfio â Deddf y Gymraeg
ac Addysg (Cymru) 2025. Tynnwyd sylw bod gan yr Adran gynlluniau i ymestyn yr
iaith Gymraeg ymysg siaradwyr cynhenid, gan ofyn am fanylder am y cynlluniau hynny.
Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi bod yr Adran yn
cydweithio gyda Agored Cymru sydd yn rhoi mynediad i blant hŷn at
brofiadau ymarferol yn eu cymunedau, drwy gyfrwng y Gymraeg. Eglurwyd bod y
cynllun hwn yn rhoi’r cyfle iddynt siarad Cymraeg yn naturiol a chymdeithasol
gyda gweithlu Cymreig. Nodwyd bod Agored Cymru yn cynnal sesiynau sydd yn
cyd-redeg â chyrsiau TGAU Ymarferol gan ennyn hyder yn yr iaith a sicrhau ei
fod yn cael ei siarad yn y gweithle. Cyfeiriwyd hefyd at gynllun cyffroes mewn
cydweithrediad a chwmni Adnodd, sydd yn edrych i sicrhau bod cadernid iaith,
mynediad at safonau dealladwy a safonol tra hefyd yn uchelgeisiol wrth ystyried
y posibiliadau i’r dyfodol.
Atgoffwyd bod y
swyddogion wedi adrodd bod lefelau staffio o fewn y gwasanaeth seicoleg
addysgol yn bryderus yn 2025, ac holiwyd os yw’r sefyllfa yn parhau i fod yn
heriol. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi bod y pryder
hyn yn parhau yn anffodus. Fodd bynnag, nodwyd bod seicolegwyr dan hyfforddiant
wedi cael eu penodi gan obeithio bydd y pryderon hyn yn cael eu lleddfu yn y
dyfodol agos unwaith maent yn cymhwyso yn seicolegwyr cofrestredig.
Pwysleisiwyd bod y pryder hwn yn un cenedlaethol ac mae Llywodraeth Cymru yn
ymwybodol o’r bwlch hwn yn y ddarpariaeth. Gobeithiwyd bydd modd hyfforddi mwy
o seicolegwyr addysg gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor, wrth i’r cymhwyster
cael ei gynnig yno, yn hytrach na drwy Prifysgol Caerdydd yn unig.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: