I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Adroddwyd bod dros
11,300 o unigolion lleol wedi derbyn cymorth a chefnogaeth drwy wahanol ffyrdd
yn sgil Cynllun Gweithredu Tai yr Adran. Nodwyd bod y cymorth hyn yn cynnwys
grant, eithriad treth Cyngor er mwyn adnewyddu tŷ gwag, benthyciad drwy Cynllun
Prynu Cartref, llety a chefnogaeth drwy cynlluniau digartref neu grant i wneud
addasiadau i dai unigolion anabl fel bod modd iddynt barhau i fyw adref yn
annibynnol.
Tynnwyd sylw at y
Cynllun Cartrefi Gwag sydd yn mynd i’r afael â dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd
drwy gefnogi perchnogion i ddod a thai i safon byw derbyniol tra hefyd yn cadw
trigolion yn eu cymunedau. Nodwyd bod 128 o grantiau wedi eu rhoi i brynwyr sydd
gyda chysylltiad lleol i’r tai gan bwysleisio mai’r cyfanswm o dai sydd wedi
dod yn ôl i ddefnydd yw 321. Pwysleisiwyd bod nifer fawr o bobl sydd yn
manteisio o’r cynllun hwn yn brynwyr tro cyntaf lleol ac mae’r Cynllun yn
caniatáu iddynt aros yn eu cymunedau.
Eglurwyd bod
asesiad effaith ar nodweddion cydraddoldeb, y Gymraeg a’r ddyletswydd
Economaidd-Gymdeithasol yn cael ei gyflawni ar y Cynllun Gweithredu Tai. Ymfalchiwyd bod y Cynllun yn cael effaith bositif ar bob
nodwedd cydraddoldeb a’r iaith Gymraeg gan ei fod yn cynyddu nifer ac ystod o
dai o fewn y Sir ar gyfer anghenion gwahanol gymunedau. Ymhelaethwyd bod y
Cynllun yn cael effaith bositif ar yr iaith Gymraeg gan ei fod yn cynorthwyo
canran uchel o drigolion Gwynedd, sydd wedi eu prisio allan o’r farchnad dai,
gael mynediad at gartrefi fforddiadwy, bencythiadau,
grantiau neu ryddhad trethi. Adroddwyd bod data a gasglwyd gan asiantaethau tai
yn cadarnhau bod cyfartaledd o 95% o breswylwyr stadau cymdeithasol newydd yn
gallu’r Gymraeg. Ymhelaethwyd bod y stadau hyn yn cynnwys 26% yn fwy o
siaradwyr Cymraeg na’r ward etholiadol ble y’i lleolwyd ynddi, a 31% yn uwch na
chanran siaradwyr Cymraeg o fewn y Sir.
Cyfeiriwyd at
gynlluniau sydd yn mynd i’r afael â cynyddu’r cyflenwad o dai i bobl leol ac
hefyd i gynorthwyo unigolion i ymdrin gydag argyfwng costau ynni a thlodi
tanwydd.
Edrychwyd ymlaen at
flwyddyn ariannol 2026/27 gan nodi bod yr Adran yn dymuno diweddaru asesiad
effaith iaith Gymraeg y Polisi Gosod Tai Cyffredin, yn sgil deddfwriaeth newydd
a ddaw i rym yn y maes Digartrefedd, yn unol ag amserlen Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r
ddeddfwriaeth honno. Eglurwyd hefyd bod yr adran yn bwriadu parhau i gymryd pob
cyfle i gynorthwyo pobl leol Gwynedd i gael mynediad at dai fforddiadwy a
pharhau i dderbyn data am allu ieithyddol tenantiaid newydd ar stadau tai
cymdeithasol.
Mynegwyd balchder
bod porth ar-lein newydd yn cael ei gwblhau gan gwmni allanol er mwyn rhoi
mynediad i unigolion at ffurflenni cais am eiddo cymdeithasol neu diweddariadau
ar gais byw, ar-lein am y tro cyntaf erioed. Pwysleisiwyd bydd y porth hwn yn
gyfleus i unrhyw un sydd yn dymuno llenwi ffurflen ar-lein neu angen gwybodaeth
y tu hwn i oriau gwaith arferol. Pwysleisiwyd bod trafodaethau yn cael eu
cynnal yn rheolaidd gyda’r cwmni er mwyn sicrhau bod y porth hwn ar gael yn
gwbl dwyieithog. Sicrhawyd, nodwyd bod prosesau papur a ffôn yn parhau ar gael
i unrhyw un nad ydynt â mynediad neu’n anghyfforddus i gwblhau’r ffurflenni ar
lein
Diweddarwyd bod yr
Adran wedi caffael system newydd ym mis Tachwedd 2025 er mwyn echdynnu data
dewis iaith unigolion er diben cysylltu. Eglurwyd nad oedd modd derbyn y data
hyn ar y system flaenorol. Manylwyd bod 855 o ymgeiswyr Opsiynau Tai wedi gofyn
i’r Adran ohebu yn Gymraeg, ac 805 wedi gofyn am ohebiaeth Saesneg. Yn debyg,
nodwyd bod 95 o unigolion sydd wedi cysylltu gyda’r uned Digartrefedd wedi
gofyn am ohebiaeth drwy’r Gymraeg, 254 yn y Saesneg a 2 mewn iaith arall.
Pwysleisiwyd bod unrhyw ohebiaeth gychwynnol yn cael ei wneud yn ddwyieithog
gyda’r Gymraeg yn gyntaf er mwyn ceisio annog a hybu defnydd yr iaith pan yn
bosib. Sicrhawyd bod hyn hefyd yn wir am wybodaeth sydd yn cael ei rannu ar
gyfryngau cymdeithasol a holl ffurfiau gohebu eraill mae’r Adran yn ei
ddefnyddio.
Adroddwyd bod 95.8%
o staff yr Adran wedi derbyn hunanasesiad iaith neu asesiad gan eu rheolwr
llinell, hyd at Rhagfyr 2025. Cadarnhawyd bod 95.6% o’r rhain yn cyrraedd
Dynodiadau Iaith eu swyddi.
Soniwyd bod yr
Adran wedi derbyn cydnabyddiaeth a chanmoliaeth gan Swyddfa’r Comisiynydd Iaith
mewn perthynas â Polisi Gosod Tai. Eglurwyd bod y Comisiynydd yn falch o weld
bod y Polisi yn rhoi pwyslais cryf ar gysylltiad lleol ar lefel Gwynedd ac ar
lefel gymunedol gan ei fod yn fodd o gynorthwyo i grynhau’r Gymraeg, gyda
thystiolaeth i gefnogi hynny. Mynegwyd balchder yr ystyrir Polisi Gosod Tai yr
Adran fel arfer dda i awdurdodau eraill bod yn ei efelychu, gan gadarnhau bod y
Comisiynydd yn paratoi blog a fydd yn cael ei gyhoeddi ar eu gwefan yn fuan er
mwyn manylu ar y mater.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i
ymholiad am ganllawiau sydd i’w dilyn ar gyfer llenwi tai cymdeithasol gweigion
ar ôl i’w perchnogion ymadael, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo bod
hyn yn gyfrifoldeb i’r cymdeithasau tai ac nid yw’n disgyn o dan swyddogaeth yr
Adran.
Llongyfarchwyd yr
Adran ar y gwaith maent yn ei wneud i sicrhau bod trigolion lleol yn cael
cartrefi lleol. Fodd bynnag, nodwyd bod oddeutu traean o drigolion cymunedau
Gwynedd ddim yn medru’r Gymraeg ac felly nid yw unigolyn lleol o reidrwydd yn
unigolyn gyda sgiliau ieithyddol Cymraeg. Gofynnwyd pam nad yw’r Adran yn gofyn
i unigolion os ydynt yn gallu siarad Cymraeg fel rhan o weithrediad y Cynllun
Gweithredu Tai. Mewn ymateb, eglurodd Pennaeth yr Adran bod rhaid i’r Adran
lynu at reolau statudol gosod tai. Ymhelaethwyd bod rhaid i’r cwestiynau sydd
yn cael eu gofyn gan yr Adran fod yn neilltuol ar gyfer yr angen am dai, gan
bwysleisio nad yw iaith yn cael effaith ar eich anghenion tai ac felly ni ellir
ei ofyn i ymgeiswyr. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod modd i’r cymdeithasau tai
allu gofyn am sgiliau ieithyddol unigolion gan bod y tai eisoes wedi cael eu
gosod erbyn hynny ac ni fyddai unrhyw ateb a ddarperir gan yr unigolion yn cael
effaith ar denantiaid.
Gwnaed cais bod y
cymdeithasau tai yn rhoi mwy o fanylion yn eu data i gadarnhau faint o oedolion
sydd yn medru’r Gymraeg yn eu tai yn ogystal â faint o blant sydd yn medru’r
Gymraeg er mwyn cael darlun cyflawn.
Mewn ymateb i gais
am ddiweddariad o’r cyngor cyfreithiol yr oedd yr Adran yn ei dderbyn fel
arweiniad i gynnwys amod ieithyddol fel rhan o’r broses gosod tai cymdeithasol,
nododd Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo bod yr Aelod Cabinet eisoes wedi darparu
diweddariad mewn cyfarfod o’r Cabinet. Nodwyd caiff y ddolen i wylio’r
drafodaeth honno gael ei rhannu gyda’r Aelodau.
Mewn ymateb i
ymholiad ar sut mae’r Adran yn mynd ati i addasu’r asesiad effaith cydraddoldeb
a’r Gymraeg, adroddodd Pennaeth yr Adran bydd asesiad cyhoeddus yn cael ei
wneud mewn cydweithrediad â phartneriaid yr Adran yn dilyn cyngor gan
Comisiynydd y Gymraeg i wneud hynny. Pwysleisiwyd bydd yr asesiad hwn yn
asesiad llawn o’r Polisi Gosod Tai ac fe
fydd yn cael ei gyflawni tra bydd addasiad i’r polisi yn cael ei wneud.
Cadarnhawyd bydd cyfle i Aelodau gyfrannu barn a sylwadau fel rhan o’r ymgynghoriad ar y polisi hwnnw.
Mewn ymateb i ymholiad pellach, credwyd bod y Polisi Gosod Tai yn gwarchod yr
iaith Gymraeg a bod angen sicrhau bod unrhyw newidiadau iddo yn cydymffurfio
gyda phob deddfwriaeth tra hefyd yn bendant a phositif wrth warchod y Gymraeg.
Manylwyd ar y
cynlluniau sydd ar waith er mwyn dod a thai gweigion yn ôl i ddefnydd gan ofyn
i’r Adran os oeddent o’r farn bod cymeradwyo 128 yn gyfwerth a’r angen, yn fwy
na’r hyn a ddisgwylir, neu a oeddent yn disgwyl i’r galw am y cynllun hwn fod
yn uwch. Gofynnwyd hefyd os ydynt wedi cael unrhyw adborth gan yr unigolion
sydd wedi elwa o’r cynllun. Cyfeiriwyd at newidiadau i’r cynllun sydd yn
galluogi pob math o brynwyr tai i elwa ohono, gan ofyn a oes cyfran uchel o’r
grantiau wedi cael eu cymeradwyo i landlordiaid. Mewn ymateb i’r ystyriaethau,
cadarnhaodd Pennaeth yr Adran nad oes unrhyw gwynion wedi dod i law ar gyfer y
cynllun hwn, gan annog unrhyw un sydd yn dymuno darparu adborth i wneud hynny.
Nodwyd bod bid ariannol wedi cael ei gyflwyno gan yr Adran er mwyn ariannu
swyddi swyddogion tai gwag ychwanegol oherwydd y gwelir cynnydd yn niferoedd y
ceisiadau. Yn debyg, eglurwyd bod 3 swyddog ychwanegol wedi cael eu penodi i
gynorthwyo gyda materion gorfodaeth sydd yn ymwneud â tai gweigion sydd yn peri
trafferthion o fewn cymunedau, gan egluro bydd un o’r swyddogion tai gwag yn
cydweithio gyda’r swyddogion gorfodaeth er mwyn pontio’r ddarpariaeth.
Adroddwyd mai dim ond pobl sydd yn mynd i fyw yn y tai ar ôl iddynt ddod yn ôl
i ddefnydd sydd yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn gan gadarnhau nad yw
landlordiaid yn gymwys o’r herwydd. Soniwyd hefyd bod yr Adran wedi gofyn bod
cyfran o’r cynnydd a welir mewn treth cyngor yn cael ei neilltuo i gynllun
newydd a fyddai’n dod a tai gwag yn ôl i ddefnydd er mwyn helpu gyda sefyllfa
digartrefedd o fewn y sir.
Mewn ymateb i
ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod pob gohebiaeth yn cael ei wneud yn
unol â Pholisi Iaith y Cyngor. Adroddwyd bod yr ohebiaeth cyntaf yn cael ei
wneud yn ddwyieithog, gyda pob ohebiaeth pellach yn cael ei wneud yn iaith
dewisol yr unigolyn, oni bai am unrhyw ohebiaeth statudol. Cadarnhawyd nad yw’r
Adran yn ail-ofyn i’r unigolion am eu dewis o iaith ohebu ar ôl y cynnig
cyntaf, yn unol â gweithrediad y Polisi Iaith.
Tynnwyd sylw bod
nifer helaeth o unigolion digartref yn dymuno derbyn gohebiaeth yn Saesneg, gan
ofyn a yw’r unigolion hynny yn deillio o ardaloedd y tu hwnt i’r sir. Mewn
ymateb, adroddodd y Pennaeth Adran nad oes cysylltiad rhwng y ffigyrau gohebu
ac o le mae’r unigolion digartref yn deillio. Nodwyd bod y mwyafrif o bobl
ddigartref sydd yn y sir yn deillio o Wynedd, gyda chanran fechan wedi dod i’r
sir i ffoi o drais domestig, ac mae dyletswydd statudol ar yr Adran i ofalu
amdanynt.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: