I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith yn absenoldeb Pennaeth yr Adran. Tynnwyd sylw’n fras at
y prif bwyntiau canlynol:
Atgoffwyd bod yr Adran yn cyfrannu at waith datblygu
polisïau, strategaethau a phrosiectau sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym
meysydd gwaith, gwasanaethau, cymunedau a datblygiad gweithlu fel rhan o
Strategaeth Iaith Gymraeg 2023-2033.
Nodwyd bod yr adran wedi intergreidio’r
Gymraeg i bolisïau allweddol ac yn parhau i wneud hynny. Cadarnhawyd bod
pwyslais yn cael ei roi i sicrhau bod gwasanaethau i’r cyhoedd a staff ar gael
yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn cael ei flaenoriaethu mewn systemau ffôn,
gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, hyfforddiant a chyfathrebu mewnol.
Ymhelaethwyd bod ymchwil yn darparu tystiolaeth i lywio penderfyniadau, ac bod
prosiectau penodol yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, busnesau
a chymunedau.
Ymfalchïwyd bod datblygu sgiliau iaith y gweithlu yn
flaenoriaeth i’r Adran, gan nodi bod cynlluniau hyfforddi, cefnogaeth i
brentisiaid a phrosiectau dysgu Cymraeg i’r gweithlu, gyda chefnogaeth bellach
yn cael ei ddarparu i’r unigolion sy’n gweithio o fewn y maes gofal.
Cadarnhawyd bod mentrau ar waith sy’n canolbwyntio ar gynyddu hyder staff i
ddefnyddio’r Gymraeg. Tynnwyd sylw bod yr adroddiad yn tystiolaethu lefel
sgiliau iaith uchel yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol.
Cydnabuwyd bod heriau a rhwystrau yn wynebu’r Adran wrth
ddarparu a hyrwyddo gwasanaethau cyfrwng Cymraeg. Cyfeiriwyd at rai heriau
penodol megis diffyg darpariaeth Gymraeg gan rai partneriaid allweddol gan fel
yr heddlu a WLGA, systemau caffael a thendrau cenedlaethol sydd ddim yn
cefnogi’r Gymraeg yn ddigonol a thechnoleg cyfryngau cymdeithasol. Tynnwyd sylw
penodol at rwystr o fewn y maes cofrestru genedigaethau a marwolaethau, gan
nodi bod cyfyngiadau deddfwriaethol yn cyfyngu ar y gallu o gwblhau cofrestrad
yn uniaith Gymraeg.
Nodwyd bod gan yr Adran fwriad o fewn y flwyddyn nesaf, i
ddatblygu canllaw asesu effaith ar y Gymraeg i staff ei ddefnyddio ar gyfer
prosiectau mawr. Nodwyd hefyd bod cynlluniau eraill yn cynnwys hyrwyddo
hyfforddiant Technoleg Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth staff o’r offer sydd ar
gael i’w cynorthwyo. Pwysleisiwyd bod y gwaith ym maes hyfforddiant iaith yn
parhau a bod yr Adran hefyd yn parhau i gydweithio gyda Swyddfa Gofrestru
Gyffredinol er mwyn gwella’r ddarpariaeth Gymraeg a gynigir.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y
sylwadau a ganlyn:-
Tynnwyd sylw bod systemau Galw Gwynedd yn gofyn i
ddefnyddwyr gwasanaeth os ydynt eisiau parhau i ddefnyddio gwasanaeth Gymraeg
ar sawl achlysur, er bod y defnyddiwr eisoes wedi nodi ei iaith ddewisol. Mewn
ymateb i’r ymholiad, nododd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu nad oedd y
Swyddogion yn ymwybodol bod y cwestiwn hwn yn cael ei holi, gan gadarnhau
byddent yn cynnal trafodaethau gyda’r gwasanaeth er mwyn sicrhau na fydd hyn yn
digwydd i’r dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad a oedd asesiadau symudedd cwsmeriaid
ar gyfer derbyn Bathodynnau Glas yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg hyd nes bod y
cwsmer yn gofyn am asesiad Saesneg, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a
Chraffu bod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn gyntaf hed nes mae’r cwsmeriaid
yn nodi mai eu iaith dewisol yw’r Saesneg.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd
Iaith a Chraffu bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach yn parhau gyda’r
cyfrifiad, gan gadarnhau bod cyfrifiad arall ar y gweill. Nodwyd bod y
cyfrifiad hwnnw mewn cyfnod o ymgynghoriad ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod y
Cyngor wedi mewnbynnu i’r ymgynghoriad hwnnw gan ofyn i’r Swyddfa Ystadegau
Gwladol sicrhau bod mwy o gwestiynau sydd yn ymwneud â’r Gymraeg yn cael eu
gofyn.
Cyfeiriwyd at y ‘peilot arolwg defnydd iaith’ a ddangoswyd
bod 71.8% o’r sampl arsylwyd yn dewis gwasanaethau cyfrwng Cymraeg pan yn
defnyddio rhai o wasanaethau rheng flaen y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn os
oes cynlluniau i ar y gweill i ehangu’r peilot hwn, cadarnhaodd yr Uwch
Ymgynghorydd Iaith a Chraffu y gobeithir y bydd hyn yn digwydd. Ategwyd hefyd bod ymyraethau newydd ar waith
yn sgil yr arolwg megis datblygu posteri syml a llafar eu naws, er mwyn annog pobl
i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg. Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn
ceisio symleiddio’r iaith sydd yn cael ei ddefnyddio megis mewn ffurflenni ar
wefan y Cyngor er mwyn hybu defnydd y Gymraeg. Tynnwyd sylw bod niferoedd o
bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg mewn canolfannau hamdden a
llyfrgelloedd yn uwch na defnyddwyr y ganolfan alwadau Galw Gwynedd ac felly
bydd ymchwil pellach yn cael ei wneud i fynd i’r afael â hyn. Pwysleisiwyd yr
angen i sicrhau bod sylw yn cael ei roi i agweddau digidol o’r gwaith hwn gan
bod mwy o wasanaethau’r Cyngor yn troi yn ddigidol gydag amser. Mynegwyd
balchder bod yr arolwg hwn yn tystiolaethu bod staff y Cyngor yn rhagweithiol
gyda’r Gymraeg. Ymhelaethodd Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod y
prosiect Cyfathrebu Clir hirdymor yn mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn gan
ei fod yn edrych ar wasanaethau’r Cyngor er mwyn edrych i weld os oes modd eu
haddasu i fod yn cyfathrebu yn effeithiol a chlir heb israddio’r iaith na’r
gwasanaethau.
Mynegwyd pryder bod heriau yn parhau gyda’r Swyddfa
Gofrestru Gyffredinol er mwyn gwella’r ddarpariaeth Gymraeg. Gofynnwyd i’r
Aelod Cabinet Gwasanaethu Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg i lythyru
gyda’r Swyddfa ar ran y Pwyllgor, i ddatgan yr anfodlonrwydd hwn a gofyn iddynt
roi camau mewn lle i newid hyn i’r dyfodol drwy ychwanegu ddarpariaeth Gymraeg.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
• Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.
• Gofyn i
Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg i lythyru
gyda’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar ran y Pwyllgor, i ddatgan anfodlonrwydd
nad oes modd cofrestru yn Gymraeg a gofyn iddynt roi camau mewn lle er mwyn
newid hyn.
Dogfennau ategol: