Hedd Vaughan-Evans,
Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau.
PENDERFYNIAD
1.
Nodi Adroddiad
Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.
2.
Cymeradwyo cyflwyno
Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd
a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.
TRAFODAETH
Tywyswyd yr Aelodau drwy nifer o
uchafbwyntiau megis bod pump o brosiectau o restr wrth gefn y Cyd-bwyllgor wedi
cael eu cymeradwyo’n ffurfiol i fod yn rhan o’r Cynllun Twf. Manylwyd bod y
rhain yn cynnwys Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Society 5.0, Safleoedd ac
Adeiladau Gogledd Môn, Porth y Porthladd Rhydd ac Achosion Busnes Amlinellol ar
gyfer Prosiect Prince a Dyfodol Venue Cymru.
Eglurwyd bod ail Adolygiadu
Portffolio wedi ei gwblhau gan ystyried y prosiectau oedd yn adrodd yn goch.
Nodwyd bod hyn wedi rhyddhau £58miliwn o arian i gael ei ail-fuddsoddi gan yr
Is-bwyllgor hwn.
Diweddarwyd bod dau gais am newid wedi cael
eu cymeradwyo yn ddiweddar, sef safle Cyn Ysbyty Gogledd Cymru a’r prosiect
Anturiaethau Cyfrifol. Mynegwyd balchder bod Cytundeb Ariannu Grant ar gyfer
Hwb Economi Wledig Glynllifon hefyd wedi ei gymeradwyo ym mis Tachwedd 2025,
gan gadarnhau bod cwmni lleol Adeiladwaith OBR wedi eu penodi i adeiladu safle
Defaid Llaeth Cymru.
Tynnwyd sylw bod dau ddigwyddiad lansio wedi
cael eu cynnal a hynny ar gyfer adeilad CanfodAu
Prifysgol Wrecsam ac Academi Croeso, Grŵp Llandrillo Menai.
Ymfalchïwyd bod dau Ymgynghorydd Anweithredol
wedi cael eu penodi. Eglurwyd y byddent yn chwarae rôl allweddol fel Cadeirydd
ac Is-gadeirydd y Bwrdd Ymgynghori Busnes newydd.
Cadarnhawyd mai prosiect Hwb Hydrogen
Caergybi yw’r unig un sydd o dan adolygiad ar hyn o bryd gan ei fod yn adrodd
yn goch yn erbyn proffil cyflawni y portffolio. Fodd bynnag, nodwyd bod y
cyllid ar ei gyfer wedi ei glustnodi. Diweddarwyd bod gwaith yn cael ei wneud i
ddatblygu materion allweddol a datrys risgiau er mwyn sicrhau bod Achos Busnes
Amlinellol yn cael ei ddatblgyu ar y prosiect hwn er
mwyn sicrhau bod y prosiect yn parhau i’r dyfodol. Rhannwyd diweddariad bod
chwe prosiect yn weithredol, 10 wedi ei gymeradwyo ond ddim yn weithredol, 7
Achos Busnes yn cael ei ddatblygu ac bod 15 prosiect yn parhau i fod ar y
rhestr wrth gefn.
Adroddwyd ar fuddsoddiad y Cynllun Twf gan
nodi bod oddeutu £27miliwn wedi cael ei fuddsoddi hyd yma. Diweddarwyd yr
amcangyfrifir hyn i fod oddeutu £30miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol
gyfredol oherwydd bod prosiectau yn datblygu yn gyflymach a bod mwy o Achosion
Busnes yn cael eu datblygu a dod yn weithredol. Nodwyd hefyd nad oedd
diweddariad ar y swyddi newydd a grëwyd drwy’r prosiectau yn yr adroddiad hwn
gan gadarnhau bydd hyn yn cael ei ddiweddaru erbyn adroddiad Chwarter 4.
Pwysleisiwyd bod y gofrestr risg yn cael ei
ddiweddaru’n llawn gan y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rheolaidd. Cadarnhawyd
nad oes unrhyw newid i’r sgôr risgiau o’r hyn ag adroddwyd yn Chwarter 2.
Ychwanegwyd bod pedwar o risgiau gweddilliol yn adrodd yn goch sef y
buddsoddiad sector breifat, amcanion gwariant, cynllunio a chaniatâd statudol
a’r cyd-destun economaidd gan olygu bod y proffil risg yn parhau’n uchel.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Mewn ymateb i sylwadau am y gwybodaeth a
gyhoeddir parthed y swyddi sydd wedi eu creu, mathau o rolau, eu gwerth cyflog
ac ardal maent wedi ei leoli, cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau bod cais
wedi cael ei rannu gyda’r Aelodau er mwyn ymchwilio i ba wybodaeth y dymunent
ei weld. Ymhelaethwyd bod y Pennaeth Gweithdrediadau
wedi cysylltu gyda’r Aelodau gyda dadansoddiad o wybodaeth cyflogaeth, gan ofyn
iddynt gysylltu gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio os yn dymuno derbyn gwybodaeth
ychwanegol. Cydnabuwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan Aelodau o’r cais
hwn. Cadarnhawyd bydd y cais yn cael ei gylch-redeg yn dilyn y cyfarfod hwn,
gyda gwybodaeth bellach y gofynir amdano yn cael ei fewngorffori i adolygiad Chwarter 4.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: