Alwen
Williams, Prif Weithredwr, ac Iain Taylor, AMION Conslting, i gyflwyno’r
adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr
ac ymgynghorydd IMT Consulting.
PENDERFYNIAD
·
Cymeradwyo dyraniadau
buddsoddi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer Blwyddyn 2 a nodi’r dyraniadau
ym Mlwyddyn 1 fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o’r rhaglen Blwyddyn 2.
·
Cymeradwyo’r Rhaglen
Parth Buddsoddi, yn cynnwys dyraniad £4m i brosiect Porth Busnes Prifysgol
Wrecsam.
·
Caniatáu i Swyddog A151
y CBC lofnodi a chyhoeddi dogfennau’r ADP i Lywodraeth y DU, a Llywodraeth
Cymru a gwneud unrhyw fân ddiwygiadau amherthnasol pellach sy’n angenrheidiol i
gytuno ar yr ADP gyda Llywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae’n ofynnol i Barthau Buddsoddi gytuno ar
Gynllunio Cyflawni Blynyddol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn
chwarter olaf y flwyddyn ariannol er mwyn sicrhau’r taliad blynyddol gan
Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill ym mhob blwyddyn ariannol.
TRAFODAETH
Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi rhaglen
arfaethedig Cynllun Cyflawni Blynyddol Blwyddyn 2 Parth Buddsoddi Sir y Fflint
a Wrecsam ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/27. Manylwyd ar y gwaith sydd wedi
cael ei wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf ac yn adrodd ar y dyraniadau sydd wedi
eu cyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer Blwyddyn 2, gan
gadarnhau y disgwylir iddo ddod i law ym mis Ebrill 2026. Ymfalchïwyd bod y
datblygiad hwn yn sicrhau parhad datblygiad a momentwm y flwyddyn gyntaf.
Atgoffwyd yr aelodau o’r datblygiadau a
gyflawnwyd o fewn y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys sefydlu strwythur llywodraethiant y Rhaglen, ffurfio seilwedd
cynllunio’r Rhaglen yn ogystal â datblygiad cychwynnol y prosiectau
blaenoriaeth.
Tywyswyd yr Aelodau drwy’r dyraniadau sydd
wedi cael eu cyflwyno ar gyfer Blwyddyn 2, yn ogystal â’r datblygiadau y
disgwylir eu cyflawni i’r Rhaglen. Pwysleisiwyd bod y targedau hyn wedi eu
ffurfio yn unol ag amcanion y Parth Buddsoddi gan eu bod yn ymwneud â themâu
seilwaith, sgiliau, arloesi a chefnogaeth busnes.
Amlygwyd bod y cynllun hwn yn un sydd yn
pwysleisio ar gyflawni, a’i fod yn adlewyrchu’r newid o’r flwyddyn gyntaf a
oedd yn ffocysu ar sefydlu gweithdrefn gadarn. Edrychwyd ymlaen am flwyddyn
brysur o ymgorffori’r prosiectau a gweithdrefnau yn ystod Blwyddyn 2.
Adroddwyd bod y cynllun arfaethedig yn
ymgorffori newidiadau bychan a gytunwyd arnynt o fewn y flwyddyn gyntaf megis
caniatáu £4miliwn i gefnogi prosiect Porth Busnes Prifysgol Wrecsam.
Cadarnhawyd bod ymgynghoriad wedi cael ei
wneud gydag arweinwyr Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Wrecsam a bod eu
mewnbwn yn cael effaith ar lywodraethiant y Parth
Buddsoddi. Ymhelaethwyd bod ymgynghoriadau yn elfen bwysig iawn o’r Parth
Buddsoddi, gyda phob ymdrech i sicrhau ei fod yn ysbrydoli pobl ifanc,
perchnogion busnes a bod pob unigolyn a all elwa o’r Parth Buddsoddi yn
ymwybodol o sut y gall wneud hynny. Nodwyd bydd rhai o’r prosiectau yn cael eu
cyflwyno i’r Aelodau er mwyn gallu miniogi’r ffordd orau o’u hyrwyddo’n
ehangach.
Cyhoeddwyd bod Rhaglen Cefnogi Busnes wedi
cael ei lansio yn ddiweddar, a’i fod yn Raglen ble mae Cyngor Sir Y Fflint a
Chyngor Sir Wrecsam yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y prosiectau a
ddewisir. Cadarnhawyd bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn parhau i
dderbyn achosion busnes ar gyfer y prosiectau mawr, gan nod y disgwylir Achos
Busnes ar gyfer prosiect trawsnewid rhwydwaith bysiau yn fuan. Nodwyd bydd y
Bwrdd Sgiliau Rhanbarthol yn derbyn cynigion gan Brifysgol Wrecsam a Choleg
Cambria cyn i’r Aelodau benderfynu pa gynigion all y Parth Buddsoddi ei
gefnogi.
Manylwyd bod nifer o brosiectau wedi bod yn
cael eu datblygu dros yr 18 mis diwethaf, tra oedd y Parth Buddsoddi yn cael ei
ffurfio. Eglurwyd y disgwylir Memorandwm o Ddealltwriaeth gan y Llywodraethau
er mwyn gallu cydlynu cymeradwyo rhaglenni’r Parth Buddsoddi er mwyn gallu
datblygu cynnig grant i gynorthwyo’r Rhaglen.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Cadarnhawyd mai dyma’r Parth Buddsoddi cyntaf
i gael ei wneud y tu hwnt i Loegr. Diolchwyd i bawb sydd wedi ei ddatblygu ar
raddfa gyflym, gan obeithio bydd y datblygiad yn parhau ar yr un cyflymder i’r
dyfodol.
Mynegwyd balchder bod y Parth Buddsoddi yn
cael ei ddatblygu a bod cydweithio clos rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir
Wrecsam a’r holl bartneriaid sydd yn ei ddatblygu. Ategwyd sylwadau o’r angen i
sicrhau bod y gwaith a wnaed yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol.
Manylwyd ar ddyraniadau o fewn thema
‘Seilwaith’ y Parth Buddsoddi gan nodi cefnogaeth i gynyddu cyfraniad cyfalaf i
hyd at £6miliwn i brosiect Padeswood Siding yn amodol ar y broses o gais am newid rhwng
Llywodraeth Cymru a Chynllun Twf Uchelgais Gogledd Cymru.
Diolchwyd i bawb sydd wedi gweithio i
ddatblygu’r Parth Buddsoddi hyd yma gan edrych ymlaen at barhau i gydweithio
i’r dyfodol.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: