I ystyried
cais Miss A
(copi i
Aelodau’r Isbwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Nad oedd yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi
oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Cydymffurfiaeth Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais gan Ms A i adnewyddu
trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sy’n
gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat.
Yn unol
â Meini Prawf Addasrwydd ar
gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr,
roedd yr Awdurdod Trwyddedu
yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.
Mewn ymateb
i gwestiwn os oedd yr ymgeisydd wedi amlygu manylion y troseddau i'r Uned
Trwyddedu, nododd y Swyddog
Cydymffurfiaeth Trwyddedu nad oedd gwybodaeth wedi ei ddatgan iddynt ac nid
oedd y manylion wedi eu cynnwys ar y ffurflen gais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y tri achlysur y derbyniodd y pwyntiau cosb, a’i amgylchiadau personol. Yn dilyn
derbyn y pwyntiau cosb, amlygodd iddi wneud apwyntiad
gyda’r optegydd lle canfuwyd bod
ganddi nam ar ei llygaid.
O ganlyniad, fe’i cynghorwyd i wisgo sbectol briodol ar gyfer gyrru
yn y tywyllwch. Ategodd nad oedd
wedi derbyn pwyntiau cosb ers Gorffennaf 2024. Nododd nad oedd wedi datgelu'r
pwyntiau cosb ar ei chais gan mai ei Chyflogwr oedd
wedi cwblhau’r ffurflen ar ei
rhan. Derbyniodd ddifrifoldeb y sefyllfa, petai yn colli
ei thrwydded, byddai yn colli
ei gwaith.
PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni
Cyngor Gwynedd’
·
Canllawiau Addasrwydd Unigolyn
·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
DBS yr ymgeisydd
– dim cofnod o gollfarnau
·
Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Ym mis Rhagfyr 2023 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri’r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
Ym mis Gorffennaf 2024 derbyniodd yr
ymgeisydd 3 pwynt cosb (SP30) am dorri’r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd
gyhoeddus
Ym mis Gorffennaf 2024 derbyniodd yr ymgeisydd 5 pwynt cosb (SP30)
arall am dorri’r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus a dirwy o
£200 yn Llys Ynadon Gogledd Ddwyrain Cymru
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae rhan 13 yn ymwneud a mân
droseddau traffig ac yn cyfeirio yn
bennaf at droseddau sydd heb eu
rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi gyda pharagraff 13.1 yn diffinio ‘man drosedd traffig fel trosedd sydd
yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Ystyriwyd paragraff 13.3 sy’n datgan y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w
ystyried arwain at wrthod cais, yn
enwedig os oes sawl collfarn
neu faterion eraill i’w hystyried ar
gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru. Mae’n
bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig ei gyfeirio / ei
chyfeirio at sylw Is-bwyllgor Trwyddedu os oes mwy na
dwy drosedd ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar y drwydded.
CASGLIADAU
Derbyniodd yr Is-bwyllgor
bod gan yr ymgeisydd dair trosedd o oryrru o fewn ychydig
dros 8 mis i'w gilydd, a cafwyd eglurhad am bob un o’r digwyddiadau goryrru, eu lleoliadau a’u
hamseroedd (gyda’r nos).
Yn unol
â'r Polisi, gallai mwy nag un gollfarn ar gyfer mân
drosedd draffig, yn enwedig os
oes patrwm i'r ymddygiad, arwain at wrthod trwydded. Ar ôl
pwyso a mesur yr holl ffactorau yn ofalus, gan
gydnabod bod yr ymgeisydd wedi dangos edifeirwch
am y troseddau, penderfyniad
yr Is bwyllgor oedd bod tri
achos o oryrru yn amlygu patrwm
ac felly nid oeddynt wedi eu darbwyllo
ei bod yn cyrraedd safonau disgwyliedig gyrrwr tacsi.
Bu i’r Is-bwyllgor bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol gan ystyried amgylchiadau a sylwadau'r ymgeisydd ynglŷn â’r troseddau gyrru. Er yn derbyn eglurhad
yr ymgeisydd am y nam ar ei llygad,
roedd yr Is-bwyllgor yn parhau i
fod yn bryderus
ynglŷn â’r nifer pwyntiau ar y drwydded - y nifer yn sylweddol
o ystyried y cyfnod amser dan sylw. Yn ychwanegol, roedd yr Is-bwyllgor yn siomedig
nad oedd y troseddau wedi eu datgan ar
y ffurflen gais. Gwerthfawrogodd yr Is-bwyllgor ei chyfrif gonest
o'r amgylchiadau a'r atebion a gyflwynwyd
i'r cwestiynau. Fodd bynnag, o ystyried bod lefel y pwyntiau cosb yn
sylweddol uchel, byddai rhoi trwydded
dan yr amgylchiadau yn groes i'r polisi.
Yn unol â Dogfen y Sefydliad Trwyddedu
mae’n rhaid i’r Is-bwyllgor fodloni eu hunain bod yr ymgeisydd wedi amlygu ei
hun i fod yn berson cyfrifol, addas a phriodol i ddal trwydded. Yn yr achos
yma, ar sail tebygolrwydd, nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y gallent fod yn
hyderus fod yr ymgeisydd yn cyrraedd safonau gyrrwr tacsi.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd gan amlygu ei hawl i apelio’r
penderfyniad