Agenda item

I ystyried a nodi’r wybodaeth. 

 

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi mai adroddiad ydoedd er gwybodaeth yn nodi’r hyn a drafodwyd yn ddiweddar mewn Cyfarfod Ymgysylltu Cadeiryddion Bwrdd Pensiwn - diweddariad ar waith Partneriaeth Pensiwn Cymru sydd bellach yn chwarae rhan flaenllaw o’r Gronfa. Nodwyd bod Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn yn cyfarfod pob 6 mis gyda thrafodaethau mis Hydref yn cynnwys diweddariad ar adolygu’r Cynllun Busnes, materion buddsoddi cyfrifol a’r gofrestr risg.

 

Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at amodau’r farchnad oedd wedi cael eu monitro ganddynt. Tynnwyd sylw at berfformiad y cronfeydd gan amlygu bod perfformiad wedi bod yn gryf gydag ecwiti byd-eang a marchnadoedd incwm sefydlog yn codi yn y cyfnod.

 

Amlygwyd bod Prosiect yr Wyddfa yn datblygu’n gyflym er mwyn sefydlu’r cwmni buddsoddi (PPC IM Co) gyda chais Cofrestr Gwasanaethau Ariannol (Financial Conduct Authority - FCA), wedi’i gyflwyno a recriwtio ac ymgysylltu rheolaidd yn digwydd. Ategwyd bod swyddogion ac aelodau’r CBLl wedi bod yn trafod sefydlu cytundebau rhwng y cwmni buddsoddi â’r wyth Awdurdod Cyfansoddol fel cleientiaid a  chyfranddalwyr. Nodwyd y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu i rannu gwybodaeth benodol ar y datblygiadau a’r cytundebau perthnasol gyda’r Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn cyn i’r Pwyllgor Pensiynau eu cymeradwyo’n ffurfiol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw bod Cronfa Clwyd wedi pwlio 32%, Powys 63% ac Abertawe 66% ac a’i natur dechnegol y cronfeydd ynteu faterion gwleidyddol oedd y rhesymau dros fod yn araf yn trosglwyddo i PPC,  nodwyd bod y risg wedi ei adnabod;  y Cynghorau hyn gyda mwy o fuddsoddiadau mewn marchnadoedd preifat a bod mesurau wedi eu rhoi mewn lle i ymateb i’r sefyllfa gyda Swyddog Delio ag Asedau wedi ei benodi i arwain y gwaith. 

 

Mewn ymateb i sylw bod PPC yn parhau i gyfeirio at y prosiect fel Prosiect Snowdon Project ac nid Prosiect yr Wyddfa / Yr Wyddfa Project, nodwyd bod y sylw wedi cael ei gyflwyno i PPC, ac ar bob cyfle posib wedi hynny, y swyddogion wedi ceisio cyfleu’r enw cywir - angen parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Prosiect Snowdon fel Prosiect yr Wyddfa.

 

Gofynnodd Mr Eifion Jones (oedd wedi arsylwi cyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau bore 09-02-26,) am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhybuddion o gynnig roedd PPC wedi eu derbyn gan Gynghorau unigol. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod PPC wedi derbyn nifer o rybuddion o gynnig gan Gynghorau Lleol yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Gwynedd (Cyngor Llawn, Hydref 2025) ar faterion buddsoddi cyfrifol, moesegol a chynaliadwy. Nodwyd bod y cynigion wedi derbyn ystyriaeth, ac yng ngoleuni'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â pholisi gwaharddiadau PPC, cytunwyd y byddai ymateb yn cael ei baratoi i bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol ei gyhoeddi, ynghyd a rhannu polisi diwygiedig pan fydd wedi ei gymeradwyo gan y CBLl ym mis Mawrth 2026.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Er croesawu polisi gwaharddiadau, bydd rhaid sicrhau bod y buddsoddiadau yn dod a dychweliadau da i aelodau’r Gronfa

·        Bod angen gallu gwahardd rhai elfennau buddsoddi lefel uchel, amlwg, ond gyda’r wyth Awdurdod Cyfansoddol yn debygol o fod â syniadau gwahanol ar sut i weithredu hynny, bydd rhaid cytuno ar fan dechrau (starting point)

·        Yn croesawu'r gwaith sylweddol sy’n cael ei wneud i gydymffurfio gyda’r egwyddorion, ac i Russell Investments sydd wedi bod yn cwblhau gwaith ar effeithiau posib

 

   Derbyniwyd y wybodaeth

 

Dogfennau ategol: