Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi. Nodwyd bod cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned
Buddsoddi ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-2027 wedi eu cymeradwyo gan
y Pwyllgor Pensiynau (bore
09-02-26) a bod y wybodaeth yn
cael ei rhannu
gyda’r Bwrdd fel cyfle iddynt
roi trosolwg ar y sefyllfa.
Cyfeiriwyd at gyllideb
yr Uned Gweinyddu Pensiynau sydd â 25 aelod o staff cyflogedig ynghyd â chostau systemau, argraffu, ac ad-daliadau canolog. Tynnwyd sylw at y cyflenwadau a’r gwasanaethau gan amlygu bod gofyn cynyddu’r gyllideb i £185,500, a hynny yn bennaf
oherwydd cynnydd yn y costau postio,
a’r costau meddalwedd - costau na ellid eu
hosgoi yn anffodus.
Yng nghyd-destun
cyllideb yr Uned Buddsoddi, nodwyd bod mwyafrif o’u dyletswyddau
yn waith Cronfa Bensiwn ond eu
bod hefyd yn gyfrifol am Reolaeth Trysorlys Cyngor Gwynedd. Yn ychwanegol,
bydd costau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC),
rheolwyr buddsoddi ac ymgynghorwyr o dan gyfrifoldeb y Rheolwr Buddsoddi; bydd y costau hyn
yn amrywio ac yn ddibynnol ar
berfformiad buddsoddiadau a’r gwaith sydd
angen ei gyflawni gan yr ymgynghorwyr ar Bartneriaeth. Wrth drosglwyddo a buddsoddi gyda PPC IM Co bydd angen cadw llygaid
barcud ar y costau dros y cyfnod
nesaf, ac felly ystyriwyd nad oedd diben
gosod cyllideb eleni, ond yn
rhywbeth fydd angen sylw yn
y flwyddyn ariannol nesaf.
Elfen arall
na ellid ei chynnwys yn
y gyllideb yw newidiadau fydd angen eu gweithredu
fel rhan o reoliadau ‘Addas i’r Dyfodol’ lle bydd
gofyn statudol i benodi Prif
Swyddog y Gronfa, unigolyn annibynnol i’r Pwyllgor, ynghyd
a chostau gofynion llywodraethu a hyfforddiant ychwanegol. Nodwyd, y bydd rhagor o wybodaeth
am yr elfennau hyn yn cael eu
rhannu gyda’r Bwrdd wrth iddynt
ddod ar gael.
Diolchwyd am yr adroddiad
Gofynnodd
Mr Eifion Jones, (oedd wedi arsylwi cyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau (bore
09-02-26) lle trafodwyd ymateb i’r rheoliadau, a’r angen i benodi Prif Swyddog y Gronfa, ac unigolyn annibynnol i’r Pwyllgor erbyn y 1af o Hydref
2026, a’r risg ynghlwm a phenodi person addas sydd yn cyfateb
i’r gofynion penodol, nodwyd bod risgiau sydd yn
cwmpasu goblygiadau ‘Addas I’r Dyfodol’ wedi
eu hychwanegu i’r gofrestr risg.
Ategwyd y bydd cymwysterau penodol hefyd i rôl
y Swyddog Annibynnol ac felly'r penodiad yma hefyd yn
un heriol ac yn risg. Bydd gwaith
ar sefydlu’r swydd ddisgrifiadau yn dechrau mor fuan â phosib.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch addasiadau i ddyletswyddau’r
Pwyllgor ac os bydd effeithiau i ddyletswyddau’r Bwrdd, nodwyd bod newidiadau i’r Pwyllgor oherwydd eu bod yn gwneud
dipyn o waith gyda’r elfen buddsoddi,
ond y byddai dyletswyddau’r Bwrdd yn aros yr un fath.
Yng nghyd-destun cynnydd o 60% mewn costau darpariaeth gwasanaeth a pham bod hyn mor uchel, nodwyd mai cynnydd
mewn costau datblygu a thrwyddedu meddalwedd oedd hyn yn bennaf,
e.e, y Dashfwrdd, creu fideo ar gyfer
yr Hunanwasanaeth, a chynnydd mewn
costau postio.
Mewn ymateb
i gwestiwn ategol ynglŷn â chostau meddalwedd a pham nad yw
yn wariant cyfalaf o ystyried yr effaith mae’r cynnydd
mewn costau yn ei gael
ar y gyllideb, nodwyd mai gwariant
untro yw'r rhain rhan amlaf
a cânt eu hariannu gan y Gronfa. Oherwydd hynny, mae’n fwy synhwyrol
o safbwynt cyfrifeg i’w drin fel
gwariant refeniw o fewn un flwyddyn yn hytrach na’i
gyfalafu, fyddai â goblygiadau hirdymor ar y cyfrifon, heb unrhyw wir
fantais i hynny.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â nifer staff ac os mai cywir fyddai
nodi bod pedwar aelod o
staff allan o 23 gyda chytundebau dros dro, nodwyd bod staff dros dro wedi
eu penodi ar gyfer gwaith
ychwanegol, megis Prosiect Mc Cloud, ond gyda’r gwaith sydd
ar y gorwel i’r Uned, bydd
angen penodi mwy. Ategwyd mai’r
bwriad yw ail edrych ar y strwythur
o ystyried y cynnydd yn y gofynion a’r
heriau fydd yn wynebu’r Uned
i’r dyfodol.
Derbyniwyd y wybodaeth
Dogfennau ategol: