Agenda item

I ystyried ac adolygu'r Datganiad Strategaeth Cyllido a’r polisïau cysylltiedig.

Cofnod:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd y Rheolwr Buddsoddi ei bod hi’n ofyn statudol i adolygu'r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair blynedd, a hynny fel arfer ar ôl y prisiad teirblynyddol (oni bai bod newid sylweddol wedi bod yn amodau’r farchnad). Eglurwyd mai pwrpas y ddogfen yw adlewyrchu ffactorau'r prisiad, gan gydbwyso fforddiadwyedd y cyflogwyr gydag amcanion hylifedd hir dymor y Gronfa.

 

Adroddwyd mai sail y ddogfen yw’r prisiad actiwaraidd ac fe baratowyd y prisiad actiwaraidd gan ddefnyddio rhagdybiaethau y cytunwyd arnynt gyda'r actiwari. Cyflwynwyd y rhagdybiaethau hyn i'r Pwyllgor Pensiynau i’w cymeradwyo yn Medi 2025, gyda’r cyflogwyr wedi derbyn cyflwyniad gan yr actiwari ym mis Hydref 2025. Amlygwyd bod y canlyniadau yn bositif iawn gyda lefel cyllido’r Gronfa gyfan yn 166%, gyda’r cyflogwyr yn cael gostyngiad yn eu cyfraniadau o fis Ebrill 2026 ymlaen.

 

Mynegwyd bod y ddogfen drafft yn cael ei rhannu gyda holl gyflogwr y Gronfa am ymgynghoriad cyn cael ei mabwysiadu’n ffurfiol yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau Mawrth 2026. Er yn derbyn bod y datganiad yn faith a thechnegol, fe’i paratowyd mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans gyda mewnbwn gan swyddogion y Gronfa. Cyfeiriwyd at y polisïau unigol sy’n bwydo i mewn i’r ddogfen, sy’n golygu petai angen addasu un o’r polisïau yn y dyfodol, mai dim ond newid y polisi unigol fydd ei angen ac nid y Strategaeth yn ei chyfanrwydd.

 

Ategwyd bod y Strategaeth yn gyson gyda’r Strategaethau blaenorol, ond bod un newid yn 'Polisi Ar Adael y Gronfa'. Yn hanesyddol, pe byddai’r cyflogwr yn dewis gadael y Gronfa, byddai angen cyfrifo credyd gadael, sef y swm sy’n ddyledus unai i’r Gronfa, neu allan o’r Gronfa, gyda’r cyfrifiad yma yn seiliedig ar ddychweliadau ‘gilts’ ac felly’n agored i symudiadau'r farchnad - y ffigwr yn gallu amrywio’n sylweddol yn ddibynnol ar amodau’r farchnad ar y pryd. Gyda’r cyfrifiad hefyd yn seiliedig ar un ffigwr ar bwynt mewn amser, golygai hyn bod y canlyniadau’n gallu bod yn gyfnewidiol (volatile), ac nid yw sail y giltiau yn adlewyrchu’r gwir gan fod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi mewn amryw o asedau. O ganlyniad, awgrymodd yr actiwari y dylid newid i sail risg sef defnyddio cyfradd disgownt sy’n seiliedig ar ddyraniad asedau'r Gronfa, ond sydd hefyd yn cynnwyscoridor’ er mwyn sicrhau nad oes ffactorau marchnad sylweddol ar un diwrnod yn effeithio’r prisiad. Ystyriwyd y byddai hyn yn rhoi gwell syniad i’r cyflogwyr o beth fydd cost gadael y Gronfa, a hefyd yn rhoi sicrwydd i’r Gronfa na fydd cyflogwyr yn gadael ar adeg anfanteisiol - yr addasiad felly yn decach i bawb.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhoi ystyriaeth i osod targed cyfraniad cyflogwr o weld lefel cyllido’r Gronfa gyfan yn 166%, nodwyd nad oedd targed wedi ei osod oherwydd bod maint y cyflogwyr yn amrywio ac felly yn gosod cyfyngiadau. Er hynny nodwyd bod gan cyflogwyr mawr y Gronfa, fecanwaith sefydlogi, sef cyfleuster ariannol, fel arfer dros dro, i adfer cydbwysedd i system os bydd ansefydlogrwydd.

 

Yng nghyd-destun cyfradd cyfraniadau ac os oedd rhai o’r cyflogwyr yn herio am gyfraddau llai neu a oeddynt yn barod i dderbyn barn yr actiwari, nodwyd bod fforymau trafod yn cael eu cynnal gyda’r Actiwari ynghyd a gwaith ymgysylltu lle mae’r gyfradd yn cael ei drafod. Ategwyd bod y lefel fel arfer yn cael ei gosod yn gyfreithiol gyda’r hyn mae’r Actiwari yn ei osod, ond bod swyddogion yn agored i heriau, yn ymddwyn yn rhagweithiol a pharodrwydd i egluro’r cyfraddau.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

Dogfennau ategol: