I dderbyn cyflwyniad gan Luke Donnellan, Cyfarwyddwr Deall Dyneiddiaeth, Dyneiddwyr y DU.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan Luke Donnellan, Cyfarwyddwr Deall Dyneiddiaeth, ‘Humanists UK’, ar
Ddyneiddiaeth a’r manteision o gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol
yng nghwricwlwm CGM. Yn ystod y cyflwyniad, trafodwyd y prif bwyntiau canlynol:
• Nodwyd bod adran addysg ‘Humanists
UK’ yn cefnogi athrawon mewn ysgolion ar draws y DU gydag adnoddau a
gwasanaethau i addysgu am Ddyneiddiaeth fel rhan o addysg CGM eang a chytbwys.
• Rhoddwyd gwybodaeth gefndirol
ynglŷn â CGM yng Nghymru, gan bwysleisio bod cwricwlwm CGM Cymru yn nodi’r
angen i gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.
• Nodwyd bod argyhoeddiadau athronyddol
anghrefyddol yn golygu “philosophical convictions which are based on a
non-religious worldview as opposed to a religious worldview”.
• Tanlinellwyd bod tri phrif fudd o
gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yng nghwricwlwm CGM, sef ei fod
yn gyfoethog o ran gwybodaeth, ei fod yn cefnogi cyd-ddealltwriaeth a
chydlyniant cymdeithasol, a’i fod yn annog datblygiad personol.
• Nodwyd bod pum prif gred yn
gysylltiedig â Dyneiddiaeth, yn ogystal â’r ffaith ei bod yn anghrefyddol, sef
bod pobl yn rhan o natur, bod dealltwriaeth wyddonol o’r byd yn bwysig, mai dim
ond un bywyd sydd gan bawb, nad yw moeseg yn ddibynnol ar grefydd, a bod gan
bobl gyfrifoldeb i wneud y byd yn well.
• Nodwyd bod cyfran uwch o boblogaeth
Cymru yn nodi eu bod yn anghrefyddol (47%) nag yn grefyddol (44%) yn ôl
canlyniadau’r cyfrifiad, gyda thua thraean i hanner y boblogaeth anghrefyddol
yn arddel credoau Dyneiddiaeth.
• Nodwyd bod nifer o Gymry enwog
hanesyddol yn cael eu hadnabod fel dyneiddwyr.
• Nodwyd bod sawl adnodd ar gael ar
wefan ‘Humanists UK’, understandinghumanism.org.uk, er mwyn cefnogi addysgu am
y pwnc, gydag adnoddau penodol i athrawon yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog.
• Nodwyd bod y llyfr ‘My Humanist
Family’ ar gael er mwyn cefnogi addysgu am y pwnc i blant ifanc.
Diolchwyd
am y cyflwyniad.
Cwestiynwyd
faint o amser a roddir i addysgu Dyneiddiaeth mewn ysgolion. Mewn ymateb,
nodwyd nad oedd yr ateb yn glir, ond bod tystiolaeth yn dangos nad oedd digon o
amser yn cael ei neilltuo i bwnc CGM yn gyffredinol, ac felly bod hynny’n
effeithio ar y cyfle i ddisgyblion ddysgu am Ddyneiddiaeth. Nodwyd, er bod y
cwricwlwm wedi newid, fod yr amser a neilltuir i argyhoeddiadau athronyddol
anghrefyddol yn parhau i fod yn isel, o bosibl oherwydd y cyfnod trawsnewid i’r
cwricwlwm newydd neu oherwydd gwrthwynebiad o fewn rhai ysgolion i’w cynnwys.
Pwysleisiwyd bod ‘Humanists UK’ yn gwneud popeth o fewn ei allu i gyfathrebu ag
ysgolion er mwyn cynnig adnoddau dysgu a hyfforddiant i helpu i hwyluso’r
cyfnod trawsnewid hwn. Tanlinellwyd bod pethau’n gwella yn hyn o beth, ond bod
llawer o waith i’w wneud o hyd.
Cwestiynwyd
a oedd Dyneiddwyr yn dod at ei gilydd yn rheolaidd fel cymuned. Mewn ymateb,
nodwyd bod hyn yn amrywio o un Dyneiddiwr i’r llall. Nodwyd bod sefydliadau
Dyneiddwyr, megis ‘Humanists UK’, yn cynnal digwyddiadau blynyddol, a bod
grwpiau mwy lleol o Ddyneiddwyr yn cynnal digwyddiadau er mwyn hybu
cymdeithasu. Pwysleisiwyd bod cyfleoedd ar gael, ond nad oedd unrhyw
rwymedigaeth ar unigolion i gymryd rhan. Pwysleisiwyd bod mwy o waith i’w wneud
ar lefel gymdeithasol i gefnogi pobl i deimlo ymdeimlad o berthyn i gymuned.
Cwestiynwyd
sut yr oedd Dyneiddwyr yn ymdrin â moesoldeb a phechod o fewn eu hathroniaeth.
Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y byd yn lle delfrydol, ond bod pethau ar y cyfan
wedi gwella i bobl dros y blynyddoedd o ran safon byw, rhyddid a democratiaeth.
Cydnabuwyd bod nifer o heriau yn parhau i wynebu’r byd, ac nad oedd unrhyw
sicrwydd y byddai pethau’n parhau i wella dros y blynyddoedd. Pwysleisiwyd nad
athroniaeth ddelfrydol oedd Dyneiddiaeth, ond ei bod yn credu mewn ceisio creu
byd gwell, nid byd perffaith, drwy weithredoedd dynol yn hytrach na thrwy
bŵer dwyfol. Nodwyd bod Dyneiddwyr yn credu mewn ceisio cyfiawnder yn y
bywyd hwn, yn hytrach nag mewn bywyd ar ôl marwolaeth. Pwysleisiwyd bod
dioddefaint yn rhan o’r byd yr ydym yn byw ynddo, ac mai’r hyn y gellid ei
wneud oedd ceisio ei leihau a’i liniaru lle bo hynny’n bosibl.
Cwestiynwyd
a oedd lledaenu Dyneiddiaeth yn bwysig yn yr un ffordd ag yr oedd i
Gristnogaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod y rhan fwyaf o Ddyneiddwyr yn erbyn
efengylu. Ymhelaethwyd nad oedd gan Ddyneiddiaeth nod o greu Dyneiddwyr newydd
na lledaenu’r athroniaeth. Pwysleisiwyd bod Dyneiddwyr yn credu mewn rhyddid
cred, ac yn cefnogi hawl pobl i ddysgu am amrywiaeth o grefyddau ac
athroniaethau er mwyn eu galluogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Cwestiynwyd
faint o aelodau CYSAG mewn siroedd eraill yng Nghymru oedd yn Ddyneiddwyr. Mewn
ymateb, pwysleisiwyd bod gan bob Pwyllgor CYSAG yng Nghymru gynrychiolydd
Dyneiddwyr, a bod gan dros 90% o CYSAGau yn Lloegr gynrychiolaeth Ddyneiddwyr.
Nodwyd bod hyn yn welliant sylweddol, gan mai dim ond tua 50% o CYSAGau oedd â
chynrychiolaeth tua phum mlynedd yn ôl.
Cwestiynwyd
a fyddai modd derbyn cyflwyniad gan bob cynrychiolaeth ffydd er mwyn i
aelodau’r Pwyllgor dderbyn mwy o wybodaeth yn y maes. Mewn ymateb, nodwyd bod
hyn yn syniad da, ac awgrymwyd gwahodd Nathan Abrams i roi cyflwyniad ar
Iddewiaeth. Awgrymwyd hefyd y dylid anfon y cyflwyniadau ymlaen i ysgolion er
mwyn iddynt gael eu defnyddio fel adnoddau dysgu.
Diolchwyd i Edward Parry-Jones am gyflwyno cais i fod yn aelod o GYSAG Gwynedd, gan bwysleisio bod ychwanegu cynrychiolaeth o grefyddau anghristnogol ac argyhoeddiadau anghrefyddol wedi bod yn gam enfawr ymlaen i’r Pwyllgor CYSAG.