I ystyried yr adroddiad a chynnig y Datganiad o Bolisi Tâl
drafft i’r Cyngor fel un i’w fabwysiadu ar gyfer 2026/27.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Nodyn:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi, ers 2012 bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl blynyddol gyda disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad blynyddol o gynaliadwyedd y polisi, a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r
Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn
yn flynyddol.
Amlygodd y Prif Weithredwr mai ymarfer da yw cael
trosolwg blynyddol o’r polisi a chyhoeddi
amodau gwaith staff yn unol â gofynion
y Ddeddf. Nodwyd bod trafodaethau a negodi ynglŷn â chodiadau cyflog blynyddol yn digwydd tu
allan i’r Cyngor - Prif Swyddogion yn cael
eu pennu gan y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion
a’r Cydgyngor Cenedlaethol ar Gyfer Gweithlu Llywodraeth Leol yn pennu cyflogau
o dan lefel prif swyddogion.
Yng Ngorffennaf 2025 daeth yr undebau sy’n cynrychioli
prif swyddogion, a’r cyflogwr i
gytundeb ar gynnydd o 3.2% ar gyflog blynyddol pob prif swyddog
ac yn ddiweddarach yn ystod yr Haf, cynnydd o 3.2% ar gyflog blynyddol pob Aelod o staff. Cytunwyd hefyd i ddileu
pwynt 2 o’r strwythur tâl, gyda hynny i
ddod yn weithredol
o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
pryder colli swyddogion i awdurdodau
cyfagos
·
angen ymestyn eglurhad y frawddeg ar gymarebau, a chynnwys mwy o wybodaeth
rhwng cymarebau'r cyflog uchel a’r cyflog isaf (llawn amser).
·
angen mwy o wybodaeth am dreuliau cynhaliaeth – angen bod yn dryloyw
Mewn ymateb i gwestiwn am gyflogau
prif swyddogion a sut roedd y lefelau
yn cael eu
gosod o ystyried bod amrywiaeth eang yn y cyflogau, a phryd yr adolygwyd y cyflogau ddiwethaf, nododd y Prif Weithredwr
mai Aseswyr Allanol o gwmni Korn Ferry sydd yn gosod,
asesu ac adolygu lefelau cyflog prif swyddogion ac y bydd asesiad yn
cael ei weithredu
pan fydd angen penodi uwch swyddog
i swydd wag / newydd. Ategodd bod adolygiad mewnol o’r cyflogau, sy’n
cymharu cyflogau prif swyddogion gyda chyflogau cyfatebol Awdurdodau cyfagos, wedi ei
weithredu rhyw dair mlynedd yn
ôl, ond amserol
fyddai cynnal adolygiad mewnol. Nododd y byddai hyn yn fodd
o sicrhau cynaladwyedd, ac
y byddai’n adrodd yn ôl i’r
Pwyllgor pan fydd y gwaith wedi ei
gwblhau.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â chyfnod disgwyliedig i brif swyddog
gymryd cyfrifoldeb ychwanegol / ysgwyddo baich, nodwyd bod y Cyngor yn ceisio osgoi
sefyllfa o roi cyfrifoldebau ychwanegol gan nad yw
hynny yn gynaliadwy ar sail tymor canolig / hir. Bydd anogaeth i
arfarnu swydd os yw’r swyddogaethau
/ cyfrifoldebau yn parhau i gynyddu
neu yn cael ei ystyried fel
trefniant parhaol. Bydd arfarniad yn cael ei
wneud drwy ddefnyddio methodoleg allanol sydd yn
edrych ar gyfrifoldebau’r swydd, swyddi cyfatebol yng Ngwynedd a ffactorau cyflawni swydd. Er hynny, er bod pob Cyngor yn defnyddio'r un fethodoleg, gall amrediad cyflogau fod yn
wahanol gyda graddfeydd Gwynedd yn ymddangos yn is na Chynghorau cyfagos.
Mewn ymateb i gais am gyflogau
Cynghorau cyfagos a’r rhesymeg dros
rai o’r gweithlu yn gadael i’r
Cynghorau hynny, nodwyd y bydd Gwynedd yn edrych i
arfarnu swyddi gyda bwriad o sefydlu
panel cymedroli i edrych ar gysondebau,
cymariaethau, teitlau swyddi a’r elfen
gystadleuol gyda sefydliadau / cynghorau eraill. Ategwyd y bydd canlyniadau Arolwg Staff Gwynedd, sef arolwg sy’n rhoi
cyfle allweddol i bob cydweithiwr gyflwyno adborth a barn dienw am sut le ydi’r Cyngor i weithio, ar gael
yn fuan.
Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cyngor yn
mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi
Tâl (drafft)
PENDERFYNWYD
·
Bod y
Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor Llawn ar
Fawrth y 5ed 2026, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2026/27
·
Galw ar y
Prif Weithredwr i gynnal adolygiad mewnol i gyflogau Uwch Swyddogion fel modd o
sicrhau cynaladwyedd, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor pan fydd y gwaith wedi ei
gwblhau.
·
Cais am
adolygiad i dreuliau cynhaliaeth – i’w ystyried fel ychwanegiad i bolisi tâl
2027.
Nodyn:
·
Pwynt 4 o’r
Polisi Tâl: Swyddi o dan lefel Prif Swyddog - angen ymestyn eglurhad y frawddeg
ar gymarebau, a chynnwys mwy o wybodaeth rhwng cymarebau'r cyflog uchel a’r
cyflog isaf (llawn amser). Cais i addasu’r adroddiad cyn ei gyflwyno i’r Cyngor
Llawn
Dogfennau ategol: