I ystyried budd yr Cynllun Twf i Wynedd.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Cofnod:
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad
gan nodi, yn dilyn pryderon a godwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin
wrth graffu ar adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, y
bwriedid rhoi trosolwg i’r Pwyllgor o waith y Cynllun Twf a’r budd a ddeilliai
ohono i Wynedd. Eglurwyd bod y Cynllun Twf yn fuddsoddiad rhanbarthol sylweddol
a luniwyd er mwyn cryfhau economi Gogledd Cymru, creu swyddi, datblygu sgiliau
a chefnogi busnesau.
Nodwyd bod y rhaglen yn cynnwys nifer o
brosiectau ar draws meysydd megis arloesi, ynni, digidol, twristiaeth a
datblygu’r gweithlu. Ymhelaethwyd bod yr adroddiad gerbron yn crynhoi’r cynnydd
a wnaed gyda’r prosiectau perthnasol ynghyd ag uchafbwyntiau chwarter dau, sef
y cyfnod rhwng Mehefin a Medi 2025. Cadarnhawyd y byddai diweddariad yn cael ei
roi ynghylch y cynlluniau ar gyfer datblygu safle Trawsfynydd.
Tynnwyd sylw at y ffaith fod y cyfarfod hwn
yn amserol gan fod y Cabinet wedi cefnogi cynllun busnes amlinellol ar gyfer
sefydlu parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd a datblygu canolfan arloesedd,
sgiliau a busnes yno. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ystyried yr wybodaeth, craffu ar
y cynnydd a’r trefniadau a chynnig sylwadau neu argymhellion er mwyn helpu i
sicrhau bod y Cynllun Twf yn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i gymunedau a
phobl Gwynedd.
Trosglwyddwyd i Bennaeth Gweithrediadau
Uchelgais Gogledd Cymru, gan ddiolch am y cyfle i gyflwyno gwaith y Cynllun
Twf. Rhoddwyd cyflwyniad ar brif uchafbwyntiau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys
rhai o’r datblygiadau diweddaraf ers rhannu adroddiad chwarter dau.
Nodwyd mai nod Uchelgais Gogledd Cymru yw
datblygu economi’r rhanbarth mewn modd cynaliadwy er mwyn creu cyfleoedd i
bobl, cymunedau a busnesau. Eglurwyd mai rhaglen fuddsoddi ranbarthol yw’r
Cynllun Twf, gyda £240 miliwn o gyllid gan y Llywodraeth a tharged o gyflawni
dros £1 biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth erbyn 2036 ynghyd â chreu hyd at
4,200 o swyddi newydd. Nodwyd bod y Cynllun Twf yn cael ei weithredu ar draws
pum rhaglen, sef arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, cysylltedd digidol,
bwyd-amaeth a thwristiaeth, tir ac eiddo ac ynni carbon isel.
Rhoddwyd trosolwg o’r prif uchafbwyntiau hyd
yma, sef:
-
Trosglwyddwyd
y Cynllun Twf a’r tîm rheoli portffolio i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar 1
Ebrill 2025.
-
Bod
rhestr wrth gefn wedi ei chreu ar gyfer 17 o brosiectau newydd ym mis Mai, ac
bod y Gronfa Ynni Glân wedi ei lansio ym mis Gorffennaf.
-
Bod
Cytundeb Cyd-fenter Parc Bryn Cegin gyda Llywodraeth Cymru wedi ei gwblhau ym
mis Awst.
-
Bod yr
Is-bwyllgor Lles Economaidd wedi cymeradwyo achosion busnes ar gyfer Prosiect
Prince, Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0, Safleoedd
Gogledd Môn a Phorthladd Rhydd yng nghyfarfod mis Hydref.
-
Ym mis
Tachwedd, adeilad CanfodAu wedi ei agor yn swyddogol ynghyd â lansio’r prosiect
Academi Croeso.
-
Bod yr
Is-bwyllgor wedi cymeradwyo achosion busnes ar gyfer Porthladd Mostyn, Ysgol
Fusnes Albert Gubay a Phrosiect Gwella Rheilffyrdd Padeswood yng nghyfarfod mis
Rhagfyr.
-
Bod dau
Ymgynghorydd Anweithredol wedi eu penodi i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mis
Ionawr.
Nodwyd bod cynnydd da wedi ei wneud dros y
flwyddyn hyd yma. Cyfeiriwyd at y sefyllfa ddiweddaraf ar ddiwedd chwarter tri,
gan nodi fod adroddiad chwarter tri newydd gael ei gymeradwyo gan yr
is-bwyllgor. Eglurwyd bod chwe phrosiect bellach yn weithredol, deg arall wedi
eu cymeradwyo ond ddim eto yn weithredol, a saith yn datblygu achosion busnes,
gyda chwech o’r rhain eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth amlinellol gan yr
is-bwyllgor. Nodwyd bod un prosiect yn parhau dan adolygiad, sef yr hwb
hydrogen yng Nghaergybi, a bod pymtheg prosiect ar y rhestr wrth gefn yn
cystadlu am oddeutu £62 miliwn o gyllid heb ei ddyrannu hyd yma.
O ran y buddion a welwyd hyd yma, nodwyd bod
49 o swyddi newydd wedi eu creu ynghyd â 49 o swyddi adeiladu ychwanegol.
Cydnabuwyd bod y niferoedd hyn yn isel, ond eglurwyd bod y Cynllun Twf wedi
wynebu oedi a heriau sylweddol ar ei ddechrau, gan gynnwys Covid, cynnydd mewn
costau, problemau cynllunio a newidiadau ym mholisïau Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU, a oedd wedi cael effaith ar y portffolio gwreiddiol.
Pwysleisiwyd, fodd bynnag, bod cynnydd sylweddol wedi bod dros y flwyddyn
ddiwethaf yn nifer y prosiectau a gymeradwywyd, a byddai hynny dros y
blynyddoedd nesaf yn trosi i gynnydd yn nifer y swyddi a grëir. Nodwyd
ymhellach, erbyn diwedd chwarter tri, y byddai ychydig dros £29 miliwn wedi ei
fuddsoddi yn y rhanbarth, gyda £26 miliwn o hynny yn fuddsoddiad uniongyrchol y
Cynllun Twf.
Gan ymateb i ddiddordeb penodol y Pwyllgor
mewn buddion lleol i Wynedd, eglurwyd bod Uchelgais Gogledd Cymru yn ystyried
pob prosiect o fewn y Cynllun Twf fel prosiect rhanbarthol sy’n cyfrannu at y
weledigaeth ranbarthol a’r targedau cyffredinol. Cydnabuwyd, fodd bynnag,
ddealltwriaeth lawn o ddiddordeb yr Aelodau mewn buddion lleol. Nodwyd bod
prosiectau’r Cynllun Twf yn creu buddion lleol mewn pedair prif ffordd, sef
drwy fuddsoddiad uniongyrchol, drwy greu swyddi lleol a rhanbarthol, drwy
gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, a thrwy fuddion cymdeithasol a buddion
cymunedol a sicrheir drwy’r prosiectau ac yn arbennig drwy’r broses gaffael.
Rhoddwyd trosolwg
o’r 7 prosiect yng Ngwynedd a oedd naill ai wedi derbyn cymeradwyaeth
amlinellol neu gymeradwyaeth derfynol. Nodwyd bod y rhain yn cynnwys:
·
Canolfan
Prosesu Signalau Digidol (£3 miliwn) a’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (£2
miliwn) ym Mhrifysgol Bangor,
·
Prosiect
Ysgol Fusnes Albert Gubay (£7.3 miliwn),
·
Prosiect
Anturiaethau Cyfrifol (£5.6 miliwn),
·
Academi
Croeso Cymru (£2 filiwn),
·
Hwb
Economi Wledig Glynllifon (£11.8 miliwn) gyda Grŵp Llandrillo Menai, a
·
Prosiect
Parc Bryn Cegin (£5.9 miliwn).
Eglurwyd bod y prosiectau hyn yn cynrychioli
cyfanswm buddsoddiad o £38.5 miliwn o arian y Cynllun Twf yng Ngwynedd, gyda
chyfanswm buddsoddiad o bron i £72 miliwn wrth gynnwys ffynonellau cyllidol
eraill. Nodwyd bod £5.5 miliwn o’r arian hwnnw eisoes wedi ei fuddsoddi yn y
Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol ac ym
Mhortmeirion drwy brosiect Academi Croeso Cymru. Nodwyd bod y prosiectau hyn yn
ceisio creu 700 o swyddi dros y deng mlynedd nesaf yn y rhanbarth, gyda’r mwyafrif
o’r rhain yn debygol o fod yng Ngwynedd.
Eglurwyd bod pedwar prosiect neu gronfa
ranbarthol arall yn y meysydd ynni a digidol, naill ai’n fyw erbyn hyn neu ar
fin mynd yn fyw, yn ceisio buddsoddi dros £51 miliwn ar draws y rhanbarth, ac y
byddid yn gweithio gyda busnesau a chymunedau yng Ngwynedd er mwyn ceisio
sicrhau buddsoddiad fel rhan o’r cronfeydd yma.
Nodwyd bod pedwar prosiect o fewn Gwynedd ar
y rhestr wrth gefn yn cystadlu am y cyllid sydd heb ei glustnodi hyd yma, sef
gwedd dau Prosiect Parc Bryn Cegin gyda Llywodraeth Cymru, Canolfan Arloesedd,
Busnes a Sgiliau Trawsfynydd, Hwb Iechyd Bangor a phrosiect ‘Quarry Battery’.
Cadarnhawyd y gallai rhai o’r prosiectau ar y
rhestr wrth gefn, megis cynllun Trawsfynydd, fod yn destun adroddiad ar wahân
i’w graffu’n fanylach maes o law wrth i’r manylion aeddfedu a symud drwy
brosesau Uchelgais Gogledd Cymru.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Cwestiynwyd ynghylch y trefniadau ar gyfer blaenoriaethu
prosiectau a pha broses oedd mewn lle i benderfynu pa brosiectau oedd yn cael
blaenoriaeth dros eraill. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod
nifer o brosesau wedi eu cynnal dros y blynyddoedd i benodi prosiectau ar gyfer
y Cynllun Twf, gan gynnwys proses yn gynharach yn y flwyddyn i benodi
prosiectau ar y rhestr wrth gefn.
-
Bod
proses drylwyr o ddadansoddi gwybodaeth am brosiectau yn cael ei chynnal.
-
Bod y
tri phrif ffactor oedd yn sail i’r penderfyniadau yn cynnwys cyfraniad y
prosiectau tuag at y targedau o ran creu swyddi a sicrhau buddsoddiad i’r
rhanbarth, y buddion ehangach y gallai’r prosiectau eu cynnig i’r rhanbarth, a
lefel aeddfedrwydd a pharodrwydd y prosiectau i symud ymlaen i gyflawni.
-
Bod y
ffactor olaf hwn yn arbennig o bwysig o ystyried yr oedi a fu yn ystod pum
mlynedd gyntaf y Cynllun Twf a’r heriau a wynebwyd gyda rhai prosiectau.
-
Mai 15
mlynedd oedd y cyfnod gweithredu yn wreiddiol, ond mai 10 mlynedd oedd ar gael
bellach i gyflawni’r prosiectau a sicrhau buddion y Cynllun Twf.
Cwestiynwyd am weledigaeth hirdymor y Cynllun
Twf. Mewn ymateb, nodwyd bod gweledigaeth glir i dyfu’r economi mewn modd
cynaliadwy a chreu cyfleoedd ar draws y rhanbarth a’r sectorau. Pwysleisiwyd
mai un ffynhonnell ariannu yn unig oedd y Cynllun Twf o fewn system ariannu fwy
cymhleth erbyn hyn, ac y byddai’n bwysig sicrhau bod ffrydiau ariannu amrywiol
yn cydweithio yn hytrach na chystadlu yn erbyn ei gilydd. Pwysleisiwyd bod
cyfle sylweddol yn bodoli yng Ngogledd Cymru dros y blynyddoedd nesaf i fanteisio
ar y Cynllun Twf, y prosiect Porthladd Rhydd, y Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint
a Wrecsam, y Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial, a datblygiadau posibl yn
Wylfa. Nodwyd mai rôl bwysig Uchelgais Gogledd Cymru fel corff rhanbarthol oedd
sicrhau bod y buddsoddiadau hyn yn ychwanegu gwerth at ei gilydd ac yn cyflawni
ar draws y rhanbarth.
Cwestiynwyd faint o arian a gyfrannwyd gan y
Cyngor tuag at wireddu’r Cynllun Twf. Mewn ymateb, nododd Pennaeth Economi a
Chymuned nad oedd ffigyrau penodol wrth law, ond y gellid eu darparu yn dilyn y
cyfarfod. Eglurwyd bod pob cyngor a phartner o fewn Uchelgais Gogledd Cymru,
gan gynnwys y prifysgolion a’r colegau, yn cyfrannu’n flynyddol at gostau
rhedeg y rhaglen, sef yr adnoddau a’r staff o fewn Uchelgais Gogledd Cymru sy’n
gweithio ar y Cynllun Twf. Ymhelaethwyd bod partneriaid hefyd yn cyfrannu tuag at
gostau benthyca yn y dyfodol, gan y byddai angen benthyca yn y tymor byr er
mwyn galluogi prosiectau i symud ymlaen cyn i gyllid y ddwy Lywodraeth lifo i
mewn dros y cyfnod.
Nododd Arweinydd y Cyngor fod tanwariant wedi
ei nodi mewn cyfarfod diweddar o’r Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. Mynegwyd siom
ynghylch hynny, yn enwedig ar adeg pan oedd cynghorau ac adrannau eraill yn
wynebu gorwariant a phwysau sylweddol ar gyllidebau llywodraeth leol. Mynegwyd
siom bersonol, ac ar ran Cynghorwyr Gwynedd ac aelodau’r Pwyllgor, fod cynllun
Trawsfynydd wedi llithro i’r rhestr wrth gefn. Mynegwyd y farn y dylai’r
prosiect hwnnw fod yn flaenoriaeth i Wynedd, yn benodol i Dde Meirionnydd.
Mewn ymateb, nodwyd mai dim ond cyllid
cyfalaf oedd ar gael drwy’r Cynllun Twf, ac nad oedd unrhyw arian ar gael ar
gyfer gweithredu a rhedeg y cynlluniau. Ymhelaethwyd mai dyna pam yr oedd angen
i’r partneriaid fuddsoddi i sefydlu’r swyddfa rhaglen yn y lle cyntaf er mwyn
gallu datblygu’r cynlluniau. Cadarnhawyd y byddai manylion pellach yn cael eu
rhannu gydag aelodau’r Pwyllgor maes o law ynglŷn a Trawsfynydd.
Cyflwynwyd sylwadau gan aelod yn seiliedig ar
brofiad o fod yn rhan o’r Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, gan nodi mai
partneriaeth rhwng y chwe sir, y colegau a’r sector preifat oedd y Bwrdd, a’i
fod wedi ei sefydlu flynyddoedd yn ôl i fanteisio ar gynllun Llywodraeth y DU
gyda chyfraniad Llywodraeth Cymru wedi hynny. Nodwyd bod taith hir a heriol
wedi bod i’r Cynllun Twf, a bod cynnal partneriaethau o’r fath yn her
sylweddol, yn enwedig o gofio’r angen i gynnal partneriaeth rhwng y ddwy
Lywodraeth.
Tynnwyd sylw at y ffaith fod y ddwy
Lywodraeth wedi cyflwyno cynlluniau oedd yn croesdorri â chynlluniau’r Bwrdd
Uchelgais, megis y Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint a Wrecsam a’r datblygiadau
yn Wylfa, nad oeddent yn bodoli ar ddechrau’r daith. Mynegwyd y farn fod hyn yn
drysu’r darlun ac yn ei gwneud yn anodd i’r Bwrdd sefydlu ei hun fel corff sydd
yn gallu gweithredu er lles pob sir yng Ngogledd Cymru.
Nodwyd mai mater i Gynghorwyr a gwleidyddion
oedd ystyried y weledigaeth i’r dyfodol, yn enwedig o ystyried etholiadau’r
Senedd. Cyfeiriwyd at drafodaethau ynghylch creu corff datblygu economaidd
tebyg i’r cyn Awdurdod Datblygu Cymru ar draws Gogledd Cymru a’r posibilrwydd o
sefydlu rhyw fath o gorff i hybu’r economi wledig. Mynegwyd y farn ei bod yn
bwysig ystyried pa negeseuon y dylid eu cyfleu i Lywodraeth newydd yng
Nghaerdydd, pwy bynnag fyddai mewn grym.
Nodwyd bod yr ymyriadau allanol hyn yn peri’r
her fwyaf i waith y Bwrdd Uchelgais, a bod tensiwn naturiol yn bodoli gan fod
pawb yn ceisio cael y gorau i’w sir eu hunain. Mynegwyd y farn fod rhai
siroedd, oherwydd yr ymyriadau allanol, wedi cael cyfran dda o’r buddion hyd
yma, ac y byddai angen i Wynedd fod yn barod i sicrhau’r gorau o’r
bartneriaeth. Nodwyd mai partneriaeth bwysig oedd hon, a mynegwyd y farn y
dylai partneriaeth Uchelgais Gogledd Cymru fod â chyllideb gan y ddwy
Lywodraeth heb unrhyw ffrwyn arni, fel y gallai wneud penderfyniadau ei hun
dros y rhanbarth gan ddatganoli grym i’r rhanbarth.
Mynegwyd siom gan aelod ynghylch yr amser hir
a gymerwyd i’r prosiectau ddod yn weithredol a dwyn ffrwyth. Cyfeiriwyd yn
benodol at gynlluniau ar gyfer Gwynedd, gan nodi nad oedd dim o gwbl i dde
Gwynedd. Gofynnwyd am roi sylw teilwng i Drawsfynydd. Nodwyd siom fod y cynllun
ar y rhestr wrth gefn a phwysleisiwyd ei bwysigrwydd i sicrhau buddion i dde
Gwynedd. Holwyd ynghylch y nifer isel iawn o swyddi a grëwyd hyd yma, gan ofyn
faint o’r rheini oedd wedi eu creu o fewn Uchelgais Gogledd Cymru a’r tîm rheoli
ei hun. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod y
siom ynghylch cyflymder datblygu rhai prosiectau yn cael ei chydnabod.
-
Bod
teimlad fod y sefyllfa wedi troi cornel yn ystod y 12 mis diwethaf ac y
gobeithir y byddai’r darlun yn fwy cadarnhaol y tro nesaf y byddai adroddiad yn
cael ei gyflwyno.
-
O ran y
49 swydd a grëwyd, dim ond saith o’r rheini oedd yn swyddi o fewn Uchelgais
Gogledd Cymru, gan mai dim ond swyddi parhaol a oedd yn cael eu cynnwys yn y
ffigyrau swyddogol.
-
Bod mwy
o swyddi o fewn Uchelgais Gogledd Cymru, ond bod nifer o’r rheini yn swyddi
dros dro gan nad oedd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig gyllideb ganolog gan
Lywodraeth Cymru.
Nododd Arweinydd y Cyngor ei bod wedi codi
materion yn ymwneud â swyddi yng nghyfarfodydd y Bwrdd, a’i fod wedi derbyn
sylw. Mynegwyd y farn bod angen mireinio’r ffigwr swyddi ymhellach, gan ofyn a
oeddent yn swyddi llawn amser, yn swyddi parhaol, ac ar ba lefel cyflog yr
oeddent. Nodwyd, o ran Trawsfynydd, fod cefnogaeth i’r gwaith yno yn werthfawr
iawn, a mynegwyd bod penderfyniad y Cabinet yn gam cadarnhaol. Mynegwyd y farn
fod buddsoddiad y Cyngor yn y fan honno yn arloesol ac yn gyfle i Wynedd gymryd
y camau i’w dwylo ei hun yn hytrach nag aros i Lywodraeth y DU benderfynu ar
faterion dros y rhanbarth. Nodwyd bod cefnogaeth y Pwyllgor yn gymorth i
dynnu’r ffocws oddi ar goridor yr A55 ac i sicrhau buddion i dde Gwynedd.
Mynegwyd gwerthfawrogiad am y sylwadau a
wnaed gan Arweinydd y Cyngor ynghylch ymdrechion i ymladd dros Wynedd, ond
nodwyd anfodlonrwydd gyda’r ymatebion a roddwyd ynghylch blaenoriaethu, gan
bwysleisio nad bai personol oedd hyn ond yn hytrach yn adlewyrchiad o’r cylch
gorchwyl yr oedd y Llywodraeth wedi ei osod. Tynnwyd sylw at y ffaith fod
blaenoriaethu prosiectau ar sail creu swyddi yn golygu bod prosiectau yn ne’r
sir o dan anfantais, gan na fyddai byth yn realistig iddynt greu cannoedd neu
filoedd o swyddi.
Mynegwyd y farn y gallai 10 neu 15 swydd yn
wardiau gwledig fel Harlech, Llanbedr neu ardaloedd eraill fod yr un mor
werthfawr i’r economi leol ac yn gymesur
a miloedd o swyddi yn Wrecsam. Nodwyd felly ei bod yn anodd gweld budd
uniongyrchol i’r ardaloedd hynny o glywed am fuddsoddiadau mawr ar hyd coridor
yr A55 neu yn Sir y Fflint a Wrecsam. Cyfeiriwyd at fuddsoddiadau sylweddol
eraill gan Lywodraeth Cymru mewn system drafnidiaeth well yn y dwyrain, a
mynegwyd y farn y byddai’r un math o ystyriaeth yn ddyledus i linellau
trafnidiaeth rhwng Wrecsam, Harlech a Thywyn.
Mynegwyd siom fod Trawsfynydd bellach ar y
rhestr wrth gefn. Nodwyd nad oedd unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at
fuddsoddiad ym Meirionnydd heblaw Trawsfynydd, a chrybwyllwyd maes awyr
Llanbedr fel safle allweddol i fuddsoddi yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at y
buddsoddiadau sylweddol a wnaed eisoes gan y Llywodraeth yn Llanbedr, a nodwyd
tristwch nad oedd Uchelgais Gogledd Cymru wedi amlygu pwysigrwydd ffordd osgoi
Llanbedr i economi’r rhanbarth.
Mynegwyd y farn fod y rhanbarth mor fawr fel
nad oedd yr ymadrodd “beth sydd orau i’r rhanbarth” yn golygu llawer i
ardaloedd fel de Meirionnydd, gan mai’r ardal honno oedd yn colli pobl ifanc
mewn cannoedd i chwilio am waith mewn mannau eraill. Nodwyd bod hyn yn arwain
at fewnlifiad pobl hŷn a phwysau cynyddol ar wasanaethau, a phwysleisiwyd
felly bod buddsoddiad yn Ne Meirionnydd ac ardaloedd gwledig Gwynedd yn
hollbwysig. Mynegwyd y farn mai swyddi yn y dwyrain neu ym Mangor oedd yn
gwasanaethu ardaloedd lle’r oedd poblogaeth eisoes yn byw, ond mai’r angen
mwyaf oedd am swyddi yn ardaloedd gwledig y rhanbarth. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod
heriau sylweddol wedi bod wrth ddod â phrosiectau ymlaen mewn ardaloedd mwy
gwledig o gymharu ag ardaloedd mwy diwydiannol, yn enwedig o ran cyrraedd
targedau ynghylch creu swyddi a maint y buddsoddiad.
-
Bod
trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r ddwy Lywodraeth er mwyn gweld a oedd modd
sicrhau mwy o hyblygrwydd o fewn y rhanbarth i fuddsoddi mewn prosiectau oedd
yn edrych ar dwf cynhwysol.
-
Bod
Uchelgais Gogledd Cymru yn edrych fewn i i gomisiynu darn o waith i greu
tystiolaeth i danlinellu’r union bwynt a wnaed am werth creu llai o swyddi mewn
ardaloedd gwledig o’i gymharu ag ardaloedd trefol a diwydiannol.
-
Bod un
ffordd o geisio symleiddio’r broses a’i wneud yn haws i gymunedau a busnesau
ledled Gogledd Cymru elwa o arian y Cynllun Twf drwy’r cronfeydd digidol ac
ynni, heb orfod cyrraedd yr un lefel o dargedau o ran buddsoddiad a swyddi.
Ynghylch Trawsfynydd, eglurwyd bod newid
sylweddol wedi bod o ran yr hyn oedd yn cael ei gynnig yno ers sefydlu’r
Cynllun Twf yn y lle cyntaf, a mai hynny oedd y prif reswm dros yr oedi.
Pwysleisiwyd bod Uchelgais Gogledd Cymru yn gefnogol iawn i’r cynnig a
ddatblygwyd gan Wynedd ar gyfer y ganolfan yn Nhrawsfynydd, a bod y safle’n un
strategol o bwys nid yn unig i Wynedd ond i Ogledd Cymru gyfan. Nodwyd bod
safle Trawsfynydd yn gyfle i newid y naratif o fod yn safle oedd yn
dadgomisiynu ac yn cau i fod yn safle twf, gyda’r potensial i ddenu nifer o
fuddsoddiadau i’r dyfodol.
Croesawyd y ffaith fod Cabinet Gwynedd wedi
cymeradwyo achos busnes Trawsfynydd. Nodwyd bod proses bellach i’w dilyn i
asesu a oedd yr achos busnes yn sefyll i fyny, ac os felly y câi ei gyflwyno
i’r is-bwyllgor am benderfyniad. O ran materion trafnidiaeth a ffordd osgoi
Llanbedr, nodwyd bod swyddogion yn edrych ar y materion hyn ac yn trafod gyda’r
Llywodraeth. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig fod y pwyntiau hyn yn cael eu codi’n
rheolaidd gan Arweinydd y Cyngor yng nghyfarfodydd y pwyllgorau a gyda swyddogion
y Llywodraeth.
Ynglŷn â thrafnidiaeth, cyfeiriwyd at y
ffaith fod y Cynllun Twf wedi cyfrannu at gynllun trafnidiaeth yn ardal Sir y
Fflint. Gofynnwyd a ellid rhoi pwysau ar y Cynllun Twf i gyfrannu at ffordd
osgoi Llanbedr. Nodwyd bod Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros
Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi nodi y byddai’r ffordd osgoi yn costio tua
£55 miliwn ac ei fod yn disgwyl i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig gyfrannu’r swm
hwnnw. Mynegwyd y farn y byddai hynny’n anodd iawn, ond y gallai denu cyllid o
wahanol ffynonellau helpu i gyrraedd y cyfanswm, a byddai cyfraniad o’r Cynllun
Twf yn gymorth sylweddol.
Mewn ymateb, nododd Arweinydd y Cyngor bod y
pwyntiau hynny’n cael eu gwneud yn gyson yng nghyfarfodydd y Bwrdd Uchelgais.
Tynnwyd sylw at y ffaith fod llinell Reilffordd y Cambrian, yn ogystal â’r brif
reilffordd ar hyd yr arfordir, yn hanfodol i’r ardal ac i ogledd Cymru.
Mynegwyd cefnogaeth i’r pwyntiau ynghylch Llanbedr, a nodwyd ei bod eisoes wedi
gwahodd y pum arweinydd cyngor arall i ymweld â Llanbedr. Pwysleisiwyd nad oedd
dim yn gwneud yr achos yn gryfach na gweld y sefyllfa yn lleol, a’r gwahaniaeth
economaidd y gallai’r cynllun ei wneud. Cadarnhawyd bod gwahoddiad eisoes wedi
ei ymestyn i’r Bwrdd Uchelgais a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i ymweld â
Llanbedr.
Cwestiynwyd faint o arian byddai Gwynedd yn
ei dderbyn o holl gyllid Gogledd Cymru. Cwestiynwyd ymhellach faint o sylw a
roddid i’r ardaloedd tlotach, megis Blaenau Ffestiniog, wrth wneud
penderfyniadau. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr ardal honno ymhlith y tair
ardal dlotaf yng Ngogledd Cymru, a gofynnwyd pa fath o fuddsoddiad oedd yn cael
ei roi i’r ardal a pham nad oedd mwy o ystyriaeth wedi ei rhoi i’r sefyllfa
yno.
Mynegwyd y farn fod Blaenau Ffestiniog ac
ardaloedd eraill yng Ngwynedd yn cael eu taro’n galed gan ddiffyg buddsoddiad,
a bod diffyg gwaith yn golygu bod pobl ifanc yn gadael ac felly bod yr iaith
Gymraeg yn dirywio yn sgil hynny. Mynegwyd y farn, os oedd targedau’r Cynllun
Twf yn ymwneud â gwella’r economi i bobl, y dylid rhoi mwy o bwyslais i’r
ardaloedd tlotaf. Pwysleisiwyd bod diffyg tegwch o fewn blaenoriaethau
presennol y Cynllun Twf. Nodwyd ymhellach nad oedd amserlen glir yn y rhaglen,
ond yn hytrach cyfeiriadau at chwarteri yn unig. Mynegwyd y farn bod angen
cynllun llawn er mwyn rheoli prosiectau yn gywir ac osgoi i brosiectau oedi fel
y gwelwyd nawr. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Cytunwyd
bod buddsoddi mewn ardaloedd tlotach a mwy difreintiedig yn hollbwysig.
-
Bod y
ffaith fod prosiect yn dod o ardal fwy difreintiedig neu yn agos i ardal o’r
fath yn un o’r ffactorau ehangach a fyddai’n cael eu hystyried wrth asesu budd
ac effaith y prosiect.
-
Bod rôl
Uchelgais Gogledd Cymru yn ymwneud ag ariannu prosiectau nid datblygu
prosiectau o’r cychwyn.
-
Bod y
drws bob amser yn agored i unrhyw brosiectau o unrhyw ardal o Ogledd Cymru, a
byddai Uchelgais Gogledd Cymru yn cydweithio i weld a ellid eu hariannu drwy’r
Cynllun Twf neu, os na ellid, helpu i ddarganfod ffynonellau ariannu eraill
oedd ar gael.
-
Bod
heriau i ardaloedd o’r fath ddod â phrosiectau ymlaen a fyddai’n ffitio o fewn
y fframwaith a osodwyd ar gyfer y Cynllun Twf.
-
Bod
rhaid i’r is-bwyllgor a’r swyddogion weithredu o fewn y fframwaith a gytunwyd
gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan mai eu cyllid hwy sy’n cael ei
fuddsoddi.
Cyfeiriwyd at Hwb Economi Wledig Glynllifon
a’r cynllun llaeth defaid, gan ofyn a oedd hwnnw bellach wedi ei gwblhau ac, os
felly, a fyddai modd cael diweddariad ar ei fudd i’r gymuned mewn cyfarfod yn
ddiweddarach yn y flwyddyn. Codwyd hefyd gwestiwn ynghylch perfformiad carbon
isel. Cyfeiriwyd at gyfarfod agored diweddar gyda’r Athro Prysor Williams o
Brifysgol Bangor, a mynegwyd y farn y gallai Gwynedd fod wedi colli cyfle drwy
beidio ag edrych yn ehangach ar y maes hwn. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod yr
elfen llaethdy defaid wedi ei chymeradwyo o fewn prosiect Glynllifon.
-
Bod
elfennau pellach yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys llaethdy gwartheg.
-
Bod
cwmni o Ogledd Cymru, OBR, wedi ei benodi i wneud y gwaith llaethdy defaid.
-
Bod
digwyddiad cychwynnol i lansio’r gwaith wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos
ganlynol.
-
Bod
modd teilwra adroddiad i’r Pwyllgor maes o law i roi diweddariad llawn ar y
llaethdy a’r hyn y byddai hynny’n ei olygu i’r diwydiant.
-
Bod hwn
yn ddatblygiad cyffrous i Ogledd Cymru, ac yn rhywbeth newydd i’r sector
amaethyddol.
-
Bod y
nod yn cynnwys rhannu gwybodaeth gyda ffermwyr yng Ngogledd Cymru am syniadau
amrywiol i arallgyfeirio, gan ddarparu opsiynau newydd iddynt ar gyfer
ffynonellau incwm amgen mewn cyfnod heriol.
Cwestiynwyd a oedd data neu ffigyrau ar gael
ynghylch sefyllfa Gwynedd ynglŷn â’r buddion mae’r Cynllun Twf yn eu dod
i’r ardal, ac os oedd targedau i’w gwella er mwyn gwireddu’r uchelgais i’r sir.
Mewn ymateb, nodwyd nad oedd targedau wedi eu gosod ar gyfer cynghorau unigol
gan fod targedau’r Cynllun Twf ar sail ranbarthol. Pwysleisiwyd mai rhaglen
fuddsoddi ranbarthol oedd y Cynllun Twf, a dyna oedd yn cael ei hadrodd yn ôl
i’r is-bwyllgor a’r ddwy Lywodraeth.
Ymhelaethwyd bod 24 o’r 49 swydd a grëwyd hyd
yma wedi eu creu yng Ngwynedd, gan fod y ddau brosiect cyntaf i gael eu
gweithredu o fewn y sir. Eglurwyd bod lefel y dadansoddiad oedd ar gael i’w
rannu ar hyn o bryd yn gyfyngedig oherwydd lle’r oedd y prosiectau arni yn eu
datblygiad. Nodwyd bod chwe phrosiect erbyn hyn yn cael eu gweithredu, gyda’r
mwyafrif ohonynt wrthi’n adeiladu’r cyfleusterau, ac y byddent yn dechrau creu
swyddi unwaith y byddent yn weithredol. Pwysleisiwyd y byddai’r data a’r wybodaeth
ar gael dros y blynyddoedd nesaf yn cynyddu ac yn caniatáu dadansoddiad mwy
manwl, rhywbeth yr oedd sylw parhaus yn cael ei roi iddo ar lefel yr
is-bwyllgor.
Cydnabuwyd gan Arweinydd y Cyngor fod
Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio o fewn fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth
y DU a Llywodraeth Cymru, gyda’r targedau’n cael eu gosod ar lefel ranbarthol.
Serch hynny, pwysleisiwyd nad arian y llywodraethau oedd hwn mewn gwirionedd
ond arian cyhoeddus, ac felly bod yn rhaid sicrhau bod y buddion yn lledaenu ar
draws Gwynedd gyfan. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod
gwybodaeth chwarterol yn cael ei rhyddhau ar sail yr allbynnau.
-
Bod
modd rhannu’r wybodaeth honno fel y gallai aelodau’r Pwyllgor weld sut yr oedd
y data’n newid dros amser.
-
Bod
modd gofyn i’r tîm ddarparu gwybodaeth fwy penodol, er enghraifft faint o’r
swyddi hynny oedd yng Ngwynedd, fel bod y wybodaeth ar gael i’r aelodau.
-
Bod
rhaglenni ar gael i gefnogi busnesau i edrych ar drosi carbon ac y gellid
rhannu’r manylion.
Cwestiynwyd pa wahaniaeth y byddai’r etholiad
yng Nghymru yn ei wneud i Uchelgais Gogledd Cymru. Cwestiynwyd ymhellach a oedd
unrhyw gydweithio rhwng gogledd a chanolbarth Cymru, gan nodi bod trigolion
Meirionnydd yn aml yn teimlo eu bod yn nes at Ganolbarth Cymru na Gogledd
Cymru, ac felly nad oeddent yn cael unrhyw fudd o’r bartneriaeth ogleddol.
Mynegwyd rhwystredigaeth fod popeth yn ymddangos i fynd tua’r A55 a
Chaernarfon, a gofynnwyd a oedd unrhyw gydweithrediad rhwng de a chanolbarth yn
y Cynllun Twf. Codwyd bryderon am allfudo pobl ifanc o Wynedd, am y gostyngiad
yn niferoedd disgyblion mewn ysgolion a’r bygythiad i’r Gymraeg o ganlyniad.
Pwysleisiwyd na fyddai modd cynnal y Gymraeg heb sicrhau gwaith i bobl ifanc y
sir.
Mynegwyd pryder ynghylch yr agenda sero net,
gan fynegi barn ei fod yn gwneud mwy o niwed na lles i fusnesau. Mynegwyd y
farn bod digon o dyrbinau gwynt yn yr ardal eisoes ac nad oedd eisiau gweld
rhagor rhag i’r ardal gael ei diwydiannu yn ormodol. Mynegwyd y farn nad oedd
adrannau cynllunio ac economi yn gweithio’n ddigon da gyda’i gilydd, gydag
economi yn cefnogi rhywbeth ac yna cynllunio yn gwrthwynebu’r un datblygiad.
Nododd Arweinydd y Cyngor ei bod yn codi
pwyntiau ynglŷn a de Gwynedd yn gyson. Eglurwyd bod y darlun o ecosystem
economaidd lle mae ffyniant yn ardaloedd y dwyrain yn dod â buddion i ardaloedd
y gorllewin drwy swyddi y gellir eu cyrraedd trwy rwydwaith cludiant cyhoeddus
yn annheg ac yn anymarferol i ardaloedd fel Pen Llŷn a Meirionnydd.
Pwysleisiwyd bod angen bod yn bragmatig a cheisio cael y gorau allan o’r
Cynllun Twf presennol. Cyfeiriwyd at gynllun Arfor gan Lywodraeth Cymru, gan
fynegi’r farn y gallai’r fframwaith hwnnw gyd-fynd yn well ag ardaloedd gwledig
a Chymraeg eu hiaith. Nodwyd y byddai’r cynllun hwnnw’n debygol o gael mwy o
sylw yn y dyfodol. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod
Uchelgais Gogledd Cymru yn barod i weithio gydag unrhyw Lywodraeth newydd.
-
Bod dim
newid i’r Cynllun Twf a gytunwyd yn 2020, er gwaethaf y newidiadau a fu eisoes
yn Llywodraeth y DU ers hynny.
-
Bod
Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda Chynllun Twf Canolbarth
Cymru, a bod llawer o’r heriau a wynebwyd ganddynt yn debyg i’r rhai a wynebwyd
yng ardaloedd gwledig gogledd Cymru.
-
Bod
cydweithio wedi digwydd rhwng y ddau gorff er mwyn sicrhau cyllid ‘Innovate UK’
ar gyfer prosiect ‘Launchpad’.
-
Bod
cyfleoedd o fewn yr agenda sero net i greu sgiliau a swyddi gwerth uchel a
allai gadw pobl ifanc yn y rhanbarth.
-
Bod
gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid megis Partneriaeth Sgiliau Gogledd
Cymru, nid yn unig i greu swyddi ond hefyd i hyfforddi pobl ifanc ac i sicrhau
bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael yn economi’r rhanbarth.
-
Bod
pobl ifanc yn debygol o adael i gael profiadau newydd, boed dramor neu dros y
ffin, ond bod eu denu’n ôl yn bwysig.
Ynglŷn â phrosiect ‘Launchpad’, nodwyd
bod y prosiect yn waith ar y cyd gyda Tyfu Canolbarth Cymru, Prifysgol
Aberystwyth ac M-SParc. Eglurwyd mai’r nod oedd meithrin arloesedd o fewn y
clwstwr amaeth-bwyd a thechnoleg yn y gogledd a’r canolbarth, a galluogi
cwmnïau bach yn y ddau ranbarth i ddatblygu, meithrin syniadau a chryfhau er
mwyn eu galluogi nhw i ddenu mwy o arian gan ffynonellau cyllid gan gyrff megis
UK Research and Innovation (UKRI). Cadarnhawyd bod y prosiect wedi bod
yn rhedeg ers dros flwyddyn ac yn parhau’n gryf, gyda digwyddiad wedi ei drefnu
yn Aberystwyth ar ddechrau mis Mawrth.
Pwysleisiwyd y dylai’r prosiect Trawsfynydd
symud oddi ar y rhestr wrth gefn. Gofynnwyd am esboniad pellach ynglŷn â’r
ffigyrau swyddi newydd o fewn yr adroddiad a swyddi sydd wedi eu diogelu.
Holwyd a oedd modd cynnwys sylwadau gan arolwg allanol gan y ddwy Lywodraeth yn
yr adroddiadau chwarterol. Cwestiynwyd ymhellach a oedd modd cynnwys data
cymharol ynghylch nifer y swyddi a grëwyd mewn rhanbarthau eraill yng Nghymru
er mwyn gosod y sefyllfa mewn cyd-destun. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Dim ond
swyddi parhaol oedd yn cael eu cyfrif o fewn targedau’r Llywodraeth, sef 49
swydd.
-
Bod y
swyddi adeiladu yn ychwanegol at y swyddi parhaol a nodwyd, a’u bod yn swyddi
pwysig ond nad oeddent yn rhan o’r targedau swyddogol.
-
Bod
swyddi a ddiogelwyd hefyd yn faes o ddiddordeb ond nad oedd hynny’n rhan o
dargedau’r Llywodraeth.
-
Bod
diffiniad tynn iawn gan Lywodraeth y DU o beth yn union oedd ‘swyddi a
ddiogelwyd’, sef y byddai’n rhaid i swydd fod mewn perygl o ddiflannu o fewn 12
mis er mwyn cael ei chyfrif.
-
Bod
rhesymau technegol yn ei gwneud yn anodd i fusnesau neu gyrff megis
prifysgolion gadarnhau hynny’n ffurfiol.
-
Bod yn
ofynnol cynnal proses wirio fanwl hyd yn oed pe byddai prosiect yn adrodd fod
swyddi wedi eu diogelu, er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â diffiniad
Llywodraeth y DU.
-
Bod
pedwar cynllun twf yng Nghymru, a’u bod oll yn adrodd yn rheolaidd i’w byrddau
eu hunain, gyda’r wybodaeth ar gael yn gyhoeddus ar eu gwefannau.
-
Bod
modd rhannu dolenni i’r gwefannau hynny, ond nodwyd na fyddai’n briodol i
Uchelgais Gogledd Cymru ailadrodd na dehongli’r data hwnnw yn ei hadroddiadau
ei hun.
Cyfeiriwyd at anghysondeb o fewn yr adroddiad
sy’n ymwneud â’r prosiect ‘Anturiaethau Cyfrifol’, gan ofyn am gadarnhad a yw’r
elfen e-fws yn parhau i fod yn elfen o’r prosiect. Mewn ymateb, cadarnhawyd nad
yw’r elfen e-fws bellach yn rhan o’r cynllun ac y byddai’r dogfennau yn cael eu
cywiro i ddangos hyn maes o law.
Cwestiynwyd, o safbwynt ymrwymiad i swyddi o
ansawdd uchel, faint o’r swyddi fyddai ar gontractau oriau sero o fewn y
prosiect ‘Anturiaethau Cyfrifol’. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bydd y
wybodaeth yn cael ei mireinio’n fanylach unwaith y byddai achos busnes llawn yn
cael ei gyflwyno i’r Bwrdd.
-
Bod
trosolwg manwl o natur y swyddi, gan gynnwys y trefniadau contractio, yn cael
ei geisio bryd hynny.
-
Bod
hynny’n sail i’r is-bwyllgor benderfynu a ddylai’r buddsoddiad fynd rhagddo.
-
Bod
bwriad y prosiect yn cynnwys ymestyn y tymor twristiaeth a chreu mwy o swyddi
drwy gydol y flwyddyn.
-
Bod
‘Zip World’ wedi ymrwymo i brosiect Academi Croeso Cymru, a fyddai’n creu
rhagor o gyfleoedd prentisiaethau.
-
Bod
gwaith wedi mynd rhagddo gyda chymunedau lleol i ddarparu mwy o gyfleoedd drwy
rannu cyflogaeth, academi bellach a chydweithio ag ysgolion lleol.
-
Byddai'r
manylion yma i gyd yn cael eu cynnwys yn yr achosion busnes er mwyn asesu
ansawdd y swyddi a gaiff eu creu.
Nodwyd gan yr aelod ei bod yn deall bod
canran y contractau sero oriau efallai mor uchel ag 80%. Mewn ymateb, nodwyd
bod gwybodaeth sy’n deillio o’r achos busnes amlinellol yn awgrymu bod o gwmpas
50% o’r swyddi a grëwyd yn debygol o fod yn swyddi contract sero oriau.
PENDERFYNWYD
1. Derbyn yr adroddiad a nodi’r amrywiaeth eang o sylwadau a
wnaethpwyd, gan fynegi anhapusrwydd bod rhai o’r cynlluniau yn araf i aeddfedu
ac ynglŷn â’r cydbwysedd rhwng buddsoddiad gwledig a threfol.
2. Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad ar brosiectau Canolfan
Gwyddoniaeth Trawsfynydd a Hwb Economi Gwledig Glynllifon cyn gynted â phosibl.
3.
Gofyn am amlinelliad o gost y
Cynllun Twf i Gyngor Gwynedd a’r deilliannau i Wynedd o ran swyddi o ansawdd ac
yn arbennig mewn ardaloedd difreintiedig.
4.
Gofyn bod adroddiadau cynnydd i’r
dyfodol yn cynnwys mwy o fanylder o ran y swyddi sydd wedi eu creu yn benodol
yng Ngwynedd gan gynnwys y math o gontractau.
Dogfennau ategol: