Agenda item

I ystyried effaith yr ardoll ymwelwyr ar Wynedd.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Argymell i’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned:

·       Sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r holl gymhlethdodau sydd ynghlwm â dod â’r ardoll hwn i fodolaeth o’r newydd.

·       Os yw’r Cyngor yn penderfynu cyflwyno Ardoll Ymwelwyr:

Ø  Bod ymrwymiad pendant ar sut y bydd yr arian a godir yn cael ei wario gan roi blaenoriaeth i feysydd twristiaeth a chymunedol.

Ø  Bod ymgynghori trylwyr yn digwydd ar draws y sir a gyda phartneriaid perthnasol i ddarganfod blaenoriaethau cymunedol.

Ø  Bod angen bod yn dryloyw efo’r sawl sy’n talu’r dreth ynglŷn â sut gaiff yr arian ei wario.

Ø  Bod cyfathrebu ynglŷn ag eithriadau yn effeithiol a sensitif pan bod angen gwneud hynny.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi bod twristiaeth a’r economi ymweld yn ddiwydiant pwysig iawn yng Ngwynedd. Eglurwyd, fel cyd-destun, fod nifer o fodelau a rhagdybiaethau yn cael eu defnyddio i fesur yr economi ymweld, ond bod sicrhau data dibynadwy ar lefel Gwynedd wedi bod yn hynod heriol gan nad oedd y data hwnnw’n bodoli yn y modd y byddid yn ei ddymuno.

Nodwyd bod y model STEAM, sef Scarborough Tourism Economic Activity Monitor, a ddefnyddir yn aml, yn amlygu’r ystadegau diweddar a ganlyn ar gyfer Gwynedd: effaith economaidd o £1.78 biliwn; 7.75 miliwn o ymwelwyr; 24.9 miliwn o ddyddiau ymweld; cyfanswm cyflogaeth o 17,600; bron i 4 miliwn o ymwelwyr dros nos; a bron i 20 miliwn o ddiwrnodau aros. Pwysleisiwyd bod hyn yn gyfraniad sylweddol iawn i’r economi, ond cydnabuwyd hefyd fod ymwelwyr yn creu heriau mewn rhai rhannau o’r sir, gan arwain at bwysau ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor, yr amgylchedd, yr iaith a’r diwylliant, a’r cymunedau.

Eglurwyd mai dyna oedd y rheswm dros fabwysiadu Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 er mwyn sicrhau bod yr economi ymweld yn gynaliadwy yn yr ardal. Nodwyd bod data o’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol ac o’r Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, sydd wedi eu seilio ar sampl lai o bobl na STEAM, yn dangos gwerth llawer is i’r sector ymwelwyr na’r hyn a ddangosir gan STEAM.

Nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ers nifer o flynyddoedd, gyda gwaith ymchwil ar elwa twristiaeth wedi ei gwblhau yn 2018 yn amlygu’r ardoll fel ffynhonnell a allai gynhyrchu incwm sylweddol i’w ail-fuddsoddi yn yr economi ymweld. Nodwyd bod y Cabinet yn y gorffennol wedi mynegi cefnogaeth i gyflwyno deddfwriaeth i sefydlu ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Pwysleisiwyd yn glir, fodd bynnag, nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud hyd yma ynghylch cyflwyno ardoll yng Ngwynedd, a bod y drafodaeth gerbron yn cynrychioli’r cam cyntaf yn y broses yn unig.

Nodwyd bod y Cyngor yn cydweithio’n agos gyda Chonwy ac Ynys Môn ar y gwaith ymchwil i’r asesiadau effaith ac wrth ystyried cyflwyno ardoll. Eglurwyd bod yr asesiad effaith economaidd yn amlygu y gallai’r effaith ar swyddi, yn y sefyllfa waethaf, olygu colli 50 swydd, neu, yn y sefyllfa orau, greu 21 swydd. Nodwyd ymhellach y gallai sefydlu ardoll gynhyrchu rhwng £2.4 miliwn a £2.8 miliwn o refeniw blynyddol i Wynedd. Ymhelaethwyd, pe defnyddid data STEAM yn hytrach, y byddai’r ffigyrau oddeutu pedair gwaith yn uwch, gyda mwy o effaith ar swyddi a photensial i godi hyd at £12 miliwn drwy’r ardoll. Mynegwyd y farn bod y swm a godid yn debygol o fod yn uwch na’r ffigwr ceidwadol o £2.5 miliwn a nodwyd.

Eglurwyd, pe byddai cefnogaeth gan y Cyngor Llawn i symud ymlaen i ymgynghoriad, y byddai’r weithdrefn a osodir yn y Ddeddf yn glir, ac y byddai’n rhaid dilyn egwyddorion ymgynghori cyhoeddus. Nodwyd y byddai’r dystiolaeth a gesglir yn llywio’r asesiadau effaith terfynol a gyflwynir i’r Cyngor Llawn.

Nodwyd bod y Ddeddf yn amlinellu’n glir y meysydd y gallai incwm yr ardoll gael ei fuddsoddi ynddynt, ynghyd â’r trefniadau ar gyfer arwain ar hynny. Eglurwyd y byddai angen sefydlu Fforwm Partneriaeth Ardoll ar lefel awdurdod lleol, a bod y cynnig drafft yn awgrymu y dylid buddsoddi’r incwm mewn prosiectau a gweithgareddau a fyddai’n gyson ag egwyddorion economi ymweld gynaliadwy Gwynedd ac Eryri. Cyfeiriwyd at enghreifftiau posibl o fuddsoddiadau, gan gynnwys defnydd diwylliannol, y Gymraeg, gwarchod a hyrwyddo’r amgylchedd, isadeiledd a chyfleusterau lleol, cefnogaeth i fusnesau a chymunedau, ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu. Nodwyd mai’r meysydd hyn oedd enghreifftiau o’r math o fuddsoddiad a allai ddeillio o’r ardoll, ond mai’r Fforwm Partneriaeth Ardoll fyddai’n argymell blaenoriaethau i’w hystyried wedyn gan y Cabinet.

Pwysleisiwyd mai dechrau’r daith oedd y drafodaeth bresennol o ran yr ardoll ymwelwyr. O ystyried yr hinsawdd economaidd, y toriadau di-ben-draw, a phwysigrwydd sicrhau economi ymweld gynaliadwy, nodwyd bod angen ystyried hyn fel un opsiwn posibl ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Mynegwyd pryder nad oedd y term ‘ardoll ymwelwyr’ yn gwbl briodol, gan y byddai trigolion Gwynedd eu hunain yn debygol o gael eu heffeithio pe byddent yn dewis mynd ar wyliau neu wersylla o fewn y sir. Tynnwyd sylw at yr angen i osgoi anfon neges negyddol at ymwelwyr a allai eu hannog i fynd i ardaloedd eraill. Holwyd sut y byddai’r cynllun yn cael ei reoli’n ymarferol, pwy fyddai’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth lawn gan fusnesau, a sut y gellid mesur gwir gost a cholled gudd gosod treth ychwanegol ar y sector twristiaeth. Cyfeiriwyd yn benodol at y posibilrwydd y gallai mwy o bobl droi at wersylla gwyllt neu aros mewn faniau yn hytrach na defnyddio llety cofrestredig. Pryderwyd y gallai’r ardoll arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn penderfynu aros am y dydd yn hytrach nag aros dros nos, ac felly gael effaith negyddol ar y sector. Cwestiynwyd ymhellach am gostau gweinyddol y trefniadau i fusnesau bychain. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y trefniadau gweinyddol cenedlaethol yn gyfrifoldeb i Awdurdod Cyllid Cymru, ac y byddai’n gweinyddu’r drefn gofrestru statudol ar gyfer darparwyr llety ledled Cymru.

-        Bod pob busnes llety yn gorfod cofrestru o fis Medi ymlaen, os oes ardoll ai peidio, a bod dirwyon i’r rhai na fyddent yn cofrestru.

-        Bod Awdurdod Cyllid Cymru eisoes wedi dechrau gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau am y gofrestr newydd.

-        Bod rhai busnesau yng Ngwynedd eisoes yn treialu’r system gofrestru ar ran Awdurdod Cyllid Cymru, gyda’r nod o fireinio’r drefn cyn ei gweithredu’n ffurfiol.

-        Bod risg wirioneddol y gallai rhai ymwelwyr droi at wersylla gwyllt, dewis aros mewn ardaloedd cyfagos neu ddewis ymweliadau dydd yn hytrach nag aros dros nos, a bod angen bod yn agored i fonitro’r sefyllfa honno pe bai’r ardoll yn cael ei chyflwyno.

-        Bod cynlluniau fel Arosfan eisoes yn rhan o’r ymateb i bwysau cartrefi modur mewn rhai lleoliadau.

-        Bod y drefn reoleiddio a gorfodi mewn perthynas â gwersylla gwyllt eisoes yn digwydd drwy’r Adran Amgylchedd.

-        Bod Awdurdod Cyllid Cymru yn ceisio gwneud y drefn mor syml â phosibl i fusnesau, gan gynnwys cydweithio â llwyfannau megis Airbnb a Booking.com er mwyn integreiddio’r system a lleihau’r baich gweinyddol.

-        Bod modd i fusnesau adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru naill ai’n chwarterol neu’n flynyddol.

-        Bod Gwynedd yn cydweithio â Chonwy ac Ynys Môn er mwyn ceisio sicrhau trefn gyson i fusnesau yn y tair sir.

Cwestiynwyd ynghylch ymarferoldeb plismona safleoedd gwersylla a charafanau. Mynegwyd ansicrwydd ynghylch sut y gellid sicrhau cydymffurfiaeth lawn mewn marchnad fwy gwasgaredig.

Holwyd pa warchodaeth oedd mewn lle i sicrhau na fyddai’r un anawsterau gweithdrefnol a gododd mewn perthynas ag Erthygl 4 yn codi eto. Cwestiynwyd pa siroedd eraill yng Nghymru oedd eisoes ar y blaen neu’n bwriadu symud ymlaen gyda’r ardoll. Cwestiynwyd ymhellach a oedd modd eithrio neu wahaniaethu rhwng categorïau o fusnesau, gan godi pryder penodol am fusnesau bach iawn a allai wynebu baich gweinyddol anghymesur o gymharu â safleoedd mawr. Pwysleisiwyd egwyddor ac amcan yr ardoll i sicrhau bod unrhyw incwm yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â sgil-effeithiau twristiaeth yn hytrach na’i ddefnyddio i ehangu’r broblem. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Chonwy ac Ynys Môn, ac yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn fanwl wrth baratoi’r gwaith hwn.

-        Bod gwaith asesu effaith economaidd eisoes wedi’i gomisiynu er mwyn sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth mor gadarn â phosibl cyn symud ymlaen.

-        Bod Cyngor Caerdydd eisoes wedi penderfynu symud ymlaen i’r cam ymgynghori ac felly mai hi oedd y sir gyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

-        Bod Gwynedd yn yr ail wedd gyda Chonwy ac Ynys Môn, ac yn gobeithio cyflwyno adroddiadau i’w cynghorau llawn er mwyn ceisio caniatâd i ymgynghori.

-        Bod rhai siroedd eraill wedi nodi nad oeddent yn bwriadu bwrw ymlaen am y tro, tra bod eraill yn aros i ddysgu gwersi o’r hyn a fydd yn digwydd yn y siroedd cyntaf.

-        Bod trafodaethau rheolaidd yn digwydd gyda swyddogion siroedd eraill yng Nghymru sy’n ystyried y mater.

-        Bod y Ddeddf ei hun yn diffinio’n glir pa fathau o lety ac arosiadau sy’n dod o fewn cwmpas yr ardoll, ac nad oedd llawer o le i greu eithriadau lleol ychwanegol yn seiliedig ar faint busnes.

-        Bod pob arhosiad taledig mewn llety ymwelwyr yn dod o fewn y drefn oni bai ei fod yn un o’r eithriadau penodol a nodir yn y ddeddfwriaeth.

-        Bod Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn ymgynghori â busnesau mawr a bach er mwyn ceisio sicrhau system mor syml â phosibl.

-        Bod gweithdai eisoes wedi’u cynnal, gan gynnwys sesiwn yn Llandudno cyn y Nadolig, er mwyn rhoi eglurhad pellach i fusnesau.

-        Bod pecyn cymorth a chanllawiau pellach ar fin cael eu cyhoeddi i gefnogi busnesau.

-        Bod unrhyw newid o’r math hwn yn creu gwaith ychwanegol i fusnesau yn y cyfnod pontio a bod angen i’r Cyngor, pe bai’n dymuno symud ymlaen yn y dyfodol, ystyried sut y gellid cynorthwyo busnesau lleol i ddeall y trefniadau a gwneud y defnydd gorau o’r systemau newydd.

Cwestiynwyd pryd ac ym mha ffordd y byddai polisi clir ar ddefnyddio’r incwm yn cael ei lunio. Cwestiynwyd a fyddai manylion pellach ar flaenoriaethau gwario ar gael cyn neu ar ôl gweithredu unrhyw ardoll. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn mynnu bod adroddiad yn cael ei lunio cyn mynd allan i ymgynghori, ac y byddai’n rhaid i’r adroddiad hwnnw amlinellu cynnig cychwynnol ar gyfer defnydd yr incwm.

-        Bod drafft cychwynnol o’r cynnig hwnnw eisoes wedi’i baratoi a’i rannu fel sail i’r drafodaeth.

-        Bod y drafft hwnnw’n debygol o newid a datblygu dros amser yn sgil ymgysylltu pellach a chanlyniadau’r ymgynghoriad.

-        Bod angen sefydlu Fforwm Partneriaeth Ardoll pe bai’r ardoll yn cael ei chyflwyno, ac y byddai’n gyfrifol am argymell blaenoriaethau gwario i’r Cabinet.

-        Bod yn rhaid neilltuo’r incwm i’r meysydd a ganiateir gan y Ddeddf, sef rheoli a gwella cyrchfannau, gan gynnwys lliniaru effaith ymwelwyr, hybu’r Gymraeg, cefnogi twf economaidd cynaliadwy, a darparu neu wella seilwaith a gwasanaethau perthnasol.

-        Bod gwaith pellach i bennu’r blaenoriaethau mwy penodol yn rhan o’r ymgynghoriad a’r camau nesaf.

Cwestiynwyd a fyddai Aelodau’r Cyngor yn cael digon o wybodaeth am ddeddfwriaeth a’i goblygiadau cyn i’r mater gyrraedd y Cyngor Llawn, gan dynnu sylw at y ffaith fod Treth ar Werth (TAW) yn gymwys ar yr ardoll a bod pwerau yn y ddeddfwriaeth i Lywodraeth Cymru newid cyfraddau’r ardoll a chaniatáu i awdurdodau lleol godi premiwm ar yr ardoll. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod bwriad i drefnu sesiwn friffio i’r Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor Llawn er mwyn egluro cefndir a goblygiadau’r Ddeddf.

-        Bod trafodaethau wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys Llywodraeth y DU ynghylch TAW, gyda dadl glir gan Lywodraeth Cymru na ddylai’r ardoll fod yn destun TAW.

-        Bod safbwynt presennol y Trysorlys yn glir, sef bod y taliad yn ddarostyngedig i TAW.

-        Bod trafodaethau pellach yn dal i fynd rhagddynt rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a’r Trysorlys ar y mater hwn.

-        Bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu gosod premiwm lleol, ond fod y drefn bellach wedi newid fel na ellir gweithredu hynny heb ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru.

Codwyd pryderon am garafanau modur yn aros mewn lleoedd amhriodol, gan gyfeirio’n benodol at sefyllfaoedd lleol lle bu cerbydau’n aros o flaen tai ac ar draethau megis Morfa Bychan. Holwyd a oedd y goblygiadau hyn wedi cael eu hystyried, ac a oedd unrhyw waith yn mynd rhagddo i gryfhau’r pwerau neu’r trefniadau rheoli yn y maes hwn. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn enghraifft glir o’r math o bwysau lleol y gellid ystyried ei flaenoriaethau a’i hariannu drwy incwm yr ardoll. Pwysleisiwyd nad oes modd ymateb yn ddigonol i nifer o’r problemau hyn o fewn adnoddau presennol y Cyngor, ac y byddai cael ffynhonnell incwm benodol yn rhoi cyfle i dargedu’r tensiynau sy’n codi mewn cymunedau a’r meysydd lle mae twristiaeth yn creu pwysau ychwanegol. Nodwyd ymhellach y byddai’r arfordir yn debygol o fod ymhlith y prif feysydd a fyddai angen sylw pe bai’r ardoll yn cael ei chyflwyno.

Pwysleisiwyd yr angen i gael y ffeithiau’n glir cyn symud ymlaen at ymgynghoriad cyhoeddus, yn benodol ynglŷn â faint o incwm y byddai’r ardoll yn ei gynhyrchu, pwy yn union fyddai’n gorfod talu, a sut y byddai modd sicrhau eglurder ynghylch effaith y cynllun. Codwyd pryder penodol ynghylch llety Airbnb, gan ofyn pwy fyddai’n cadw golwg arnynt a sut y byddai modd gwirio cydymffurfiaeth. Tynnwyd sylw at wersylla gwyllt a chartrefi modur, gan nodi fod y problemau hyn yn arbennig o amlwg mewn rhai mannau, yn enwedig ger llynnoedd. Mynegwyd pryder ynghylch faniau’n aros dros nos mewn cilfannau, a holwyd pwy fyddai’n gyfrifol am reoli a gorfodi yn y sefyllfaoedd hyn. Holwyd faint fyddai cost gweinyddu’r ardoll i fusnesau, a faint o’r incwm a fyddai wedyn yn cael ei ddychwelyd er budd y sector twristiaeth. Mynegwyd y farn y dylai unrhyw incwm gael ei glustnodi ar gyfer twristiaeth yn unig, er mwyn gwella cyfleusterau i ymwelwyr ac er mwyn hysbysebu twristiaeth yn yr ardal. Mynegwyd gwrthwynebiad i’r angen i dalu TAW ar yr ardoll. Codwyd pryder ynglŷn â’r posibilrwydd na fyddai Powys yn codi ardoll, ac y gallai ymwelwyr ddewis aros yno ac yna ymweld â de Meirionnydd fel ymwelwyr dydd, gan adael Gwynedd yn wynebu’r un pwysau ond heb yr incwm cyfatebol. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod yr asesiad effaith economaidd yn cynrychioli’r data gorau oedd ar gael ar hyn o bryd, er y cydnabuwyd ei bod yn anodd iawn cael data cadarn ar lefel Gwynedd.

-        Bod y broses ymgynghori yn debygol o helpu i gryfhau’r dystiolaeth ymhellach, gan y byddai arolwg yn cael ei gynnal ymysg trigolion, busnesau ac ymwelwyr i Wynedd.

-        Bod y Ddeddf yn glir ynghylch pwy sydd yn gorfod talu a phwy sydd wedi’u heithrio, a bod nifer yr eithriadau yn gymharol fach.

-        Bod y bwriad yn genedlaethol i wneud y drefn mor syml â phosibl fel na fyddai’n rhaid i fusnesau herio unigolion na gofyn am dystiolaeth wrth i bobl gyrraedd i aros.

-        Bod plant dan 18 oed wedi’u heithrio os ydynt yn aros mewn hosteli neu ar safleoedd wersylla, ond y byddent yn gorfod talu mewn gwestai.

-        Bod y system gofrestru genedlaethol yn mynd i’w gwneud yn orfodol i bob darparwr llety ymwelwyr gofrestru, a bod hynny’n cynnwys Airbnb.

-        Bod y trefniant hwnnw’n ymgais i fynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth presennol ynghylch lleoliad a nifer yr Airbnbs yng Ngwynedd ac yng Nghymru.

-        Bod disgwyl felly y byddai’n haws gwybod ble y mae’r Airbnbs ac a ydynt wedi cofrestru, ac y byddent wedyn yn gweinyddu’r ardoll drwy ap neu wefan Airbnb pe bai’r ardoll yn dod i rym.

-        Bod risg y gallai rhai ymwelwyr ddewis aros ym Mhowys yn hytrach nag yng Ngwynedd er mwyn osgoi’r ardoll, ond yn bersonol nad yw ardoll yn ffactor sydd yn anghymell rhag aros mewn ardal. Nodwyd y byddai angen monitro’r sefyllfa’n ofalus iawn.

Nodwyd bod y pwynt ynghylch gwersylla gwyllt a defnydd o gilfannau yn un teg, ac y byddai angen monitro’r maes hwnnw’n ofalus pe bai’r ardoll yn cael ei chyflwyno yng Ngwynedd. Cyfeiriwyd at gynllun peilot Arosfan sydd eisoes yn llwyddo i helpu i daclo’r broblem yma. Awgrymwyd y gellid trafod ymhellach gyda’r Adran Amgylchedd er mwyn cael mwy o ffigyrau am ddefnydd cilfannau a nifer yr achosion gorfodaeth sydd wedi bod o fewn cilfannau’r sir.

Cwestiynwyd, o safbwynt Parc Cenedlaethol Eryri, pwy fyddai’n derbyn yr ardoll os byddai rhywun yn aros o fewn ardal y Parc, a sut y byddai modd sicrhau bod y Parc yn cael cyfran deg o’r incwm. Pwysleisiwyd mai’r Parc Cenedlaethol oedd yr ardal lle’r oedd llawer iawn o’r pwysau o ganlyniad i twristiaeth yn digwydd, a gofynnwyd sut y gellid sicrhau y byddai’n derbyn yr hyn oedd yn briodol. Mewn ymateb, nodwyd mai Cyngor Gwynedd fyddai’r awdurdod cyfrifol yn yr achos hwn, ac felly mai’r Cyngor fyddai’n derbyn yr incwm. Eglurwyd y byddai blaenoriaethu’r defnydd o’r incwm yn fater i’r Fforwm Partneriaeth Ardoll, a byddai hynny’n cynnwys cynrychiolaeth o’r Parc. Cadarnhawyd felly y byddai ganddo lais o amgylch y bwrdd, ac y byddai’r Fforwm Partneriaeth Ardoll yn ceisio adnabod y prif heriau ar gyfer Gwynedd ac Eryri ac yn ceisio gweithio i flaenoriaethu’r meysydd hynny. Nodwyd ei bod yn debygol y byddai cyfran sylweddol o’r incwm yn gorfod cael ei wario mewn ardaloedd o fewn y Parc ac ar hyd yr arfordir.

Mynegwyd cefnogaeth i egwyddor yr ardoll, gan nodi ei bod yn gyffredin mewn rhannau eraill o Ewrop ac nad oedd yn ymddangos yn ormodol o ystyried cost gwyliau yn gyffredinol. Nodwyd bod ‘loopholes’ yn bodoli o fewn pob cynllun ac bod angen canolbwyntio ar egwyddor yr ardoll. Tynnwyd sylw at y posibilrwydd o ddefnyddio’r incwm i wella bywyd trigolion Gwynedd, cryfhau’r Gymraeg, a rheoli effeithiau twristiaeth yn well. Pwysleisiwyd bod yr ardoll yn gam cadarnhaol ymlaen i sicrhau bod y diwydiant twristiaeth o fudd i Wynedd a’i thrigolion. Holwyd a oedd modd symud amserlen yr ymgynghoriad cyhoeddus gan fod cyfnod yr haf yn gyfnod prysuraf y diwydiant lletygarwch.

Mewn ymateb, nodwyd bod yn rhaid dilyn canllawiau statudol Llywodraeth Cymru o ran hyd ac egwyddorion yr ymgynghoriad. Eglurwyd mai’r bwriad oedd cynnal cymaint â phosibl o sesiynau wyneb yn wyneb cyn dechrau gwyliau’r haf, er mwyn lleihau’r baich ar fusnesau yn eu cyfnod prysuraf. Nodwyd y byddai holiadur ar-lein ac amrywiaeth o ddulliau eraill o ymgysylltu yn rhan o’r broses, ond bod y Cyngor yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd amseru’r gwaith yn sensitif.

Cwestiynwyd ynghylch comisiynu cwmni Quod, sef cwmni allanol o du allan i Gymru, i gynnal asesiadau cydraddoldeb ac iaith. Mynegwyd siom na ddefnyddiwyd cwmni lleol neu Gymreig yn hytrach. Cwestiynwyd pa dystiolaeth oedd ar gael o effaith cynlluniau tebyg mewn mannau eraill. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod y gwaith wedi’i gomisiynu drwy drefniant partneriaeth gyda Chonwy ac Ynys Môn a bod proses gaffael Ynys Môn wedi’i defnyddio yn yr achos yma er mwyn symud ymlaen yn amserol gyda’r asesiadau.

-        Bod y cwmni Quod wedi’i ddefnyddio ar sail y trefniant hwnnw, ond nad hwy oedd yn cynnal yr asesiad penodol ar y Gymraeg.

-        Bod yr elfennau Cymraeg wedi’u llunio drwy gydweithio gyda swyddogion iaith Cyngor Gwynedd, gan dynnu ar waith mewnol a gwaith ardrawiad iaith gan Lywodraeth Cymru.

-        Bod arolwg trigolion wedi’i gynnal ar-lein fis Hydref diwethaf, gyda bron i 1,000 o ymatebion.

-        Bod yr arolwg hwnnw wedi cynnwys cwestiynau am effaith twristiaeth yn lleol, cynlluniau megis Arosfan, a safbwyntiau ar yr ardoll.

-        Bod arolwg busnesau hefyd wedi’i gynnal yn ddiweddar.

-        Bod gweithdai blaenoriaethu gyda phartneriaid Gwynedd ac Eryri wedi cyfrannu at lunio’r darlun lleol.

-        Byddai’r wybodaeth yma i gyd yn ychwanegu at y data a geir drwy unrhyw ymgynghoriad ffurfiol yn y dyfodol.

-        Bod ymchwil gan Brifysgol Bangor wedi edrych ar weithrediad ardollau mewn saith ardal ryngwladol, gan gynnwys y Balearics, Catalwnia, Gunnison, Gwlad yr Iâ, Jackson Hole, Orange County ac yn yr Eidal.

-        Bod yr ymchwil hwnnw’n edrych ar sut y codir yr incwm, ar beth y caiff ei wario, a’i  effaith.

-        Nad oes ardoll ffurfiol eto mewn unrhyw ran arall o’r DU, ond y bydd Caeredin yn cyflwyno un eleni, ac y bydd hynny’n brofiad pwysig i’w fonitro.

-        Bod trefniadau Manceinion a Lerpwl yn debyg o ran egwyddor ond yn seiliedig ar ffi ardaloedd gwella busnes yn hytrach nag ar ardoll ffurfiol.

Pwysleisiwyd yr angen i flaenoriaethu cwmnïau lleol yn y broses gaffael, os yw’n broses mewn partneriaeth â sir arall neu beidio.

Holwyd ynghylch sut y byddai’r eithriadau a’r ad-daliadau yn gweithredu’n ymarferol, yn enwedig mewn perthynas â phobl anabl neu unigolion sy’n ffoi rhag trais yn y cartref. Mynegwyd pryder penodol am y wybodaeth sensitif y byddai’n rhaid ei rhannu mewn rhai achosion, a holwyd a oedd hyder bod y systemau diogelu a’r mecanweithiau cyfathrebu yn ddigon cadarn. Mewn ymateb, nodwyd bod y meini prawf ar gyfer eithrio ac ad-dalu wedi’u gosod yn genedlaethol drwy’r Ddeddf gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru. Eglurwyd mai Awdurdod Cyllid Cymru fyddai’n gweinyddu’r trefniadau ad-dalu, ac y byddai’n rhaid codi’r cwestiwn penodol ynghylch unigolion sy’n ffoi rhag trais yn y cartref ond nad ydynt yn cael eu lletya drwy elusen neu awdurdod lleol. Cydnabuwyd yn glir fod y wybodaeth mewn sefyllfaoedd felly yn hynod sensitif, a phwysleisiwyd y byddai angen trefniadau diogel iawn pe bai’r ardoll yn cael ei chyflwyno. Nodwyd y byddai’r Cyngor yn gorfod gweithio’n agos gydag Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfathrebu ac ar sicrhau bod y negeseuon am eithriadau ac ad-daliadau yn cyrraedd y grwpiau perthnasol.

Awgrymwyd y dylid rhoi diweddariadau rheolaidd i Aelodau er mwyn eu cadw’n ymwybodol o ddatblygiadau. Cwestiynwyd a oedd costau rhedeg a gweinyddu’r cynllun wedi’u cynnwys eisoes yn yr amcangyfrifon ariannol. Mewn ymateb, nodwyd:-

-        Bod modd rhannu diweddariadau rheolaidd drwy fwletin i’r Aelodau.

-        Bod tudalen benodol eisoes wedi’i chreu ar wefan y Cyngor dan yr adran fusnes i roi gwybodaeth am yr ardoll.

-        Bod busnesau eisoes yn derbyn diweddariadau drwy’r bwletin busnes.

-        Bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllideb ar gyfer sefydlu systemau, cyfathrebu, marchnata a gweinyddu.

-        Bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau na fydd costau gweinyddu’r system yn fwy na 10% o’r incwm a gesglir mewn unrhyw ardal.

Cwestiynwyd a oedd modd codi’r ardoll yn ystod rhai tymhorau yn unig, gan gyfeirio at enghreifftiau tramor lle mae gwahaniaeth rhwng tymor brig a thymor tawel. Mewn ymateb, nodwyd nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu gwahaniaethu tymhorol. Eglurwyd pe bai awdurdod lleol yn mabwysiadu’r ardoll, y byddai’n rhaid ei weithredu drwy gydol y flwyddyn. Cadarnhawyd fod modd rhoi 12 mis o rybudd i ddiddymu’r ardoll pe bai awdurdod lleol yn dymuno gwneud hynny yn y dyfodol.

PENDERFYNWYD

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Argymell i’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned:

·       Sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r holl gymhlethdodau sydd ynghlwm â dod â’r ardoll hwn i fodolaeth o’r newydd.

·       Os yw’r Cyngor yn penderfynu cyflwyno Ardoll Ymwelwyr:

Ø  Bod ymrwymiad pendant ar sut y bydd yr arian a godir yn cael ei wario gan roi blaenoriaeth i feysydd twristiaeth a chymunedol.

Ø  Bod ymgynghori trylwyr yn digwydd ar draws y sir a gyda phartneriaid perthnasol i ddarganfod blaenoriaethau cymunedol.

Ø  Bod angen bod yn dryloyw efo’r sawl sy’n talu’r dreth ynglŷn â sut gaiff yr arian ei wario.

Ø  Bod cyfathrebu ynglŷn ag eithriadau yn effeithiol a sensitif pan bod angen gwneud hynny.

 

Dogfennau ategol: