Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad gerbron sef y trydydd adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad gerbron sef y trydydd adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.
TRAFODAETH
Eglurwyd mai’r dyma drydydd adroddiad chwarterol Cadeirydd y
Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb, a’i bwrpas yw diweddaru’r Cabinet ar gynnydd
rhaglen waith a gweithrediad y Bwrdd Ymateb.
Adnabuwyd bod yr adroddiad yn codi ymwybyddiaeth o’r
datblygiadau, yr hyn sydd wedi ei gyflawni, a’r hyn sy’n parhau angen ei
gyflawni gan y Bwrdd.
Croesawyd Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb i’r
cyfarfod. Datgelwyd bod y Bwrdd bellach yn cyfarfod bob dau fis er mwyn rhoi
mwy o amser i swyddogion weithio ar y Cynllun rhwng cyfarfodydd. Yn dilyn
cyhoeddi’r adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, amlygwyd bod y Bwrdd wedi
cytuno i gyhoeddi ei bapurau er mwyn cynyddu tryloywder y gwaith. Adnabuwyd bod
y Bwrdd wedi symud i gyfnod mwy strategol.
Amlygwyd bod y dioddefwyr a’r goroeswyr yn parhau i fod ar
flaen meddylia’r Bwrdd, ac ychwanegwyd bod y Bwrdd hefyd yn parhau i gynnig
cymorth a chraffu i Gyngor Gwynedd.
Tynnwyd sylw at yr ymgysylltiad rhagorol â’r Bwrdd gan ei
aelodau a’i arsylwyr allanol, gyda phresenoldeb llawn ym mhob cyfarfod. Soniwyd
am y cyfarfodydd a gaiff eu cynnal gan y Cadeirydd gyda phartneriaid allweddol,
arsylwyr allanol, ac aelodau’r Cabinet i nodi’r wybodaeth sy’n deillio o’r
Bwrdd.
Cadarnhawyd bod y Cadeirydd y Bwrdd yn parhau i dderbyn
gwybodaeth a chefnogaeth dda gan swyddogion ac Aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd.
Trafodwyd y datblygiadau allweddol a wnaed yn y chwarter
diwethaf, gan dynnu sylw at y cynnydd cyson o fewn nifer o feysydd allweddol,
er enghraifft datblygu a monitro diogelu mewn ysgolion, a chynnwys plant a
phobl ifanc wrth ddatblygu polisïau.
Ymfalchïwyd bod pennaeth newydd Ysgol Friars
wedi ei phenodi’n barhaol, gan nodi ei bod hefyd yn aelod o’r Bwrdd.
Amlygwyd balchder o weld mwy o uwch swyddogion y Cyngor yn
dod yn rhan o arweinyddiaeth y Cynllun Ymateb, a mwy o adnoddau yn cael eu rhoi
i faes diogelu o fewn y Cyngor.
Adroddwyd bod mesurau effaith newydd ar gyfer y Cynllun
Ymateb diwygiedig bellach wedi eu cytuno, ac mae’r Bwrdd yn dechrau derbyn
adroddiadau ar y rhain.
Wrth fanylu ar gamau nesaf y Bwrdd, datganwyd bod dau
adolygiad ar y gweill ar lefel genedlaethol a fydd yn cael effaith ar y gwaith
hwn. Datganwyd y bydd mwy o graffu ar y Cynllun Ymateb o fewn Gyngor Gwynedd,
ac amlygwyd bod llawer mwy o waith i’w wneud i adfer ymddiriedaeth pobl
Gwynedd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Cyfeiriwyd at yr hanes o fwlio ehangach yn Ysgol
Friars a holwyd a yw bwlio fel hyn yn cael ei adnabod
fel mater o bryder. Nodwyd bod ymddygiad fel hyn yn gyffredin mewn nifer o
droseddwyr, felly ei fod yn cael ei nodi o fewn hyfforddiant ‘grooming’. Gobeithiwyd y bydd yr hyfforddiant newydd yn
adnabod ac yn tynnu sylw at yr ymddygiadau nodweddiadol hyn. Esboniwyd y gellid
codi pryder am yr ymddygiadau hyn drwy’r systemau o fewn y Cyngor, ac os nad
yw’r pryder yn derbyn ymateb addas, gellid troi at y Polisi Canu’r Gloch.
Ategwyd pwysigrwydd y Polisi Canu’r Gloch, a’r angen i staff ddeall sut i godi
pryderon ar draws y continwwm.
·
Tynnwyd sylw at ehangder yr hyfforddiant mae’r
Cyngor yn ei ddarparu ac ar fin ei ddarparu i’w weithlu, gan restru a manylu ar
nifer o’r hyfforddiant hwn.
·
Wrth drafod y Polisi Canu’r Gloch ac wrth pwy y
dylid canu’r gloch, soniwyd bod Polisïau Canu’r Gloch yn nodi ei bod yn briodol
mynd tu allan i’r gorfforaeth lle rydych yn gweithio ynddi i ganu’r gloch.
Ychwanegwyd bod gwarchodaeth gyfreithiol i staff sydd yn gwneud hynny. Yn
ogystal, amlygwyd bod sefydliadau allanol lle gellir cyfeirio pryderon er mwyn
gweld os ydyw’n achos yn addas.
·
Gofynnwyd a yw Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen yn
fodlon bod y cynnydd a gaiff ei wneud mewn perthynas â’r tasgau a’u hadnabu yn
y Cynllun, yn amserol. Nodwyd bod yr oedi wrth gyhoeddi adroddiad Cyfiawnder
Trwy Ein Dewrder wedi ei gwneud yn anodd parhau gyda’r gwaith ar yr un
cyflymder am gyfnod. Adnabuwyd bod yr addasiad i’r Cynllun i sicrhau fod mwy o
uwch swyddogion yn arwain ar rannau gwahanol o’r Cynllun, yn galluogi i waith
fynd rhagddo’n gyflymach. Cadarnhawyd bod camau
pwysig ymlaen wedi eu cymryd mewn perthynas â’r gwaith ar Lais y Plentyn, gan
nodi bod y strategaeth sydd wedi’i drafftio ac wedi derbyn mewnbwn gan y Bwrdd
yn nodedig ac yn gynhwysfawr. Canmolwyd y ffaith fod y strategaeth ddrafft yn
cynnwys rhoi cyfle i blant gyfrannu at benderfyniadau ar lefel unigol ac ar
lefel strategol. Cynhigiwyd y bydd bod yn atebol i blant a phobl ifanc yn
allweddol, gan fynegi balchder bod hyn yn gynwysedig yn y strategaeth.
Cadarnhawyd y bydd cyfran helaeth o’r adborth am y gwaith hwn yn ansoddol, ond
esboniwyd bod modd edrych ar ddata meintiol yn ogystal drwy amrywiol ffyrdd.
·
Holwyd am ddyfodol y Bwrdd ar ôl cyfnod yr haf,
a chwestiynwyd beth fydd yn digwydd o ran y gwaith craffu unwaith i’r Bwrdd
ddod i ben. Datganwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal am ddyfodol y Bwrdd, ond
nad oes penderfyniad ffurfiol wedi ei gyrraedd ar y pwynt hwn. Amlygwyd y bydd
rhaid i’r Cyngor ddod i benderfyniad o ran y rôl y dymunir i’r Bwrdd fod yn ei
gymryd, a’r hyder gan y Cyngor yn ei brosesau craffu.
·
Pan fydd y Bwrdd yn dod i benderfyniad bod eu
gwaith wedi cyrraedd lle diogel, nodwyd y bydd posib bod yn falch o’r hyn sydd
wedi ei gyflawni. Ychwanegwyd y bydd rhaid i’r Cyngor argyhoeddi’r Bwrdd a’i
hun fod trefniadau mewnol effeithiol mewn lle i fod yn gwneud y gwaith hwn.
Awdur:Yr Athro Sally Holland, Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb
Dogfennau ategol: