Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a mabwysiadwyd y Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd (Atodiad 1).

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd a mabwysiadwyd y Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd (Atodiad 1).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a chymerwyd y cyfle i gydnabod dewrder y dioddefwyr, a phwysleisiwyd eu bod ar flaen meddyliau pob un wrth drafod y pwnc anodd hwn.

 

Rhoddwyd cefndir yr adroddiad a datganwyd bod y Cynllun yn fyw ac wedi esblygu dros amser, yn enwedig ers cyhoeddi’r adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.

 

Cyfeiriwyd at addewid y Cyngor i weithredu holl argymhellion yr adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, gan nodi y bu i’r Cynllun Ymateb gael ei ail-lunio er mwyn cyfarch yr holl argymhellion hyn. Esboniwyd y dilyna’r Cynllun 7 Ffrwd Gwaith, a hynny i gyd-fynd â phrif themâu’r adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.

 

Cadarnhawyd bod y Cynllun Ymateb hwn, ar ei newydd wedd, wedi’i gyflwyno gerbron y Pwyllgor Craffu Gofal, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi. Amlygwyd y caiff argymhellion y Pwyllgorau hyn eu cynnwys yn atodiad 3 y pecyn.

Yn ogystal, bu’r Cynllun Ymateb gerbron y Cyngor Llawn fis diwethaf er mwyn sicrhau bod pob cynghorydd o fewn y Cyngor wedi cael cyfle i roi eu mewnbwn, ac i gynnig unrhyw awgrymiadau pellach i gryfhau’r Cynllun. Gan ddiolch i’r holl aelodau a fu’n rhan o hynny, sicrhawyd bod holl sylwadau’r aelodau wedi eu hystyried cyn cyflwyno’r Cynllun i’r cyfarfod hwn o’r Cabinet.

 

Amlygwyd gan y Prif Weithredwr bod ymateb i’r hyn a digwyddodd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r Cyngor, a chaiff phob ymdrech ei rhoi i sicrhau’r Cynllun Ymateb gorau posib. Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb, gan adnabod fod y Cyngor yn ffodus o gael y mewnbwn hwn gan y Cadeirydd, a’r holl asiantaethau a sefydliadau sy’n eistedd ar y Bwrdd hwn.

Cadarnhawyd mai’r camau nesaf fydd i barhau gyda’r cyflawni sy’n mynd rhagddo, a chydnabuwyd y cynnydd calonogol sy’n parhau i gael ei wneud.

Datganwyd bod naratif y Cynllun yn esbonio’r hyn a fydd yn cael ei wneud gan y Cyngor i gyflawni o dan yr holl feysydd a’u hadnabu.

Tynnwyd sylw at y fersiwn gryno o’r Cynllun Ymateb sydd yn y pecyn, gan nodi ei fod yn ymateb i sylwadau o fewn pwyllgorau am yr angen i grynhoi'r hyn sydd wedi ei wneud, a’r hyn sy’n parhau i gael ei wneud gan y Cyngor mewn ymateb.

Cyfeiriwyd at ddwy ddogfen bellach sydd wrthi’n cael eu datblygu, a hynny er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn gallu cael ei weld a’i ddeall gan bawb o fewn ein cymdeithas.

Datganwyd bod adnoddau wedi eu rhoi o fewn cyllideb y Cyngor i gyflawni’r gwelliannau sydd wedi eu hadnabod, gan dynnu sylw at y maes Llais y Plentyn yn benodol.

Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal i’r cyfarfod i gyflwyno argymhellion y pwyllgor i’r Cabinet. Mynegwyd balchder bod y galw am gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn wedi ei gyfarch. Aethpwyd drwy argymhellion y Pwyllgor, sydd wedi eu cynnwys yn atodiad 3 yn y pecyn, gan adnabod nifer o’r argymhellion hynny sy’n barod wedi eu cyfarch a’u hymgorffori yn y Cynllun. Croesawyd penodiad llawn amser Pennaeth newydd Ysgol Friars. 

 

Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i’r cyfarfod i gyflwyno argymhellion y pwyllgor i’r Cabinet. Cyfeiriwyd at y nifer sylweddol o argymhellion a rhoddwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod arbennig, gan nodi eu bod yn cwmpasu amrediad eang o faterion ar hyd y 7 Ffrwd Gwaith a materion ehangach. Nodwyd bod yr argymhellion a gyflwynwyd i’r Cabinet yn ceisio cryfhau ac ehangu rhai elfennau o’r Cynllun Ymateb, er mwyn sicrhau fod y gwersi’n cael eu hadlewyrchu’n llawn yn y gwaith gweithredu. Cydnabuwyd bod yr adroddiad Cabinet gerbron yn adlewyrchu nifer o’r newidiadau hynny sy’n deillio o’r gwaith Craffu, gan gynnwys ailstrwythuro’r Cynllun o gwmpas systemau cliriach, a rhoi mwy o bwyslais ar fonitro cynnydd. Pwysleisiwyd mai’r prawf gwirioneddol dros amser fydd a yw’r newidiadau hyn yn arwain at newid pendant mewn systemau, mewn ymarfer, ac mewn diwylliant sefydliadol o fewn y Cyngor. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Croesawyd y Cynllun ar ei newydd wedd gan danlinellu ei fod yn Gynllun byw. Mynegwyd balchder bod modd i’r cyhoedd weld y berthynas rhwng y Cynllun Ymateb a’r adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder o ganlyniad i’r Ffrydiau Gwaith sy’n cyd-fynd, a bod arweinydd i bob Ffrwd. Cyfeiriwyd yn ogystal at y rhan o wefan y Cyngor sy’n cynnig gwybodaeth am yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma, a’r hyn fydd yn cael ei gyflawni yn y tymor hir. Cydnabuwyd bod hyn yn cyfrannu at sicrhau fod y Cyngor yn dryloyw ac yn agored o ran eu hymateb. Ategwyd y balchder am y penodiad parhaol i swydd Pennaeth Ysgol Friars, a dymunwyd yn dda i’r Pennaeth newydd ac i’r Ysgol.

·       Cyfeiriwyd at y cyfleoedd a gollwyd a’u hadnabuwyd gan yr adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, a holwyd am gadarnhad bod system gadarn bellach yn ei lle i sicrhau bod unrhyw bryderon yn cael eu trin yn ffurfiol. Mewn ymateb, sicrhawyd bod nifer o wersi wedi eu dysgu yn sgil yr Adroddiad. Adnabuwyd bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddatblygu Polisi Pryderon Lefel Isel ar gyfer y maes Addysg a Chynghorau Sir, gan nodi bod cyd-weithio rhwng y Cyngor a swyddogion o fewn y Llywodraeth i drafod y sut y caiff y Polisi ei ddatblygu. Cadarnhawyd bod y Cyngor wrthi’n adnewyddu system yn fewnol ynglŷn â chadw cofnod o bryderon, ac ychwanegwyd bod dwy system ar fin eu cyflwyno i’r Cyngor i’w alluogi i gadw gwell cofnod o unrhyw honiad.

·       Tynnwyd sylw at ddisgrifiad Ffrwd Gwaith 1, a gofynnwyd pa mor hyderus oedd y swyddogion fod y Cyngor yn bodloni’r disgrifiad hwn. Adnabuwyd mai Pennaeth yr Adran Addysg sy’n arwain ar y Ffrwd hwnnw, a sicrhawyd fod y Cyngor yn gwrando ar bob plentyn. Cadarnhawyd pe bai cyfeiriad Rhan 5 yn cael ei wneud, yna byddai’r plentyn hwnnw’n derbyn ymweliad gan weithiwr cymdeithasol.

·       Amlygwyd yr edrycha’r thema hwn yn ehangach na ymateb i honiadau’n unig, gan ategu ei fod yn ystyried sut mae’r Cyngor fel corfforaeth yn ystyried ac yn gwrando ar lais y plentyn. Cyfeiriwyd at y Fforymau Ieuenctid, a’r her o ran gallu mesur eu heffeithiolrwydd wrth geisio sicrhau fod llais y plentyn yn cael ei glywed. Nodwyd bod hyn yn waith sy’n mynd rhagddo er mwyn gallu deall barn y plant. Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau y caiff grwpiau amrywiol o blant o wahanol gefndiroedd eu cynnwys yn y Fforymau a’r Grwpiau Ffocws hyn. 

·       Cydnabuwyd y nifer uchel o aelodau sydd wedi cael cyfle i roi eu mewnbwn ar y Cynllun hwn a phwysigrwydd hynny. Holwyd at bwy y mae’r hyfforddiant ‘grooming’ wedi’i dargedu, a chynhigiwyd y dylai’r hyfforddiant fod yn rhan o hyfforddiant diogelu holl weithlu’r Cyngor. Mewn ymateb, cadarnhawyd ei fod wedi’i ychwanegu at hyfforddiant cyffredinol i staff, gan dynnu sylw at y datblygiadau sy’n mynd rhagddo er mwyn darparu ar gyfer y bobl hynny sydd angen lefel uwch o hyfforddiant.

·       Gan fod nifer o blant yn cael eu cludo i’r ysgol mewn tacsis, gofynnwyd a yw’r hyfforddiant yn ofynnol i’r gyrwyr tacsis ei gwblhau yn ogystal. Nodwyd bod trefniadau diogelu mewn lle wrth osod contractau ar gyfer cludiant addysg. Cadarnhawyd ei bod yn ofynnol i yrwyr y tacsis gwblhau hyfforddiant diogelu, a bod y Cyngor yn gwirio hynny. Ychwanegwyd mai nad y Cyngor sy’n darparu’r hyfforddiant hwn.

·       Holwyd am y camau nesaf o ran adrodd ar gynnydd y Cynllun Ymateb, a’r trefniadau i alluogi aelodau i herio’r cynnydd hwnnw. Mewn ymateb, sicrhawyd bod nifer o drefniadau mewn lle, gan amlygu’r trefniant gyda’r pwyllgorau craffu i adrodd yn ôl o fewn 6 mis ar y cynnydd hwn. Amlygwyd rôl allweddol y Bwrdd Ymateb wrth herio cynnydd y rhaglen waith, gan ategu pwysigrwydd bod popeth yn gyhoeddus yn ogystal. Tynnwyd sylw at y Grŵp Sicrwydd Gweinidogol sydd wedi ei sefydlu i adrodd ar gynnydd y Cynllun Ymateb.

·       Wrth gyfeirio at sicrhau fod hyfforddiant a materion cysylltiedig yn aros yn fyw o fewn y Cyngor, datgelwyd y caiff Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor ei adolygu a bod materion diogelu yn eitem barhaol ar agenda bob cyfarfod o dimau rheoli pob adran. Ychwanegwyd bod ystadegau ynglŷn â hyfforddiant diogelu nawr yn rhan o ddata herio perfformiad bob adran o fewn y Cyngor. Amlygwyd bod gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddarparu gwahanol ffurfiau o hyfforddiant yn y maes hwn i’w gosod ar draws y Cyngor, gan sicrhau hygyrchedd yr hyfforddiant i bob rhan o’r gweithlu. Pwysleisiwyd bod hyn yn waith parhaol ac amlygwyd pwysigrwydd gwreiddio’r newid diwylliannol hwn o fewn y Cyngor. Cyfeiriwyd at brosiectau hir dymor o fewn y Cynllun Ymateb megis bod yn Gyngor Trawma Wybodus ac yn sir Plentyn Gyfeillgar. 

 

Awdur:Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

Dogfennau ategol: