Cyflwynwyd gan:Cyng. R Medwyn Hughes
Penderfyniad:
Fod Cyngor Gwynedd yn parhau i fod yn awdurdod lleol
arweiniol i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng ngogledd Cymru hyd at ddiwedd y
rhaglen (30 Medi 2026) a chwblhau ei weinyddiaeth (01 Ionawr 2027).
Fod Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd yn parhau hyd at
ddyddiad diwedd diwygiedig y Gronfa; gyda’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned,
Aelod Cabinet Cyllid a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a
Chyfreithiol ynghyd â’r Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth
Cyllid a'r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol (neu eu cynrychiolwyr) yn aelodau.
Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i fod yn awdurdod lleol
arweiniol gogledd Cymru ar gyfer Cronfa Twf Lleol y DG yng Nghymru ar gyfer y
flwyddyn gyntaf y rhaglen (2026/27).
Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i barhau gyda threfniadau
llywodraethu rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Cyffredin i berwyl y Gronfa Twf
Lleol ar gyfer y flwyddyn gyntaf (2026/27) gan gyflwyno cynllun yn amlinellu’r
bwriad i Lywodraeth Cymru.
Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn
ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif
Weithredwr yn ddarostyngedig i 1.6 isod
i gytuno a chwblhau cytundebau gyda’r llywodraeth (au)
er gweithredu y swyddogaeth arweiniol.
Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn
ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif
Weithredwr i sefydlu cytundebau cyfreithiol rhyng-awdurdod
ac amodau ariannu gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor
Gwynedd.
Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i barhau’r trefniadau
llywodraethu lleol i berwyl y Gronfa Twf Lleol yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir
yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R Medwyn Hughes.
PENDERFYNIAD

TRAFODAETH
Tynnwyd sylw at y ddau fater dan sylw, sef sicrhau
trefniadau i ddod a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) i ben, ac i sefydlu
trefniadau newydd ar gyfer blwyddyn gyntaf y Gronfa Twf Lleol sy’n cymryd ei
le.
Adroddwyd bod Llywodraeth y DG wedi ymestyn cyfnod y Gronfa
Ffyniant Gyffredin am 6 mis ac mae gofyn i Gyngor Gwynedd barhau i fod yn
awdurdod lleol arweiniol i’r rhaglen dros yr estyniad hwn. Nodwyd y bydd ei
olynydd, Y Gronfa Twf Lleol, yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Soniwyd bod Gwynedd wedi derbyn £8.19 miliwn drwy law'r Gronfa Ffyniant Gyffredin eleni. Datganwyd bod
Llywodraeth y DG wedi cyhoeddi y byddent yn caniatáu gweithgaredd wedi ei
ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i barhau hyd at 30 Medi 2026 ond heb
unrhyw arian ychwanegol.
Adnabuwyd y bydd llai o arian yn cael ei dderbyn o dan y
Gronfa Twf Lleol. Aethpwyd ymlaen i dynnu sylw at y ffaith y bydd o 70% o’r
arian o’r Gronfa Twf Lleol yn dod ar ffurf cyfalaf, a 30% ohono’n
dod ar ffurf refeniw. Amlygwyd bod hyn yn dra gwahanol i’r drefn gyfredol a’i
fod yn debygol o gael dylanwad mawr, o ystyried bod llai o arian yn ogystal.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Holwyd am eglurder o ran effaith derbyn canran
uwch o arian ffurf cyfalaf, a chanran is ar ffurf refeniw. Esboniwyd mai
symudiad i ffwrdd oddi wrth brosiectau sy’n darparu cefnogaeth i bobl a
busnesau, gan gynnig mwy o arian ar gyfer adeiladu yw hwn. Amlygwyd y golyga
hyn newid sylweddol ym mhwyslais y gweithgareddau sydd wedi bod yn digwydd drwy
law'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Adnabuwyd bod swyddi
o fewn y Cyngor ac ar draws gogledd Cymru a gaiff eu cyllido drwy arian y
Gronfa Ffyniant Gyffredin, a nodwyd y bydd hi’n anodd parhau â’r holl swyddi
hyn o ganlyniad i lai o arian refeniw.
·
Cyfeiriwyd at y ffaith fod prosiectau presennol
yn cael 6 mis ychwanegol i ddirwyn i ben gan gwestiynu beth fyddai’n digwydd pe
na fyddai posib cwblhau’r prosiectau hyn, a sut y cânt eu cefnogi. Mewn ymateb,
cydnabuwyd bod nifer o’r prosiectau yng Ngwynedd wedi eu cynllunio i ddod i ben
erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Ychwanegwyd y bydd yr amser ychwanegol yn
ddefnyddiol i sawl prosiect gwblhau gwariant neu i gasglu tystiolaeth o’r
allbynnau a’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Rhagwelwyd mai oddeutu hanner y prosiectau
o fewn y sir fydd yn manteisio ar yr amser ychwanegol hwn, ond bod dim pryder o
ran methu a dirwyn prosiectau i ben. Datgelwyd bod yr amser ychwanegol hwn yn
rhoi cyfle i flaengynllunio, blaenoriaethu ac ailstrwythuro rhai gweithgareddau
i gyd-fynd â’r sefyllfa newydd.
·
Eglurwyd bod prosiectau cyfalaf angen amser
paratoi, sy’n gwneud gwario swm mewn un flwyddyn ariannol yn heriol. Mynegwyd
rhwystredigaeth bod yr arian yn dod i Lywodraeth Cymru dros dair blynedd, ond y
caiff y Cyngor eu cyfyngu i arian blwyddyn un yn unig ar y pwynt hwn. Datganwyd
mai’r her a ragwelir fydd sut i flaenoriaethu prosiectau o wybod bod llai o
arian, a sicrhau y bydd y prosiectau hynny yn gwneud gwahaniaeth o dan y meini
prawf a osodwyd gan y Llywodraeth. Amlygwyd bod blaenoriaethau newydd o ganlyniad
i’r rhaglen newydd, a fydd yn ei gwneud yn anodd sicrhau parhad o rai
gweithgareddau o raglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin i’r rhaglen newydd.
·
Sicrhawyd y caiff adroddiad pellach ei gyflwyno
ar y prosiectau a’u cynigir. Ategwyd nad prosiectau gwbl newydd fydd y rhain o
ganlyniad i’r amserlen dynn, ond bod awydd i barhau â thrafodaethau â
Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio galluogi rhai prosiectau i gael eu cynnal dros
flynyddoedd dau a thri.
·
Esboniwyd bod Cyngor Gwynedd yn awdurdod lletya
ar gyfer rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar hyn o bryd, ac y bydd yn parhau
i wneud hynny dros estyniad y rhaglen. Ychwanegwyd y bydd y Cyngor yn arwain ar
y Gronfa Twf Lleol am ei flwyddyn gyntaf drosiannol, ac mai’r bwriad wedi hynny
fydd i’w drosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforedig y Gogledd am ail a thrydedd
flwyddyn y rhaglen. Crybwyllwyd y bydd yn fater i’r Cydbwyllgor Corfforedig
benderfynu gwneud cronfa sirol neu gadw’r arian yn rhanbarthol.
Awdur:Sioned Williams, Pennaeth Economi a Cymuned (Uwch Swyddog Cyfrifol, Cronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru) Dylan Griffiths, Rheolwr, Gwasanaeth Datblygu’r Economi (Rheolwr (Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru)
Dogfennau ategol: