Agenda item

I roi trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Gofyn bod Adroddiadau Blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys data am fesurau perfformiad gan gynnwys mesurau yng nghyswllt troseddu, a map sy’n amlygu lleoliad troseddau.
  3. Gofyn i dderbyn data a gwybodaeth bellach am y sesiynau ‘Peidiwch â Dwyn fy nyfodol’, cynhaliwyd gan RASASC Cymru (Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol).
  4. Gofyn am ddata am y nifer o sesiynau a’r nifer o unigolion sydd wedi cyflawni hyfforddiant VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol), a bod y data hwn yn cael ei gynnwys o fewn yr Adroddiad Blynyddol yn y dyfodol.
  5. Annog Cyngor Gwynedd i symud ymlaen i dderbyn achrediad ‘Cyngor Trawma Wybodus’.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yr Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn.

 

Cadarnhawyd bod yr adroddiad yn darparu diweddariad cynhwysfawr ar waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gan ddangos sut mae’n cydweithio er mwyn mynd i’r afael â throsedd ac anrhefn ar draws Gwynedd a Môn ac i wella diogelwch i’n cymunedau.

 

Eglurwyd bod y Bartneriaeth yn gweithio i gynllun blynyddol sydd yn seiliedig ar flaenoriaethau Strategaeth Bwrdd Gogledd Cymru Fwy Diogel. Ymhelaethwyd bod y Bartneriaeth yn derbyn data chwarterol gan yr heddlu er mwyn nodi tueddiadau, llywio trafodaethau,  cefnogi ymyrraeth gynnar a datrys problemau lleol o fewn cymunedau.

 

Pwysleisiwyd nad oes gan y Bartneriaeth gyllid craidd parhaol a nodwyd nad yw’n comisiynu gwasanaethau yn uniongyrchol oni bai am Adolygiadau Dynladdiad Domestig (DHR). Eglurwyd bod y bartneriaeth yn ddibynnol yn bennaf ar gyfleoedd grant tymor byr neu gystadleuol i gefnogi ei waith ehangach.

 

Manylwyd ar weithgaredd y Bartneriaeth gan gadarnhau ei fod yn parhau i ddarparu Cynllun Diogelwch Cymunedol a ffurfio adroddiadau chwarterol ohono i Fwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru Fwy Diogel. Nodwyd hefyd bod y Bartneriaeth yn darparu cyfraniad gweithredol i Strategaeth Trais Difrifol Gogledd Cymru gan egluro ei fod yn ddyletswydd genedlaethol newydd.

 

Mynegwyd balchder bod £65,000 wedi cael ei ddyrannu  ar gyfer saith prosiect ataliol yng Ngwynedd a Môn. Manylwyd bod y prosiectau yng Ngwynedd yn cynnwys:

 

·       Sesiynau ‘Peidiwch â Dwyn fy Nyfodol’ a gynhaliwyd gan RASASC Cymru (Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol) er mwyn codi ymwybyddiaeth o drais rhywiol ymhlith disgyblion ac i ddylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau.

·       Ymgyrch ymwybyddiaeth ynghylch gwerthu ‘vapes’ anghyfreithlon a cham-fanteisio plant, gan rannu deallusrwydd.

·       Darpariaeth ieuenctid ychwanegol dros wyliau ysgol i bobl ifanc 11-25 mewn ardaloedd sydd â risg uchel o droseddu, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

·       Prosiect ar y cyd gydag Adran Addysg y Cyngor i leihau eithriadau ac atal trais difrifol drwy hyfforddiant, mentora a gwaith grŵp, gyda’r nod o gadw disgyblion mewn ysgol ac yn ddiogel.

 

Cyfeiriwyd at brosiectau eraill a gyflawnwyd gan y Bartneriaeth megis uwchraddio camerâu cylch cyfyng yng Nghaernarfon, Bangor a Pwllheli; datblygu a peilota pecyn ymwybyddiaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol ar gyfer staff awdurdodau lleol a bod yn Aelod parhaus o Banel Strategol Diogelu a Grŵp Gweithredol Diogelu’r Cyngor.

 

Tynnwyd sylw bod y bartneriaeth yn cydweithio’n agos gydag Arweinydd Rhanbarthol ar Hunanladdiad a Hunan-niwed yn y Gwasanaeth Iechyd gan nodi bod gweithdy aml-asiantaeth wedi cael ei ddarparu gan y Bartneriaeth i fanylu ar y cysylltiad rhwng cam-drin domestig a hunanladdiad. Cyfeiriwyd hefyd at waith parhaus yn Bartneriaeth gyda Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol rhanbarthol sydd yn mynd i’r afael â lleihau niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol.

 

Eglurwyd bod y Bartneriaeth wedi cyflwyno hyfforddiant proffesiynol ar themâu rhywiaeth, gwrywdod a thrais. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais grant cyfalaf VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol) er mwyn prynu 100 camera diogelwch i oroeswyr cam-driniaeth ddomestig a chyfrannu at waith rhanbarthol ar safoni ‘target hardening’ drwy wneud cartrefi dioddefwyr a goroeswyr yn fwy diogel.

 

Adroddwyd bod cais wedi ei gyflwyno i Raglen Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru i ariannu arwyddion ymwybyddiaeth ar lwybrau beicio er mwyn hybu defnydd parchus o’r llwybrau, lleihau gwrthdrawiadau ac atal anafiadau difrifol i bobl dall a phobl sydd gyda nam ar eu golwg. Yn debyg, nodwyd bod hyfforddiant  Iaith Arwyddo Prydain drwy Grŵp Llandrillo Menai wedi cael ei drefnu ar gyfer staff Siop Gwynedd a sefydliadau cam-drin domestig lleol.

 

Tynnwyd sylw bod y Bartneriaeth yn datblygu Parthau Diogel ar gyfer atal trais yn erbyn menywod a merched yng Nghaernarfon a Bangor yn ogystal â Pharthau ‘Crimestoppers’ ym Maesgeirchen a Blaenau Ffestiniog er mwyn annog adrodd cyfrinachol ar weithgarwch troseddol.

 

Cyfeiriwyd at nifer o flaenoriaethau’r Bartneriaeth am y flwyddyn i ddod gan gynnwys sicrhau bod gweithrediad ar yr holl brosiectau a chynlluniau yn parhau, tra hefyd yn denu arian grant ychwanegol i gyflawni prosiectau o’r newydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Tynnwyd sylw bod rhai o flaenoriaethau y Strategaeth Bwrdd Gogledd Cymru Fwy Diogel yn cynnwys ‘Mynd i’r afael â Thrais difrifol ac Troseddau Cyfundrefnol Difrifol. Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae’r troseddau hyn yn cael eu diffinio, y gwahaniaethau rhyngddynt a’r mesurau mewn lle i’w hatal yn cael ei gofnodi er mwyn sicrhau bod y Strategaeth yn gweithio’n effeithlon, cadarnhaodd y Prif Arolygydd bod troseddau difrifol yn achosion megis llofruddiaeth, trais domestig a rhywiol gyda throseddau cyfundrefnol yn ddigwyddiadau sydd wedi cael eu cynllunio a’u cydlynu gan grŵp o droseddwyr. Ymhelaethwyd bod y gwaith o fesur llwyddiant gwaith i atal y troseddau hyn rhag cymryd lle yn waith amlasiantaethol gan bod nifer o sefydliadau yn cofnodi data. Cadarnhawyd bod monitro’r data hyn yn amlygu os yw blaenoriaeth y Strategaeth yn gweithio ai peidio.

 

Pryderwyd bod cyfraddau lladrata wedi cynyddu 112.5% ers y llynedd (cyfanswm o 34 achos o’i gymharu ag 16 y llynedd) ble roedd Gogledd Cymru fel rhanbarth dim ond wedi gweld cynnydd o 12.4%. Mewn ymateb i ymholiad os oes modd o adnabod clystyrau ble mae troseddau o’r fath yn digwydd er mwyn gallu rhagweld pa ardaloedd bydd yn cael eu targedu, cadarnhaodd y Prif Arolygydd bod prosiect llwyddiannus wedi cael ei gynnal ym Mangor yn ddiweddar er mwyn atal Troseddau Cyfundrefnol Difrifol a oedd yn ymwneud â chyffuriau. Fodd bynnag, pwysleisiwyd nad oes modd rhagweld unrhyw ddigwyddiad lladrata yn effeithiol gan nad oes patrwm i’r troseddu. Eglurwyd y gallai ddigwydd mewn unrhyw ardal, i wahanol fathau o ddioddefwyr ac yn gallu cael eu sbarduno gan ddefnydd alcohol a chyffuriau neu drwy anghydfodau. Er hyn, pwysleisiwyd bod y mwyafrif helaeth o droseddwyr sydd yn lladrata yn cael eu harestio a’u cyhuddo.

 

Ymfalchïwyd bod cynlluniau i osod arwyddion ar lwybrau beicio er mwyn gwarchod unrhyw gerddwyr dall neu gyda nam ar eu golwg rhag niwed. Gwnaed sylw eu fod yn bwysig sicrhau bod arwyddion hefyd yn cael eu gosod er mwyn gwarchod unigolion byddar neu sydd gyda trafferthion clyw. Yn yr un modd, rhannwyd syniadau o osod arwyddion mewn mannau cyhoeddus, megis meysydd parcio, er mwyn atgoffa gyrwyr cerbydau trydan bod posibilrwydd nad yw pobl yn eu clywed, er mwyn arbed damweiniau rhag digwydd. Mewn ymateb i’r sylwadau, cytunodd Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn bod sylwadau gwerthfawr wedi codi yn ystod y drafodaeth ac bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i’w ymgorffori i’r gwaith, os bydd y cais i ariannu’r prosiect yn cael ei gymeradwyo. Pwysleisiwyd bod swyddogion yn chwilio am arian grant ychwanegol yn barhaus.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol bod atal troseddau yn erbyn menywod yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Bartneriaeth unwaith eto eleni.

 

Mewn ymateb i ymholiad am y gwahaniaeth rhwng Trais Domestig a Digwyddiad Domestig, eglurodd Pennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol nad yw digwyddiad domestig yn achos i’r heddlu os nad oes trosedd wedi cymryd lle. Ymhelaethwyd bod adroddiad yn cael ei wneud o bob digwyddiad domestig sydd ddim yn achos i’r heddlu a bod y Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol yn gwneud penderfyniad os oes angen ymyrraeth ar achosion drwy asesu os oes gan unigolion fynediad i ofal.

 

Llongyfarchwyd y swyddogion ar eu gwaith o osod mwy o gamerâu cylch cyfyng. Mewn ymateb i ymholiad os oedd y prosiect hon yn cael ei ehangu i ardaloedd fwy gwledig, nododd Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn bod y prosiect penodol hwn wedi datblygu parth diogel er mwyn gwarchod pobl mewn ardaloedd trefol. Fodd bynnag, gobeithiwyd bydd arian grant yn caniatáu gosod mwy o gamerâu cylch cyfyng yn ystod y flwyddyn, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn asesu’r ardaloedd hynny ble fyddai’n fwyaf effeithiol i osod y camerâu.

 

Manylwyd ar brosiect ‘Peidiwch â Dwyn fy Nyfodol’ a gynhaliwyd gan RASASC Cymru gan nodi ei fod yn cydblethu’n effeithiol gyda’r argymhellion a gyflwynwyd yn yr Adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant ‘Cyfiawnder Trwy ein Dewrder’ yn ddiweddar. Mewn ymateb i ymholiadau am fanylder o beth yw cynnwys y digwyddiad, pryd y’i cynhaliwyd, sawl ysgol sydd wedi cymryd rhan ac os yw wedi cael ei rannu’n ehangach gyda sefydliadu megis clybiau ieuenctid, cadarnhaodd Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn bod y prosiect wedi dod i ben. Fodd bynnag, eglurwyd bod gan swyddogion gyfarfod gyda swyddogion grantiau yn y dyfodol agos a bydd cais yn cael ei wneud i dderbyn yr holl wybodaeth yma er mwyn ei adrodd yn ôl i’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn. Ymhelaethodd Pennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol bod parhad y prosiect hwn yn ddibynnol ar arian grant gan nad os unrhyw gyllideb ar ei gyfer, gan gydnabod nad oes modd cyfarch pob angen sydd yn codi.

 

Tynnwyd sylw bod Strategaeth Gogledd Cymru Mwy Diogel 2025-28 yn nodi ‘Mynd i’r afael â Thrais Difrifol’ gan gynnwyd trawma yn ystod plentyndod, fel Blaenoriaeth. Mewn ymateb i ymholiad ar ba gamau gweithredu sydd ar waith er mwyn gwireddu’r blaenoriaeth hon drwy gydweithio gyda partneriaid tra hefyd yn ystyried heriau ychwanegol mewn ardaloedd gwledig, eglurodd yr Aelod Cabinet bod Bwrdd Rhanbarthol yn edrych ar y camau gweithredu yn ymwneud â’r mater hwn. Pwysleisiwyd bod y gwaith yn flaenoriaeth ac bod hyfforddiant mandadol wedi cael ei gyflwyno i’r Bartneriaeth a’i fod yn cael ei raeadru i lawr i bob sefydliad er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r dull mwyaf priodol o weithredu mewn sefyllfaoedd o’r fath.

 

Mewn ymateb i ymholiad am y gwaith mae’r Cyngor yn ei wneud er mwyn derbyn achrediad Trawma Wybodus, cytunodd yr Aelod Cabinet ei fod yn waith pwysig y dymunai ei weld yn cael ei gyflawni. Ymhelaethwyd ei fod yn hanfodol bod pawb yn ymwybodol o drawma a sut mae symptomau o drawma posib yn gallu ymddangos mewn unigolion, gan bwysleisio bod hyfforddiant trawma wybodus yn flaenoriaeth. Sicrhawyd y gobeithiwyd bydd cais yn cael ei gyflwyno yn fuan er mwyn gallu derbyn achrediad Trawma Wybodus, gan ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio tuag ato hyd yma.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ddata am y nifer o sesiynau a'r nifer o unigolion sydd wedi cyflawni hyfforddiant VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol), nododd Pennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol bod gan y swyddogion y data perthnasol ac y byddai’n cael ei rannu gyda’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn. Ychwanegwyd y bydd y wybodaeth hon yn cael ei gynnwys o fewn yr Adroddiad Blynyddol yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae prosiectau yn cael eu cynnwys neu ei dynnu yn ôl o waith y Bartneriaeth, eglurodd yr Aelod Cabinet mai’r Bartneriaeth ei hun sydd yn penderfynu hynny o fewn ei gyfarfodydd. Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol bod y Bartneriaeth yn edrych ar Gynllun Blynyddol Rhanbarth Gogledd Cymru yn gyntaf ac yna yn blaenoriaethu prosiectau i gyd fynd ag o. Eglurodd Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn bod y Cynllun Blynyddol nesaf yn cael ei gymeradwyo ym mis Ebrill ac bydd y Bartneriaeth yn cydweithio gyda’r Rhanbarth er mwyn datblygu unrhyw flaenoriaethau newydd yn unol â’r angen. Ymhellach, pwysleisiodd y Prif Arolygydd bod  Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu data gyda’r Bartneriaeth yn gyson, ar lefelau rhanbarthol a chymunedol, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu blaenoriaethu prosiectau yn unol â’r data hynny.

 

Tynnwyd sylw y byddai’n ddefnyddiol derbyn map o fewn yr Adroddiad Blynyddol hwn i’r dyfodol er mwyn gallu gweld os oes ardaloedd gyda mwy o droseddau ac i ystyried os yw’r ardaloedd hynny yn fannau twristiaeth poblogaidd. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Prif Arolygydd bod modd datblygu map o’r fath a byddai’n ymdrechu i’w gynnwys o fewn yr adroddiadau i’r dyfodol. Diolchodd yr Aelod Cabinet i Heddlu Gogledd Cymru am eu cydweithrediad parhaus ac am eu parodrwydd i rannu data yn rheolaidd gyda’r Bartneriaeth.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Penderfynwyd:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Gofyn bod Adroddiadau Blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys data am fesurau perfformiad gan gynnwys mesurau yng nghyswllt troseddu, a map sy’n amlygu lleoliad troseddau.

·       Gofyn i dderbyn data a gwybodaeth bellach am y sesiynau ‘Peidiwch â Dwyn fy nyfodol’, cynhaliwyd gan RASASC Cymru (Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol).

·       Gofyn am ddata am y nifer o sesiynau a’r nifer o unigolion sydd wedi cyflawni hyfforddiant VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol), a bod y data hwn yn cael ei gynnwys o fewn yr Adroddiad Blynyddol yn y dyfodol.

·       Annog Cyngor Gwynedd i symud ymlaen i dderbyn achrediad ‘Cyngor Trawma Wybodus’.

 

Dogfennau ategol: