I graffu
materion sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu, sy’n
rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28 – Gwynedd Werdd.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
2.
Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd:
·
dylid ystyried dwysáu hyfforddiant/ymgyrchoedd i
addysgu ar bwysigrwydd ailgylchu.
·
dylid ystyried cyflwyno cosbau am fethu ag
ailgylchu’n briodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd a Phennaeth
Cynorthwyol Adran Amgylchedd. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol.
Adroddwyd bod yr Adran yn gweithio i ddatblygu Strategaeth Gwastraff ar
hyn o bryd gan ymgymryd ag agwedd uchelgeisiol er mwyn datrys problemau.
Cydnabuwyd bod targedau Llywodraethau megis y targed o ailgylchu 70% o holl
wastraff y sir, yn heriol iawn i’w cyfarch.
Cadarnhawyd bod yr Adran wedi addasu strwythur gweithredol trefniadau
casglu gwastraff i ddwy ran er mwyn gwella perfformiad. Eglurwyd bod ardal y De
yn gweithredu ar gyfer Dwyfor a Meirionnydd gyda’r Gogledd yn gwasanaethu
Arfon. Adroddwyd bod addasu’r strwythur gweithredol wedi gwella perfformiad y
gwasanaeth. Yn debyg, atgoffwyd bod system Bartec yn cael ei ddefnyddio gan yr
Adran er mwyn addasu cylchdeithiau yn ddynamig ac yn unol ag anghenion
gweithredol y gwasanaeth. Tynnwyd sylw y bydd aelodau yn derbyn cyflwyniad ar
sut mae’r systemau yma yn cynorthwyo’r adran yn Fforymau Ardal y Cyngor yn
hwyrach ymlaen eleni. Yn yr un modd, adroddwyd bod gosod system camerâu ar y
cerbydau casglu hefyd wedi cynorthwyo i wella gwelededd i waith y staff, gwella
iechyd a diogelwch a cyflwyno’r gallu i ymateb i gwynion gyda tystiolaeth
gadarn.
Eglurwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad yn ddiweddar fel rhan o ddatblygu’r
Strategaeth Gwastraff. Nodwyd y derbyniwyd 1,245 o ymatebion i’r ymgynghoriad.
Adroddwyd bod 62% o’r ymatebwyr yn nodi bod eu bin gwastraff gweddilliol dim
ond tua thri chwarter llawn neu lai ar ddiwedd y cyfnod o 3 wythnos.
Ymhelaethwyd bod 15% o ymatebwyr yn nodi nad oeddent yn gallu ymdopi gyda
capasiti presennol y bin a’r amserlen casglu gan ei fod yn llawn cyn y diwrnod
casglu. Tynnwyd sylw bod ail-asesu amlder casglu a maint y biniau gweddilliol
yn gallu bod yn ddiwygiad a all ei gyflawni er mwyn cefnogi’r Cyngor i gyrraedd
y targed o ailgylchu 70% o wastraff. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn cydweithio
gyda WRAP Cymru (Waste and Resources Action Programme) er mwyn ymchwilio i’r
gwahaniaeth gwirioneddol byddai addasu hyn yn ei wneud .
Atgoffwyd bod yr Adran wedi cychwyn treialu defnyddio sachau hessian yn
hytrach na’r cart-gylchu, gan adrodd bod canlyniadau’r treial hwnnw yn gymharol
lwyddiannus. Nodwyd bod bwriad i gynnal treialon mewn ardaloedd eraill o’r sir
cyn yr haf. Esboniwyd bod y sachau yn rhatach na’r cartgylchu ac y byddent yn
caniatáu mwy o gapasiti ailgylchu i drigolion petai’r Cyngor yn penderfynu
ailgylchu mwy o nwyddau fel plastigion meddal.
Cadarnhawyd bod gwaith yn parhau i wella ymddygiadau trigolion tuag at
ailgylchu gan nodi bydd llythyr yn cael ei
yrru i bob cartref yn y Sir dros yr wythnos nesaf er mwyn gwella
ailgylchu yng Ngwynedd. Wrth ystyried materion gorfodaeth o fewn y gwasanaethu
gwastraff, cadarnhawyd nad oes modd cynnal gwasanaethau gorfodaeth os yw
aneddleoedd yn gor-gynhyrchu gwastraff oni bai ei fod yn arwain at faterion
megis tipio slei bach.
Mynegwyd balchder bod sefyllfa gorwariant y gwasanaeth wedi gwella ond
cydnabuwyd bod lle i wella er mwyn bod mewn sefyllfa ble mae cyllideb gytbwys.
Ymfalchïwyd bod perfformiad y gwasanaeth y gwella tra mae’r gorwariant yn y
gyllideb yn lleihau, tra hefyd yn pwysleisio bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn
ceisio lleihau’r gorwariant hwnnw ymhellach.
Cydnabuwyd bod ffocws yr Adran wedi bod ar y gwasanaeth casglu gwastraff
ac ailgylchu, gan nodi bod gwaith i’w wneud i wella’r gwasanaeth dosbarthu
biniau. Nodwyd yr amlygwyd hyn o fewn ymgynghoriad diweddar ble roedd nifer o
sylwadau bod angen gwella’r gwasanaeth hwn. Pwysleisiwyd bod y gwasanaeth yn
mynd i fod dan reolaeth Rheolwr newydd o fewn yr Adran er mwyn sicrhau bod y
gwasanaeth hwn yn derbyn sylw i’r dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan yr Aelodau:-
Mynegwyd pryder bod y Cyngor wedi methu
cyfarch targed y Llywodraeth i ailgylchu 70% o wastraff eleni, gan ofyn faint o
ddirwy sydd yn wynebu’r Cyngor a sut mae gwasanaethau eraill yn cael eu
heffeithio’n negyddol o’i herwydd. Mewn ymateb i’r ymholiadau, pwysleisiodd y
Pennaeth Cynorthwyol bod angen gwneud newid sylweddol er mwyn cyfarch y targed
hwn, gan gydnabod na fydd y Cyngor yn gwneud hynny yn y byrdymor. Atgoffwyd o’r
angen i asesu amlder casgliadau neu maint y biniau gweddilliol er mwyn cyfarch y
targed hwn a bod trafodaethau yn cael eu cynnal gydag Awdurdodau Lleol eraill
er mwyn derbyn mewnwelediad ar lwyddiant y newid hwn. Cadarnhawyd nad yw’r
Cyngor wedi derbyn dirwy am beidio â chyrraedd y targed ar hyn o bryd ond
rhagrybuddiwyd y byddai’n gallu bod hyd at £600,000 o gostau. Pwysleisiwyd bod
y Cyngor mewn trafodaethau rheolaidd gyda’r Llywodraeth a gobeithiwyd bod
arddangos cynlluniau i sicrhau bod Gwynedd yn cyrraedd y targed o 70% yn eu
bodloni, ac na fydd y Cyngor yn derbyn dirwy.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn ag amserodd
casglu gwastraff, gyda rhai Aelodau o’r farn bod casgliadau yn digwydd yn rhy
gynnar yn y bore gan achosi sŵn ac aflonyddwch i drigolion, ac eraill yn
falch eu bod yn cael eu casglu yn fuan yn y bore. Mewn ymateb i’r drafodaeth,
eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol bod staff y gwasanaeth yn gweithio o 6:00 y
bore hyd at 1:45 y prynhawn ac nid oes unrhyw gwynion wedi cyrraedd y
gwasanaeth gan y cyhoedd nac aelodau staff yn nodi bod y cylchdeithiau yn
digwydd yn rhy fuan yn y bore. Ychwanegwyd mai’r bwriad yw sicrhau bod
casgliadau yn cael eu gwneud yn fuan yn y bore fel nad oes trafferthion yn codi
wrth i drigolion deithio i’r gwaith neu’r ysgol ac bod modd cadw’r biniau cyn
iddynt adael y tŷ mewn rhai achosion fel nad ydynt yn cael eu chwythu neu
eu difrodi.
Gwnaed sylw bod nifer o siopau ac
archfarchnadoedd yn derbyn plastigion a phecynnau bwyd anifeiliaid anwes er
mwyn i’w ailgylchu, gan ofyn i’r Adran sicrhau eu bod yn ymchwilio i’r rhain
hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hailgylchu’n effeithiol gan gartrefi
Gwynedd.
Mewn ymateb i ymholiad ar gyfradd halogiad
deunyddiau ailgylchu , nododd y Pennaeth Cynorthwyol ystyriwyd bod y gyfradd
halogiad yn gymharol uchel yng Ngwynedd oherwydd bod y swm mae Gwynedd yn ei
dderbyn gan gwmnïau am y deunydd ailgylchu yn is na siroedd eraill.
Mewn ymateb i ymholiad os oes cynlluniau i
ailgylchu batris bychan o gartrefi, eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol bod modd eu
hailgylchu drwy ymweld ag unrhyw ganolfan ailgylchu lleol. Ymhelaethwyd bod
bwriad i gynnwys bartis o fewn cylchdeithiau casgliadau ond mae ffocws yn cael
ei roi ar hyn o bryd ar sicrhau bod modd ailgylchu plastigion meddal yn
effeithiol gan fod rheoliadau Llywodraeth Cymru ar y mater hwnnw yn dod yn
weithredol ym mis Ebrill 2027. Tynnwyd sylw hefyd byddai ychwanegu bocs neu
sach i gasglu’r batris yn gostus i’r Cyngor gan fod tebygolrwydd bod angen
casglu batris yn aml yn annhebygol. Fodd bynnag, nodwyd bod gwaith ymchwil yn
cael ei wneud ar y mater hwn.
Adroddwyd bod nifer o siopau lleol yn gwerthu
rhai nwyddau megis llefrith ac sudd oren mewn poteli gwydr erbyn hyn, ond nid
oes modd dychwelyd y poteli hynny yn ôl i’r siop ar gyfer eu hailddefnyddio.
Mewn ymateb i’r sylwad, tynnwyd sylw’r Aelodau at Gynllun Dychwelyd Ernes
Llywodraeth Cymru a fydd yn weithredol yn fuan iawn. Eglurwyd bydd y cynllun
hwn yn caniatáu i drigolion ddychwelyd poteli gwydr yn ôl i siopau er mwyn
derbyn arian i ffwrdd o’r cynnyrch wrth iddynt ei brynu eto.
Amlygwyd bod 12 o Awdurdodau Lleol yng
Nghymru wedi llwyddo i gyrraedd targed y Llywodraeth o ailgylchu 70% o’i
wastraff. Holwyd pa gynlluniau sydd ar y gweill gan yr awdurdodau lleol yma ac
a ellir eu hymgorffori yng Ngwynedd. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y
Pennaeth Cynorthwyol bod anghysondeb yn y dull o gofnodi’r gwaith tuag at
gyflawni’r targed hon ar draws Cymru felly nid oes modd cymharu’n effeithiol
gydag unrhyw Sir arall. Fodd bynnag, ystyriwyd bod lle i wella drwy weithio
gyda busnesau er mwyn sicrhau bod eu cyfraddau ailgylchu yn gwella o’r
cyfraddau presennol.
Tynnwyd sylw bod gwastraff yn parhau i ddod
allan o’r lorïau wrth iddynt gyflawni’r cylchdeithiau, gan adael sbwriel ar
ymylon ffyrdd. Derbyniodd y Pennaeth Cynorthwyol y sylwadau gan nodi bydd staff
yn cael eu atgoffa i sicrhau bod holl ddrysau’r cerbyd wedi eu cau yn ddigonol
cyn gyrru i ffwrdd er mwyn sicrhau nad yw hyn yn parhau i ddigwydd. Ychwanegodd
yr Aelod Cabinet bod y sefyllfa hon wedi gwella o gymharu â’r gorffennol.
Amlygwyd bod sbwriel sydd wedi ei adael ar
ymyl ffyrdd i’w weld yn fwy amlwg ar ôl i’r gwair ar ymylon ffyrdd gael ei
dorri, gan ofyn i’r Adran ystyried sicrhau bod timau casglu gwastraff yn dilyn
cylchdeithiau torri ymylon ffyrdd er mwyn datrys y broblem hon.
Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae cwmnïau yn
pecynnu nwyddau ar gyfer eu danfon yn y post, cadarnhaodd y Pennaeth
Cynorthwyol bod treth wedi cael ei osod ar gwmnïau ers y llynedd er mwyn
sicrhau bod yr holl becynnu yn gallu cael ei ailgylchu. Nodwyd nad oes digon o
amser wedi mynd rhagddo ers i’r trethiant hwn ddod yn weithredol er mwyn gallu
gweld os yw cwmnïau wedi gwneud newidiadau o’i herwydd. Eglurwyd bydd yr arian
a wnaed o‘r dreth hon yn cael ei ddyrannu i’r Awdurdodau Lleol er mwyn ymateb i
heriau pecynnu.
Adroddwyd bod casgliadau ailgylchu weithiau
yn cael eu cwblhau gan ddefnyddio faniau pan nad oes lorïau ar gael neu ar
gyfer casgliadau ar ffyrdd cul. Tynnwyd sylw bod cynnwys y bocsys yn cael eu
cymysgu gyda’i gilydd yn yr achosion hyn gan ofyn a ydynt yn cael eu didoli
wedi iddynt gyrraedd y ganolfan ailgylchu. Mewn ymateb i’r sylwadau,
cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol fod y faniau hyn yn rai sydd wedi cael eu
datblygu gan Wynedd a bellach yn oddeutu 7-8 oed ac wedi dyddio. Ychwanegwyd
bod trafferthion yn codi’n aml gyda’r cerbydau hyn gan eu bod yn torri i lawr
yn aml a ddim yn addas i bwrpas oherwydd bod y gwastraff yn cael ei gymysgu.
Fodd bynnag, adroddwyd bod yr Adran wedi comisiynu cwmni i ddylunio lorïau
pwrpasol er mwyn mynd i’r afael a’r sefyllfa. Pwysleisiwyd pan mae’r faniau yn
cael eu defnyddio ar gyfer casgliadau, bod gwaith yn cael ei wneud i fynd
drwy’r gwastraff er mwyn ei ddidoli.
Mewn ymateb i ymholiad os oedd treialon
sachau hessian yn cael ei gynnal yn ardal Dwyfor, cadarnhaodd y Pennaeth
Cynorthwyol nad oes cynlluniau penodol ar hyn o bryd ond gobeithio bydd mwy o
dreialon yn cael eu cynnal cyn yr haf gan wahodd Aelodau i gysylltu gyda’r
Adran os ydynt yn ymwybodol o unrhyw gymunedau a fyddai’n awyddus i gymryd
rhan. Ymhelaethwyd bod angen cynnal treial arall er mwyn sicrhau bod y sachau
yn safonol, ddim yn cael eu cipio gan wynt ac yn rhoi cyfle i addysgu trigolion
ar eu defnydd. Cyfeiriwyd at rai o fanteision defnyddio sachau hessian dros y
defnydd o gartgylchu gan nodi os yw’r sachau yn cael eu cipio gan wynt, bod y
gwastraff dal wedi ei gyfyngu i’r sach, ble nad yw hyn yn wir am y cartgylchu
gan y gwelir gwastraff wedi ei wasgaru os yw’n cael ei gipio gan y gwynt.
Tynnwyd sylw bod oddeutu 60,000 cartgylchu wedi eu lleoli ar draws Gwynedd a
pwysleisiwyd nad oes unrhyw ofyniad i bobl beidio eu defnyddio gan sicrhau
byddai newid i ddefnyddio sachau yn broses dros gyfnod. Cadarnhawyd na fydd
gorfodaeth ar unrhyw un i beidio â defnyddio cartgylchu ac byddent yn parhau i
gael eu defnyddio yn y dyfodol. Er hyn, cadarnhawyd fod cost darparu cartgylchu newydd yn uchel o gymharu
â cost darparu sachau hessian.
Mewn ymateb i ymholiad ar yr angen i gasglu
biniau a bocsys sydd wedi torri wrth ddanfon cyfarpar newydd, cadarnhaodd y
Pennaeth Cynorthwyol bod trefniadau mewn lle i gasglu unrhyw offer sydd wedi ei
dorri wrth ddanfon rhai newydd, gan ofyn i unrhyw un gysylltu gyda gwasanaeth
casglu biniau’r Adran os nad yw hyn yn digwydd.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Penderfynwyd:
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
2.
Argymell i’r Aelod Cabinet
Amgylchedd:
·
dylid ystyried dwysáu
hyfforddiant/ymgyrchoedd i addysgu ar bwysigrwydd ailgylchu.
· dylid
ystyried cyflwyno cosbau am fethu ag ailgylchu’n briodol.
Dogfennau ategol: