Agenda item

I graffu materion sy’n gysylltiedig â llwybrau er mwyn darparu sicrwydd o ran gweithrediad.

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd, Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau ac Arweinydd Tîm Llwybrau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus yn adnodd gwerthfawr sydd yn cyfarch nifer o amcanion strategol y Cyngor, tra bod eu defnyddwyr yn cael mwynhau tirwedd amrywiol y Sir. Ymhelaethwyd eu bod yn ddull o sicrhau mynediad i awyr iach ar gyfer ei ddefnyddwyr, yn ddull da o gadw’n iawn ac yn heini tra hefyd yn adlewyrchu hanes a diwylliant y cymunedau. Mynegwyd bod rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus Gwynedd yn hirfaith, gyda chymaint o filltiroedd o lwybrau i’w troedio, ei fod yn gyfystyr â cherdded o Gaernarfon i Cairo (2,418 milltir).

 

Eglurwyd bod y llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys Llwybr Arfordir Cymru, rhwydwaith Lonydd Glas yng Ngwynedd a nifer o lwybrau teithiau llesol sydd yn cael eu datblygu gan y Cyngor, ynghyd â llwybrau eraill.

 

Cyfeiriwyd at rai o heriau’r gwasanaeth yn deillio o doriadau yng nghyllidebau, tra bod disgwyliad deddfwriaethol parhaus ar y Cyngor i sicrhau bod rhai o’r llwybrau yn aros ar agor ar gyfer defnydd.

 

Cyfeiriwyd at raglen waith y Tim Llwybrau gan egluro bod eu prif weithgareddau yn cynnwys:

 

·       Torri tyfiant tymhorol

·       Adnewyddu seilwaith (pontydd, waliau, gatiau, camfeydd, cylfats)

·       Gosod seilwaith newydd

·       Gweithredu cynllun arwyddo

·       Ymateb i ymholiadau, cwynion a cheisiadau rhyddid gwybodaeth

·       Ymdrin a holl faterion cyfreithiol y maes:

o   Cynnal y map/cofnod swyddogol o ran tramwy cyhoeddus yn y Sir

o   Ymdrin â cheisiadau am hawliadau, newidiadau a gwyriadau i’r rhwydwaith a’r map swyddogol sydd yn ddarostyngedig i brosesau cyfreithiol.

 

Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod y llwybrau hyn mor hygyrch a phosib, gan gyfnewid camfeydd am giatiau ble’n bosib fel bod modd i fwy o ddefnyddwyr ddilyn y llwybrau.

 

Ychwanegwyd bod effeithiau newid hinsawdd a thywydd cythryblus yn gallu gorfodi swyddogion i newid trywydd llwybrau, os nad oes modd ei ddefnyddio mwyach megis os oes tirlithriadau wedi bod ger unrhyw lwybr. Nodwyd bod costau ychwanegol er mwyn gwneud hyn sydd yn cael effaith ar gyllidebau’r gwasanaeth.

 

Nodwyd bod gwaith ar droed i addasu polisi hawliau tramwy a’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy gan gadarnhau bydd y gwasanaeth yn cynnal ymgynghoriad ar y mater. Gobeithiwyd bydd trawstoriad o wahanol gymunedau o wahanol ardaloedd o’r Sir yn cyfrannu sylwadau ac adborth o fewn yr ymgynghoriad hwnnw.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Tynnwyd sylw ni ellir defnyddio nifer o lwybrau o fewn y sir oherwydd gordyfiant. Mewn ymateb, eglurodd Arweinydd y Tîm Llwybrau bod diffyg adnoddau wedi gorfodi’r Tîm i gategoreiddio llwybrau yn unol â’r defnydd ohonynt gan nodi nad oes cyllidebau nac adnoddau ar gael i gynnal a chadw pob un llwybr o fewn y Sir. Ymhelaethwyd bod y Tîm yn ddibynnol ar adborth gan Gynghorau Cymuned ac Aelodau Lleol i nodi pa lwybrau sydd yn cael y mwyaf o ddefnydd o fewn eu hardaloedd, a chynnal trafodaethau gyda’r Tîm. Mewn ymateb i ymholiad pellach, eglurwyd nad oes modd tynnu unrhyw lwybr oddi ar map y rhwydwaith heb broses cyfreithiol gan egluro pam bod y llwybrau hyn dal i ymddangos i drigolion.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar gategoreiddio llwybrau, eglurodd Arweinydd y Tîm Llwybrau bod 4 categori gwahanol, gyda chategori 1 a 2 yn derbyn sylw parhaus y Tîm. Eglurwyd bod y categorïau hyn wedi cael eu ffurfio gyda chymorth y cynghorau cymuned gan eu bod wedi adrodd ar ba lwybrau mae’r defnydd mwyaf. Cydnabuwyd bod y gwaith hwn wedi cael ei gyflawni peth amser yn ôl erbyn hyn ond pwysleisiwyd bod y Tîm yn ystyried ceisiadau gan gynghorau ac unigolion i ail-gategoreiddio llwybrau. Nodwyd bod modd i’r cyhoedd weld pa gategori yw unrhyw lwybr maent yn dymuno ei ddefnyddio wrth fynd ar Map Gwynedd ar wefan y Cyngor. Eglurwyd ei fod yn debygol bod llwybrau categori 3 a 4 yn rhai sydd ddim yn derbyn sylw cynnal a chadw ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i ymholiad o ran cael mewnbwn therapyddion galwedigaethol a phobl anabl er mwyn sicrhau mynediad i bawb, eglurodd  y Pennaeth Cynorthwyol eu bod wedi bod yn ceisio recriwtio mwy o randdeiliaid i fod yn aelodau o’r Fforwm Mynediad Lleol. Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Llwybrau bod aelodau yn cynrychioli grwpiau anabl ar y Fforwm a bod eu sylwadau yn bwydo i mewn i’r gwaith o sicrhau mynediad i bawb.

 

Tynnwyd sylw penodol at ran o Lon Eifion ym Mhenygroes sydd wedi cau yn ddiweddar oherwydd difrod yn dilyn tywydd garw. Mewn ymateb i’r sylwadau, cydnabod y Pennaeth Cynorthwyol y gobeithiwyd bod y llwybr wedi ail agor erbyn gwyliau’r Pasg eleni ond roedd y dyfynbrisiau a dderbyniwyd gan gwmnïau i weithio ar y llwybr yn gostus iawn a ddim yn darparu gwerth am arian. Eglurwyd y gobeithiwyd disgwyl tan y flwyddyn ariannol newydd a bod y llwybr yn ailagor mor fuan â phosib yn dilyn hynny. Cadarnhawyd bydd diweddariad yn cael ei rannu gyda’r aelodau cyn gynted â bod modd. Pwysleisiwyd nad oes arian argyfwng o fewn y cyllidebau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad gan ddiolch i’r Tîm am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: