Argymhell y Calendr
Pwyllgorau ar gyfer 2026/27 i’r Cyngor Llawn ei fabwsiadu.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Tîm Gwasanaethau Democratiaeth. Amlygwyd bod dyddiad y cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llawn eleni wedi cael ei wthio ymlaen i 14 o Fai, oherwydd bod etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ar y 7fed o Fai 2026. Cadarnhawyd bod y calendr wedi’i drafod gyda’r Parc Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Tân, ac o ganlyniad bu’n angenrheidiol addasu rhai dyddiadau er mwyn lleihau ac osgoi gwrthdaro rhwng cyfarfodydd. Penderfynwyd yn y Fforwm Craffu bydd dau gyfarfod (o’r Pwyllgor Addysg ac Economi a’r Pwyllgor Craffu Gofal) yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf er mwyn osgoi cynnal y cyfarfodydd yn ystod y cyfnod cyn etholiadol. Nodwyd nad yw’r dyddiadau yma wedi eu nodi yn y calendr ddrafft ond byddent yn cael eu hychwanegu cyn cyhoeddi papurau cyfarfod y Cyngor Llawn. Amlygwyd bod dyddiad y Cyngor Llawn ym mis Mai 2027 yn hwyrach ymlaen hefyd oherwydd etholiad awdurdod lleol, a bydd angen cyfnod i anwytho aelodau newydd cyn cyfarfod blynyddol y Cyngor. Holodd aelod os oes modd cynnwys y cyfarfodydd anffurfiol yn y Calendr. Mewn ymateb, cadarnhawyd y bydd swyddogion yn gwneud pob ymdrech i adnabod dyddiadau cyfarfodydd mor fuan â phosib ar ôl mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ffurfiol er mwyn sicrhau bod Aelodau yn derbyn gwahoddiadau i’r cyfarfodydd sydd i ddod yn y flwyddyn. Tynnwyd sylw at y ffaith mai un cyfarfod yn unig sydd wedi ei raglennu ar gyfer y Pwyllgorau Harbwr ar draws y sir. Cydnabuwyd mai camgymeriad yw hyn a bydd hwn yn cael ei addasu cyn i’r papurau ffurfiol gael eu cyhoeddi ar gyfer mabwysiadu yn y Cyngor Llawn. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y nifer o gyfarfodydd sydd yn cael eu cynnal yn flynyddol yn seiliedig ar y penderfyniad a geisir yn y Cyngor Llawn yn 2022. Cyfeiriwyd at yr holiadur a gafodd ei anfon at yr holl aelodau yn 2022. Cadarnhawyd bod Aelodau wedi cael cyfle i nodi pa amseroedd fydd mwyaf cyfleus iddynt fynychu cyfarfodydd er mwyn hwyluso’r trefniadau. Atgoffwyd yr aelodau y bydd holiadur yn mynd allan i aelodau eto yn syth ar ôl yr etholiad awdurdod lleol/ cychwyn y tymor etholiadol nesaf, er mwyn darganfod dymuniadau aelodau ar gyfer y cyfnod nesaf. Holodd Aelod beth yw’r posibilrwydd o gynnal mwy o gyfarfodydd hybrid a llai o gyfarfodydd rhithiol yn unig. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y gwasanaeth eisoes yn cynnal darpariaeth cyfarfodydd hybrid i gyfarfodydd Y Cyngor Llawn, Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Chynllunio yn dilyn egwyddor sefydlwyd yn 2021. Eglurwyd bod cynnal cyfarfodydd hybrid angen llawer mwy o adnoddau o gymharu â chyfarfodydd rhithiol yn unig. Sicrhawyd yr aelodau y bydd ystyriaeth ynghylch cynyddu darpariaeth hybrid yn mynd rhagddi a bod y sefyllfa yn cael ei fonitro a’i adolygu yn gyson. Gofynnwyd am fwy o fanylion ynghylch cofnod presenoldeb mewn pwyllgorau a chyfarfodydd. Cadarnhawyd bod presenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol yn cael eu cofnodi ar safle we’r Cyngor. Ystyriwyd rhesymau amrywiol Aelodau am fethu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd a phwyllgorau, a gofynnwyd beth yw’r posibilrwydd o adlewyrchu’r rhesymeg dros ymddiheuriadau ar safle we y Cyngor. Gofynnwyd sut gellir gwahaniaethu rhwng y rhesymau amrywiol, tra bod rhai aelodau methu bod yn bresennol oherwydd ymrwymiadau eraill fel rhan o’u rôl fel cynghorwyr. Cydnabuwyd bod presenoldeb Cynghorwyr mewn cyfarfodydd y Cyngor ddim o reidrwydd yn adlewyrchiad cyflawn o’u gwaith. Sicrhawyd bydd modd ystyried cynnwys rhesymau dros ymddiheuriadau ar y wefan i ddangos bod Aelodau yn ymddiheuro oherwydd eu bod yn ymgymryd â dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r newidiadau ac
ychwanegiadau a drafodwyd, gan argymell y Calendr Pwyllgorau i’r Cyngor Llawn
ei fabwysiadu.
Dogfennau ategol: